Datrys y dirgelwch.. Drwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Prifysgol Texas, Prifysgol Texas yn Austin tlodi. Mae Tanzania yn wlad fawr yn nwyrain Affrica. Mae ganddi boblogaeth o dros 40 miliwn (mae gan y DU 60 miliwn). Mae r mwyafrif o bobl (tua ¾) yn byw mewn ardaloedd gwledig (yn y DU mae llai na ¼). Mae llawer o r tir yno heb ei drin (heb ei ddefnyddio fel tir fferm), a thraean yn barc cenedlaethol. Mae n wlad llai datblygedig yn economaidd, gyda r incwm cyfartalog tua 875 y flwyddyn (yn y DU mae tua 21,000). Hyd disgwyliad oes yw tua 53 o flynyddoedd (yn y DU, tua 80). Mae traean o r bobl yn byw mewn Y dirgelwch Yn 2009, penderfynodd llywodraeth Tanzania roi terfyn ar werthu tir ar gyfer datblygu biodanwyddau. Roeddent am ymchwilio ac ystyried a oedd hyn yn beth da neu beidio. Pam dewis gwneud hyn yn eich barn chi? Ceisiwch ddatrys y dirgelwch!
Angen help? Edrychwch ar y 12 cerdyn dirgelwch. Bydd angen i chi eu gosod yn y drefn gywir i r stori wneud synnwyr. Ystyriwch yr hyn sy n digwydd ar ddechrau, canol a diwedd y stori. Cardiau dechrau Cardiau canol Cardiau diwedd Meddyliwch pa fath o wybodaeth sy n helpu i osod yr olygfa, pa fath o wybodaeth sy n cysylltu pethau gyda i gilydd, a beth sy n edrych fel diweddglo. Gall fod yn ddefnyddiol edrych ar ddyddiadau a chysyllteiriau. Dechreuwch drwy eu gosod mewn categorïau, ac yna penderfynwch ar yr union drefn.
Jatropha biodanwydd Ffynhonnell: http://commons.wikimedia.org/wiki/file:biofuel_pumps_dca_07_2010_9834.jpg Llwyn yw Jatropha, sy n medru cael ei dyfu dan amodau sych iawn. Pan fo r hedyn yn cael ei wasgu, gellir defnyddio r olew fel biodisel. Gellir ei dyfu ar dir gwael iawn. Mae llywodraethau mewn llefydd fel Ewrop yn rhoi arian (cymorthdaliadau) i gwmnïau i w ddefnyddio yn lle tanwydd ffosil, gan ei fod yn adnodd adnewyddadwy. Tir fel buddsoddiad Ffynhonnell: http://commons.wikimedia.org/ Yn 2008 roedd pobl â llawer o arian, megis banciau (buddsoddwyr), yn gweld prynu tir fel ffordd dda o wneud elw. Oherwydd bod prisiau olew yn uchel, roedd biodanwyddau yn edrych fel dewis amgen da i greu ynni, felly cododd pris tir ar gyfer eu tyfu. Roedd prisiau bwyd uchel hefyd yn golygu bod tir yn mynd yn ddrutach.
Cyfle i wledydd tlotach Ffynhonnell: http://commons.wikimedia.org/wiki/file:south_africa_relief_map_plain.png Oherwydd bod buddsoddwyr tramor am brynu tir, roedd nifer o wledydd llai datblygedig yn economaidd sydd â llawer o dir (nifer ohonynt yn Affrica) yn gweld y gallai gwerthu eu tir ddod ag arian iddynt. Er enghraifft yn 2007 derbyniodd Mozambique gynigion i brynu 110,000 km 2. Mae hyn yn fwy nag un rhan o wyth o holl dir y wlad. Sun Biofuels a Tanzania Ffynhonnell: http://sw.wikipedia.org/wiki/picha:tanzania_kisarawe_location_map.svg Yn 2008, cynigiodd cwmni o r enw Sun Biofuels (o r DU) brynu 8,000 hectar o dir yn ardal Kisarawe, Tanzania. Cynigiwyd talu tua 12miliwn amdano. Y bwriad oedd tyfu planhigfeydd o Jatropha ar y tir i w allforio ar gyfer cynhyrchu biodanwydd, yn Ewrop yn bennaf. Byddai hyn yn rhoi llawer o elw iddynt.
