VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

Similar documents
Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri High Speed Plastics, Llandygái ; AustinTaylors, Bethesda

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

W46 14/11/15-20/11/15

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri Smiths/Ingersoll Watches and Clocks, Gurnos Works, Ystradgynlais.

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

The Life of Freshwater Mussels

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?

Addewid Duw i Abraham

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools

GWERS 95. Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Pembroke Dock Woollen Factory (1969), & Davies Steel, Pembroke Dock ( approx)

GLO C O A L BIG PIT: AMGUEDDFA LOFAOL CYMRU BIG PIT: NATIONAL COAL MUSEUM

Catchphrase 2002: Ysbyty Brynaber - Week 6

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

W40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Catchphrase 2003: Ysbyty Brynaber - Week 37

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 75

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr!

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 77

Addysg Oxfam

GLO PWLL MAWR: AMGUEDDFA LOFAOL GENEDLAETHOL CYMRU BIG PIT: NATIONAL MINING MUSEUM OF WALES. Bois Bevin Bevin Boys

W39 22/09/18-28/09/18

Rwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

SESIWN HYFFORDDI STAFF

Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide

Llofruddiaeth Tyntila

Catchphrase 2002: Ysbyty Brynaber - Week 1

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

WALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA

W50 12/12/15-18/12/15. Pages/Tudalennau:

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

Y BWRDD GLO CENEDLAETHOL NATIONAL COAL BOARD

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm

Talu costau tai yng Nghymru

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm

W45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Catchphrase 2002: Ysbyty Brynaber - Week 3

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Catchphrase 2002: Ysbyty Brynaber - Week 2

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

Straeon Natur Gwaith cartref y draenogod bach

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

GWERS 78. Adolygu this...', 'that...', 'these...' a 'those...'.

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

O SIWT I LIWT (Hanes gwas sifil o gyfieithydd a aeth yn gyfieithydd ar ei liwt ei hun)

Holiadur Cyn y Diwrnod

GLO C O A L. Y Gogleddddwyrain. North Wales. maes glo angof? The Forgotten Coalfield?

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 110

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 103

Canser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales

W6 04/02/17-10/02/17. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Cyffredinol Lliwiau Rhifau Anifeiliaid Y Dref Hamdden Y Nadolig Ffrindiau Yr Ysgol

W42 13/10/18-19/10/18

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Y Wisg Ysgol. The School Uniform

2004: Ysbyty Brynaber - Week 66

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

W6 02/02/19-08/02/19. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: 2 Children s Ward 3 Six Nations Sin Bin 4 Secret Life of Farm Animals 5 Pobol y Cwm

Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh

Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

atgofion o dyfu sy n para am oes ein newyddion a straeon o tŷ hafan y tu mewn cylchlythyr hydref/gaeaf 2016 rhieni n dangos eu doniau t.

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

W44 27/10/18-02/11/18

Transcription:

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) 1978 1990 Cyfwelai: VSW066 Enid Mary Thomas Dyddiad Geni: 20.9.1937 Dyddiad: 4.9.14 Cyfwelydd: Susan Roberts ar ran Archif Menywod Cymru There is an English summary at the end of the Welsh text Ganed Enid ym Mynyddcerrig, Sir Gaerfyrddin. Roedd ei thad yn gyrru lori mas o r cwar, y chwarel, rhan fwya o i oes. Aeth Enid i ysgol gynradd Mynyddcerrig, ac yn i Ysgol Ramadeg y Gwendraeth. Roedd yn ddwy ar bymtheg mlwydd oed yn gadael yr ysgol. Aeth yn syth i wneud cwrs pre-nursing yn Llanelli am flwyddyn oherwydd nid oedd yn gallu hyfforddi fel nyrs nes ei bod hi n ddeunaw. Roedd wastad wedi eisiau mynd yn nyrs. Roedd ganddi ddwy fodryb oedd yn nyrsio a oedd efallai wedi dylanwadu arni. Roedd y cwrs nyrsio SRN yn hen ysbyty Llanelli, ac wedi para tair blynedd. Roedd Enid wedi treulio tipyn o amser yn yr adran A & E, lle roedd tipyn o amrywiaeth o ran y gwaith. Aeth Enid i weithio fel nyrs yn ffatri Fisher and Ludlow tua 1980. Daeth y penderfyniad hwnnw yn sgil cael plant a phenderfynu ei bod hi eisiau gweithio llai o oriau. Clywodd bod swydd ar gael yn ffatri Fishers oherwydd bod ffrindiau iddi wedi bod yn gweithio yno. Ffoniod un ohonynt a dweud bod swydd yno. Cafodd ei chyfweld gan ddoctor o Lanelli. Nid oedd y doctor hwnnw yn gweithio n y ffatri. Roedd y ffaith ei bod wedi bod yn gweithio yn A & E wedi mynd o i phlaid wrth ymgeisio am y swydd. Yn y ffatri roedd y gweithwyr yn cael man anafiadau fel cwtiau, neu n cael rhywbeth yn eu llygaid. Nid oedd doctor yn yr ffatri llawn amser ond roedd yn dod yno tuag unwaith bob wythnos er mwyn asesu os oedd gweithwyr a oedd wedi bod adre n dost yn ffit i ddod nôl i r gwaith. Roedd ffatri Fisher and Ludlow yn Llethri Road, Felinfoel. Apêl y swydd i Enid oedd ei bod yn gallu gweithio llai o oriau, ond er ei bod hi n nabod y nyrsus eraill oedd yn gweithio yno, nid oedd byth yn eu gweld oherwydd roeddynt yn gweithio sustem shiffts. Roedd Enid yn 1

