Adviceguide Advice that makes a difference

Similar documents
EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Addysg Oxfam

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Holiadur Cyn y Diwrnod

Esbonio Cymodi Cynnar

TWYLL MAWR. Jane Howard Rheolwr-Gyfarwyddwr, Bancio Personol

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from

SESIWN HYFFORDDI STAFF

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid

Bondiau Premiwm Dyddiau difyr!

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?

Canllaw Diogelu Data. Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth [Tachwedd 2009]

DŴr cymru COD YMARFER WWM 0151 AR GYFER CWSMERIAID Â MESURYDDION

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)

Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

W46 14/11/15-20/11/15

Roedd yr holl wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir yn Awst 2015.

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

offered a place at Cardiff Met

Gwen 30 Medi. Maw 4 Hyd. Maw 18 Hyd. Maw 8 Tach. Maw 22 Tach

The Life of Freshwater Mussels

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

TGAU Busnes 4. Cyllid

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

Tour De France a r Cycling Classics

Talu costau tai yng Nghymru

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Swim Wales Long Course Championships 2018

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Cost unioni cam: y gwersi i w dysgu o r sgandal ynghylch camwerthu Yswiriant Gwarchod Taliadau (PPI)

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

Canllaw Rhieni. Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg. Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol

F U N D RAISING pack! C O D I A RIA N!

TROSEDDAU CASINEB: YR ACHOS DROS YMESTYN Y TROSEDDAU PRESENNOL

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

EAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

EAS Papur Ymarferol 2 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2014

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

Perchnogaeth ar dai lesddaliad: prynu eich rhydd-ddaliad neu ymestyn eich les Papur ymgynghori Crynodeb

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

Addewid Duw i Abraham

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

Os hoffech wybod rhagor, ewch i bhf.org.uk

Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yng Nghymru

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh

W40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Sesiwn Gymraeg: Bywydau cydradd neu anghydradd?

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Pennaeth Mr Dewi Owen Headteacher

Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

W45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

W42 13/10/18-19/10/18

Products and Services

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

Summer Holiday Programme

Y BANC Y BANC. Hyfedredd

Transcription:

Ceir ail-law Pan fyddwch chi n prynu car ail-law, bydd eich hawliau n dibynnu a ydych wedi prynu r car oddi wrth ddeliwr, gwerthwr preifat, mewn ocsiwn neu dros y rhyngrwyd. Prynu oddi wrth ddeliwr- beth ddywed y gyfraith Os prynoch chi r car oddi wrth ddeliwr, mae r gyfraith yn dweud fod yn rhaid i r car: gyd-fynd â i ddisgrifiad. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid iddo fod fel y i disgrifiwyd gan y gwerthwr. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddisgrifiad ysgrifenedig mewn hysbyseb neu gatalog; fod o ansawdd boddhaol. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i r car fod mewn cyflwr rhesymol, gan ystyried ei oedran a r gwneuthuriad, ei hanes blaenorol a r pris a dalwyd amdano. Rhaid iddo fod yn addas at ei ddiben (er enghraifft, os ydych chi am gar sy n gallu tynnu carafán, rhaid iddo allu gwneud hynny). Rhaid iddo hefyd fod yn ddiogel ar gyfer y ffordd. (Mae n drosedd gwerthu car sy ddim yn ddiogel ar gyfer y ffordd). Nid yw car yn ddiogel ar gyfer y ffordd os yw ei frêc, ei deiars, y llywio, neu adeiladwaith yn ei wneud yn anaddas ar gyfer y ffordd. Hyd yn oed os oes gan gar dystysgrif MOT, nid yw hyn o anghenraid yn golygu ei fod yn ddiogel ar gyfer y ffordd. Ni fydd gennych yr hawliau hyn os: Gwirio ceir yw r deliwr wedi tynnu sylw at raddau llawn y diffygion cyn i chi brynu r car; neu os wnaethoch chi archwilio r car ac fe ddylech fod wedi sylwi ar y diffygion. Mae hyn gan amlaf yn berthnasol i ddiffygion cosmetig os archwilir gan berson lleyg. Ni fyddai r deliwr yn gallu osgoi cyfrifoldeb am ddiffygion mecanyddol os nad oeddent yn amlwg wrth i chi archwilio. Cyn prynu, mae n werth gwirio os yw cwmni yswiriant wedi dweud fod y car wedi ei ddileu (write-off), wedi i ddwyn, neu os oes taliadau yn ddyledus o werthiant blaenorol. Am wybodaeth ynglŷn â sut i wirio r pethau hyn ewch i wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk a dilynwch y cysylltiadau i Moduro a Phrynu a Gwerthu Cerbyd. Gall gwiriadau milltiroedd fod ar gael. Er mwyn tawelwch meddwl, efallai yr hoffech gael y car wedi i archwilio gan arbenigwr ar gyfer diffygion mecanyddol. Mae yna dâl ar gyfer y gwasanaethau hyn. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth ddylech chi chwilio amdano wrth i chi brynu car ail law, ewch i. 1

