Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide

Similar documents
Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Holiadur Cyn y Diwrnod

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

SESIWN HYFFORDDI STAFF

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Os hoffech wybod rhagor, ewch i bhf.org.uk

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

The Life of Freshwater Mussels

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Addysg Oxfam

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Adviceguide Advice that makes a difference

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

offered a place at Cardiff Met

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

E-fwletin, Mawrth 2016

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

Swim Wales Long Course Championships 2018

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

NatWest Ein Polisi Iaith

Esbonio Cymodi Cynnar

Talu costau tai yng Nghymru

Technoleg Cerddoriaeth

W46 14/11/15-20/11/15

Addewid Duw i Abraham

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Summer Holiday Programme

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Y BANC Y BANC. Hyfedredd

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

Rhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Gwen 30 Medi. Maw 4 Hyd. Maw 18 Hyd. Maw 8 Tach. Maw 22 Tach

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Safonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

Canllaw Rhieni. Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg. Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Products and Services

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Catchphrase 2003: Ysbyty Brynaber - Week 37

Roedd yr holl wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir yn Awst 2015.

Canllaw Gwylio Cymylau

Law yn Llaw at Iechyd Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Adroddiad Blynyddol 2014

PECYN ADNODDAU I ATHRAWON

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

DŴr cymru COD YMARFER WWM 0151 AR GYFER CWSMERIAID Â MESURYDDION

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

Bondiau Premiwm Dyddiau difyr!

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 77

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Transcription:

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser Y canllaw CANSeR Y canllaw canser The cancer guide

Ynglyn â r llyfryn hwn Ynglyn â r llyfryn hwn Nod y llyfryn hwn yw eich helpu chi, a r rheiny sy n gofalu amdanoch, i gael teimlad o r hyn mae canser yn ei olygu a beth i w ddisgwyl. Mae hefyd yn dweud wrthych am sefydliadau a r gwasanaethau a all helpu. Mae canfod bod gennych ganser yn gallu bod yn sioc, hyd yn oed oes ydych eisoes yn amau hynny. Mae canser yn air sy n gallu ysgogi nifer o ofnau ac emosiynau. Fodd bynnag, nid yw cael diagnosis o ganser yn golygu bod yn rhaid i chi golli gobaith. Y dyddiau hyn, mae llawer o bobl yn cael iachâd o ganser neu yn gallu byw gydag o am sawl blwyddyn. Gallwch ofyn i ch tîm gofal iechyd am unrhyw beth sy n bwysig i chi. Does dim cwestiynau cywir nac anghywir. Rydym wedi llunio rhai cwestiynau, mae pobl sydd wedi cael canser wedi eu holi ac a allai fod o help. Fe welwch y rhain wedi eu rhestru trwy gydol y llyfryn. Mae yna hefyd le i chi nodi ch cwestiynau neu nodiadau ch hun ar dudalen 120. Trwy gydol y llyfryn, rydym wedi cynnwys sylwadau gan bobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser, a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Does dim rhaid i chi ddarllen y canllaw hwn o glawr i glawr. Mae wedi ei rannu n adrannau i w gwneud hi n haws i chi bori ynddo pan rydych yn teimlo fel gwneud hynny. Gobeithiwn bydd yr wybodaeth yn eich helpu i deimlo fel bod gennych fwy o reolaeth, a ch helpu i gael y gofal a'r gefnogaeth orau i chi a r rheiny sy n agos i chi. 1

Y canllaw canser Os hoffech drafod yr wybodaeth yma, ffoniwch Linell Gymorth Macmillan am ddim ar 0808 808 00 00, dydd Llun i ddydd Gwener, 9am 8pm. Os ydych yn drwm eich clyw gallwch ddefnyddio ffôn testun 0808 808 0121, neu Text Relay. Ar gyfer y sawl nad ydynt yn siarad Saesneg, mae cyfieithwyr ar gael. Fel arall, ewch i macmillan.org.uk. Yng nghefn y llyfryn hwn mae yna eirfa, sy n esbonio rhai termau meddygol y gallech eu canfod (gweler tudalennau 92-102). Trowch i dudalennau 107-119 am gyfeiriadau a gwefannau defnyddiol. Os ydych chi n credu bod y llyfryn hwn yn ddefnyddiol, beth am ei basio ymlaen i ch teulu a ch ffrindiau. Efallai byddan nhw hefyd eisiau gwybodaeth i w helpu nhw i ch cefnogi. 2

Cynnwys Cynnwys 1 Beth yw canser? 6 2 Profion ac archwiliadau 8 3 Y tîm gofal iechyd 14 4 Triniaeth 20 5 Siarad â ch tîm gofal iechyd 39 6 Cael gwybodaeth a chefnogaeth 44 7 Eich teimladau 51 8 Ar ôl triniaeth 57 9 Therapïau cyflenwol 63 10 Gofalu am rywun gyda chanser 65 11 Safonau gofal a gwasanaethau canser yn y GIG 75 12 Help ariannol, budd-daliadau a chyflogaeth 87 13 Gwybodaeth bellach 92 Termau meddygol 92 Sut gallwn ni eich helpu 103 Sefydliadau defnyddiol eraill 107 Adnoddau pellach 116 Eich nodiadau a chwestiynau 120 5

1 Y canllaw canser 1 Beth ydi canser? Mae organau a meinweoedd y corff wedi eu gwneud o flociau adeiladu bychan a elwir yn gelloedd. Afiechyd o r celloedd hyn ydi canser. Nid yw canser yn afiechyd sengl gydag un achos sengl ac un math o driniaeth. Mae yna fwy na 200 o wahanol fathau o ganser, pob un gyda i enw a i driniaeth ei hun. Er efallai bod celloedd mewn gwahanol rannau o r corff yn edrych yn wahanol ac yn gweithio mewn ffordd wahanol, mae r rhan fwyaf yn trwsio ac yn atgynhyrchu eu hunain yn yr un ffordd. Fel arfer, mae celloedd yn rhannu mewn ffordd drefnus a rheoledig. Ond, os am unrhyw reswm bo r broses yn chwalu, mae r celloedd yn parhau i rannu, ac yn datblygu'n lwmp a elwir yn diwmor. Gall tiwmorau fod naill ai n anfalaen (dim canser) neu n falaen (canseraidd). Gall meddygon ddweud a yw tiwmor yn anfalaen neu n falaen trwy dynnu darn o feinwe (biopsi) ac archwilio sampl bychan o gellau o dan ficrosgop. Celloedd normal Celloedd yn ffurfio tiwmor 6

1 Beth ydi canser? 1 Mewn tiwmor anfalaen, nid yw r celloedd yn lledu i rannau eraill o r corff ac felly nid ydynt yn ganseraidd. Fodd bynnag, gallent barhau i dyfu yn y man gwreiddiol, ac fe allent achosi problem gan bwyso ar yr organau o u cwmpas. Mewn tiwmor malaen, mae r celloedd canser yn gallu ymledu tu hwnt i ardal wreiddiol y corff. Pe na bai r tiwmor yn cael ei drin, gallai ledaenu i feinweoedd o i gwmpas. Weithiau mae celloedd yn torri ymaith oddi wrth y canser gwreiddiol (cychwynnol). Gallent ledu i organau eraill o r corff trwy r llif gwaed neu r system lymffatig (gweler tudalen 96). Pan fo celloedd canser yn cyrraedd lle newydd, gallant barhau i rannu a ffurfio tiwmor newydd. Gelwir hyn yn ganser eilaidd neu n fetastasis. Gallwn anfon gwybodaeth atoch ynglyn â r gwahanol fathau o ganser. Mae gennym fideo ar ein gwefan o oncolegydd yn esbonio beth yw canser a sut y gellir ei drin. Ewch i macmillan.org.uk/aboutcancer 7

Y canllaw canser 2 2 Profion ac archwiliadau Wedi r diagnosis, bydd eich arbenigwr canser (gweler tudalen 16) fel arfer eisiau cyflawni profion ac ymchwiliadau pellach i ddysgu mwy am y canser. Bydd hyn yn cynnwys profion i ganfod cam a graddfa r canser, sy n helpu meddygon i benderfynu ar y driniaeth fwyaf addas i chi. Golyga hyn efallai na fydd eich triniaeth yn dechrau n syth bin. Mae cam y canser yn disgrifio ei faint ac os yw wedi ymestyn tu hwnt i w safle gwreiddiol. Gallai darganfod pa gam olygu sganiau (gweler tudalen 10) a biopsïau (gweler tudalen 9) pellach a gall gymryd ychydig ddiwrnodau i w wneud. Bydd eich arbenigwr canser yn gallu dweud wrthych ba mor hir fydd hyn. Mae graddfa r canser yn rhoi syniad o ba mor sydyn y gallai ddatblygu. I ddarganfod graddfa eich canser, bydd y meddygon yn edrych ar y celloedd canser o dan ficrosgop. Paratoi ar gyfer eich profion Efallai yr anfonir rhai cyfarwyddiadau atoch sy n dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud cyn eich apwyntiad. Ar gyfer rhai profion, ni fyddwch yn gallu bwyta nac yfed unrhyw beth am ychydig oriau o flaen llaw. Ar gyfer eraill, efallai byddwch angen i rywun fynd a chi adref wedyn os yn bosibl. Mae n bwysig eich bod yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau n ofalus. Os oes gennych broblem gyda r cyfarwyddiadau, gadewch i r staff yn yr ysbyty wybod cyn eich apwyntiad. Gallai r ysbyty hefyd roi map i chi i ch helpu dod o hyd i r adran lle byddwch yn cael eich prawf. 8

2 Profion ac archwiliadau Cyn pob prawf neu archwiliad, bydd yr arbenigwr canser neu r nyrs arbenigol yn egluro beth fydd yn digwydd. Mae hwn yn amser da i ofyn unrhyw gwestiynau os nad yw popeth yn glir neu os nad ydych yn deall. 2 Profion y gallech eu cael Biopsi Mae hyn pan fydd meddyg yn tynnu sampl bychan o feinwe o ch corff er mwyn gwirio r celloedd. Bydd y celloedd yn cael eu harchwilio dan ficrosgop gan feddyg a elwir yn batholegydd (gweler tudalen 17). Gallant weld os oes unrhyw gelloedd canser, ac os felly, pa fath ydynt. Mae yna wahanol fathau o fiopsi yn ddibynnol ar ba ran o r corff sydd wedi ei effeithio. Gall eich meddyg neu nyrs esbonio n fanwl beth fydd yn digwydd. Profion gwaed Mae r rhain yn gwirio lefelau r celloedd gwaed, y proteinau a chemegau eraill yn eich gwaed. Gall hyn helpu i ddarparu gwybodaeth ynglyn â ch iechyd cyffredinol. Gall nifer fach o ganserau wneud proteinau y gellir eu canfod yn y gwaed (a elwir yn farcwyr tiwmorau). Gellir defnyddio marcwyr tiwmor i helpu gwneud diagnosis o r canser a gwirio pa mor dda mae r canser yn ymateb i driniaeth. Endosgopi Mae endosgop yn diwb tenau, hyblyg gyda golau a chamera tu fewn iddo. Fe i defnyddir gan feddygon a nyrsys i edrych tu mewn i ch corff fel gallant weld unrhyw broblemau sydd gennych. Cyn endosgopi, mae n debygol y cewch sedatif, a all eich helpu i ymlacio a lleihau unrhyw anghysur. Yn ystod yr endosgopi, gellir cymryd samplau bychan o gelloedd (biopsïau) o unrhyw ardaloedd sy n edrych yn annormal. Yna fe anfonir y samplau at batholegydd. 9

Y canllaw canser 2 Sganiau Defnyddir y rhain i gael delweddau manwl o du mewn i ch corff. Gallant helpu meddygon weld beth allai fod o i le. Mae rhai sganiau n gweithio trwy ddefnyddio pelydrau X (sganiau CT) ac mae eraill yn defnyddio magneteg (sgan MRI), tonnau sain (uwchsain) neu gemegau ymbelydrol gwan (sgan esgyrn neu sgan PET). Cyn eich sgan efallai bydd angen i chi yfed, neu gael pigiad o, lifyn hylif. Mae hyn yn helpu i ddangos rhannau o ch corff yn fwy clir ar y sgan. Fel arfer nid yw sganiau n boenus ond efallai byddant ychydig yn anghyfforddus. Nid yw r holl sganiau yn addas i bawb, ac efallai bod yna rai cyfarwyddiadau sydd angen i chi eu dilyn cyn y gellir gwneud ambell sgan. Bydd y meddyg neu nyrs yn trafod pob sgan gyda chi. Pelydr X Defnyddir pelydrau X i gymryd lluniau o du mewn eich corff. Gallant ddangos toriadau neu broblemau gyda ch esgyrn a ch cymalau, a gallant hefyd ddangos newidiadau mewn meinweoedd eraill y corff ac organau, fel yr ysgyfaint neu r bronnau. Mae yna wahanol fathau o belydrau X. Mae rhai yn defnyddio ffilm, ychydig fel camera, tra bod eraill yn ddigidol ac yn creu delwedd ar gyfrifiadur. Mae pelydrau X yn golygu defnyddio cemegyn a elwir yn fariwm, a gymerir i mewn i r corff fel hylif i ddangos gwahaniaethau ar y llun pelydr X. Caiff pelydrau X eraill eu gwneud ar ôl brechu r llif i mewn i wythïen, sy n dangos gwahanol rannau o r corff yn fanwl. 10

2 Profion ac archwiliadau Aros am eich canlyniadau 2 Gall aros am ganlyniadau fod yn amser anodd ac efallai byddwch angen cymorth gan deulu, ffrindiau neu un o n harbenigwyr cymorth canser ar 0808 808 00 00. Gallwch hefyd gysylltu ag un o r sefydliadau a restrwyd ar dudalennau 107-119. Gan ddibynnu ar y profion a gewch, efallai bydd eich canlyniadau ar gael ar yr un dydd. Fodd bynnag, mae n fwy cyffredin i r canlyniadau gymryd ychydig ddyddiau neu hyd yn oed wythnos neu ddwy i fod yn barod. Bydd eich nyrs, nyrs glinigol arbenigol (gweler tudalen 16) neu feddyg teulu neu arbenigwr canser yn gadael i chi wybod pa mor hir byddant yn ei gymryd. Pan gewch ganlyniadau ch profion, bydd eich arbenigwr canser yn egluro beth maent yn ei olygu. Cofiwch, gallwch ofyn cwestiynau os nad ydych yn deall rhywbeth a gallwch wneud nodiadau i ch helpu i gofio beth a ddywedwyd pan rydych adref. Mae n syniad da mynd ag aelod o r teulu neu ffrind gyda chi fel cefnogaeth. Efallai gallant hefyd eich helpu i gofio'r pethau y dywedwyd. Cwestiynau i w gofyn am brofion ac ymchwiliadau Pa brofion ac archwiliadau fydda i eu hangen? Lle fydda i n mynd am y profion hyn? Pa mor fuan fydda i n gwybod fy nghanlyniadau? Pwy fydd yn egluro beth mae r canlyniadau n ei olygu? 11

Y canllaw canser 2 Cwestiynau i w gofyn am eich diagnosis Beth mae fy niagnosis yn ei olygu? Ar ba gam mae r canser? Faint mae wedi datblygu? Beth sy n digwydd nesaf? Beth yw fy newisiadau triniaeth a r sgìl effeithiau posibl? Pa mor llwyddiannus fydd y driniaeth? Allwch chi esbonio hyn i aelod o r teulu/ffrind? A oes yna unrhyw wybodaeth ysgrifenedig ynglyn â r math o ganser sydd gennyf a i driniaeth? 12