gweitho o chwech i ddeg o r gloch y nos, ond os oedd un o r nyrsus eraill ar ei gwyliau roedd rhaid gweithio oriau llawn. Yn y man lle gweithiai Enid roedd ystafell fawr, gyda sawl ystafell fach er mwyn trin cleifion, a swyddfa lle roedd ysgrifenyddes yn llenwi ffurflenni. Roedd yn gwisgo iwnifform nyrs glas tywyll fel sister yn yr ysbyty. Roedd Sister ar shifft dydd yn gweithio o naw tan bump, roedd Sister arall yn gweithio chwech tan ddau o r gloch y bore, Sister arall yn gweithio dau o r gloch tan ddeg. Roedd Enid yn dod mewn chwech o r gloch tan ddeg. Nyrs gwrywaidd oedd wastad yn gweithio r shifft o ddeg y gloch y nos tan chwech o r gloch y bore. Os oedd hwnnw i ffwrdd o r gwaith roedd yn rhaid i un o r lleill fel Enid weithio r shifft hwnnw. Byddai n cloi r drws ac roedd cloch yno ar gyfer unrhyw gleifion oedd eisiau ei help. Roedd swyddogion diogelwch yn y ffatri ond nid oedd byth angen eu galw. Pan roedd Enid yn gweithio n y ffatri roedd tua dwy fil yn gweithio yno, rhwng y tair shifft bore, prynhawn a hwyr. Roedd press shop yno, assembly shop a tool room a gwneud parts i geir oedd y ffatri. Roedd yn teimlo n ychydig yn fwy unig yn gweithio n y ffatri nag oedd yn gweithio gyda phobl eraill yn yr ysbyty. Un o r anafiadau mwyaf cyffredin yn y ffatri a fyddai n angen ei sylw oedd rhywun yn cael llosgad, cael rhywbeth yn eu llygad nhw, troi pigwrn, neu anafu garddwrn wrth godi rhywbeth trwm. Os oedd rhywbeth mwy difrifol roedd car o r ffatri n mynd â r person hwnnw i r ysbyty, er enghraifft cwt a oedd angen stitshys. Roedd y swyddogion diogelwch i gyd wedi u hyfforddi fel pobl cymorth cyntaf ac yn gallu trin man anafiadau os nad oedd nyrs yn bresennol neu n gallu danfon gweithwyr gydag anaf mwy difrifol i r ysbyty. Nid oedd y doctor, Dr Knight, yn gwneud llawer yn y ffatri yn ystod ei ymweliad wythnosol, ar wahan i siecio un neu ddau o weithwyr oedd wedi bod i ffwrdd o r gwaith yn sâl. Yn gyffredinol, nid oedd llawer o r gweithwyr i ffwrdd o r gwaith gyda thostrwydd. Roedd rhai o r foreman yn dod ati weithiau, i ofyn os oedd hi n credu bod gweithiwr yn dweud y gwir am ryw dostrwydd neu anaf. Roeddynt yn siecio r llyfrau, hefyd. Roedd ambell weithiwr yn dod ati yn dweud eu bod yn teimlo n sic, bod pen tost arnynt, neu u bod nhw n teimlo n benysgafn, pan nad oeddynt yn sâl. Roedd Enid yn siecio pwysau gwaed a thymheredd, neu n eu gofyn i godi rhywbeth o r llawr os oeddynt yn cwyno eu bod yn benysgafn. Roedd yn eu danfon yn ôl i r gwaith wedyn. O r menywod oedd yn dod ati, roedd y mwyafrif yn cwyno am annwyd, neu ben tost, neu efallai bod llaw wedi brifo ganddynt oherwydd eu bod yn trafod pethau trwm. Roedd yn rhoi rhwym am y llaw, neu eli, ac roeddynt yn mynd yn ôl i r gwaith. Roedd disgwyl iddynt gario ymlaen â u gwaith hyd yn oed y rhai oedd wedi bod i r ysbyty i gael stitshys. Roedd Enid yn gallu tynnu stitshys allan pan roedd yr amser yn dod. Pan roedd menyw yn mynd i ddisgwyl babi roedd yn cael mynd i wneud gwaith ysgafn nes ei bod yn gorffen yn y gwaith i gael y babi. Roedd y gwaith yn undonnog i Enid. Ambell waith byddai n cael galwad i ddweud bod rhywun wedi cwympo yn y ffatri a byddai n mynd allan i lawr y ffatri. Roedd yn dod ymlaen yn dda gyda r nyrsus eraill yn gweithio yno. Nid oedd byth yn mynd i r cantîn. 2