Canslo/Tynnu nôl Peidiwch â chytuno na llofnodi dim os nad ydych chi n gwbl sicr eich bod am fynd ymlaen i brynu. Os ydych chi n talu am y car gydag arian parod, nid oes cyfnod ail feddwl i gael. Fel arfer fe fyddwch ynghlwm yn gyfreithiol o r funud y cytunodd y ddau ohonoch ynglŷn â r gwerthiant. Os yw r dêl yn amodol ar gyllid, a chwithau heb lofnodi cytundeb cyllid, nid oes un parti yn cael ei rhwymo n gyfreithiol hyd nes y bydd y cytundeb cyllid wedi i arwyddo gan y ddwy ochr. Os ydych chi wedi llofnodi r cytundeb cyllid ond bod y cwmni cyllid heb ei gymeradwyo eto, fe allwch chi ddal i dynnu nôl os gweithredwch chi yn gyflym iawn. Ffoniwch y cwmni cyllid ar unwaith gan ddilyn hyn â llythyr yn cadarnhau eich bod yn tynnu nôl. Byddwch yn ofalus o lofnodi unrhyw ddogfen sy n nodi eich bod wedi archwilio r car a chael ei fod yn foddhaol ymhob ffordd. Gwarant neu waranti estynedig Os gwerthwyd y car gyda gwarant neu waranti estynedig, efallai fod gennych hawliau ychwanegol. Ni all y gwarant na r waranti fynd â ch hawliau statudol oddi wrthych. Dylech wirio'r print mân ar eich gwarant. Mae gan nifer o r rhain eithriadau megis traul a gwisgo. Os ydych chi n prynu car â milltiroedd uchel, mae angen i chi ofyn i chi ch hunan os ydyw r waranti yn rhoi sicrwydd am y problemau sy n debygol o ddigwydd ac ystyried hefyd os ydyw r waranti yn cynnig gwerth am arian. Rheolau arbennig os ydych yn talu trwy gredyd Os defnyddioch chi eich cerdyn credyd neu os trefnodd y gwerthwr y cyllid er mwyn i chi dalu am y car, ac fe gostiodd mwy na 100 a llai na 30,000, gall y cwmni credyd fod yr un mor atebol am unrhyw dor cytundeb. Golyga hyn os yw r car yn ddiffygiol, y gallech hawlio ad-daliad neu gost yr atgyweirio oddi wrth y cwmni cyllid, y deliwr, neu r ddau ar y cyd. Mae r rheolau ynglŷn â hurbwrcasu a gwerthiant amodol yn wahanol i gytundebau eraill yn y ffaith mai r cwmni cyllid sy n gwbl gyfrifol. Eich hawliau os brynoch chi r car oddi wrth ddeliwr Arferion masnachol annheg a throseddau Mewn rhai achosion, os brynoch chi r car oddi wrth ddeliwr ac y mae gennych broblem, gall y deliwr fod yn euog o gyflawni arfer masnachol annheg. Mae hyn yn drosedd. Bydd y deliwr wedi cyflawni trosedd os yw: wedi rhoi disgrifiad ffug (er enghraifft, nodi mai dim ond un perchennog gofalus a fu pan mae r llyfr log yn nodi pedwar perchennog blaenorol); neu gwerthu car sy ddim yn ddiogel ar gyfer y ffordd: neu newid y nifer o filltiroedd ar gloc milltiroedd y car neu werthu car i chi ble mae'r nifer o filltiroedd wedi cael eu newid; neu esgus bod yn werthwr preifat. 2