1 Y canllaw canser 3 Y tîm gofal iechyd 3 Yn ystod eich diagnosis, triniaeth, a ch bywyd ar ôl canser, byddwch yn cyfarfod llawer o wahanol weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Mae rhai ohonynt yn gweithio yn y gymuned ac yn gofalu amdanoch yn eich adref. Mae eraill wedi eu lleoli mewn ysbytai neu ganolfannau triniaeth. Y tîm cymunedol Gan ddibynnu ar eich anghenion, efallai byddwch yn cwrdd â gweithwyr cymdeithasol, nyrsys cymunedol a gweithwyr proffesiynol eraill sy n gweithio yn y gymuned, yn ogystal â ch meddyg teulu. Meddyg teulu Mae ch meddyg teulu yn gyfrifol am eich gofal iechyd tra ch bod adref ac maent yn gweithio n agos gydag aelodau eraill o ch tîm gofal iechyd. Gall meddygon teulu drefnu atgyfeiriadau at arbenigwyr a helpu ag unrhyw symptomau parhaus a sgìl effeithiau o ch canser a i driniaeth. Gallant hefyd: drefnu gwasanaethau i ch helpu i fyw gartref helpu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych eich cefnogi trwy drafod unrhyw benderfyniadau sydd efallai yn rhaid i chi eu gwneud am eich triniaeth siarad ag aelodau r teulu am eich salwch (dim ond gyda ch caniatâd) siarad â chi os ydych yn anhapus ag unrhyw ran o ch gofal. 14

3 Y tîm gofal iechyd Nyrsys cymunedol a nyrsys ardal Mae nyrsys cymunedol a nyrsys ardal yn gweithio n agos gyda ch meddyg teulu. Weithiau maent wedi eu lleoli ym meddygfa r meddyg teulu. Gallant ymweld â ch cartref (neu gartref gofal preswyl) i ddarparu gofal a chefnogaeth i chi a ch gofalwr neu ofalwyr. Gall eich meddyg teulu gysylltu â nhw i chi. 3 Nyrsys meddygfa Mae gan rai meddygfeydd nyrsys, sy n gweithio ar y cyd â meddygon teulu. Gall nyrs practis helpu esbonio pethau i chi a gallant gyflawni profion gwaed, trin briwiau neu feysydd eraill o ch gofal. Gweithwyr cymdeithasol Gall gweithwyr cymdeithasol roi gwybodaeth i chi am wasanaethau cymdeithasol a chefnogaeth arall y gallai fod gennych hawl iddynt. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn gallu cysylltu ag unrhyw staff arbenigol neu sefydliadau y byddwch eu hangen, fel cymorth cartref a phryd ar glud. Mae rhai gweithwyr cymdeithasol yn gweithio mewn ysbytai. Gweithiwr allweddol Er mwyn helpu cadw pethau n syml, fel arfer bydd un aelod o r tîm gofal iechyd yn cael ei enwebu fel eich gweithiwr allweddol. Nhw fydd eich pwynt cyswllt cyntaf a byddant yn cydlynu cymorth a chefnogaeth gan bob aelod arall o r tîm cymunedol. Y tîm ysbyty Yn y rhan fwyaf o ysbytai, mae yna dîm o arbenigwyr, a elwir yn dîm amlddisgyblaeth (MDT), yn cydweithio i wneud yn siyr bod eich triniaeth a ch gofal wedi ei gydlynu a i drefnu. 15

Y canllaw canser 3 Arbenigwr canser Dyma r term a ddefnyddir i ddisgrifio meddygon sy n arbenigwyr mewn cael diagnosis a thrin canser. Bydd eich arbenigwr canser un ai yn oncolegydd neu yn llawfeddyg. Oncolegydd Dyma feddyg sy n arbenigo mewn trin canser. Mae yna ddau fath o oncolegydd. Mae oncolegydd meddygol yn arbenigwr ar drin canser gyda chemotherapi a chyffuriau eraill. Mae oncolegydd clinigol yn arbenigwr ar drin canser gyda chemotherapi a radiotherapi. Llawfeddyg Dyma feddyg sy n cynnal llawdriniaethau i gael gwared ar y cyfan neu ran o r canser. Bydd eich llawfeddyg yn arbenigo mewn llawdriniaethau ar gyfer eich math o ganser. Gallai llawfeddygon hefyd gynnal llawdriniaethau i liniaru unrhyw symptomau mae r canser yn ei achosi. Arbenigwr nyrsio clinigol Mae arbenigwr nyrsio clinigol (CNS) yn nyrs sy n arbenigo ar ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth a gofal ar gyfer pobl mae canser yn effeithio arnynt. Maent yn helpu gwneud yn siwr eich bod chi, a r rhai sy n gofalu amdanoch, yn cael y cymorth a r gofal gorau posibl. Er eu bod yn gweithio n bennaf mewn ysbytai, gallant gydlynu'r gefnogaeth a r gofal rydych ei angen pan ewch adref. Os nad oes gennych CNS, dylai fod yna rhywun yn eich ysbyty y gallwch siarad â nhw rhwng ymweliadau ar unrhyw adeg. 16

3 Y tîm gofal iechyd Staff gwybodaeth a chefnogaeth Mae gan lawer o ysbytai staff wedi eu hyfforddi n arbennig a all roi gwybodaeth i chi, eich teulu a ch ffrindiau ar unrhyw agwedd o ch canser. Mae rhai ysbytai ac elusennau, fel Macmillan, wedi sefydlu canolfannau gwybodaeth a chymorth canser. Mae r rhain yn cynnig gwybodaeth am ddim am ganser a gallwch siarad â staff a gwirfoddolwyr, a all eich helpu i gael y gwasanaethau cefnogol rydych ei angen. 3 Gallwn roi manylion eich canolfan gwybodaeth a chefnogaeth canser agosaf. Ffoniwch ni am ddim ar 0808 808 00 00 neu ymwelwch â macmillan.org.uk/ howwecanhelp Mae sefydliadau eraill sy n gallu rhoi cymorth i chi wedi u rhestru ar dudalennau 107 119. Patholegydd Dyma feddyg sy n edrych ar gelloedd yn y labordy. Maent yn gwirio i weld os yw r celloedd yn ganseraidd, ac os felly, pa fath o ganser ydyw a sut gallai ymddwyn. Mae r patholegydd yn darparu gwybodaeth allai helpu pennu r math gorau o driniaeth i chi. Meddygon a nyrsys gofal lliniarol Mae r gweithwyr hyn yn arbenigwyr mewn rheoli symptomau gall canser a i driniaeth achosi, fel poen a salwch. Maent hefyd yn darparu gwybodaeth, a chefnogaeth emosiynol a seicolegol. Maent yn gweithio ar y cyd â ch tîm gofal iechyd. Gallant fod wedi eu lleoli mewn ysbytai, ond maent hefyd yn gweithio mewn hosbisau, cartrefi nyrsio neu n ymweld â chi yn eich cartref eich hun. 17

3 Y tîm gofal iechyd Radiolegydd Dyma feddyg sy n arbenigwr mewn profion arbenigol gan gynnwys pelydrau x a sganiau. Maent yn gweithio n agos gyda ch arbenigwr canser i benderfynu pa fath o driniaeth fyddai orau i chi. 3 Radiograffydd diagnostig Mae radiograffwyr diagnostig yn gweithio mewn adrannau radiograffeg (delweddau) ac yn cynnal pelydrau X a sganiau i helpu canfod canser. Maent yn gweithio n agos gyda r radiolegydd. Radiograffydd therapi Mae radiograffwyr therapi yn gweithio n agos gydag oncolegwyr clinigol i gynllunio a threfnu triniaeth radiotherapi. Os ydych yn derbyn triniaeth radiotherapi, byddwch yn gweld y radiograffydd pob tro. Gallant ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, a rhoi cyngor a gwybodaeth ynglyn â sgìl effeithiau posibl radiotherapi. Gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a staff arbenigol arall Mae yna lawer o arbenigwyr a all ddarparu cymorth a gofal yn ystod ac ar ôl eich diagnosis o ganser. Gallai r rhain gynnwys dietegwyr, fferyllwyr, gofalwyr cartref, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, cwnsleriaid neu therapyddion iaith a lleferydd. Gallant fod wedi eu lleoli yn y gymuned neu mewn ysbytai. Rydym yn disgrifio mathau eraill o rolau ofal iechyd yng nghefn y llyfryn hwn. Gweler tudalennau 92-102. 19

1 Y canllaw canser 4 Triniaeth 4 Y prif driniaethau ar gyfer canser ydi llawdriniaeth, radiotherapi a chemotherapi (gweler tudalennau 23-29). Efallai defnyddir triniaethau eraill fel therapïau hormonaidd a therapïau targedig (gweler tudalennau 29-30) ar gyfer mathau penodol o ganser. Yn aml defnyddir cyfuniad o fwy nag un math o driniaeth. Gallwn anfon rhagor o wybodaeth atoch ynglyn â r gwahanol fathau o driniaeth. Nid yw bob canser angen triniaeth yn syth bin. Mae rhai canserau yn tyfu n araf iawn ac yn annhebygol o achosi unrhyw broblemau am sawl blwyddyn. Bydd pobl yn y sefyllfa hon yn cael eu monitro n ofalus. Os oes arwyddion fod y canser yn dechrau lledaenu, fe drafodir triniaeth. Mae oedi â thriniaeth nes bod ei angen yn helpu osgoi'r sgìl effeithiau posibl y gallai achosi. Roedd bron yn flwyddyn o driniaeth yn cynnwys chemotherapi, radiotherapi a llawdriniaeth. Roedd rhaid i mi amsugno llawer o wybodaeth, ond gyda chymorth fy ymgynghorwr a r nyrs canser arbenigol, yn raddol fe ddeuthum yn ymwybodol o m hamgylchiadau a delio â nhw gorau y gallwn. Tom 20

4 Triniaeth Mae sefyllfa pawb yn wahanol felly nid yw n anarferol i bobl eraill sydd â r un math o ganser â chi fod yn cael gwahanol driniaethau. Mae gennym wybodaeth am wneud penderfyniadau triniaeth, y gallwn eu hanfon atoch am ddim. Rhoi eich caniatâd 4 Cyn i chi gael unrhyw driniaeth, bydd eich meddyg yn esbonio ei fwriad. Bydd fel arfer yn gofyn i chi lofnodi ffurflen yn dweud eich bod yn rhoi eich caniatâd i staff yr ysbyty roi r driniaeth i chi. Ni ellir rhoi unrhyw driniaeth feddygol heb eich caniatâd, a chyn y gofynnir i chi lofnodi r ffurflen, dylech gael gwybodaeth lawn ynglyn â: math a maint y driniaeth y manteision a r anfanteision unrhyw risgiau neu sgìl effeithiau sylweddol unrhyw driniaethau eraill a allai fod ar gael. Os nad ydych yn deall yr hyn a ddwedwyd wrthych, gadewch i r staff wybod ar unwaith, fel y gallant egluro unwaith eto. Mae rhai triniaethau canser yn gymhleth, felly nid yw n anarferol i fod angen ailadrodd esboniadau. Mae n syniad da dod â ffrind neu berthynas gyda chi pan fo r driniaeth yn cael ei hegluro, i ch helpu i gofio r drafodaeth. Efallai byddai n ddefnyddiol i chi hefyd ysgrifennu rhestr o gwestiynau cyn eich apwyntiad. Gallech ddefnyddio r ffurflen ar dudalen 120 i wneud hyn. 21

Y canllaw canser Weithiau mae pobl yn teimlo bod staff ysbyty yn rhy brysur i ateb eu cwestiynau, ond mae n bwysig i chi wybod sut mae r driniaeth yn debygol o effeithio arnoch. Dylai r staff fod yn barod i wneud amser ar gyfer eich cwestiynau. 4 Gallwch bob amser ofyn am fwy o amser os teimlwch nad ydych yn gallu gwneud penderfyniad pan eglurir eich triniaeth i chi am y tro cyntaf. Os nad ydych eisiau triniaeth Rydych hefyd yn rhydd i ddewis peidio cael y driniaeth. Gall y staff egluro wrthych beth allai ddigwydd os nad ydych yn cael triniaeth. Mae n hanfodol eich bod yn dweud wrth feddyg neu brif nyrs, fel y gallant gofnodi eich penderfyniad yn eich nodiadau meddygol. Does dim rhaid i chi roi rheswm am beidio bod eisiau triniaeth, ond gall helpu rhoi gwybod i ch staff am eich pryderon fel gallant roi r cyngor gorau i chi. Mae gennym daflen gyda chwestiynau y gallwch holi am eich triniaeth. Ail farn Mae r tîm amlddisgyblaethol (MDT) yn defnyddio canllawiau triniaeth cenedlaethol i benderfynu ar y driniaeth fwyaf addas i chi. Er hyn, efallai y byddwch eisiau cael barn feddygol arall. Os ydych yn teimlo y bydd yn ddefnyddiol, gallwch naill ai ofyn i ch arbenigwr canser neu feddyg teulu eich cyfeirio at arbenigwr arall am ail farn. Gallai cael ail farn ohirio dechrau eich triniaeth, felly mae angen i chi â ch meddyg fod yn hyderus bydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi. Os byddwch yn dewis mynd am ail farn, gall fod yn syniad da i fynd â pherthynas neu ffrind gyda chi, a chael rhestr o gwestiynau 22

4 Triniaeth yn barod, er mwyn i chi sicrhau y delir â ch pryderon yn ystod y drafodaeth. Llawdriniaeth Dyma driniaeth i dynnu meinwe o r corff. Mae n un o r prif driniaethau ar gyfer canser. 4 Mae nifer o resymau dros ddewis llawdriniaeth. Yn aml fe i defnyddir i gael diagnosis o ganser (biopsi) neu i helpu nodi cam y salwch (gweler tudalen 8). Gellir hefyd ei ddefnyddio i dynnu r canser, i ostwng y risg o ddatblygu canser neu ar gyfer adlunio ar ôl triniaeth canser (megis adlunio bron). Efallai gwneir llawdriniaeth hefyd i liniaru symptomau (llawdriniaeth liniarol). Ar ôl llawdriniaeth i dynnu r canser, efallai rhoddir triniaethau canser eraill i leihau r risg ohono rhag dod yn ôl. Weithiau fe roddir triniaeth, fel chemotherapi a radiotherapi, cyn y llawdriniaeth i leihau r canser a i wneud yn haws i w dynnu. Gelwir y meddyg sy n cyflawni ch llawdriniaeth yn llawfeddyg (gweler tudalen 16). Bydd eich llawfeddyg a r nyrs yn egluro beth fydd yn digwydd, unrhyw sgìl effeithiau o r llawdriniaeth a pha mor hir bydd angen i chi aros yn yr ysbyty. Dylent gynnig gwybodaeth ysgrifenedig i chi ei gadw a i ddarllen. Ar ôl eich llawdriniaeth, bydd y meinwe a gafodd ei dynnu yn cael ei anfon i r labordy i w archwilio. Bydd hyn yn helpu r meddygon wybod pa mor llwyddiannus oedd y llawdriniaeth ac os oes angen unrhyw driniaethau eraill. 23