Llywodraeth Tanzania Drwy Garedigrwydd Llyfrgelloedd Prifysgol Texas, Prifysgol Texas yn Austin Yn 2008 roedd llywodraeth Tanzania am helpu i ddatblygu ardaloedd gwledig, tlawd iawn. Cyfartaledd incwm yn yr ardaloedd hyn oedd tua 100 y flwyddyn. Gan fod gan Tanzania lawer o dir, roedd y llywodraeth yn meddwl y byddai ei werthu i gwmnïau mawr rhyngwladol yn ffordd dda o ddod ag arian i r ardaloedd hyn. Mtamba pentref yn Tanzania Mae Mtamba yn bentref yn Kisaware, lle mae Sun Biofuels am brynu tir. Mae 850 o bobl yn byw yno. Tir pentref yw r tir hwn, sy n golygu yn ôl cyfraith Tanzania mai r bobl leol yw r perchnogion ac sy n ei reoli. Maent yn tyfu bwyd i w fwyta, defnyddio r gors i gasglu dŵr, ac mae nifer yn cael bron i ¾ o u hincwm o wneud siarcol.
Helpu pobl leol Roedd pentrefwyr Mtamba yn hapus wrth glywed am y tro cyntaf am fuddsoddiad Sun Biofuels. Addawyd 4000 o swyddi yn yr ardal, ac iawndal (arian yn gyfnewid am y tir) o 50 i bob hectar. Anogwyd hwy i werthu r tir gan y Swyddog Tir Rhanbarthol (sy n gweithio i r llywodraeth). Dryswch ym Mbata Fodd bynnag, ni chafodd y pentrefwyr lawer o wybodaeth ac roedd pethau n frysiog. Dim ond 4 diwrnod o rybudd a gafwyd i gyfarfod a thrafod gwerthu r tir. Nid oedd sicrwydd faint o dir fyddai n cael ei gymryd, nid oeddent yn sylweddoli mai r cwmni fyddai berchen y gors sy n cael ei defnyddio i gael dŵr. Ni chafwyd unrhyw gytundeb ysgrifenedig.
Esgeuluso pobl leol? Ar ôl y gwerthiant, mae nifer o bobl leol yn anfodlon. Nid oes modd iddynt bellach gasglu siarcol i gael arian. Nid ydynt yn berchnogion ar y gors bellach, dim ond 1,500 o swyddi newydd gafwyd, ac mae angen cymwysterau eraill i w cael. Mae nifer yn ansicr sut i hawlio r iawndal, ac mae n llai na hanner yr hyn a gytunwyd. Tanzania yn adolygu tir ar gyfer biodanwydd Wrth i gwmnïau fel Sun Biofuels dyfu biodanwydd i w allforio, nid oes modd defnyddio r tir i dyfu bwyd. Mae 80% o bobl Tanzania yn dibynnu ar ardaloedd bach o dir i dyfu bwyd. Yn 2009 penderfynodd y llywodraeth roi terfyn ar bob datblygiad tir biodanwydd er mwyn penderfynu a oedd yn cael effaith wael ar dyfu bwyd a phobl leol.
Rhuthr aur gwyrdd Ffynhonnell: Land Matrix Partnership Ers 2008 mae mwy a mwy o gwmnïau wedi bod yn prynu tir, yn rhannol i dyfu biodanwydd ( aur gwyrdd ), ond hefyd mae cynnydd prisiau bwyd yn gwneud tir yn fwy gwerthfawr. Yn 2011, dangosodd ffigurau bod 227miliwn hectar o dir wedi i brynu ers 2001 (ardal maint gorllewin Ewrop), ei hanner yn Affrica. Tirgipio - buddsoddiad teg? Oxfam Mae nifer o fudiadau wedi sylwi bod pobl leol yn aml yn dioddef yn sgil gwerthu tir ar raddfa fawr gan gwmnïau rhyngwladol. Yn 2011 dywedodd y Gynghrair Tir Rhyngwladol (116 o fudiadau, yn cynnwys Oxfam) mai tirgipio oedd hyn, gan ddweud ei fod yn annheg ac y dylid rhoi terfyn arno.
Ffynonellau gwybodaeth Oxfam, Papur Briffio 114 Another Inconvenient Truth (2008) http://policy-practice.oxfam.org.uk/publications International Institute for Environment and Development (IIED), Biofuels, land access and rural livelihoods in Tanzania (2009) http://pubs.iied.org/pdfs/12560iied.pdf Oxfam, Growing a better future (2011) http://www.oxfam.org.uk/grow Gwybodaeth am wledydd: CIA world factbook https://www.cia.gov/library/publications/the-world-factbook/ Gwybodaeth am Jatropha a Tanzania (fideo) http://news.bbc.co.uk/1/hi/business/8410544.stm Noder Mae r ffigwr o 9 biliwn o gymorthdaliadau biodanwydd byd-eang wedi i seilio ar $15biliwn ar gyfraddau cyfnewid 2011. Daw r ffigwr hwn o Bapur Briffio Oxfam 114 Another Inconvenient Truth (2008) tudalen 16. Mae r costau eraill i gyd wedi u trosi o ddoleri gan ddefnyddio cyfraddau cyfnewid 2011 perthnasol ar adeg argraffu.