Os ydych chi n credu fod unrhyw un o r rhain yn berthnasol i ch sefyllfa chi, cyn cymryd unrhyw gamau yn erbyn y gwerthwr, fe ddylech roi gwybod am yr achos i llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0845 404 0506. Hefyd, yn achos anaf personol, fe ddylech chi gymryd cyngor cyfreithiol am eich cais. Ad-daliad Mae gallu dychwelyd eich car a mynnu eich arian yn ôl yn dibynnu n rhannol ar ba mor hir y bu r car gyda chi a faint o filltiroedd y teithiodd cyn i chi riportio r diffyg. Os ydyw r diffyg yn un difrifol a chwithau heb deithio llawer o filltiroedd ac yn ei ddychwelyd (ei wrthod) yn fuan iawn ar ôl prynu, efallai y bydd hawl gennych i addaliad llawn. Sut bynnag, os cadwch chi r car am amser hirach heb ei ddychwelyd, fe allech chi golli r hawl hwn, er y bydd dal i fod hawl gennych am unioni r diffyg. Os oes hawl gennych am ad-daliad, bydd hwn yn cynnwys yr arian daloch chi am y car diffygiol ynghyd â dychwelyd unrhyw gar yr ydych wedi ei rhan gyfnewid. Os gwerthwyd y car yr ydych wedi ei rhan gyfnewid yn y cyfamser, mae gennych hawl i werth y car yn ariannol yn ôl yr un a nodwyd yn eich gwaith papur. Amnewid neu atgyweirio Os yw r car yn ddiffygiol a chwithau wedi ei adael yn rhy hir cyn hawlio ad-daliad neu dydych chi ddim am un, fe allwch ofyn i r deliwr am ei amnewid neu ei atgyweirio yn rhad ac am ddim. Os wnewch chi hyn o fewn chwe mis o dderbyn y car, a i fod yn rhesymol i ddisgwyl iddo barhau am y cyfnod amser y bu yn eich meddiant, mae modd tybio fod y broblem yno pan brynoch chi r car, oni bai fod y deliwr yn gallu dangos yn wahanol. Sut bynnag, fe allwch ddal i ofyn am gar arall yn ei le neu am atgyweirio r car i fyny hyd at chwe blynedd o r dyddiad y prynoch chi r car, os yw n rhesymol cymryd iddo barhau mor hir â hynny. Yn yr achos hwn, mae i fyny i chi i ddangos fod y car yn ddiffygiol adeg y gwerthu. Yr hira y bydd y car yn eich meddiant, y mwyaf anodd fydd hi i brofi fod y diffyg yno adeg y gwerthu. Os: Yna: Iawndal ydyw n amhosibl amnewid neu atgyweirio r car; neu byddai amnewid neu atgyweirio yn afresymol o gostus i r gwerthwr o i gymharu â dulliau amgen: neu os yw r gwerthwr yn methu amnewid neu atgyweirio r car o fewn amser rhesymol o gytuno i wneud hynny, neu yn achosi anghyfleustra arbennig i chi fe allwch ofyn am ad-daliad rhannol neu llawn. Gall y swm o arian a ad-delir fod yn llai i gymryd i ystyriaeth faint o ddefnydd gawsoch chi o r car. Efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal os: yw r cytundeb wedi i dorri (tor-cytundeb) achos nad yw r cerbyd yn cyd-fynd â r disgrifiad, heb fod o ansawdd boddhaol neu n addas at ei ddiben. yw r deliwr wedi gwneud datganiad ffug ynglŷn â r car er mwyn eich cael chi i w brynu (er enghraifft, dweud wrthych fod injan newydd wedi cael ei gosod pan fod yr injan yn un a adnewyddwyd) 3