Buodd Enid yn gweithio yno tua deuddeg mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn roedd y ffatri n mynd yn llai, ac yn llai. Gorffennodd yno tua 1990. Gwelodd llai o shiffts yn cael eu gweithio. Ni fuodd Enid yn ymwneud ag unrhyw weithgareddau cymdeithasol a oedd yn mynd ymlaen yn y ffatri. Roedd trips penwythnos yn cael eu trefnu ond nid oedd Enid a r nyrsus yn cael cynnig mynd arnynt, er ni fyddai Enid wedi hoffi mynd beth bynnag. Roedd pawb yn hapus yn eu gwaith yno, a neb yn conan. 00.24.15: O n nhw n gwitho n galed cofiwch... achos o n nhw n neud u jobs ac yn gorfod neud certain amount. Mae n cofio un achlysur pan ofynnwyd i r menywod gynyddu eu targed ond gwrthod gwnaethant. Dywedodd Enid eu bod wedi dweud, Ni n neud beth ni n gallu neud nawr, a ni n satisfied â beth ni n neud. O n nhw n gweud ma n corff ni n gallu neud beth ni n neud nawr. Roeddynt yn dod draw weithiau a gofyn i Enid beth roedd hi n ei feddwl ac roedd hi n dweud os nad oeddynt yn gallu gwneud mwy am gadw at hyn. Stick to your guns. Nid oedd Enid byth yn mynd o gwmpas y ffatri oherwydd rheolau Iechyd a Diogelwch. Roedd y gweithwyr yn gorfod gwisgo esgidiau arbennig, helmedau, ffedogau a rhywbeth i ddiogelu r llygaid. Roedd rhai n gwrthod gwisgo r gogls a phan roedd damwain byddai Enid yn gofyn os oeddynt wedi bod yn eu gwisgo, a nodi hyn. Roedd yn gorfod gwneud adroddiad ar bob un oedd yn dod mewn, er bod ysgrifenyddes yno i helpu gyda r gwaith papur. Roedd ffeil i bob gweithiwr ac roedd Enid yn gorfod cofnodi pob ymweliad ganddynt. Roedd angen i Enid glocio mewn ac allan fel y gweithwyr eraill. Roedd yn teithio i r gwaith yn y car. Roedd rhai yn dueddol o ddweud eu bod yn sâl pan nad oeddent yn sâl, ond roedd yn dal rhaid i r gweithwyr hyn gyrraedd eu targed, felly roeddynt yn gwastraffu eu hamser eu hunain. Byddai eu cyflogau n cael eu cropian pe na byddent yn cyrraedd eu targed, onibai eu bod wedi gorfod mynd i r ysbyty. Byddai r goruchwyliwr yn ei ffonio n y swyddfa i siecio os oedd unrhyw salwch yn ddilys neu beidio. Roedd hyn yn gallu rhoi Enid mewn sefyllfa lletchwith weithiau, ond daeth y gweithwyr i w nabod ac roeddynt yn gwybod nad oeddynt yn gallu ei thwyllo. 00.29.54: O ch chi n gwbod pwy o dd pwy te. Roedd yn rhaid i Enid dweud wrth weithwyr am fynd yn ôl i r gwaith, gan ddweud wrthynt am ddod yn ôl os nad oeddynt yn teimlo n dda eto. Ond nid oeddynt yn dychwelyd. 00.30.38: O ch chi n dod i nabod nhw. O ch chi n dod i nabod pwy o dd y shirkers a pwy o dd ddim... O ch chi n nabod jest pawb o dd yn gwitho na. Roedd Enid yn atebol i r Sister oedd yn gweithio yn ystod y shifft dydd. Dynion oedd y goruwchwylwyr yn y ffatri hon. Dywedodd Enid, 3