Sun Biofuels a Tanzania (trosolwg) Roedd cwmni o r DU o r enw Sun Biofuels am brynu 8,000 hectar o dir mewn rhan o Tanzania o r enw Kisaware. Y bwriad oedd cynhyrchu Jatropha, yn bennaf i w allforio i Ewrop. Byddai hyn yn rhoi elw mawr iddynt. Yn 2007 rhoddwyd llawer o arian ( 9biliwn) i gwmnïau i ddefnyddio biodanwyddau yn lle tanwydd ffosil. Dywed Peter Auge, rheolwr cyffredinol Sun Biofuels na fydd y planhigfeydd yn defnyddio tir sy n cael ei ddefnyddio i dyfu bwyd. Bydd yn rhoi iawndal i bobl leol sy n colli eu tir, ac yn rhoi swyddi iddynt yn trin a chynaeafu r planhigion. Hefyd bydd 5 y cant o r gyllideb yn cael ei wario ar bethau fel ysgolion. Pencadlys Sun Biofuels, Dar Es Salaam, Tanzania. Safbwynt y llywodraeth Yn 2008 roedd llywodraeth Tanzania yn awyddus iawn i werthu tir i gwmnïau rhyngwladol. Mae r mwyafrif o r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig tlawd iawn, lle nad yw tir yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd dda. Mae nifer yn ennill dim ond 100 y flwyddyn. Roeddent yn meddwl y byddai buddsoddiad gan gwmnïau rhyngwladol yn helpu i wella hyn. Safbwyntiau o Mbata Mae pentref Mbata yn Kisarawe, lle mae Sun Biofuels am brynu tir. Mae 850 o bobl yn byw yno. Maent yn tyfu bwyd, ac yn dibynnu ar y gors i gasglu dŵr, ac ar y coedwigoedd o u hamgylch i gasglu coed i wneud siarcol, i w werthu. Mae nifer o r bobl yn cael ¾ o u hincwm drwy werthu siarcol. Bag o siarcol ym Mbata. Menywod yn casglu dŵr yn y gors, Mbata Roedd y pentrefwyr yn hapus i weld Sun Biofuels yn prynu tir. Dywedodd un o r trigolion, Mussa Mirisho, Maent yn rhoi hadau a marchnad i ni, felly mae hyn yn dda i bobl y pentref.
Proses ddryslyd Y pentrefwyr sydd berchen y tir o u hamgylch. Rhaid iddynt gytuno i r gwerthiant. Mae r Swyddog Tir Rhanbarthol a gwleidydd lleol yn annog y pentrefwyr i gytuno. Ceir addewid o 50 o iawndal am bob hectar, a hyd at 4,000 o swyddi. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth yn ysgrifenedig. Mae pethau braidd yn frysiog. Dim ond 4 diwrnod sydd ar gael i drafod cyn cytuno ar y gwerthiant. Arwydd ar y tir sy n cael ei werthu Mae r pentrefwyr yn cytuno i r gwerthiant, ond wedyn mae nifer wedi drysu am gynnwys y cytundeb. Pentrefwyr ar eu colled? Ar ôl y gwerthiant, derbyniodd y pentrefwyr lai na hanner yr iawndal a addawyd. Roedd nifer wedi drysu am sut i gael yr arian hwn. Dim ond 1,500 o swyddi gafodd eu creu, a bellach nid yw r pentrefwyr yn berchnogion ar y gors na r goedwig y maent yn dibynnu arnynt. Mae Saibi Mrisho (chwith) yn paratoi siarcol. "Rwy n dibynnu ar y siarcol i ddarparu ar gyfer fy nheulu. Wn i ddim beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Dydyn ni ddim yn gwybod a fyddwn yn cael caniatâd i ddefnyddio r goedwig i wneud siarcol. Rwy n poeni na fyddwn. Os felly, ni fydd modd i mi fwydo fy nheulu, yn arbennig os na fyddwn yn cael ein cyflogi, fel addawyd." Dywed Emilia Isdori (dde, yn casglu dŵr): Mae r dŵr hwn yn bwysig i mi, oherwydd rydym yn ei ddefnyddio i goginio, golchi dillad, ymolchi ac yfed. Mae n cymryd 2 awr i mi gerdded i r gors ac yn ôl, ond dyna r unig ddewis yn y tymor sych. Os fyddant yn gwrthod mynediad at y dŵr, ein unig ddewis fydd erfyn arnynt i gael mynediad." Adolygu gwerthiant tir Yn sgil problemau fel hyn, yn 2009 penderfynodd llywodraeth Tanzania roi terfyn ar bob gwerthiant tir ar gyfer biodanwydd er mwyn ystyried ymhellach. Roeddent yn poeni na fyddai modd i bobl leol gynhyrchu digon o fwyd, a bod eu hanghenion yn cael eu hanwybyddu.