ydych wedi cael anaf achos bod y car ddim yn ddiogel ar gyfer y ffordd neu n anniogel. Fe ddylech bob amser gael cyngor cyfreithiol cyn penderfynu derbyn cynnig o iawndal am anaf personol ai peidio. yw diffyg ar y car yn achosi difrod i rywbeth arall ydych yn derbyn gwaith atgyweirio sy n troi allan i fod yn anfoddhaol ydych wedi mynd i gostau ychwanegol achos tor-cytundeb y deliwr, er enghraifft, gorfod gwneud galwadau ffôn neu dalu am drafnidiaeth amgen. Sut i ddatrys y broblem Unwaith y byddwch wedi penderfynu beth yw ch hawliau, cysylltwch â r deliwr. Y deliwr a/neu r cwmni cyllid ac nid y gwneuthurwr sy n gyfrifol am ddelio â ch cwyn. Dilynwch y camau isod: peidiwch â defnyddio'r car mwyach casglwch eich holl ddogfennau at ei gilydd, gan gynnwys eich anfoneb ar gyfer y gwerthiant, y warant neu'r waranti a/neu'r cytundeb credyd os oes rhywun wedi i niweidio neu os ydych chi n credu fod trosedd wedi i chyflawni (er enghraifft, y car ddim yn ddiogel ar gyfer y ffordd) fe ddylech chi gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0845 404 0506 cyn mynd yn ôl at y deliwr. cysylltwch â'r deliwr a r cwmni cyllid (os yn berthnasol) ar unwaith wedi dod o hyd i'r diffyg. Ewch yn ôl â'r car, a gofynnwch am gael siarad â'r rheolwr neu'r perchennog. Neu, ysgrifennwch at y rheolwr neu'r perchennog, gan anfon copi o anfoneb y gwerthiant. Cadwch gopi o'ch llythyr. Esboniwch eich problem yn dawel ond yn gadarn a gofynnwch am ad-daliad llawn, atgyweiriad, car arall yn lle, neu iawndal a rhowch derfyn amser. os oes anghytuno ynglŷn ag achos y broblem, efallai y bydd yn rhaid i chi gael barn arbenigol. Rydych yn medru gwneud hyn trwy gymdeithas fasnach, yr AA, RAC, neu gan unrhyw un sydd â chymwysterau addas sy'n fodlon cofnodi eu darganfyddiadau'n ysgrifenedig. Fel arfer, fe fydd yn rhaid i chi dalu am yr adroddiad a dylech hefyd ddod i gytundeb gyda'r gwerthwr ymlaen llaw, ynghylch y dewis o arbenigwr ac y bydd y ddau ohonoch yn rhwym i ddarganfyddiadau'r arbenigwr. Os aiff yr achos i r llys fe fydd angen i chi gael caniatâd y llys i ddefnyddio tystiolaeth yr arbenigwr yn y gwrandawiad neu efallai na fyddwch yn medru adennill y costau. Os ewch chi trwy gymdeithas fasnach, fe all gynnig cymod neu gyflafareddiad. Yn aml, mae cyflafareddiad yn rhwymo'n gyfreithiol. Os hoffech chi fwy o wybodaeth cyn ymrwymo ch hun, cysylltwch â r gymdeithas fasnach am fanylion pellach. os nad ydych yn fodlon o hyd, neu os nad ydych am dderbyn cyflafareddiad, ysgrifennwch at y deliwr, gan ailadrodd eich cwyn a sôn am unrhyw gamau a gymerwyd yn barod. Dywedwch y byddwch yn rhoi pedwar diwrnod ar ddeg i'r deliwr i ddatrys y broblem neu y byddwch yn ystyried cymryd camau cyfreithiol. Anfonwch eich llythyr fel dosbarthiad a gofnodwyd (recorded delivery) gyda chopi i'r brif swyddfa. Sicrhewch eich bod yn cadw copïau o'r holl lythyron 4