00.31.48 : O dd rhai o n nhw n dishgwyl gormod, yn enwedig wrth y menywod... O n nhw n pwsho nhw, pwsho nhw, moyn iddyn nhw neud fwy. Ond o dd y menywod wedi bod na blynydde ife. O n nhw n stico i beth o n nhw n neud ife. O n nhw n gweud, We can t do more, we re doing what we re supposed to do and if you re not satisfied, get somebody else. Fel na o n nhw n gweud chwel ife. Roedd y foremen yn cael eu gwthio eu hunain gan eu rheolwyr nhw yn y swyddfa. Roedd y menywod yn arbennig yn cael eu pwsho i wneud mwy, ym marn Enid, achos eu bod yn gwneud gwaith ysgafnach, lle nid oedd yn bosib i r dynion i wneud mwy. Nid oedd y gweithwyr yn cael dod mewn â diod feddwol adeg y Nadolig. Roedd rhai n dod at Enid i gael rhywbeth am ben tost, wedi bod allan y noson gynt, ond nid oeddynt yn cael dim cydymdeimlad wrthi! Back to work, roedd hi n dweud wrthynt. Nid oedd unrhyw pyrcs yn dod o r ffatri. Y drefn yn y ffatri oedd, yn gyntaf, y bosus, yna r foremen, penaethiaid y lein, a wedyn y gweithwyr. Roedd pob oedran yn gweithio yno, ond dim llawer o ferched ifainc. 30 50 mlwydd oed oedd y mwyafrif o r gweithwyr. Roedd menywod yn gweithio shifft dydd a shifft prynhawn. Nid oedd menywod yn gweithio shifft nos. Byddai n well gan Enid fod yn gweithio mewn ysbyty yn ystod y cyfnod hwn ond teimlau bod yr oriau n y ffatri n well i r teulu. Ni aeth yn ôl i weithio mewn ysbyty. Roedd yn gweithio pedair awr y dydd, a phump diwrnod yr wythnos. Roedd Enid yn falch nad oedd yn gorfod gwneud y gwaith roedd y menywod yn ei wneud yn y ffatri. 00.38.03: O dd y sŵn yn ofnadw... bydde fe ddim y job bydden i n lico. Nid oedd Enid yn gorfod dioddef y sŵn lle roedd hi n gweithio. O n nhw n trafod oil a pethe ac ambell i waith o n nhw n ca l rash a pethe, ac o ch chi n gorfod, ac o dd rhai falle ddim yn dodi menyg arno beth o n nhw fod i neud, achos o dd y parts hyn i gyd yn oil. Roedd rhai o r gweithwyr yn dweud bod y gwaith yn achosi peswch. Roedd Enid yn gallu rhoi tamaid o foddion iddyn nhw, ond nid oedd yn gallu gwneud mwy na hynny. 00.39.51: O n nhw n meddwl bod nhw n ca l rhwbeth rhyfedd wedyn nny. Roedd y gweithwyr yn gwisgo mygydau mewn rhai mannau yn y ffatri. Nid yw Enid yn cofio unrhyw ddamweiniau mawr yn digwydd yn y ffatri yn ystod y cyfnod roedd hi yno. Nid oedd Enid yn aelod o unrhyw undeb tra bod hi n gweithio n y ffatri. Roedd y cyfleusterau n y ffatri n lan. Nid oedd gweithwyr yn cael ysmygu yno. Roedd gŵr Enid yn hapus ei bod yn gweithio, ac roedd ei mam yn helpu hefyd. Nid oedd y ffatri n gweithio n aml ar y penwythnos. 4

