Bocsys Bwyd Iach Healthy Lunch Boxes Menter Ysgolion Iach
Mae ar blant angen cadw n iach er mwyn dysgu a byw bywyd gweithgar. Yn ein hysgol, caiff gwersi ymarfer corff rheolaidd eu cynnwys ar amserlen yr ysgol ac rydym hefyd yn argymell bod plant yn bwyta diet iach. Cafodd y prydau cinio ysgol a ddarperir gan wasanaethau r ysgol hefyd eu cynllunio n ofalus er mwyn darparu popeth sydd ar blentyn ei angen ar gyfer cael cinio cytbwys ac mae n costio 1.95 y dydd. I r rhai ohonoch sy n derbyn budd-daliadau, mae cinio ysgol yn ddi-dâl (gweler y ddewislen amgaëedig). Rydym wedi sylwi n ddiweddar bod nifer y plant sydd yn dod â bocsys bwyd wedi cynyddu a bod rhai o r bocsys hynny yn cynnwys bwydydd afiach a hefyd bod rhai ohonynt yn cynnwys gormod o fwyd. Rydym yn canmol bocsys bwyd iach trwy roi sticeri i r plant a gall hynny yn ei dro, arwain at blant yn eistedd ar y Bwrdd Aur ar Ddydd Gwener. Mewn cyfarfod o r cyngor ysgol, penderfynwyd dechrau ymgyrch bocsys bwyd iach, trwy hysbysu r plant a r rhieni ynghylch bocsys bwyd iach. Bocsys Bwyd Rhaid i focsys bwyd iach gynnwys digonedd o fwydydd sy n cynnwys y maetholynnau sydd ar blant eu hangen, a llai o fwydydd sydd yn uchel mewn siwgr a braster dirlawn. Pacio r bocs bwyd Dylai cinio pecyn gynnwys: Bwydydd startsh. Bara, reis, tatws a pasta, ac eraill, yw r rhain. Bwydydd protein. Cig, pysgod, wyau, ffa ac eraill yw r rhain. Eitem cynnyrch llaeth. Gallai hyn fod yn gaws neu iogwrt. Llysiau neu salad, a chyfran o ffrwyth. Mae bwydydd startsh yn ffynhonnell da o egni, a dylent gynrychioli traean o r bocs bwyd. Ond peidiwch â gadael i bethau fynd yn ddiflas. Yn lle brechdanau, rhowch i blant bagelau, bara pitta, wraps a ffyn bara. Defnyddiwch fara brown, bara cyflawn neu fara hadog, nid bara gwyn. Mae plant yn aml yn hoff o fwyd y gallant ei fwyta gyda u bysedd, felly torrwch lysiau amrwd megis moron neu buprau, a rhoi iddynt houmous neu gaws colfran i drochi r llysiau ynddynt. Mae ffyn bara a chraceri cyflawn yn fwydydd rhagorol i w bwyta gyda r bysedd a gellir lledaenu caws meddal isel o ran braster arnynt neu eu bwyta gyda cheddar a phicls gyda braster gostyngol. Dylid bwyta ffrwyth ffresh, ffrwyth wedi sychu neu gnau di-halen yn lle barau siocled a chacennau. Dylid amrywio r ffrwyth bob dydd a u cael i roi cynnig ar bethau newydd, megis ffrwyth ciwi neu felon. Gallech hefyd baratoi salad ffrwythau blasus. Byddwch yn ddyfeisgar ac annog eich plant pan roddant gynnig ar rywbeth newydd.