os bydd y deliwr yn cynnig ateb arall i chi yn lle (er enghraifft, car arall yn lle) fe allwch naill ai dderbyn neu barhau i drafod. Byddwch yn realistig yn yr hyn yr ydych yn fodlon ei dderbyn. Efallai na chewch chi gynnig gwell wrth fynd i'r llys os nad yw'r deliwr yn ateb eich llythyron, os yw'n gwrthod gwneud unrhyw beth, neu'n gwneud cynnig terfynol nad ydych yn fodlon ei dderbyn, yr unig ddewis arall sydd gennych yw mynd i'r llys. Os ydych yn hawlio cost yr atgyweiriadau, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael digon o dystiolaeth i brofi eich honiad, er enghraifft, adroddiadau a ffotograffau arbenigol, cyn i chi ganiatáu i garej arall atgyweirio'r car. Cofiwch, mynd i'r llys yw eich opsiwn olaf. Mae angen i chi ddarganfod hefyd os oes gan y deliwr ddigon o arian i dalu eich hawliad. Nid yw'n werth erlyn person neu gwmni sydd heb arian. Os ydych chi wedi colli arian ar gar sy n ddiffygiol, peidiwch â gwastraffu mwy o arian ar achos na allwch ei ennill. Prynu r car mewn ocsiwn byw- beth ddywed y gyfraith Os ydych yn prynu car ail law mewn ocsiwn byw yr ydych chi n cael cyfle i w mynychu n bersonol, efallai y bydd eich hawliau yn gyfyngedig os bydd y car yn troi allan i fod yn ddiffygiol. Fe ddylech wirio amodau a thelerau busnes yr ocsiwn, er enghraifft yn y catalog neu ar hysbysiadau sydd wedi eu harddangos. Os ydynt yn nodi nad yw'ch hawliau o dan Ddeddf Gwerthu Nwyddau yn berthnasol, yna rydych yn prynu'r car fel yr ydych yn ei weld a'ch cyfrifoldeb chi yw edrych dros y car cyn i chi gynnig amdano. Fe fydd rhai ocsiynau'n cynnig yswiriant yn erbyn y posibilrwydd fod y car wedi ei ddwyn ac efallai y bydd rhai'n cynnig cyfnod ail feddwl i chi (er, yn aml mae hyn yn medru bod yn fyr iawn - ychydig o oriau yn unig). Prynu car oddi wrth werthwr preifat - beth ddywed y gyfraith Os ydych yn prynu car oddi wrth werthwr preifat, ni fydd gennych yr un hawliau ag wrth brynu oddi wrth ddeliwr. Fe fyddwch ond yn medru hawlio yn erbyn gwerthwr preifat am un o'r rhesymau canlynol : os nad yw'r car yn cyfateb i'r disgrifiad a roddwyd i chi, er enghraifft fe ddywedwyd wrthych mai ond un perchennog fu iddo pan mewn gwirionedd roedd yna sawl un. Bydd y gwerthwr yn gyfrifol am roi disgrifiad ffug i chi, hyd yn oed os byddan nhw n credu ei fod yn wir. mae'r gwerthwr wedi torri amod penodol yn y cytundeb, er enghraifft, trwy ddweud fod gan y car MOT pan nad yw hyn yn wir os nad yw r car yn ddiogel ar gyfer y ffordd. Mae n drosedd gwerthu car sy ddim yn ddiogel ar gyfer y ffordd. Nid yw car yn ddiogel ar gyfer y ffordd os yw r brêc, y teiars, y llywio, neu adeiladwaith yn ei wneud yn anaddas ar gyfer y ffordd. Nid yw tystysgrif MOT yn golygu fod y car yn ddiogel ar gyfer y ffordd. nid y gwerthwr oedd perchennog cyfreithiol y car ac nid oedd ganddo hawl i w werthu. 5