Roedd Enid yn cael pythefnos o wyliau yn ystod shut down yr haf, ac roedd ganddi wythnos o wyliau adeg y Nadolig. 00.46.46: O dd y merched u hunen, o n nhw n gwbod y limit o n nhw n gallu neud. A wedyn o n nhw n stopo. O n nhw ddim yn neud mwy na beth o n nhw n gallu neud. Roedd y bosus yn derbyn hyn, ac nid oeddynt yn eu pwsho yn bellach. Roedd rhai o r menywod wedi bod yno am ugain, a deg ar hugain o flynyddoedd. Roedd y menywod oedd ar y leins ar eu traed pan yr oeddynt wrth eu gwaith. Nid oedd llawer o swyddi ysgafn yn bodoli yn y ffatri. Roedd rhai menywod yn gorffen yno achos trymder y gwaith, yn enwedig wrth eu bod nhw n mynd yn hŷn. Roedd Enid wedi mwynhau gweithio yno. Roedd y bobl yn gyfeillgar. Cafodd Enid ychydig o broblem gyda i phwysau gwaed a phenderfynodd orffen. English summary Worked as a nurse in Fisher & Ludlow, Llanelli circa 1978 1990 Interviewee: VSW066 Enid Mary Thomas Date of birth: 20.9.1937 Date: 4.9.14 Interviewee: Susan Roberts on behalf of Women s Archive of Wales Enid war born in Mynyddcerrig, Carmarthenshire. Her father worked as a lorry driver at the quarry for most of his life. Enid attended Mynyddcerrig School, before going on to Gwendraeth Grammar School. She was seventeen when she left. She had always wanted to be a nurse and began a pre-nursing course in Llanelli immediately after leaving school, which lasted a year, before starting her SRN course when she was eighteen. Enid got a job as a nurse in the Fisher and Ludlow factory circa 1978/80. She had children and had decided that she wanted to work less hours. She heard about the job in Fishers from friends who had worked there as nurses. She was interviewed by a doctor from Llanelli although he didn t work at the factory himself. She had spent a lot of time working in A & E 5

as a nurse and thinks this experience helped her get the job. The workers at the factory would get minor injuries such as cuts, or get something in their eyes. There was not a doctor there on a full time basis, but visited about once a week in order to assess whether workers were fit enough to return to work. The Fisher and Ludlow factory was in Llethri Road, Felinfoel. The job appealed to Enid because the hours were part-time. Enid knew the other nurses who worked there but never saw them because they worked a shift system. Enid worked from six o clock in evening until ten o clock, but if one of the other nurses was on holiday she had to work a full shift. In the area where Enid worked there was a large room, with several smaller rooms for treating patients, and an office where a secretary filled in forms. There was a Sister who worked the day shift from nine o clock until five o clock. She wore a dark blue nurse s uniform just as a sister in a hospital would. Another Sister worked from six until two o clock in the morning and another from two o clock until ten in the morning. Enid s hours were from six until ten o clock. It was always a male nurse who worked from ten o clock at night until two in the morning, however, if he was off work one of the female nurses had to cover his shift. Enid would lock the door if she had to work the night shift and any patients would have to knock the door. There were security guards but Enid never had to call on them. Between the three shifts, there were about two thousand people working there. There was a press shop, an assembly shop, a tool room. The factory produced car parts. She felt a bit more isolated working in the factory than she had been working in a hospital. The most common injuries were burns, getting something in the eye, a twisted ankle, or injuring a wrist by lifting a heavy object. If it was a more serious injury such as a cut requiring stiches, a car from the factory would take the injured worker to hospital. All the officials were trained in first aid and could treat minor injuries if the nurse wasn t present, or they could send the person in question to the hospital. Dr Knight didn t do much during his weekly visit apart from checking on one or two workers who had been off work sick. Absenteeism through sickness was quite low. Some of the foremen would ask her advice sometimes about whether she thought a particular worker was telling the truth about being ill or injured. They also checked the books. Occasionally a worker would come to her and say that they were feeling ill, had a head ache or felt dizzy, when this actually wasn t true. Enid would check their temperature and blood pressure, or if they complained about light-headedness she would ask them to pick something up off the floor. She would then send them back to work. Of the women who came to her, most complained of having a cold, head ache or were feeling the after effects after lifting something heavy. She would put a bandage or ointment on the hand, and then they would go back to work. They were expected to carry on with their work even the ones who had had stitches in the hospital. Enid could take the stitches out when they were ready to be removed. When a woman got pregnant she was given lighter work until it was time for her to finish work. 6