Trosolwg tirgipio Dengys ffigurau bod 227 miliwn hectar o dir wedi u prynu rhwng 2001 a 2011 mewn cytundebau tir mawr fel yr un yn Tanzania. Dyma ardal maint gorllewin Ewrop. Roedd hanner y tir hwn yn Affrica. Y prif reswm yw bod cwmnïau rhyngwladol mawr yn gweld tir fel buddsoddiad da yn y gwledydd hynny. Mae hynny gan ei fod yn weddol rhad, a gellir ei ddefnyddio i dyfu biodanwyddau i w allforio am arian, ac mae r defnydd o fiodanwydd yn cael ei annog. Mae nifer hefyd yn meddwl y bydd pris tir yn cynyddu gyda r galw cynyddol am fwyd. Yna bydd modd gwerthu r tir yn y dyfodol am elw. Mae nifer o lywodraethau fel llywodraeth Tanzania wedi bod yn hapus i helpu r buddsoddiad hwn, gan feddwl y bydd yn helpu i ddatblygu ardaloedd gwledig. Pe bai n cael ei wneud mewn ffordd foesegol a chynaliadwy, gallai buddsoddiad tir fod yn bwysig iawn i ffermwyr bach. Tirgipio Fodd bynnag, dywedodd pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Sicrwydd Bwyd y Byd yn ddiweddar: Dengys tystiolaeth bod buddsoddi mewn tir ar raddfa fawr yn niweidio sicrwydd bwyd, incwm, bywoliaethau ac amgylchedd pobl leol (HLPE, Gorffennaf 2011, tudalen 8). Fel yn Tanzania, mae nifer o grwpiau yn gweld nad yw r cytundebau hyn bob amser yn deg i bobl leol. Yn aml iawn, nid oes unrhyw un yn gofyn yn iawn iddynt am eu barn, nid yw r addewidion yn cael eu rhoi n ysgrifenedig ac nid ydynt yn cael y swm cywir o iawndal (arian am gael eu symud oddi ar eu tir). Hefyd mae llawer o r tir o ganlyniad yn methu cael ei ddefnyddio i dyfu bwyd, gan ei gwneud hi n anoddach i wledydd dyfu digon o fwyd i bawb. Yn 2011 dywedodd y Gynghrair Tir Rhyngwladol (116 o fudiadau, yn cynnwys Oxfam) yn eu Datganiad Tirana fod prynu tir fel hyn yn dirgipio, yn annheg, ac y dylid rhoi terfyn arno. Ffynhonnell: Land Matrix Partnership
Gwerthu tir ym Mbata y bobl Dychmygwch mai chi yw un o r bobl ganlynol. Ystyriwch beth fyddai eu barn am werthu tir ym Mbata. Dychmygwch eich bod mewn cyfarfod yn y pentref cyn gwerthu r tir. Ydych chi o blaid neu yn erbyn y gwerthiant? Beth fyddech chi n ei ddweud i gyfiawnhau hyn? Oes modd i chi ddod i gytundeb? John Hangi, Swyddog Tir Rhanbarth Kisarawe. Mae n cynrychioli pobl leol ond hefyd yn gweithio i lywodraeth ganolog Tanzania. Peter Auge, Prif Weithredwr Sun Biofuels Tanzania Ltd, yn Dar Es Salaam (prifddinas). Mae n cael ei gyflogi i wneud arian i Sun Biofuels.
Ffynhonnell: http://www.howwemadeitinafrica.com/ Yr Athro Jumanne Maghembe, Gweinidog Amaeth, Sicrwydd Bwyd a Chydweithfeydd. Cyfrifol am benderfyniadau datblygu ardaloedd gwledig. Veronica Mabuga gyda i meibion a i gŵr. Mae n rhedeg siop fach ym mhentref Mbata, yn gwerthu pethau i bobl leol. Mae nifer o i chwsmeriaid yn gwneud siarcol i gael arian.
Addysg Oxfam www.oxfam.org.uk/education Trafodaeth Tir Tanzania Gwneud eich pwynt! Beth yw eich barn am y gwerthiant? Trafodaeth Tir Tanzania Gwneud eich pwynt! Beth yw eich barn am y gwerthiant? Pa ffeithiau neu wybodaeth sy n eich cefnogi? Pa ffeithiau neu wybodaeth sy n eich cefnogi? Beth fyddwch yn ei ddweud? Beth fyddwch yn ei ddweud? ucational purposes only. Page 15