Byddwch yn ofalus iawn o werthwr sydd am gwrdd â chi i ffwrdd oddi wrth eu cyfeiriad preifat, sydd â i enw ddim yn y llyfr log neu sy n amwys iawn wrth ateb cwestiynau. Fe allan nhw fod yn ddeliwr sy n esgus bod yn werthwr preifat ac mae hynny n drosedd. Os ydych chi n credu bod trosedd wedi i chyflawni, fe ddylech riportio r gwerthwr i linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0845 404 0506. Prynu car dros y rhyngrwyd Pan fyddwch chi n prynu car dros y rhyngrwyd fe fydd eich hawliau n dibynnu ar bwy yw r gwerthwr a pha fath o werthiant sydd dan sylw. Os ydych yn prynu'ch car oddi wrth ddeliwr dros y rhyngrwyd, fe fydd yr un hawliau gennych a phetaech wedi prynu'r car oddi wrth y deliwr wyneb yn wyneb Fe fydd rhai hawliau ychwanegol gennych yn ogystal, gan gynnwys yr hawl i ganslo eich archeb o fewn saith diwrnod gwaith heb orfod talu dim. Rhaid i'r masnachwr ddweud wrthych am yr hawl hwn pan fyddwch chi'n archebu. Os ydych yn prynu'ch car oddi wrth werthwr preifat dros y rhyngrwyd, fe fydd yr un hawl gennych a phetaech wedi ei brynu oddi wrth y gwerthwr preifat wyneb yn wyneb. Sut bynnag, dylech gofio bod gennych lai o hawliau pan fyddwch yn prynu rhywbeth oddi wrth werthwr preifat. Os ydych chi n prynu car o safleoedd ocsiwn ar y rhyngrwyd, fe fydd eich hawliau'n dibynnu ar y math o werthiant sydd dan sylw. Os ydych chi n prynu car o werthiant ar ffurf ocsiwn lle mae cynnig pris yn digwydd, mae hyn yn debygol o fod oddi wrth werthwr preifat ac fe fydd gennych yr un hawliau a phetaech wedi prynu r car oddi wrth werthwr preifat wyneb yn wyneb. Os ydych yn prynu car oddi wrth ddeliwr trwy safle ocsiwn ar y rhyngrwyd, er enghraifft, oddi wrth werthiant Buy it now ar ebay, fe fydd gennych yr un hawliau a phetaech wedi prynu oddi wrth y deliwr wyneb yn wyneb. Cymdeithasau sy n delio â chwynion am geir Motor Codes Limited Mae Motor Codes Limited yn is-gwmni i SMMT (Cymdeithas Gwneuthurwyr a Masnachwyr Ceir) sy n gymdeithas fasnach ar gyfer gwneuthurwyr moduron a chwmnïau yswiriant methiant mecanyddol. Mae Motor Codes Limited yn gweithredu nifer o godau ymarfer y mae n rhaid i w danysgrifwyr gydymffurfio â nhw. Fe allwch gysylltu â nhw ar 0800 692 0825 am fwy o wybodaeth. Ffederasiwn Diwydiant Moduron (RMIF) / Cymdeithas Arwerthiannau Moduron (SMA) Mae r ddau hyn yn rhan o r un gymdeithas. Rhaid i r aelodau ddilyn Cod Ymarfer. Mae yna wasanaeth cymodi mewnol a chynllun cyflafareddu annibynnol a drefnir gan Sefydliad Siartredig Cyflafareddwyr i ddelio â chwynion yn erbyn ei aelodau. Fe allwch gysylltu ag RMI a SMA ar 01788 538317. 6

Gwybodaeth arall ar Adviceguide a allai eich helpu Prynu mewn ocsiwn Llythyron sampl Cychwyn achos llys Gwarantau Diogelwch Credyd Cyflenwr yn mynd allan o fusnes Prynu ar safleoedd ocsiwn ar y rhyngrwyd Caiff y dudalen ffeithiau hon ei chynhyrchu gan Gyngor ar Bopeth enw gweithredol Cymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Cyngor ar Bopeth. Ei ddiben yw darparu gwybodaeth gyffredinol yn unig ac nid yw n ddatganiad llawn o r gyfraith. Mae r wybodaeth yn berthnasol i Loegr a Chymru yn unig. Diweddarwyd y daflen ffeithiau hon ar 05 Awst 2012, a chaiff ei hadolygu bob mis. Os ydych wedi cael y daflen ffeithiau hon am gyfnod, cysylltwch â ch Canolfan Cyngor ar Bopeth er mwyn gwirio os yw r wybodaeth sydd arni yn dal i fod yn gywir. Neu rhowch glic ar ein gwefan - - - lle gallwch lawr lwytho copi diweddaraf. 7