Enid found the work monotonous. Occasionally, she would get a call to say that somebody had fallen and she would have to go down to the factory floor. She got on well with the other nurses. She never went to the canteen. Enid worked there for about twelve years and finished circa 1990. During this period the workforce got smaller and smaller and less shifts were worked. Enid didn t take part in any social activities that took place at the factory. There were weekends away arranged but Enid and the other nurses didn t go. Everybody seemed to be happy working there, and nobody much complained. 00.24.15: They worked hard mind, because they did their jobs and had to complete a certain amount. She remembers one occasion when the women had been asked to increase their target but refused. Enid describes how the women felt. They said, We re doing what we can now, and we re satisfied with what we re doing. They were doing as much as their bodies could cope with. They would ask Enid s opinion and she would tell them if they felt they couldn t do any more than they were already doing to stick to their guns. Enid rarely went down to the factory floor because of Health and Safety regulations. The workers had to wear special shoes, helmets, aprons and something to protect their eyes. Some refused to wear the goggles, and when there had been an accident Enid would ask the worker concerned if they d been wearing their goggles at the time. Every worker had a file, and Enid noted every visit. Enid had to clock in and out like every other worker. She travelled to work by car. Even though a worker might complain of feeling unwell, they still had to reach their target otherwise their pay would be docked, unless they d had to go to the hospital. The supervisors would phone her in the office to check if she thought an illness was a real one or not. This put Enid in an awkward position, but the workers got to know her and realised they couldn t fool her. 00.29.54: You knew who was who. She would have to tell workers complaining that they felt unwell to go back to work, and to come back and see her if they were still feeling ill. They never returned. 00.30.38: You got to know them. You got to know who the shirkers were You knew nearly everybody working there. Enid s superior was the sister who worked the day shift. The supervisors in the factory were men. She said, 7

00.31.48: Some of them expected too much, especially from the women They pushed, and pushed them, wanting them to do more. But the women had been there for years. They stuck to what they were doing. They would say, We can t do more, we re doing what we re supposed to do and if you re not satisfied, get somebody else. That s what they would say. The foremen themselves were being pushed by the managers to increase production. The women, in particular, were pushed to do more work, because they had lighter jobs to do than the men, and the men couldn t be asked to do more. The workers weren t allowed to bring in alcohol, including at Christmas time. If somebody came to Enid with a hangover, she had no sympathy for them, and would tell them to get back to work. There were no perks. There was a hierarchy in the factory from the bosses, foremen, heads of the line, down to the workers. There was a mixture of ages but not many young girls the majority were between 30 and 50 years old. Women didn t work the night shift. Enid would have preferred to work in a hospital but the hours would have been too long as she had a family, and she never returned to working in a hospital. She worked for four hours a day, five days a week. She was glad that she didn t have to do the work that the female factory workers did. 00.38.03: The noise was terrible... it wasn t the type of job that I wanted. Enid didn t have to endure the noise where she was based in the factory. They had to handle oil, and things, and sometimes they got a rash and things because sometimes some of them didn t wear gloves as they were supposed to, because all these parts were covered in oil. Some workers claimed that the work made them cough. Enid could give them some medicine, but couldn t do anything else about this. 00.39.51: They thought they were having something special then. The workers wore masks in some parts of the factory. Enid doesn t remember any major accidents taking place during the time that she was there. She wasn t a member of any union during the time she worked there. The facilities in the factory were clean. Workers weren t allowed to smoke. Enid s husband was quite happy that she worked there. The factory didn t operate on weekends very often. Enid had two weeks holiday during the shut-down in the summer, and had a week s holiday at Christmas time. The bosses accepted the women s claim that they couldn t produce any more than they were already producing. Some of the women had been there for twenty, or thirty years. The 8

women on the lines would be stood up to work. There weren t many light jobs in the factory and so some would give up work, especially as they got older. Enid enjoyed working there. The people were friendly. She left because she was having problems with her blood pressure. 9