4 Triniaeth Sgìl effeithiau Weithiau gall llawdriniaeth effeithio ar y ffordd mae eich corff yn edrych ac yn gweithio. Gall fod yn anodd iawn dod i delerau â hyn ar adegau. Gall nyrsys clinigol arbenigol eich helpu i ymdopi gydag unrhyw newidiadau i ch corff. Gallwch siarad â ch nyrs neu lawfeddyg os ydych yn poeni am sgìl effeithiau posibl llawdriniaeth. Mae gennym lyfryn ynglyn ag ymdopi gyda newidiadau yn eich corff allai fod yn ddefnyddiol. 4 Radiotherapi Bydd llawer o bobl gyda chanser yn cael radiotherapi fel rhan o u triniaeth. Radiotherapi ydi defnyddio pelydrau X ynni uchel a phelydrau tebyg, fel electronau, i drin afiechyd. Mae n gweithio trwy ddinistrio r celloedd canser yn y rhan sy n cael ei drin. Er y gall radiotherapi ddifrodi celloedd normal hefyd, fel arfer maent yn gallu gwella hunain. Weithiau rhoddir radiotherapi ar ben ei hun, ond yn aml fe i rhoddir ar y cyd â thriniaethau eraill, fel llawdriniaeth neu gemotherapi. Gall triniaeth radiotherapi iachau rhai canserau a gall hefyd ostwng y siawns o ganser yn dod yn ôl yn dilyn llawdriniaeth. Gellir hefyd ei ddefnyddio i leihau symptomau canser (radiotherapi lliniarol). Bydd eich radiotherapi wedi cael ei gynllunio n ofalus gan oncolegydd clinigol (gweler tudalen 16). Rhoddir y driniaeth gan radiograffwyr therapi (gweler tudalen 19). Mae gennym fideo o oncolegydd yn esbonio triniaeth radiotherapi ar ein gwefan. Ewch i macmillan.org.uk/ radiotherapy 25

Y canllaw canser Gellir rhoi radiotherapi mewn dwy ffordd yn allanol neu n fewnol. 4 Fel arfer rhoddir radiotherapi allanol fel cyfres o driniaethau byr, dyddiol yn yr adran radiotherapi, gan ddefnyddio offer tebyg i beiriant pelydr X mawr. Fel arfer rhoddir y triniaethau o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda seibiant ar y penwythnos. Gelwir bob triniaeth yn ffracsiwn. Mae rhoi r driniaeth mewn ffracsiynau yn sicrhau y gwneir llai o ddifrod i gelloedd normal nag i r celloedd canser. Gallai cwrs o driniaeth radiotherapi gymryd rhwng 2-7 wythnos, yn ddibynnol ar y math o ganser sydd gennych. Yn aml mae triniaethau lliniarol yn fyrrach ac weithiau dim ond un driniaeth sydd ei hangen. Nid yw radiotherapi allanol yn eich gwneud yn ymbelydrol, ac mae n hollol ddiogel i chi fod gyda phobl eraill, gan gynnwys plant, drwy gydol eich triniaeth. Rhoddir radiotherapi mewnol un ai trwy roi deunydd ymbelydrol soled (a elwir y ffynhonnell) yn agos at neu du mewn i r tiwmor am gyfnod cyfyngedig o amser (bracitherapi), neu trwy ddefnyddio hylif ymbelydrol, sy n cael ei roi un ai fel diod, fel capsiwlau, neu fel brechiad i wythïen (triniaeth radioisotop). Os ydych yn cael radiotherapi mewnol, efallai bydd angen i chi aros yn yr ysbyty am ychydig ddiwrnodau a bydd angen cymryd gofal arbennig tra bo r deunydd ymbelydrol yn eich corff. Gyda r rhan fwyaf o fathau o radiotherapi mewnol, unwaith bo r driniaeth drosodd, does dim perygl i ch teulu neu ffrindiau o r ymbelydredd. Gall eich arbenigwr canser neu nyrs glinigol arbenigol roi gwybodaeth i chi am a oes angen i chi gymryd unrhyw ragofalon yn y cartref. 26

4 Triniaeth Sgìl effeithiau Bydd y rhain yn dibynnu ar ba ran o r corff sy n cael ei drin. Efallai y bydd y croen yn ardal y driniaeth yn mynd yn goch, poenus neu n cosi ac efallai y byddwch yn blino mwy. Bydd staff yn yr adran radiotherapi yn gallu rhoi cyngor i chi ar sut i ofalu am eich croen. Bydd y rhan fwyaf o sgìl effeithiau radiotherapi yn parhau am tua 10-15 niwrnod wedi cwblhau r driniaeth ac yna byddwch yn raddol ddechrau teimlo n well. I rai pobl, fodd bynnag, gallant barhau am rai wythnosau. 4 Bydd eich arbenigwr canser a r radiograffwyr yn egluro eich triniaeth a i sgìl effeithiau posibl. Gallant roi cyngor a help i chi ymdopi gydag unrhyw sgìl effeithiau a ddatblygwch a gallant ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae mwy o wybodaeth am radiotherapi a r sgìl effeithiau posibl yn ein llyfryn Deall radiotherapi, y gallwn ei anfon atoch. Bydd gan rai ysbytai hefyd wybodaeth sydd wedi ei ysgrifennu n arbennig ar gyfer y math penodol o driniaeth yr ydych yn ei gael. Chemotherapi Mae chemotherapi a elwir yn aml yn chemo yn fyr yn golygu defnyddio cyffuriau gwrth ganser (cytotocsig) i ddinistrio celloedd canser. Gellir ei roi i iachau canser, neu ar ôl llawdriniaeth neu radiotherapi i leihau r risg o r canser yn dod yn ôl. Weithiau defnyddir chemotherapi hefyd cyn llawdriniaeth er mwyn ei gwneud hi n haws i dynnu r canser, neu gellir ei roi i liniaru symptomau (chemotherapi lliniarol). 27

Y canllaw canser Gellir rhoi cyffuriau chemotherapi: trwy ddiferwr (trwyth mewnwythiennol) neu bigiad i wythïen (mewnwythiennol) 4 fel tabled neu gapsiwl (i w lyncu) fel eli (chemotherapi argroenol) fel brechiad i gyhyr (mewngyhyrol) neu fymryn o dan y croen (brechiad isgroenol) fel brechiad i geudod o r corff (chemotherapi mewngeudodol), fel y bledren, neu i r hylif o gwmpas madruddyn y cefn (chemotherapi intrathecol). Mae yna sawl math o gyffuriau chemotherapi gwahanol. Rhoddir rhai ar ben eu hunain ond yn aml rhoddir sawl cyffur gyda i gilydd. Gelwir hyn yn gemotherapi cyfun. Yn aml rhoddir chemotherapi dros sawl sesiwn triniaeth wahanol. Yn amodol ar y cyffuriau rydych yn ei gael, gall bob triniaeth bara o ychydig oriau i sawl diwrnod. Caiff bob triniaeth fel arfer ei ddilyn gan gyfnod gorffwys er mwyn caniatáu r corff i wella oddi wrth unrhyw sgìl effeithiau. Mae r driniaeth a r cyfnod gorffwys yn llunio cylch triniaeth. Bydd eich arbenigwr canser yn rhoi gwybod i chi sawl cylch fyddwch angen. Sgìl effeithiau Mae sgìl effeithiau cyffredin o gemotherapi yn cynnwys teimlo neu fod yn sâl (pwys neu chwydu), mwy o risg o haint, cleisio a gwaedu, blinder a cholli gwallt. 28

4 Triniaeth Gall y sgìl effeithiau amrywio yn ddibynnol ar ba gyffuriau rydych yn cymryd. Bydd rhai sgìl effeithiau yn rhai ysgafn a hawdd eu trin. Gall eraill fod yn anoddach i w rheoli, ond yn aml gellir eu lleihau neu helpu mewn rhyw fodd. Efallai mai ychydig iawn o sgìl effeithiau gaiff rhai pobl tra bydd eraill yn cael mwy. Efallai na fydd eich ymateb yr un peth â rhywun arall sy n cael yr un chemotherapi a chi. 4 Bydd eich arbenigwr canser a nyrs chemotherapi yn egluro sgìl effeithiau posibl y chemotherapi rydych yn derbyn. Efallai bydd hi n ddefnyddiol i chi ddarllen ein llyfryn Deall cemotherapi, sydd â mwy o wybodaeth am y driniaeth a rhai o r sgìl effeithiau posibl. Mae gennym hefyd ddalenni ffeithiau am gyffuriau chemotherapi penodol. Therapi hormonaidd Mae hormonau yn sylweddau sy n digwydd yn naturiol yn y corff. Maent yn helpu rheoli sut mae celloedd yn tyfu a beth maent yn wneud yn y corff. Cynhyrchir hormonau gan nifer o wahanol organau neu chwarennau, sydd gyda'i gilydd yn cael eu galw n system endocrin. Gall hormonau annog rhai mathau o gelloedd canser i dyfu. Mae therapïau hormonaidd yn gweithio trwy leihau r lefel o hormonau yn y corff neu trwy atal hormonau rhag atodi eu hunain i gelloedd canser. Defnyddir therapïau hormonaidd yn bennaf i drin canser y fron a chanser y brostad. 29

Y canllaw canser 4 Sgìl effeithiau Gall y rhain amrywio yn ddibynnol ar y cyffur a ddefnyddir. Bydd eich arbenigwr canser neu nyrs glinigol arbenigol yn egluro r driniaeth i chi a thrafod unrhyw sgìl effeithiau posibl a ffyrdd o ymdopi â nhw. Gallwn anfon taflenni ffeithiau atoch ynglyn â r gwahanol therapïau hormonaidd. Therapïau targedig Mae therapïau targedig (a elwir hefyd yn therapïau biolegol, imiwnotherapi neu biotherapi) yn grwp o gyffuriau sy n trin celloedd canser ond heb wneud llawer o ddifrod i gelloedd arferol. Maent yn targedu rhannau penodol o r canser, a dyma pam y i gelwir yn therapïau targedig. Mae pob cyffur yn gweithio mewn ffordd wahanol ond maent i gyd yn effeithio ar sut mae celloedd canser yn tyfu neu n rhannu. Sgìl effeithiau Gall sgìl effeithiau therapïau targedig fod yn llai difrifol na sgìl effeithiau chemotherapi, fodd bynnag, mewn nifer o sefyllfaoedd rhoddir y ddau fath o driniaeth ar yr un pryd. Gallwn anfon taflenni ffeithiau atoch ynglyn â nifer o r therapïau targedig cyffredin. Triniaeth dogn uchel gyda chefnogaeth bôn-gelloedd (trawsblaniad bôn-gelloedd o'r un unigolyn) Gellir defnyddio r driniaeth hon os ydych angen cael dognau uchel iawn o gemotherapi (neu weithiau radiotherapi) i wella ch rhagolygon o wella ch canser. 30

4 Triniaeth Mae chemotherapi yn effeithiol i geisio lladd celloedd canser, ond mae hefyd yn dinistrio celloedd iach. Gyda dognau is o gemotherapi gall y corff adfer y celloedd coll, iach rhwng triniaethau. Ond gyda dognau uwch, efallai na fydd y mêr yn eich esgyrn yn gallu adfer yn llawn. 4 Mae r mêr yn cynhyrchu eich celloedd gwaed i gyd, sydd wedi eu creu o gelloedd a elwir yn fôn-gelloedd. Mae bôn-gelloedd yn ymrannu ac yn tyfu i ffurfio celloedd gwaed coch datblygedig (aeddfed), platennau a chelloedd gwaed gwyn. Mae r mathau hyn o gelloedd yn allweddol i r corff weithio n iawn. Mae cefnogaeth bôn-gelloedd yn ffordd o amnewid bôn-gelloedd yn eich mêr wedi triniaeth dogn uchel er mwyn i chi allu creu celloedd gwaed eto. Cyn i chi gael triniaeth dogn uchel, fe gesglir rhai o ch bôn-gelloedd o ch gwaed. Gallwch wneud hyn heb orfod aros dros nos yn yr ysbyty. Yna fe storir y bôn-gelloedd nes bod eu hangen. Wedi ei chi gael y driniaeth dogn uchel, rhoddir eich bôn-gelloedd yn ôl i chi trwy ddiferydd (trwyth mewnwythiennol). Golyga hyn y bydd eich mêr yn gallu creu r celloedd gwaed yr ydych eu hangen eto. Gallwch wylio fideo o stori David am gael triniaeth dogn uchel gyda chefnogaeth bôn-gelloedd. Ewch i macmillan.org.uk/highdosetreatment 31

Y canllaw canser Trawsblaniad bôn-gelloedd rhoddwr (alogenëig) 4 Weithiau gellir defnyddio bôn-gelloedd gan rywun arall y mae eu mêr yn bariad da i ch un chi. Fel arfer brodyr neu chwiorydd yw r pariad gorau, ond gall pobl dderbyn bôn-gelloedd gan rywun nad yw n perthyn iddynt. Mae'r math yma o drawsblaniad bôn-gelloedd yn llai cyffredin. Mae n fwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio i drin rhai mathau o lewcemia neu rai mathau o lymffoma sydd wedi dychwelyd wedi triniaeth. Trawsblaniad mêr yr esgyrn Mae trawsblaniadau mêr yr esgyrn yn debyg i drawsblaniadau bôngelloedd. Yn hytrach na chymryd bôn-gelloedd o r gwaed, cesglir rhywfaint o ch mêr esgyrn chi. Mae r mêr hylifol yn cynnwys bôngelloedd ac wedi i chi gael triniaeth dogn uchel, gellir ei roi i chi ar ddiferydd (trwyth mewnwythiennol). Sgìl effeithiau trawsblaniadau bôn-gelloedd a mêr esgyrn Mae yna nifer o sgìl effeithiau difrifol gyda r mathau hyn o driniaeth. Tra bo mêr eich esgyrn yn gwella a r nifer o gelloedd gwaed yn isel iawn, mae risg o heintiadau a gwaedu. Nid yw triniaeth dos uchel yn addas ar gyfer pawb a gall eich arbenigwr canser drafod a fyddai n ddefnyddiol ai peidio yn eich sefyllfa chi. Mae n ddefnyddiol i fod yn ymwybodol o r risgiau posibl er mwyn i chi fod yn siwr mai dyma r driniaeth addas i chi. Gallwn anfon rhagor o wybodaeth atoch ynglyn â r mathau hyn o driniaeth. 32

4 Triniaeth Ymchwil treialon clinigol Cynhelir treialon ymchwil canser i geisio darganfod triniaethau newydd a gwell ar gyfer canser. Gelwir treialon a wneir ar gleifion yn dreialon clinigol. Fe u cyflawnir i: brofi triniaethau newydd, fel cyffuriau chemotherapi newydd neu therapïau targedig 4 edrych ar gyfuniadau newydd o driniaethau presennol neu newid y ffordd y cant eu rhoi, i w gwneud yn fwy effeithiol neu i ostwng sgìl effeithiau gymharu effeithiolrwydd cyffuriau a ddefnyddir i reoli symptomau ddarganfod sut mae triniaethau canser yn gweithio ganfod pa driniaethau sydd fwyaf cost-effeithiol. Treialon yw r unig ffordd ddibynadwy i ddarganfod os yw gwahanol fath o lawdriniaeth, chemotherapi, therapi hormonaidd, radiotherapi neu driniaeth arall yn well na r hyn sydd eisoes ar gael. Cymryd rhan mewn treial Efallai y gofynnir i chi gymryd rhan mewn treial ymchwil. Byddwch yn cael eich monitro'n ofalus yn ystod ac ar ôl yr astudiaeth. Os byddwch yn penderfynu peidio cymryd rhan mewn treial, perchir eich penderfyniad ac nid oes rhaid i chi roi rheswm. Ni fydd newid yn y driniaeth a roddir i chi gan staff yr ysbyty, ac fe gynigir y driniaeth safonol i chi ar gyfer eich sefyllfa. Mae ein llyfryn Understanding cancer research trials (clinical trials) yn disgrifio treialon clinigol yn fanylach. Gallwn anfon copi atoch. 33

Y canllaw canser Gofal iechyd preifat 4 Cynigir triniaeth feddygol breifat ar gyfer canser gan ysbytai a chlinigau preifat, ac mae rhai ysbytai arbenigol y GIG hefyd yn trin cleifion preifat. Gellir talu am hyn trwy yswiriant iechyd preifat. Gallwch hefyd ariannu hyn eich hun, sy n golygu eich bod yn talu r ysbyty neu r clinig yn uniongyrchol. 34