Newid yr hyn maent yn ei fwyta Gall gymeryd amser i ch plant arfer â bocs bwyd mwy iachus. Ond bydd yn werth hynny o ran eu hiechyd, felly daliwch ati. Gellir cadw siocled a chacennau ar gyfer cael rhywbeth neis i w fwyta o dro i dro, beth am wneud hynny ar ddydd Gwener. Cofiwch ganmol eich plentyn pan maent wedi rhoi cynnig ar rywbeth newydd, i ddangos eich anogaeth. Amser cinio yn yr ysgol. Rhydd cinio ysgol gyfran o ffrwythau a chyfran o lysiau ar gyfer eich plentyn. Os rhowch ginio pecyn i ch plentyn, gellir ychwanegu ffrwyth a llysiau mewn llawer ffordd. Mae ffrwyth wedi sychu yn cyfrif tuag at eu 5 Y DYDD, felly pam na rowch gynnig ar sultanas neu fricyll wedi sychu? Rhowch salad yn eu brechdanau neu rhowch iddynt ffyn moron neu seleri, tomatos ceirios, neu rawnwin dihad. Beth sy n cyfrif tuag at 5 y Dydd? Mae r canlynol yn cyfrif tuag at eich 5 Y Dydd: Ffrwyth a llysiau ffresh/wedi rhewi/mewn tun. Ffrwyth wedi sychu, megis cyrents, detys, syltanas a ffigys. Ffrwyth a llysiau wedi eu coginio mewn dysglau megis cawl, stiwiau neu ddysglau pasta. Gwydr (150ml) o sudd ffrwythau neu lysiau heb ei felysu 100%. Mae sudd yn cyfrif fel uchafswm o un cyfran y dydd, faint bynnag rydych yn ei yfed. Mae hynny n bennaf oherwydd bod sudd yn cynnwys llai o ffibr na ffrwythau a llysiau cyflawn. Smoothies. Gall smoothie sy n cynnwys yr holl ffrwyth ac/neu lysieuyn wedi ei bwlpio bwytadwy gyfrif fel mwy nac un gyfran ond mae hynny n dibynnu ar sut caiff ei gynhyrchu. Mae Smoothies yn cyfrif fel hyd at uchafswm o ddau gyfran y dydd. Am fanylion pellach, gweler Ffa a ffacbys. Nid yw r rhain ond yn cyfrif fel un gyfran y dydd, ta waeth faint rydych yn eu bwyta ohonynt. Mae hynny oherwydd eu bod yn cynnwys llai o faetholynnau na ffrwythau a llysiau eraill. Mae r canlynol yn enghreifftiau o focsus bwyd iach am bythefnos. Bocsus bwyd Gwnewch amseroedd cinio yn haws. Dewiswch o blith ein rhestr o brydau cinio blasus, hawdd i w paratoi, o werth da, mwy iachus y gall pawb eu mwynhau.
Ar gyfer plant 5-8 oed wythnos gyntaf Dydd Llun Brechdan Banana gyda bara cyflawn Tomato Wy wedi ei ferwi Iogwrt ffrwythau isel o ran braster Bocs bychan o resins Llefrith hanner sgim Dydd Mawrth Rhôl tiwna a bara cyflawn india-corn Triongl gaws â braster gostyngol Satsuma Sudd afal, heb ei felysu. Dydd Mercher Salad Pasta a selsig (gyda sgaliwn a phupur coch) Afal a mwyar wedi ei stiwio gyda crymbl ar ei ben Iogwrt naturiol gyda braster gostyngol Dydd Iau Caws Edam, ham a poced pitta letys Tomato Fflapjac bychan Nectarîn Diod iogwrt gyda braster gostyngol Dydd Gwener Houmous, pupur coch a wrap moron gratiedig. Grawnwin Pot reis hufennog Tafelli o dorth frag Ar gyfer plant 5-8 oed ail wythnos Dydd Llun Bagel sardin mewn tun Tomato Ffrwyth Ciwi
Dydd Mawrth Rhôl wy a tomato Dwy dorth geirch a caws heb lawer o fraster Ffyn moron Bricyll wedi eu sychu Llefrith hanner sgim Dydd Mercher Salad tatws a selsig (gyda sgaliwn, cnau pinwydden a iogwrt plaen heb lawer o fraster) Ffrwythau a fromage frais heb lawer o fraster Tafelli o fara ffrwythau Gellygen Dydd Iau Brechdan cornbiff ar fara cyflawn Caws meddal isel o ran braster gyda trochwyr llysieuyn (ffyn ciwcymbr, stribynnau pupur coch a gwyrdd) Banana Diod iogwrt Dydd Gwener Pizza myffin Seisnig Cyflawn (gyda caws, tomatos ceirios a pigoglys) Nectarîn Smoothie Banana a llus (wedi ei wneud gyda llefrith hanner-sgim)
Trafodwch gyda ch plentyn beth i w roi yn y bocs bwyd /discuss with your child the contents of the lunch boxes. pasta, bara cyflawn/rhol gyflawn, bara pitta, wrap, bagel,myffin Llysieuyn protein iogwrt, trionglau caws, fromage frais isel o ran braster, Dwr, diodydd heb eu melysu, sudd afal, llefrith hanner-sgim, diod iogwrt gyda braster gostyngedig. Ffrwythau ffresh/wedi ei sychu