4 Triniaeth Cwestiynau i w gofyn am eich triniaeth Pa driniaeth ydych chi n ei argymell i mi a pham? Oes yna unrhyw fathau eraill o driniaeth a allai fod yr un mor effeithiol? Ble fydd raid i mi fynd am fy nhriniaeth? 4 Pa mor hir fydd y driniaeth yn para? Beth yw manteision pob opsiwn triniaeth? Beth yw risgiau a sgìl effeithiau pob triniaeth? Pa mor brofiadol ydych chi a ch tîm gyda r math yma o driniaeth? A fydd y driniaeth yn effeithio ar fy nhrefn neu weithgareddau dyddiol, er enghraifft gwaith neu addysg? Fydda i angen ychydig o help i edrych ar ôl fy hun/fy nheulu? Fydd y driniaeth yn effeithio ar fy mywyd rhywiol? A ddylwn i fod yn fwy egniol neu orffwys mwy? Fydd y driniaeth yn effeithio ar fy ffrwythlondeb? Sut ydw i n gwybod fy mod yn cael y driniaeth orau? Oes yna unrhyw dreialon clinigol y gallaf gymryd rhan ynddynt? Gyda phwy y galla i gysylltu am gyngor meddygol tu allan i oriau swyddfa? 35

Y canllaw canser Cwestiynau i w gofyn yn ystod eich triniaeth Sut fedra i ddweud os yw r driniaeth yn gweithio? Pa apwyntiadau dilynol fydd wedi i r driniaeth orffen? 4 Beth fedra i wneud i helpu fy hun? Oes yna unrhyw beth, fel bwydydd neu weithgareddau arbennig, y dylwn eu hosgoi? Gyda phwy y galla i siarad am gael cymorth seicolegol neu gymorth gyda materion eraill, fel diet? Cwestiynau i w gofyn os ydych yn rhiant neu n berson ifanc gyda chanser Sut fedra i wneud yn siwr bod fy mhlentyn yn cael y driniaeth a r gefnogaeth orau? Lle fydd fy mhlentyn yn cael eu trin? Fydd fy mhlentyn yn cael eu trin gyda phobl hyn neu gyda phobl ifanc? Beth ddylwn i ddweud wrth fy mhlant eraill? Fydd ein plant eraill angen help? Fedra i siarad â rhieni eraill pobl ifanc â chanser? A fydd fy mhlentyn yn dal i allu mynd i r ysgol/coleg? Os na fyddant, a oes dulliau eraill o barhau gyda u haddysg? 36

4 Triniaeth Cwestiynau i w gofyn os ydych yn berson ifanc gyda chanser Sut ydw i n gallu cysylltu â phobl ifanc eraill gyda chanser? Ble medra i gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth ar gyfer fy ngrwp oedran? Gai i siarad â r meddyg heb fy mam neu dad? 4 Oes yna rywle lle gellir fy nhrin gyda phobl o r un oed? Fedra i ddal i fynd allan a dal ati gyda r ysgol/coleg? Rydw i n teimlo bod fy mam a fy nhad yn cael trafferth ymdopi. Pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt? Rydw i ofn beth ddywed fy ffrindiau. Sut fedra i ddelio â hynny? Sut allai r driniaeth effeithio ar fy nyfodol (fel fy ffrwythlondeb ac unrhyw sgìl effeithiau hirdymor)? Mae gan Macmillan wybodaeth wedi ei ysgrifennu n arbennig i rai yn eu harddegau a phobl ifanc yn macmillan.org.uk/teensandyoungadults 37

5 Siarad â ch tîm gofal iechyd 5 Siarad â ch tîm gofal iechyd Gall eich diagnosis a ch triniaeth fod yn amser dryslyd iawn. Hyd yn oed ar ôl i ch triniaeth orffen, gallech boeni am y dyfodol ac a wnaiff y canser ddod yn ôl. Gall siarad â ch tîm gofal iechyd helpu. Mae llawer o bobl yn teimlo n well ac mewn mwy o reolaeth pan maent yn gwybod beth sy n digwydd iddynt a pham. 5 Yn aml mae pobl yn teimlo bod staff ysbyty n rhy brysur i ateb eu cwestiynau, ond mae n bwysig i chi ddeall beth sy n digwydd a sut mae r canser a i driniaeth yn debygol o effeithio arnoch. Dylai r staff fod yn barod i wneud amser ar gyfer eich cwestiynau. Efallai bydd gan eich teulu a ch ffrindiau gwestiynau i w gofyn hefyd. Dylai ch tîm gofal iechyd fod yn hapus i ateb eu cwestiynau, os oes ganddynt eich caniatâd i wneud hynny. Gallant hefyd roi cyngor i r teulu a ffrindiau ar sut y gallant ofalu amdanoch. Ceir rhagor o wybodaeth i bobl sy n cefnogi rhywun gyda chanser ar dudalennau 65-73. Os nad ydych yn siarad Saesneg Os nad ydych yn deall neu n siarad Saesneg yn dda iawn, gall yr ysbyty drefnu cyfieithydd i chi pan fyddwch yn cyfarfod â ch meddyg neu aelodau eraill o ch tîm gofal iechyd. 39

Y canllaw canser Mae cyfieithwyr yn cyfieithu popeth a ddywed eich meddyg wrthych a phopeth rydych eisiau ei ddweud yn ôl. Efallai bydd angen i chi ofyn ymlaen llaw i ch ysbyty drefnu cyfieithydd. Mae yna hefyd bobl a elwir yn eiriolwyr a fydd yn siarad ar eich rhan a gwneud yn siwr bod eich tîm gofal iechyd yn gwybod am unrhyw ddymuniadau sydd gennych. 5 Mae gan Linell Cefnogaeth Macmillan wasanaeth cyfieithu mewn dros 200 o ieithoedd. Ffoniwch am ddim ar 0808 808 00 00. Os oes gennych anawsterau clywed neu leferydd Efallai byddwch eisiau dod â rhywun gyda chi i siarad ar eich rhan neu i arwyddo unrhyw sgwrs a gewch gyda ch meddyg. Gallwch hefyd ofyn i ch meddyg neu nyrsys ysgrifennu pethau i lawr i chi. Gall Action on Hearing Loss roi rhagor o wybodaeth a chefnogaeth i chi (gweler tudalen 114). Os ydych yn rhannol ddall Os ydych yn rhannol ddall gallwch ofyn am i wybodaeth ysgrifenedig gael ei hanfon mewn print bras. Gall rhai sefydliadau, yn cynnwys Macmillan, ddarparu gwybodaeth ar ffurf Braille neu ar CD sain. Gallwch hefyd ofyn i ch meddyg os yw hi n iawn i chi recordio eu sgyrsiau gyda chi. Mae mwy o wybodaeth a chefnogaeth ar gael gan yr RNIB (Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol Pobl Ddall) gweler tudalen 115. 40

5 Siarad â ch tîm gofal iechyd Cynllunio ar gyfer eich apwyntiadau Cyn i chi gwrdd â ch tîm gofal iechyd, gallai fod yn ddefnyddiol i chi feddwl am y canlynol: Meddyliwch am beth sy n bwysig i chi. Ysgrifennwch eich meddyliau i lawr a mynd â nhw gyda chi fel nad ydych yn anghofio. Cofiwch, mae n bwysig dweud wrth eich tîm gofal iechyd beth sy n eich poeni neu am unrhyw bryderon sydd gennych. Mae hyn yn eu helpu i ddeall beth sy n bwysig i chi. Meddyliwch am unrhyw gwestiynau yr hoffech ofyn neu defnyddiwch rai o r cwestiynau a awgrymwyd yn y llyfryn hwn. Gallant helpu rhoi eich meddyliau mewn geiriau. 5 Defnyddiwch eich geiriau eich hun. Er y gallai ch meddygon neu nyrsys ddefnyddio termau meddygol, does dim rhaid i chi. Mae n iawn i chi ddefnyddio ch geiriau ch hun i ddisgrifio r broblem. Yn wir, gallai defnyddio termau yr ydych yn eu deall yn rhannol yn unig achosi problemau gan y bydd eich meddygon a nyrsys yn meddwl eich bod yn gwybod mwy nag yr ydych. Gofynnwch i r meddyg neu nyrs egluro unrhyw dermau meddygol nad ydych yn eu deall, hyd yn oed os ydynt wedi eu hegluro o r blaen. Cewch restr o dermau meddygol cyffredinol ar dudalennau 92-102 hefyd. Ceisiwch beidio teimlo ch bod yn cael ei rhuthro. Gofynnwch am fwy o amser os ydych yn teimlo n ddryslyd, neu eisiau rhannu unrhyw boenau neu bryderon sydd gennych. Ewch â rhywun gyda chi, fel perthynas neu ffrind, a all wrando ar yr hyn a ddwedir a gofyn rhai cwestiynau ar eich rhan. 41

Y canllaw canser Ysgrifennwch bethau i lawr, fel atebion i ch cwestiynau, neu ganlyniadau profion. Gallwch hefyd ofyn am gopïau o unrhyw lythyrau, er enghraifft, llythyrau a anfonir at eich meddyg teulu gan eich arbenigwr canser (gweler tudalen 16). Gofynnwch gwestiynau os nad ydych yn deall beth sy n cael ei ddweud. 5 Cofnodwch y sgyrsiau gyda ch meddyg. Ni fydd nifer o feddygon yn malio eich bod yn mynd a recordydd i r apwyntiad (neu n recordio ar eich ffôn symudol), ond gwiriwch gyda nhw yn gyntaf. Gallwch wrando ar y sgwrs pan ewch adref fel nad ydych yn colli unrhyw beth a ddywedwyd. 42

1 Y canllaw canser 6 Cael gwybodaeth a chefnogaeth Pan gewch ddiagnosis o ganser i ddechrau, weithiau yr ofn o beth allai ddigwydd nesaf yw r unig beth ar eich meddwl. Efallai byddwch yn teimlo n drist ac ofnus ar yr un pryd ac yn amau a wnewch chi fyth deimlo n hapus eto. 6 Mae llawer o bobl yn teimlo fel hyn ac mae n naturiol meddwl na wnaiff fyth newid. Fodd bynnag, mae yna lawer o bethau gallwch eu gwneud i helpu dod i delerau gyda ch diagnosis a ch triniaeth, a gall hyn helpu newid sut y teimlwch. Fel aiff amser heibio, mae llawer o bobl yn canfod eu bod yn cael ychydig o reolaeth yn eu bywydau ac yn gallu bwrw ati â u gweithgareddau arferol. Trowch at dudalennau 51-55 am ragor o wybodaeth am ymdopi gydag emosiynau anodd. Siarad â phobl Does dim angen i chi wynebu canser ar ben eich hun. I lawer o bobl, mae n debyg mai teulu a ffrindiau fydd un o ch prif ffynonellau o gymorth. Fodd bynnag, nid yw hi bob amser yn hawdd dweud wrth bobl rydych yn gofalu amdanynt sut rydych yn teimlo, ac efallai byddai n haws i chi siarad â rhywun tu allan i ch teulu, fel y nyrsys a r meddygon sy n edrych ar eich ôl. Maent yno i wrando ac i siarad â chi am unrhyw bryderon sydd gennych. Mae yna lawer o elusennau a sefydliadau y gallwch droi atynt am gefnogaeth. Mae rhai o r rhain wedi eu rhestru ar dudalennau 107 115. Mae gennym lyfryn o r enw Talking about your cancer, a allai fod o help. 44

6 Cael gwybodaeth a chefnogaeth Gwybodaeth Gall canser fod yn afiechyd anodd ei ddeall. Hyd yn oed os yw r hyn a glywch yn ddigon syml, gall weithiau fod yn anodd cymryd popeth i mewn. Gallai meddygon a nyrsys ddefnyddio geiriau meddygol nad ydych yn ddeall. Mae n bwysig gofyn i ch tîm gofal iechyd egluro geiriau nad ydych yn siwr ohonynt. A pheidiwch â phoeni os oes raid i chi ofyn fwy nag unwaith am eglurhad. Mae n normal teimlo n ddryslyd pan nad ydych yn gwybod beth sy n digwydd. Tra bo ch tîm gofal iechyd yno i egluro ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, unwaith byddwch adref, mae n hawdd anghofio beth a ddwedwyd. Efallai na fydd rhai pobl eisiau cofio popeth a ddwedwyd wrthynt. Ond mae nifer o bobl eisiau gwybod beth sy n digwydd iddynt er mwyn teimlo synnwyr o reolaeth. Un ffordd o fod yn llai dryslyd ac mewn mwy o reolaeth ydi i ddysgu am eich canser, sut caiff ei drin a sut i fyw ag o pan fydd y driniaeth wedi gorffen. 6 Gwybodaeth ysgrifenedig Gall hyn eich helpu i ddeall eich canser, ac i atgyfnerthu r hyn mae eich tîm gofal iechyd wedi i dweud wrthych. Mae nifer o ganolfannau triniaeth canser wedi datblygu gwybodaeth cleifion ar gyfer pob cam o ch gofal. Gall eich tîm gofal iechyd eich darparu â gwybodaeth ysgrifenedig wedi ei deilwra i ch sefyllfa chi. Mae gennym ystod o lyfrynnau gwybodaeth canser a thaflenni ffeithiau am y gwahanol fathau o ganser, y triniaethau, a llawer o r gwahanol agweddau o fyw â chanser. 45

Y canllaw canser Mae ein gwybodaeth i gyd am ddim ac mae gan lawer o ysbytai a chanolfannau gwybodaeth galw i mewn gopïau o n llyfrynnau a thaflenni ffeithiau. Gallwch hefyd gael copïau trwy ffonio Llinell Gefnogaeth Macmillan am ddim ar 0808 808 00 00 neu trwy ymweld â be.macmillan.org.uk 6 Gwybodaeth ar y rhyngrwyd Mae llawer o wybodaeth am ganser ar gael ar y rhyngrwyd. Fodd bynnag, nid yw hi bob amser yn hawdd dod o hyd i r wybodaeth ddiweddaraf sy n gywir. Mae n ddoeth i fod yn ofalus wrth chwilio am wybodaeth ar y rhyngrwyd gan nad yw bob amser wedi cael ei ysgrifennu gan ffynonellau y gellir dibynnu arnynt. Rydym wedi rhestru rhai gwefannau sy n gywir a chyfredol ar dudalennau 117-119. Presgripsiwn gwybodaeth Mae presgripsiwn gwybodaeth yn wybodaeth sydd wedi ei deilwra i ch sefyllfa chi ac mae n cynnwys manylion cyswllt ar gyfer cefnogaeth bellach. Gallwch greu ch presgripsiwn gwybodaeth eich hun neu gallwch drafod eich anghenion gwybodaeth gyda ch meddyg teulu neu dîm gofal iechyd. I greu eich presgripsiwn gwybodaeth eich hun, ewch i nhs.uk/ips Canolfannau gwybodaeth a chefnogaeth canser Mae gan lawer o ysbytai, a rhai meddygfeydd a llyfrgelloedd, eu canolfannau gwybodaeth a chefnogaeth canser eu hunain. Dyma lefydd lle cewch wybodaeth am ddim ar bob agwedd o ganser. Mae pob canolfan yn darparu amgylchedd ymlaciol lle gallwch bori trwy wybodaeth a siarad â staff cymwys ynglyn ag unrhyw broblemau sydd gennych chi neu eich teulu. 46

6 Cael gwybodaeth a chefnogaeth Yn aml mae r canolfannau hyn yn darparu detholiad o wasanaethau cefnogaeth. Er enghraifft, mae rhai yn cynnig gwasanaeth cwnsela, cyngor budd-daliadau, therapïau cyflenwol, ac mae rhai yn cynnal boreau coffi a chyfarfodydd cymdeithasol lle gallwch gwrdd â phobl sydd â phrofiadau tebyg i ch rhai chi. Gall y canolfannau hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â ffynonellau cymorth a help eraill. Gallwn roi manylion eich canolfan gwybodaeth a chefnogaeth canser agosaf. Ffoniwch ni am ddim ar 0808 808 00 00 neu ymwelwch â macmillan.org.uk/howwecanhelp Llinellau cymorth canser Mae nyrsys arbenigol yn gweithio ar rai llinellau cymorth a all eich helpu i ddeall eich canser ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gallant roi cyngor ar anawsterau emosiynol, ymarferol ac ariannol. Mae gan rai llinellau cymorth wirfoddolwyr a hyfforddwyd yn arbennig, allai fod wedi derbyn triniaeth am ganser eu hunain, tra bod gan eraill gynghorwyr budd-daliadau. Mae yna hefyd linellau cymorth i blant a phobl ifanc yn unig. Mae Llinell Help Macmillan yn lle da i ddechrau. Ffoniwch am ddim ar 0808 808 00 00. 6 Fe ffoniais Macmillan yn fuan cyn mynd am fy ymgynghoriad chwe mis gyda fy oncolegydd i siarad am ddewisiadau triniaeth. Roedd y sawl y siaradais ag o yn gymwynasgar a gwybodus. Wedi r alwad roeddwn yn hyderus bod gennyf wybodaeth ddibynadwy ac roedd hynny n golygu y gallwn gael trafodaeth ddeallus gyda r ffeithiau yn yr ymgynghoriad. Claire 47

Y canllaw canser Grwpiau cymorth canser Mae grwpiau cymorth canser, neu grwpiau hunangymorth yn grwpiau o bobl mae canser yn effeithio arnynt sy n cyfarfod yn rheolaidd i gymdeithasu a helpu ei gilydd. Er na fydd rhai pobl yn teimlo n gyfforddus yn trafod eu sefyllfa ag eraill, bydd nifer yn ei chael yn ddefnyddiol iawn i siarad â rhai gyda materion tebyg. 6 Mae rhai grwpiau cymorth yn arbennig ar gyfer mathau penodol o ganser, er enghraifft grwp cymorth canser y fron. Mae eraill yn fwy cyffredinol a gall pobl ag unrhyw fath o ganser fynd iddynt. Mae rhai yn agored i deulu, ffrindiau a gofalwyr hefyd. Mae grwpiau cymorth yn darparu cyfle i sgwrsio gyda phobl sy n deall eich profiadau a gallant hefyd eich helpu i ddysgu am wasanaethau lleol eraill. Grwpiau cymorth ar-lein, fforymau a blogiau Os oes gennych fynediad at y rhyngrwyd, gallwch ymuno â grwp cymorth ar-lein neu fforwm lle gallwch ddarllen am brofiadau pobl eraill o ganser a u teimladau. Eich penderfyniad chi ydyw os ydych am ysgrifennu rhywbeth ai peidio os yw n well gennych, gallwch ddarllen beth mae eraill wedi ei ysgrifennu yn unig. Mae blog yn ddyddlyfr ar-lein lle gallwch rannu eich teimladau a ch meddyliau. Mae llawer o bobl yn canfod bod ysgrifennu yn eu helpu i ddelio â u sefyllfa. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol canfod bod eraill yn meddwl am bethau tebyg i chi. Weithiau gall beth mae pobl eraill yn ddweud fynegi r teimladau rydych wedi bod yn cael trafferth eu rhoi mewn geiriau. Mae gennym gymuned ar-lein gyda fforymau trafod yn macmillan.org.uk/community 48

6 Cael gwybodaeth a chefnogaeth Cwnsleriaid Mae rhai pobl yn ei chael hi n anodd ymdopi ag effaith diagnosis o ganser. Yn y sefyllfa hon, gall fod yn ddefnyddiol gweld cwnsler. Cwnsela un i un ydi pan rydych yn cyfarfod â chwnsler wedi i hyfforddi, a all wrando arnoch chi a ch helpu i archwilio eich teimladau mewn man lle teimlwch yn ddiogel. Mae n gyfrinachol a gall fod yn gymorth mawr yn ystod amser anodd. Mae gan lawer o feddygfeydd ac ysbytai gwnsler y gallwch siarad â nhw neu fe allant eich rhoi mewn cysylltiad ag un. Mae rhai grwpiau cymorth a chanolfannau gwybodaeth a chymorth canser yn cynnig gwasanaethau cwnsela am ddim. Rhestrir sefydliadau cymorth eraill ar dudalennau 107-115. 6 Gofal ysbrydol Mae rhai pobl yn canfod eu bod yn dod yn fwy ymwybodol o deimladau ysbrydol neu grefyddol pan maent dan straen. Os oes gennych eisoes lawer o ffydd, gall fod yn gysur a chymorth mawr i chi. Mae rhai pobl yn canfod eu bod yn dechrau cwestiynu eu ffydd. Os meddyliwch y byddai n helpu i siarad ag arweinydd crefyddol neu gaplan yr ysbyty, peidiwch â dal yn ôl am nad ydych yn siwr beth a gredwch neu heb addoli yn unrhyw le yn rheolaidd. Maent wedi arfer delio ag ansicrwydd ac fel arfer yn hapus i siarad â chi a rhoi pa bynnag gymorth a chysur ag y gallant. Gallant hefyd siarad â grwpiau crefyddol a diwylliannol eraill yn y gymuned ar eich rhan. 49

7 Eich teimladau 7 Eich teimladau Mae r rhan fwyaf o bobl yn teimlo wedi ei llethu pan ddywedir wrthynt fod ganddynt ganser ac maent yn profi sawl emosiwn gwahanol. Mae r rhain yn rhan o r broses yr ewch trwyddi efallai wrth ddelio â ch salwch. Mae partneriaid, aelodau eraill o r teulu a ffrindiau yn aml yn cael teimladau tebyg ac efallai y bydd angen cymorth ac arweiniad arnyn nhw i'w helpu i ymdopi. Nid yw n bosibl bod hyn yn wir! Dyma oedd fy ymateb cyntaf pan ddywedwyd wrthyf fod gennyf ganser. Am ychydig doeddwn i ddim yn teimlo dim byd, yn methu credu beth oedd yn digwydd a mynegi emosiynau. Asma Mae ymatebion yn amrywio o unigolyn i unigolyn does dim ffordd gywir nac anghywir i deimlo. Rydym yn disgrifio rhai o effeithiau emosiynol cyffredin canser yma. Fodd bynnag, gall ymatebion amrywio ac mae gan wahanol bobl wahanol emosiynau ar wahanol adegau. 7 Mae ein llyfryn How are you feeling? yn trafod yr emosiynau a deimlwch efallai mewn mwy o fanylder, ac mae ynddo awgrymiadau am sut i ymdopi gyda nhw. 51

Y canllaw canser Sioc ac anghrediniaeth Yn aml anghrediniaeth yw r ymateb cyntaf pan geir diagnosis o ganser. Efallai y byddwch yn teimlo eich bod wedi fferru ac yn methu mynegi unrhyw emosiwn. Efallai hefyd mai dim ond ychydig iawn o wybodaeth y byddwch yn gallu ei derbyn ar y tro, ac felly rhaid i chi ddal i ofyn yr un cwestiynau dro ar ôl tro. Mae r angen hwn am ailadrodd yn ymateb cyffredin iawn i sioc. Bydd rhai pobl yn teimlo bod eu teimladau o anghrediniaeth yn eu gwneud yn anodd iddynt siarad am eu salwch gyda theulu a ffrindiau. I eraill, efallai mai dyma fydd y prif bwnc trafod gan mai dyma r prif beth ar eu meddwl. Efallai bydd ein llyfryn Talking about your cancer o help. 7 Ofn ac ansicrwydd Mae canser yn air brawychus yn llawn gofidion a mythau. Un o ofnau mwyaf pobl yw a fyddant yn marw. Gellir trin llawer o ganserau os ydynt yn cael eu canfod yn ddigon buan. Pan na fydd yn bosibl gwella canser, yn aml bydd triniaethau presennol yn golygu y gellir ei reoli am beth amser. Mae llawer o bobl yn gofidio ynglyn ag a fydd eu triniaeth yn gweithio a sut i ymdopi â r sgìl effeithiau posibl. Mae n well trafod eich triniaeth a deilliannau phosibl yn fanwl gyda ch meddyg. Efallai y byddwch yn gweld nad yw ch meddygon gallu ateb eich cwestiynau yn llawn, neu fod eu hatebion yn amhendant iawn. Yn aml mae n amhosibl iddynt ddweud gyda sicrwydd pa mor effeithiol fydd triniaeth. 52

7 Eich teimladau Mae gan feddygon syniad bras o tua faint o bobl fydd yn cael budd o driniaeth benodol, ond ni allant ragweld y dyfodol ar gyfer unigolyn penodol. Mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd byw gyda'r ansicrwydd hwn, ond efallai bod eich ofnau'n waeth na'r gwirionedd. Gall dysgu am eich salwch roi cysur i chi. Gall trafod beth ydych wedi ei ddysgu gyda ch teulu a ffrindiau hefyd helpu. Efallai y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol i siarad â phobl eraill yn eich sefyllfa. Ffoniwch ein harbenigwyr cymorth canser ar 0808 808 00 00 i weld a oes grwp cymorth yn eich ardal chi. Neu gallwch ymweld â'n cymuned ar-lein yn macmillan.org.uk/ community i siarad unrhyw dro gyda phobl sy'n gwybod trwy beth rydych yn mynd. Mae rhai pobl yn yn cael rhyw fath o gymorth ysbrydol yn ddefnyddiol ar yr adeg hon, ac efallai yr hoffech siarad â chynghorydd ysbrydol neu grefyddol. 7 Gwadu Mae nifer o bobl yn ymdopi gyda u salwch trwy beidio bod eisiau gwybod llawer na siarad llawer amdano. Os mai fel hyn rydych yn teimlo, yna eglurwch wrth eich teulu a ffrindiau y byddai n well gennych beidio siarad am eich salwch, ddim ar hyn o bryd o leiaf. Ond weithiau, fel arall y bydd hi. Efallai y gwelwch nad yw ch teulu a ffrindiau eisiau siarad am eich salwch. Efallai eu bod yn ymddangos fel eu bod yn anwybyddu r ffaith bod gennych ganser, o bosibl trwy fychanu eich pryderon a symptomau neu newid y pwnc yn fwriadol. Os yw hyn yn eich poeni neu frifo, ceisiwch ddweud wrthynt. Dechreuwch drwy ddweud wrthynt eich bod yn gwybod pam eu bod yn ei wneud, ond y bydd o gymorth i chi os ydych yn gallu siarad â nhw am eich salwch. 53

Y canllaw canser Dicter Yn aml mae pobl yn teimlo'n ddig iawn am eu salwch. Gall dicter guddio teimladau eraill hefyd, fel ofn neu dristwch. Efallai byddwch yn cyfeirio eich dicter tuag at y bobl sydd agosaf atoch, neu'r meddygon a'r nyrsys sy'n gofalu amdanoch. Mae n ddealladwy eich bod yn gofidio'n arw am sawl agwedd o ch salwch, felly peidiwch â theimlo n euog am eich meddyliau dig neu eich tymer ddrwg. Dylech gadw mewn cof weithiau y gallai eich teulu a ffrindiau feddwl bod eich dicter wedi ei gyfeirio atyn nhw, pan mewn gwirionedd, mae wedi'i gyfeirio at eich salwch. Fe allai helpu i ddweud hyn wrthynt, neu efallai ddangos y darn hwn o'r llyfryn hwn iddynt. 7 Bai ac euogrwydd Weithiau mae pobl yn beio eu hunain neu eraill am eu salwch, yn ceisio canfod rhesymau i egluro pam fod hyn wedi digwydd iddyn nhw. Mae hyn efallai oherwydd ein bod yn aml yn teimlo n well os ydym yn gwybod pam fod rhywbeth wedi digwydd. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae n amhosibl gwybod yn union beth sydd wedi achosi canser rhywun. Felly, does dim rheswm i chi deimlo bod rhaid beio rhywun. Chwerwder Yn ddigon naturiol, efallai y byddwch yn teimlo n chwerw bod gennych ganser tra bod pobl eraill yn iach. Gall y teimladau hyn godi o bryd i w gilydd yn ystod eich salwch a'ch triniaeth. Fel arfer bydd yn helpu i drafod y teimladau hyn, yn hytrach na u cadw i chi ch hun. 54

7 Eich teimladau Unigedd ac iselder Efallai bydd adegau pan fyddwch eisiau llonydd i sortio eich meddyliau a ch emosiynau. Gall hyn fod yn anodd ar gyfer eich teulu a ffrindiau, sydd eisiau rhannu'r amser anodd hwn gyda chi. Gallai fod o gymorth iddynt ymdopi os ydych yn eu sicrhau, er nad ydych yn teimlo fel trafod eich salwch ar hyn o bryd, byddwch yn siarad â nhw am y peth pan fyddwch yn barod. Weithiau gall iselder eich atal rhag bod eisiau siarad. Os ydych chi n neu ch teulu yn meddwl y gallech fod yn dioddef o iselder, trafodwch hyn gyda ch meddyg teulu. Gallant eich cyfeirio at feddyg neu gwnsler sy n arbenigo ym mhroblemau emosiynol pobl gyda chanser, neu roi cyffur gwrth-iselder i chi ar bresgripsiwn. Mae gennym fideo yn macmillan.org.uk/depression a allai fod o help i chi. 7 55

8 Ar ôl triniaeth 8 Ar ôl triniaeth Pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben, mae n bwysig rhoi amser i chi ch hun addasu i unrhyw newidiadau corfforol neu emosiynol. Efallai na fyddwch angen rhagor o driniaeth gan fod y canser wedi ei wella. Neu efallai y byddwch yn byw gyda chanser a r posibilrwydd y byddwch angen rhagor o driniaeth yn y dyfodol. Eich gofal a chefnogaeth ddilynol Ar ôl i ch triniaeth orffen, efallai byddwch yn cael gwiriadau rheolaidd ac o bosibl sganiau neu belydrau X yn ddibynnol ar eich sefyllfa. Bydd eich arbenigwr canser neu nyrs glinigol arbenigol yn egluro pa mor aml bydd angen i chi ddod yn ôl i w gweld. Mae llawer o bobl yn canfod eu bod yn dod yn bryderus iawn cyn eu hapwyntiadau. Mae hyn yn naturiol. Gall cael cefnogaeth gan eich teulu, ffrindiau neu un o r sefydliadau a restrir ar dudalennau 107-115 fod o gymorth yn ystod yr amser hwn. Weithiau, yn hytrach nag apwyntiadau arferol, gofynnir i bobl gysylltu â u meddyg neu nyrs arbenigol os ydynt yn poeni am unrhyw beth. 8 Os oes gennych unrhyw broblemau, neu n sylwi ar unrhyw symptomau newydd rhwng eich gwiriadau, gadewch i ch meddyg wybod cyn gynted â phosibl. Gofalu amdanoch eich hun Mae llawer o bobl yn goroesi canser. Ond gall y driniaeth fod yn anodd iawn ar y corff a gall gymryd cryn dipyn o amser cyn eich bod yn teimlo n ffit eto. Mae rhai pobl yn profi sgìl effeithiau o driniaeth sy'n gwella n raddol gydag amser efallai y bydd eraill yn cael sgìl effeithiau parhaus neu ohiriedig. 57

Y canllaw canser Ni fydd pawb sydd â chanser yn profi sgìl effeithiau penodol, ond efallai y bydd ganddynt ystod o effeithiau eraill, megis anhawster cysgu, neu deimlo n wannach a mwy blinedig nag arfer. Efallai y bydd rhai wedi colli neu ennill pwysau, neu bydd eu cyhyrau neu gymalau yn stiff. Gall byw bywyd iach helpu eich corff i wella'n gynt, a gallai helpu i atal y canser rhag dychwelyd. Bydd byw bywyd iach hefyd yn helpu lleihau r risg o salwch arall, megis clefyd y galon a strôc. Gall ffordd iach o fyw gynnwys gael diet cytbwys, ymarfer corff, lleihau straen, a dangos diddordeb yn eich gofal iechyd. Bydd angen i chi ystyried unrhyw sgìl effeithiau o driniaeth wrth gynllunio newidiadau i ch diet ac ymarfer corff. Peidiwch â cheisio gwneud gormod yn rhy fuan. 8 Ers ymuno â r gampfa a gwneud rhywfaint o ioga syml pob bore, rwy n gweld bod fy nghyfnodau o iselder yn dilyn canser yn llawer llai aml neu ddifrifol. Richard Os ydych yn meddwl gwneud newidiadau mawr i ch ffordd o fyw, mae n syniad da i drafod eich cynlluniau gyda ch meddyg neu nyrs arbenigol. Mae ein llyfryn Life after cancer treatment yn rhoi cyngor defnyddiol am gadw n iach ac addasu eich bywyd ar ôl triniaeth. Mae gennym hefyd lyfrynnau am ymarfer corff, diet, rhoi'r gorau i ysmygu a'ch teimladau ar ôl triniaeth. 58

8 Ar ôl triniaeth Poeni y bydd y canser yn dychwelyd Mae llawer o bobl yn poeni bydd y canser yn dod yn ôl. Mae hyn yn ymateb normal. Wrth i amser fynd yn ei flaen, mae pobl yn poeni llai am hyn. Nid y gofid yw r unig beth sy n lleihau gydag amser, ond y risg ei hun hefyd. Pan fydd canser yn dychwelyd, gan amlaf bydd hyn yn digwydd o fewn y ddwy neu dair blynedd gyntaf wedi i r driniaeth ddod i ben. Gallai helpu i siarad â ch arbenigwr canser neu nyrs glinigol arbenigol ynglyn â r risg y bydd eich canser yn dychwelyd. Os ydych yn poeni am unrhyw symptomau anarferol, yn arbennig unrhyw rai sy n parhau mwy nag wythnos, mae n syniad da i drefnu gweld eich meddyg teulu. Cwestiynau i w gofyn wedi eich triniaeth Pryd fydda i n gwybod os yw fy nhriniaeth wedi gweithio? Pa mor hir fydd hi nes bydda i n teimlo n well ac y gallaf ddychwelyd i fy nhrefn arferol? 8 Pa ddilyniant fydd gennyf? Beth sy n digwydd os nad yw r driniaeth wedi gweithio? Sut fydda i n gwybod os yw r driniaeth wedi achosi sgìl effeithiau tymor hir? Pwy all ddarparu help i mi adref? Oes yna unrhyw help ariannol ar gael i mi? 59

Y canllaw canser Os yw r canser yn dychwelyd Weithiau mae r canser yn dod yn ôl. Mae meddygon yn galw hyn yn ddychweliad. Fe allai r canser ddechrau tyfu yn yr un lle ag y daethpwyd o hyd iddo n wreiddiol (dychweliad lleol) neu rywle arall yn eich corff (canser metastatig neu eilaidd). Gellir dal trin llawer o r canserau sy n dod yn ôl. Weithiau, os daw r canser yn ei ôl, mae dal yn bosibl i w iachau, ond mewn sawl achos, dim ond gallu arafu cynnydd y canser fydd y driniaeth. Weithiau nid yw'n bosibl rhoi triniaeth bellach i'r canser. Pan fydd hyn yn digwydd, gellir rhoi triniaeth i chi i reoli unrhyw symptomau sydd gennych. 8 Gellir hefyd eich cyfeirio at dîm gofal lliniarol neu nyrs Macmillan. Maent yn arbenigo ar gefnogi cleifion a theuluoedd ble nad oes gwellhad bellach ond bod ansawdd bywyd yn bwysig iawn. 60

8 Ar ôl triniaeth Hosbisau Mae llawer o bobl a effeithir gan ganser yn hoffi derbyn eu gofal gartref, ond efallai byddwch yn fwy cyfforddus yn cael eich gofal mewn hosbis. Mae hosbisau yn arbenigo mewn rheoli poen a symptomau eraill. Mae n beth digon cyffredin i rywun fynd i hosbis am gyfnod byr fel gellir monitro eu symptomau yn ofalus a u rheoli, ac yna dychwelyd yn ôl adref. Mae hosbisau yn llai ac yn dawelach nag ysbytai ac yn aml mae llai o ruthr yno. Mae gan lawer geginau, ystafelloedd eistedd a llety ar gyfer perthnasau, ac weithiau hyd yn oed bar. Mae llety a gofal mewn hosbis bob amser yn rhad ac am ddim. 8 61

9 Therapïau cyflenwol 9 Therapïau cyflenwol Mae therapïau cyflenwol yn driniaethau y gall pobl eu defnyddio ar y cyd â thriniaeth canser confensiynol. Yn wahanol i driniaethau canser confensiynol fel radiotherapi, chemotherapi, llawdriniaeth a therapi hormonaidd nid yw therapïau cyflenwol yn trin y canser. Fe u defnyddir i ch helpu i deimlo n well a gwella ansawdd eich bywyd. Gall therapïau cyflenwol hefyd: wella eich iechyd yn gyffredinol rhoi synnwyr o reolaeth i chi dros yr hyn sy n digwydd gostwng straen, tyndra, methu cysgu, pryder ac iselder, a gwneud i chi deimlo wedi ymlacio mwy helpu gostwng symptomau canser, fel poen, teimlo n sâl, diffyg anadl, rhwymedd, dolur rhydd, blinder ac archwaeth wael helpu i ostwng rhai o sgìl effeithiau r driniaeth canser. Mae therapïau cyflenwol yn wahanol i therapïau amgen. Nod therapïau amgen ydi trin canser gan ddefnyddio triniaethau anghonfensiynol. Mae rhai pobl yn defnyddio therapïau amgen ochr yn ochr â thriniaethau confensiynol neu therapïau cyflenwol. Mae n werth cofio nad yw llawer o therapïau amgen wedi cael eu profi n drylwyr, na u profi i fod ag unrhyw fanteision iechyd o u cymharu â meddyginiaethau confensiynol. 9 Efallai bydd rhai therapïau cyflenwol ar gael ar y GIG mewn rhai ardaloedd. Mae rhai canolfannau gwybodaeth a chefnogaeth canser yn cynnig therapïau cyflenwol am ddim i bobl wedi eu heffeithio gan ganser. 63

Y canllaw canser Fyddan nhw n effeithio ar fy nhriniaeth? Nid yw r rhan fwyaf o therapïau cyflenwol yn debygol o effeithio ar eich triniaeth. Fodd bynnag, gall rhai therapïau cyflenwol rhyngweithio â thriniaethau canser a u gwneud yn llai effeithiol. Mae n bwysig siarad â ch meddyg am unrhyw therapïau eraill yr ydych yn meddwl eu cael. 5 Ceir rhagor o wybodaeth ynglyn â r gwahanol fathau o therapïau cyflenwol a dewis therapydd yn ein llyfryn Cancer and complementary therapies. 9 64

10 Gofalu am rywun gyda chanser 10 Gofalu am rywun gyda chanser Mae gofalwr yn rhywun sy'n darparu cymorth di-dâl i aelod o'r teulu neu ffrind gyda chanser na fyddai'n gallu ymdopi heb yr help hwn. Gall gofalu olygu sawl peth, yn cynnwys bod yn wrandäwr da, helpu gyda gofal personol, darparu cludiant neu gynorthwyo gyda thasgau pob dydd. Efallai na fyddwch yn ystyried eich hun i fod yn ofalwr, ond yn hytrach yn bartner, rhiant, perthynas, cyfaill neu gymydog. Efallai mai dim ond gwneud y peth iawn ydych chi, ond fel gofalwr rydych yn rhan bwysig o fywyd rhywun, ac mae yna lawer o sefydliadau a all eich helpu yn y rôl hon. Gall bod yn ofalwr fod yn straen corfforol ac emosiynol felly mae n bwysig cadw llygad ar eich iechyd eich hun hefyd. Mae r rhan yma yn rhoi pigion i ch helpu chi a r un y gofalwch amdanynt i gefnogi eich gilydd. Gwrando a deall Gall y teimladau sy n cronni pan fo rhywun sy n agos atoch yn wael, fod yn gryf iawn ac yn anodd delio â nhw. Gall helpu i w cael allan yn yr agored, os gallwch. Os na fedrwch wneud hyn gyda r un y gofalwch amdanynt, ceisiwch siarad â rhywun sydd tu allan i r sefyllfa a allai helpu i gael pethau i bersbectif. Efallai bydd eich teimladau yn haws ymdopi â nhw unwaith byddwch wedi eu trafod. 9 10 65

1 Y canllaw canser Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn ei chael hi n anodd bod yn agored gyda ch gilydd fel hyn, yn enwedig pan maent yn wynebu sefyllfa newydd llawn straen. Mae rhai pobl yn anghyfforddus ynglyn â thrafod eu teimladau gyda r un sydd â chanser gan y credant y byddant yn faich. Mae eraill yn ei chael hi n anodd siarad am y peth gan eu bod yn poeni na fyddant yn gallu cysuro eu ffrind neu un annwyl, neu y byddant yn torri lawr ac yn crio eu hunain. Nid yw rhai pobl wedi arfer siarad â'i gilydd am bethau pwysig fel hyn. Fel perthynas neu ffrind, nid beth a ddwedwch chi sydd bob amser yn bwysig, ond yn hytrach sut y gwrandewch. Mae gwrando yn arwydd bod ots gennych am sut maent yn teimlo ac mae n helpu rhywun deimlo n gyfforddus pan maent yn siarad. Ceisiwch beidio â u brysio i siarad. Nid yw r ffaith bod rhywun yn dawel yn golygu nad ydynt yn meddwl am y sefyllfa. Gadewch iddynt wybod eich bod yna ac yn barod i wrando. Pan fo r foment yn iawn, byddant yn siarad â chi. Ceisiwch gofio: Bydd gan rywun â chanser amrywiaeth o emosiynau sioc, ofn, dicter, dig, ansicrwydd a dryswch. Gallant hefyd fod yn isel. Felly, mae n helpu i fod yn barod i wrando ar unrhyw beth, waeth pa mor emosiynol neu anodd. 10 Gall pobl gyda chanser ddod yn rhwystredig. Mae n gyffredin i rywun â chanser gyfeirio eu dicter tuag at y rheiny sydd agosaf atynt ac sy n golygu r mwyaf iddynt. Efallai y gofynnir cwestiynau anodd i chi nad oes gennych yr atebion iddynt. Mae n iawn i chi ddweud nad ydych yn gwybod. Mae ein llyfryn Lost for words wedi i ysgrifennu ar gyfer perthnasau a ffrindiau pobl gyda chanser. Mae n edrych ar rai o r anawsterau sydd gan bobl wrth siarad am ganser ac yn awgrymu ffyrdd o u goresgyn. 66

10

Y canllaw canser Cael gwybodaeth a chefnogaeth Mae llawer o ofalwyr yn ei chael hi n haws deall beth sy n digwydd ac ymdopi n well pan fo ganddynt wybodaeth gywir ynglyn â r canser, ei driniaeth a i effeithiau. Mae r meddygon a r nyrsys sy n edrych ar ôl eich perthynas neu ffrind, hefyd yno i r gofalwyr. Gallant roi gwybodaeth i chi i helpu deall beth sy n digwydd ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae llinellau cymorth a chanolfannau gwybodaeth a chefnogaeth canser yn ffynonellau gwybodaeth da eraill ar bob agwedd o ganser. Trafodir ffynonellau gwybodaeth a chefnogaeth eraill ar dudalennau 44-49. Gallwch ofyn i feddygon a nyrsys am gyngor os nad ydych yn siwr am yr hyn gallwch ei wneud i helpu. Gallant drefnu i weithiwr cymdeithasol siarad â chi. Efallai y bydd y gweithiwr cymdeithasol yn gallu trefnu cymorth ariannol ac ymarferol i chi a r sawl yr ydych yn gofalu amdano. Mae gennym lawer o wybodaeth ar ein gwefan ar gyfer pobl sy n gofalu am rywun gyda chanser. Ewch i macmillan.org.uk/carers 10 68

10 Gofalu am rywun gyda chanser Wedi i m gwraig fynd yn sâl, ni fûm yn gweithio am y pum mis nesaf gan ddod yn ofalwr llawn amser. Roeddem wedi n taflu i fyd o salwch, ysbytai a moddion. Buan y dysgais sut i ddeall a byw yn y byd hwn ac fe ddygais faint o bobl arbennig sy n gweithio yn y byd hwn i ofalu am y rhai sy n angheuol wael. Patrick Gofalu amdanoch eich hun Mae n amhosibl gwneud popeth ar gyfer eich perthynas neu ffrind trwy r amser. Os ydych yn ceisio gwneud gormod, efallai byddwch yn gorflino neu hyd yn oed yn dod yn wael. Felly, mae n gwneud synnwyr edrych ar ôl eich hun tra ch bod yn gofalu am rywun arall. Byddwch yn realistig ynglyn â beth allwch ei wneud a gweld beth na fedrwch ei wneud. Does dim angen i chi deimlo n euog ynglyn â derbyn cynnig o help neu ofyn i bobl eraill (neu sefydliadau) i roi help llaw. Mae yna sefydliadau, elusennau a grwpiau cefnogaeth all eich helpu gweler tudalennau 107-119. 10 69

Y canllaw canser Mae gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal iechyd, fel nyrsys clinigol arbenigol, yn arbenigo mewn cynnig cymorth i r teulu oll o r foment caiff rhywun ddiagnosis. Ceisiwch beidio gadael i ch emosiynau bentyrru. Gall siarad â theulu neu ffrindiau, neu un o r tîm gofal iechyd helpu lleddfu r unrhyw straen a deimlwch. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol i ymuno â grwp cefnogaeth neu siarad â chynghorydd (gweler tudalen 49). Os ydych yn teimlo yn flinedig neu dan straen, bydd eich meddyg teulu yn gallu helpu. Gall technegau ymlacio helpu hefyd. Ceisiwch gadw n iach trwy orffwys digon a bwyta n iach. Weithiau nid yw hyn yn hawdd, yn arbennig os ydych yn gofalu am rywun sydd angen llawer o ofal yn y cartref, ond mae yna sefydliadau allai helpu. Gweler tudalennau 107-115. Mae gan ein llyfrynnau Hello, and how are you? a Caring for someone with advanced cancer lawer o wybodaeth ddefnyddiol i ch helpu i edrych ar ôl eich perthynas neu ffrind. Budd-daliadau a chymorth ariannol 10 Asesiad gofalwyr Os ydych yn darparu gofal rheolaidd a sylweddol i rywun dros 18 oed, mae gennych hawl i asesiad gofalwr gan yr adran gwasanaethau cymdeithasol yn eich cyngor lleol. Mae hyn yn gyfle i drafod pa gymorth ydych chi ei angen fel gofalwr. Dyma yw ch hawl yn ôl y gyfraith, dan y Ddeddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995 a r Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000. Nid oes rhaid i chi fod yn byw gyda, na n perthyn i'r sawl yr ydych yn gofalu amdanynt i gael eich asesu. 70

10 Gofalu am rywun gyda chanser Am ragor o wybodaeth ynglyn ag asesiadau r gofalwr, cysylltwch â ch cyngor lleol (adran gwaith cymdeithasol yn yr Alban) neu Carers UK (gweler tudalen 112). Lwfans Gofalwyr Lwfans Gofalwyr ydi r prif fudd-dal ar gyfer gofalwyr. Mae n fudddal wythnosol ar gyfer rhywun sy n gofalu am unigolyn sy n cael cyfansawdd gofal Lwfans Byw i r Anabl (y gyfradd uchaf neu ganol) neu Lwfans Gweini. Credyd Gofalwyr Credyd yswiriant gwladol i ofalwyr o oedran gweithio ydy Credyd Gofalwr. Mae n helpu gofalwyr i gasglu blynyddoedd cymwys ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth fel nad oes bylchau yn eich cofnod yswiriant gwladol os oes gennych gyfrifoldebau gofal. Nid yw n fudd-dal arian parod. Mae mwy o wybodaeth am fudd-daliadau a chymorth ariannol yn ein llyfryn Cymorth gyda chost canser. Gall y cynghorydd budd-daliadau ar Linell Gymorth Macmillan roi gwybodaeth i chi am Lwfans Gofalwyr a budd-daliadau eraill y gallech fod â hawl iddynt. Ffoniwch am ddim ar 0808 808 00 00. Hawliau gofalwyr Gweithio hyblyg ac amser i ffwrdd mewn argyfwng Os ydych yn gofalu am oedolyn sy n berthynas neu n byw yn yr un cyfeiriad â chi, mae gennych hawl i ofyn i ch cyflogwr am oriau gwaith hyblyg dan y Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006. Mae gennych hefyd yr hawl i gymryd amser i ffwrdd o r gwaith heb dâl ar gyfer dibynyddion mewn argyfwng. Mae r hawl hwn wedi ei gynnwys yn y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, fel y i haddaswyd gan y Ddeddf Rheoliadau Cyflogaeth 1999. 10 71

Y canllaw canser Yng Ngogledd Iwerddon, gelwir y cyfreithiau hyn y Gorchymyn Hawliau Cyflogaeth (Gogledd Iwerddon) 1996 a r Gorchymyn Cysylltiadau Cyflogaeth (Gogledd Iwerddon) 1999. Diogelu rhag gwahaniaethu ac aflonyddu Mae pobl sydd â chanser a u gofalwyr wedi eu diogelu n uniongyrchol rhag gwahaniaethu uniongyrchol ac aflonyddu dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn yn berthnasol i bobl yn byw yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn unig. Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (DDA) yn gwarchod pobl ag anabledd yng Ngogledd Iwerddon. Yn dilyn penderfyniad gan Lys Cyfiawnder Ewrop yn Coleman v Attridge Law (2008), mae gofalwyr sydd hefyd yn gyflogeion wedi eu diogelu dan y DDA 1995 (fel y i diwygiwyd) rhag gwahaniaethu uniongyrchol ac aflonyddu yn y gweithle yng Ngogledd Iwerddon. Mae gennym lyfryn o r enw Working while caring for someone with cancer, a allai fod yn ddefnyddiol. Os ydych eisiau helpu 10 Os nad chi yw r prif ofalwr ond eisiau helpu mewn unrhyw ffordd, gallai r pigion hyn fod yn lle da i ddechrau: Holwch os oes angen eich help trwy ofyn i aelod agos o r teulu. Gofynnwch i ch hun pa help sydd efallai ei angen. Gallech gynnig eistedd gyda r un sydd â chanser tra bod eu prif ofalwr yn gorffwys. Fe allech alw i mewn am sgwrs, wneud ychydig o waith golchi, gwneud prydau (gwiriwch pa fwydydd fyddai orau), nôl y plant o r ysgol neu fynd i siopa bwyd. 72

10 Gofalu am rywun gyda chanser Ceisiwch weithio allan pa bethau gallwch eu gwneud. Os nad ydych yn gogydd da iawn, peidiwch â chynnig coginio. Bydd yna lawer o bethau eraill y gallwch eu gwneud. Cynigiwch i wneud y pethau sy n hawdd i chi eu gwneud. Weithiau bydd y pethau lleiaf, fel chwynnu r ardd, yn golygu cryn dipyn. Gall cynnig gwneud popeth wneud pobl deimlo n annifyr a chwithig. Peidiwch ag ymweld yn rhy aml. Gall rhai pobl gael eu llethu gan ymwelwyr. Gallech feddwl y gorau ond gwiriwch pryd sy n amser da i alw. Gallai treulio amser rheolaidd gyda ch perthynas neu ffrind a bod yn ddibynadwy ynglyn â ch ymweliadau, fod y ffordd orau i ddangos faint maent yn ei olygu i chi. 10 73

11 Safonau gofal a gwasanaethau canser yn y GIG 1 11 Safonau gofal a gwasanaethau canser yn y GIG Beth ydi canllaw? Datblygir canllaw i helpu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gyflawni r gofal gorau posibl yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. Mae n ymwneud â rhoi ar waith yr hyn rydym yn gwybod sy n gweithio n dda. I wneud yn siwr bod hyn yn digwydd, mae r llywodraeth yn Lloegr wedi sefydlu Athrofa Genedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth Iechyd a Chlinigol (NICE). Mae NICE yn sefydliad annibynnol sy n rhoi cyngor ar ba gyffuriau a thriniaethau newydd ddylai fod ar gael ar y GIG a sut dylid trin afiechydon penodol fel canser. Mae NICE yn cynghori'r GIG yn Lloegr a Chymru. Ond yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae sefydliadau eraill yn gysylltiedig. Yn yr Alban, rheoleiddir a datblygir safonau gofal gan Healthcare Improvement Scotland a r Care Inspectorate. Datblygir canllaw ar driniaeth gan y Scottish Intercollegiate Guidelines Network (SIGN). Rhoddir gwybodaeth ynglyn â meddyginiaethau unigol gan y Scottish Medicines Consortium (SMC). Yng Ngogledd Iwerddon, cyfrifoldeb yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cyhoeddus ydi canllawiau ynglyn â gofal iechyd, sy n defnyddio canllaw a gyhoeddir gan NICE yn aml. 11 75

Y canllaw canser Yng Nghymru, mae Grwp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan yn cynghori ar ddefnyddio triniaethau hydd heb gael eu gwerthuso gan NICE. Sefydlwyd y sefydliadau hyn i helpu gwneud yn siwr bod gan bobl gyfle cyfartal am driniaethau a chyffuriau lle bynnag maent yn byw. Yn ogystal â darparu canllaw ar gyfer gweithwyr iechyd, mae NICE yn llunio ei wybodaeth mewn fformat llai technegol, haws i w ddeall ar gyfer y cyhoedd. Gellir dod o hyd i r wybodaeth yma ar wefan NICE yn guidance.nice.org.uk Sut mae llywodraethau yn cynllunio gofal iechyd? Mae polisïau iechyd yn benderfyniadau gan lywodraeth genedlaethol neu leol neu gynlluniau sy n ceisio helpu pobl i fod yn iach, i wella r modd y cyflenwir iechyd neu ofal cymdeithasol, ac i sicrhau fod gwasanaethau yn ymatebol, hyblyg a chanolog ar y claf. Mae enghreifftiau o bolisïau iechyd yn cynnwys gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus a r penderfyniad i greu r GIG a darparu gofal iechyd am ddim i bawb. 11 Mae polisïau llywodraeth ar iechyd a chanser yn datblygu o hyd ar draws y pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig. Mae gan bob gwlad wahanol ymagwedd, yn seiliedig ar wahanol gyd-destun a strategaethau cenedlaethol. Os hoffech ganfod mwy o wybodaeth ynglyn â pholisi canser yn eich gwlad, mae gan y gwefannau canlynol wybodaeth gyfredol: Adran Iechyd (Lloegr) www.dh.gov.uk Health and Social Care in Northern Ireland www.healthandcareni.co.uk 76

11 Safonau gofal a gwasanaethau canser yn y GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru www.wales.nhs.uk Scotland s Health on the Web www.scot.nhs.uk Beth ddylech ei ddisgwyl Fel rhywun mae canser wedi effeithio arnynt, mae gennych hawl i: gael eich opsiynau triniaeth a r sgìl effeithiau wedi eu hegluro mewn geiriau a ddeallwch penderfynu os ydych eisiau cael triniaeth benodol neu beidio gweld eich cofnodion meddygol disgwyl i ch gwybodaeth gael ei chadw n gyfrinachol gan y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy n eich trin cwyno os ydych yn teimlo nad yw ch gofal iechyd yn foddhaol (gweler tudalennau 83-85) derbyn gwybodaeth ar wasanaethau lleol, a r rheiny sy n bellach i ffwrdd, a all ddarparu r gofal rydych ei angen cael cynnig gwybodaeth ysgrifenedig sy n hawdd i w ddeall ac wedi i deilwrio i ch anghenion. 11 77

Y canllaw canser Mae gan eich perthnasau a gofalwyr yr hawl i: fod yn rhan mewn penderfyniadau am eich triniaeth a chynllun gofal cefnogol (gyda ch caniatâd chi) cael gwybodaeth a chyngor am unrhyw gefnogaeth maent ei angen. Os ydych yn byw gartref, mae gennych yr hawl i: gael asesu ch anghenion gan eich cyngor lleol (a elwir yn asesiad gofal cymunedol gweler tudalen 88) gall gofalwyr wneud y cais hwn hefyd (a elwir yn asesiad gofalwyr gweler tudalen 70) gwneud cais am wasanaethau fel cymorth cartref neu bryd ar glud os yw eich gweithiwr cymdeithasol yn meddwl bod eu hangen cwyno i ch cyngor lleol (adran gwaith cymdeithasol yn yr Alban) os nad yw r gefnogaeth mae n ei ddarparu yn ddigon da. Gweler tudalennau 83-85 am ragor ar wneud cwyn. Targedau canser Mae targedau (cyfnod penodol o amser ar gyfer cyflawni rhywbeth) wedi cael eu pennu er mwyn gwneud yn siwr bod pawb yn elwa o r triniaethau, gofal a chefnogaeth orau posibl fesul pob cam o u profiad canser. 11 78

11 Safonau gofal a gwasanaethau canser yn y GIG Atgyfeiriadau meddygon teulu Rhaid i wasanaethau r GIG weld pobl o fewn cyfnod penodol o amser wedi i w meddyg teulu eu cyfeirio. Bydd y meddyg teulu yn archwilio r unigolyn ac yna n penderfynu (yn seiliedig ar ganllaw clinigol) a ydynt angen eu cyfeirio ar frys (a elwir yn atgyfeiriad lluman coch yng Ngogledd Iwerddon) at arbenigwr neu a ellir eu gweld yn llai cyflym (a elwir yn atgyfeiriad nad yw n frys). Os yw ch meddyg yn amau bod canser arnoch, byddwch yn cael atgyfeiriad brys ac yn gweld arbenigwr canser o fewn pythefnos i atgyfeiriad, waeth ble ydych yn byw. Gall amserau atgyfeirio nad ydynt yn frys amrywio yn ddibynnol ar ym mha wlad ydych chi n byw a pha fath o broblem feddygol mae r meddyg teulu yn meddwl sydd gennych. Amserau aros cyn gweld arbenigwr 2 wythnos atgyfeiriad brys 2 wythnos+ atgyfeiriad nad yw n frys 11 79

Y canllaw canser Amseroedd triniaeth Yna mae targedau sy n sefydlu pa mor fuan ddylai pobl ddechrau triniaeth canser yn y Deyrnas Unedig. Sef: uchafswm o 31 diwrnod rhwng diagnosis/penderfyniad i drin a dechrau eich triniaeth uchafswm o 62 diwrnod rhwng atgyfeiriad brys meddyg teulu a dechrau eich triniaeth. Uchafswm amserau aros cyn dechrau triniaeth 31 diwrnod 62 diwrnod wedi diagnosis/penderfyniad i drin wedi atgyfeiriad brys gan y meddyg teulu 11 80

11 Safonau gofal a gwasanaethau canser yn y GIG 1 Gwasanaethau canser Ar hyn o bryd mae r GIG yn mynd trwy gyfnod o newid a bydd rhai o r sefydliadau a enwir isod yn newid yn y blynyddoedd nesaf. Rhwydweithiau, canolfannau ac unedau canser I drin canser yn y ffordd orau posibl, mae gwasanaethau canser yn y Deyrnas Unedig wedi eu trefnu i rwydweithiau canser rhanbarthol. Mae pob rhwydwaith yn gyfrifol am gynllunio a darparu gofal ar gyfer pobl gyda chanser yn yr ardal honno. O fewn pob rhwydwaith mae yna un neu fwy o ganolfannau trin canser, fel arfer mewn ysbyty mwy. Mae canolfannau canser yn arbenigo mewn trin amrywiaeth o ganserau, gan gynnwys rhai o r mathau prin, ac mewn rhoi triniaethau canser penodol, fel radiotherapi a chemotherapi. Efallai nad eich ysbyty lleol fydd y ganolfan ganser felly efallai bydd angen i chi deithio i weld arbenigwr canser neu i gael triniaeth. Trwy r rhwydweithiau canser, mae yna hefyd unedau canser llai sydd yn aml mewn ysbytai lleol. Bydd yr unedau canser yn trin pobl gyda chanserau mwy cyffredin ac yn darparu triniaethau, fel llawdriniaeth a rhai triniaethau chemotherapi. Gan ddibynnu ar eich canser a ch cynllun triniaeth, mae n unedau canser yn caniatáu i chi gael eich trin yn nes at adref. Mae gan yr unedau gysylltiadau agos iawn gyda chanolfannau canser mwy a byddwch dal yn elwa o r gofal a r gefnogaeth a ddarperir gan dîm amlddisgyblaeth y ganolfan. 11 81

1 Y canllaw canser Bydd rhwydweithiau clinigol strategol yn cymryd lle rhwydweithiau canser yn Lloegr erbyn Ebrill 2013. Nod y rhain fydd i wella gwasanaethau iechyd i bobl wedi eu heffeithio gan ganser. Mynediad at driniaeth yn Lloegr Mae Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol yn gyfrifol am ariannu cyffuriau a thriniaethau canser. Mae angen iddynt sicrhau fod y cyffuriau a thriniaethau a ariennir ganddynt yn rhoi mantais bendant i bobl yn eu hardal. Maent hefyd angen sicrhau eu bod yn gwario eu harian yn ddoeth, gan helpu cymaint o bobl â phosibl. Golyga hyn y gallant benderfynu nad yw rhai cyffuriau a thriniaeth ar gael yn awtomatig. Efallai na fydd cyffuriau neu driniaethau canser yn cael eu hariannu n awtomatig os nad yw n glir pa mor effeithiol ydynt, os nad ydynt wedi eu profi i fod yn fwy effeithiol na thriniaethau eraill, neu os yw r Ymddiriedolaeth yn penderfynu nad yw manteision posibl y cyffur yn cyfiawnhau r gost. Gellir penderfynu ar effeithiolrwydd cyffur neu driniaeth wedi cyflawni r treialon clinigol a phan wneir penderfyniadau gan NICE (gweler tudalen 75). 11 Os nad ydych wedi gallu cael mynediad at gyffur penodol a fyddai n helpu rheoli ch canser, gallwch wneud cais i ch Ymddiriedolaeth i w ddarparu i chi fel eithriad o u rheolau arferol. Fel arfer bydd Ymddiriedolaethau yn galw r ceisiadau hyn yn geisiadau ariannu unigol. Os ydych yn dal yn methu cael y cyffur ac wedi rhoi cynnig ar bob dewis ariannu arall, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am gyllid trwy r Gronfa Cyffuriau Canser. Mae hon yn gronfa arbennig ar gyfer cyffuriau nad ydynt ar gael fel arfer ar y GIG. 82

11 Safonau gofal a gwasanaethau canser yn y Deyrnas Unedig Am ragor o wybodaeth am fynediad i driniaeth yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ffoniwch ein harbenigwyr cefnogaeth canser ar 0808 808 00 00. Bydd Grwpiau Comisiynu Clinigol yn cymryd lle Ymddiriedolaethau yn Ebrill 2013. Bydd gan y Grwpiau gyfrifoldebau tebyg i r Ymddiriedolaethau maent yn eu disodli. Mae gennym ragor o wybodaeth ar beth i w wneud os nad yw triniaeth ar gael ac ynglyn â r Gronfa Cyffuriau Canser. Pan nad yw eich gofal iechyd gystal ag y dylai fod Gan amlaf bydd triniaeth a gofal yn y GIG yn mynd yn dda, ond weithiau bydd pethau n mynd o chwith. Os nad ydych yn hapus â r gofal neu driniaeth a dderbynioch, neu os gwrthodwyd triniaeth ar gyfer cyflwr i chi, mae gennych yr hawl i gwyno, cael ymchwiliad i ch cwyn, a derbyn ymateb llawn a phrydlon. Bydd gan eich ysbyty, ymddiriedolaeth neu fwrdd iechyd lleol ei weithdrefn gwyno ei hun a gall roi copi i chi. Dylid cyflwyno pob cwyn cyn gynted â phosibl ac o fewn 12 mis i ddyddiad y digwyddiad yr ydych yn cwyno amdano. Gallwch wneud eich cwyn yn uniongyrchol i r gwasanaeth yr ydych yn anfodlon ag o drwy ch Ymddiriedolaeth leol os ydych yn byw yn Lloegr. Eich cam cyntaf fel arfer fydd i siarad ag neu ysgrifennu at yr aelod o staff neu adran yr ydych yn anfodlon â hi neu r rheolwr cwynion. Gelwir hyn yn ddatrysiad lleol a chaiff y rhan fwyaf o achosion eu datrys yn ystod y cam hwn. 11 83

Y canllaw canser Os ydych dal yn anhapus gyda r canlyniad, gallwch fynd â ch cwyn ymhellach a cheisio adolygiad annibynnol. Fe allech hefyd fynd â ch achos i r ombwdsmon rhywun sy n ymchwilio i ac yn setlo cwynion. Cewch ragor o wybodaeth ynglyn â gwneud cwynion ar y wefan NHS Choices (nhs.uk) trwy chwilio am cwynion, neu trwy ffonio NHS Direct (0845 4647), NHS 24 yn yr Alban (08454 242424) neu Galw Iechyd Cymru (0845 46 47). Am ragor o wybodaeth ar wneud cwyn ynglyn â r Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Iwerddon, ewch i nidirect.gov.uk/make-acomplaint-against-the-healthservice neu cysylltwch â ch ymddiriedolaeth iechyd lleol. Gwneud cwyn am eich cyngor lleol (adran gwaith cymdeithasol yn yr Alban) I wneud cwyn am eich cyngor lleol neu adran gwaith cymdeithasol, rhaid i chi gwyno i r cyngor yn gyntaf. Os nad ydych yn fodlon â r canlyniad, yna gallwch fynd at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol (gweler tudalen 110). Cael cyngor 11 Lle da i gael cyngor am ddim ynglyn â gwneud cwyn yw ch canolfan Cyngor Ar Bopeth lleol (gweler tudalen 109). Yn Lloegr, gallwch siarad â r Patient Advice and Liaison Service (PALS). Mae gan bob ysbyty fynediad at adran PALS, sydd yno i ch helpu ag unrhyw ymholiadau neu broblemau sydd gennych am eich gofal iechyd. Gallwch gysylltu â ch PALS lleol trwy ffonio r ysbyty lle cawsoch eich trin neu chwilio ar pals.nhs.uk/officemapsearch.aspx 84

11 Safonau gofal a gwasanaethau canser yn y GIG Fel arfer, gall y PALS helpu i ddatrys problemau neu gallant eich rhoi mewn cysylltiad â r Gwasanaeth Cwynion ac Eiriolaeth Annibynnol (ICAS) a all roi cyngor. Mae cymorth a chyngor hefyd ar gael yng Ngogledd Iwerddon gan y Patient and Client Council ar 0800 917 0222 neu anfon e-bost at info.pcc@hscni.net Yn yr Alban gallwch gysylltu â ch Bwrdd GIG lleol (scot.nhs.uk/ organisations); ac yng Nghymru gallwch gysylltu â ch Cyngor Iechyd Cymuned (wales.nhs.uk/sitesplus/899/home). Mae r manylion hefyd yn y llyfr ffôn. Healthwatch Mae Healthwatch yn eiriolwr defnyddwyr annibynnol newydd a grëwyd i gasglu a chynrychioli barnau r cyhoedd yn Lloegr. Bydd yn darparu gwasanaeth eiriolaeth cwynion o 2013 i gefnogi pobl sy n gwneud cwyn am wasanaethau. Mae gennym daflen ffeithiau y gallwn ei hanfon atoch ynglyn â gwneud cwyn. 11 85

12 Help ariannol, budddaliadau a chyflogaeth 12 Help ariannol, budddaliadau a chyflogaeth Os ydych chi'n cael trafferth ymdopi gydag effeithiau ariannol canser, mae help ar gael. Os ydych yn gyflogai ac yn methu gweithio oherwydd salwch, efallai byddwch yn medru cael Tâl Salwch Statudol. Mae hyn yn cael ei dalu gan eich cyflogwr am hyd at 28 wythnos o salwch, ac os ydych yn gymwys i w dderbyn, ni all eich cyflogwr dalu llai i chi. Cyn i'ch Tâl Salwch Statudol ddod i ben, gwiriwch os gallwch hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae r budd-dal hwn yn darparu help ariannol i bobl sy'n methu gweithio oherwydd eu salwch neu anabledd. Mae hefyd yn darparu ychydig o gymorth i'r rheiny sy'n gallu gweithio. Mae Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) ar gyfer pobl dan 65 sy'n cael anhawster cerdded neu edrych ar ôl eu hunain (neu'r ddau). Mae angen i chi fod wedi cael yr anawsterau hyn am o leiaf dri mis i fod yn gymwys, a dylid disgwyl iddynt bara am y chwe mis nesaf. Fel rhan o Ddeddf Diwygio Lles 2012, bydd y DLA yn cael ei ddisodli gan Daliad Annibyniaeth Personol i bobl o oedran gwaith o Ebrill 2013. Mae'r Lwfans Gweini ar gyfer pobl 65 mlwydd oed neu'n hyn sy'n cael anhawster edrych ar ôl eu hunain. Efallai byddwch yn gymwys os ydych angen helpu gyda gofal personol, fel codi o'r gwely, cael bath neu wisgo'ch hun. Nid oes rhaid i chi gael gofalwr i fod yn gymwys, ond rhaid eich bod wedi bod angen gofal am o leiaf chwe mis. 12 87

Y canllaw canser Os ydych wedi cael diagnosis o ganser, mae gennych hawl i asesiad gofal cymunedol gan eich adran gwasanaethau cymdeithasol lleol. Mae hyn er mwyn gweld a ydych angen gwasanaethau y dylai r awdurdod lleol eu darparu. Help i ofalwyr Os ydych yn ofalwr, efallai bod gennych hawl i gael help ariannol hefyd. Gweler tudalennau 65-73 am ragor o wybodaeth. Gall y system fudd-daliadau fod yn gymhleth, felly mae n syniad da i siarad â chynghorydd budd-daliadau profiadol. Gallwch siarad ag un trwy ffonio Llinell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00. Rydym wedi amlinellu rhai budd-daliadau yma, ond efallai y bydd eraill ar gael i chi. Deliodd fy nghynghorydd budddaliadau â r holl waith papur a, gyda r arian ychwanegol yn dod i mewn, roedd yn bwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau a gallwn ganolbwyntio ar wella. Kirsty 12 Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fudd-daliadau gan Cyngor ar Bopeth, neu drwy ffonio'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar 0800 882 200 (neu 0800 220 674 os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon). Mae gan y wefan direct.gov.uk (nidirect. gov.uk os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon) hefyd wybodaeth ddefnyddiol. 88

12 Help ariannol, budd-daliadau a chyflogaeth Gweler ein llyfryn Cymorth gyda chost canser am fwy o wybodaeth. Gallai ein fideo yn macmillan.org.uk/ gettingfinancialhelp hefyd fod yn ddefnyddiol. Canllaw ariannol Mae gennym dîm o arbenigwyr ariannol ymroddedig all eich helpu gyda materion ariannol, fel cynllunio a rheoli cyllid, dyledion a benthyca, ac yswiriant. Gallwch siarad ag un am ddim trwy ffonio 0808 808 00 00. Gallwn hefyd anfon ein canllaw ariannol atoch, It all adds up, neu gallwch ddefnyddio r teclyn ariannol rhyngweithiol ar ein gwefan yn macmillan.org.uk/financialguidance Grantiau Macmillan Mae r rhain yn grantiau bach, untro yn bennaf, i helpu pobl i dalu am gostau yn deillio o, neu n gysylltiedig gyda, eu canser. P un a ydych angen dillad ychwanegol, help i dalu biliau gwresogi neu hyd yn oed egwyl i ymlacio, efallai y bydd gennych hawl i Grant Macmillan. Mae r swm a ddyfernir yn amrywio yn ôl amgylchiadau ac anghenion, ond ar gyfartaledd rhoddir grant o 250. Ni fydd grant gan Macmillan yn effeithio ar eich gallu i hawlio budd-daliadau. Mae n hwb ychwanegol, yn hytrach na thâl yn lle mathau eraill o gymorth. Mae angen i chi wneud cais trwy weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol, megis gweithiwr cymdeithasol, nyrs ardal neu nyrs Macmillan os oes gennych chi un. 12 89

Y canllaw canser Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Grantiau Macmillan, neu os ydych yn cael anhawster cael rhywun i lenwi ffurflen gais gyda chi, cysylltwch â ni ar 0808 808 00 00. Grantiau eraill Mae yna grantiau eraill ar gael gan ystod o ffynonellau, yn cynnwys cronfeydd galwedigaethol, cwmnïau gwasanaethau (nwy, trydan, a chwmnïau dwr) ac elusennau. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â chynghorydd hawliau lles lleol neu'n harbenigwyr cefnogaeth canser ar 0808 808 00 00. Cyflogaeth Gall fod yn anodd penderfynu a ydych am weithio neu beidio yn ystod eich triniaeth. Mae n ddibynnol iawn ar eich amgylchiadau unigol. Mae rhai yn dewis dal ati i weithio, naill ai n llawn amser neu n rhan amser, yn ystod eu triniaeth. Mae rhai angen dal i weithio cymaint â phosibl am resymau ariannol. Mae n syniad da i siarad â ch meddyg os credwch gallai eich iechyd effeithio ar eich gallu i weithio. Hawliau cyflogaeth Fel rhywun mae canser wedi effeithio arnynt, mae gennych hawl i: barhau i weithio peidio dweud wrth eich cyflogwyr am unrhyw brofion rydych yn eu cael disgwyl i ch cyflogwr wneud addasiadau rhesymol i ch amgylchedd neu arferion gwaith, os oes angen, er enghraifft, amser i ffwrdd o r gwaith ar gyfer apwyntiadau 12 herio eich diswyddiad os ydych yn cael eich diswyddo neu eich gwneud yn ddi-waith oherwydd eich iechyd, hyd yn oed os ydych yn gweithio rhan amser. 90

12 Help ariannol, budd-daliadau a chyflogaeth Diogelu rhag gwahaniaethu Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwarchod unrhyw un sy n dioddef, neu wedi dioddef, o ganser. Mae hyn yn golygu na all eu cyflogwr wahaniaethu yn eu herbyn mewn unrhyw fodd oherwydd eu salwch neu ganser blaenorol. Mae pobl yng Ngogledd Iwerddon wedi eu diogelu gan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995. Mae mwy o wybodaeth ar gael am eich hawliau yn y gwaith gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yr Equality Commission for Northern Ireland, Cyngor Cyfreithiol Cymunedol a ch canolfan Cyngor Ar Bopeth lleol (gweler tudalennau 109-115). Mae ein llyfrynnau Work and cancer a Self-employment and cancer yn rhoi mwy o wybodaeth am hawliau cyflogaeth, hawliau anabledd a materion ariannol ar gyfer pobl â chanser. 12 91

Y canllaw canser Termau meddygol Wrth gael triniaeth ar gyfer canser, byddwch yn dod ar draws llawer o eiriau newydd ac efallai n ansicr ynglyn â beth mae rhai ohonynt yn ei olygu. Cofiwch, gallwch bob amser ffonio Llinell Gymorth Macmillan am ddim ar 0808 808 00 00 os nad ydych yn siwr am rai o r geiriau mae eich meddyg neu nyrs wedi ei ddefnyddio. Abdomen ydy r rhan o ch corff sy n cynnwys eich stumog, eich coluddyn, a rhannau eraill o r system dreulio. Fe i gelwir hefyd yn fol. Therapi Cynorthwyol yw triniaeth bellach ar ôl eich prif driniaeth canser. Er enghraifft, efallai cewch lawdriniaeth (y brif driniaeth) i dynnu eich canser ac yna chemotherapi (therapi cynorthwyol) i ostwng y risg o r canser rhag dod yn ôl. Gweler therapi neo-gynorthwyol. Alopesia, golyga hyn golli eich gwallt, a gall gynnwys y gwallt ar eich pen, eich aeliau, blew amrannau a blew arall ar y corff. Gall colli gwallt fod yn sgìl effaith o rai triniaethau canser, fel chemotherapi. Anaemia, golyga hyn bod gennych nifer isel o gelloedd gwaed coch yn eich gwaed. Mae celloedd gwaed coch yn cario ocsigen, ac os nad oes gennych ddigon, efallai byddwch yn teimlo wedi blino ac yn fyr o wynt. Gweler cyfrif gwaed. Anfalaen yw pan nad yw n ganseraidd. Fel arfer mae tiwmorau anfalaen yn tyfu n araf ac nid ydynt yn lledu. 13 92

13 Rhagor o wybodaeth termau meddygol Triniaethau/therapïau biolegol, dyma grwp o gyffuriau sy n trin celloedd canser ond ychydig o ddifrod a wnânt i gelloedd normal. Maent yn targedu rhannau penodol o r gell canser ac o r herwydd weithiau fe u gelwir yn therapïau targedol. Biopsi Dyma pryd mae eich meddyg yn cymryd sampl fechan o feinwe o ch corff i w archwilio o dan ficrosgop er mwyn gweld a yw r celloedd yn ganseraidd ai peidio. Cyfrif gwaed, dyma brawf gwaed rheolaidd i fesur y nifer o blatennau, a r celloedd gwyn a choch yn eich gwaed. Fe i gelwir hefyd yn gyfrif gwaed llawn (FBC). Mêr yr esgyrn yw r deunydd sbwng sydd tu mewn i r esgyrn. Dyma ble mae celloedd gwaed yn datblygu. Sugniad mêr yr esgyrn yw prawf sy n defnyddio nodwydd denau i dynnu swm bychan o fêr yr esgyrn. Broncosgopi yw math o brawf endosgopi sy n edrych ar du mewn eich ysgyfaint. Gweler endosgôp. Carsinogen, dyma sylwedd a all achosi canser, fel ymbelydredd neu r cemegau mewn sigaréts. Carsinoma yw r enw a roddir i ganserau sy n dechrau tyfu yn yr epitheliwm, sef gorchudd (neu leinin) yr organau ac o r corff. Mae r rhan fwyaf o ganserau yn garsinomas. Carsinoma in situ yw celloedd canser sydd mewn camau cynnar iawn o ddatblygiad nad ydynt wedi lledaenu tu hwnt i r man ble dechreuont dyfu gyntaf. 93 13

Y canllaw canser Llinell ganolog yw tiwb hir gwag a wneir o rwber silicon a roddir i mewn i un o r gwythiennau yn eich brest. Gellir ei ddefnyddio i roi triniaethau fel chemotherapi, gwrthfiotigau a hylifau mewnwythiennol i chi. Gellir ei ddefnyddio hefyd i gymryd samplau o ch gwaed i w profi. Chemotherapi yw defnyddio cyffuriau gwrth ganser (cytotocsig) i ddinistrio celloedd canser, yn cynnwys lewcemia a lymffoma. Colostomi yw agoriad yn y coluddyn mawr (colon) ar groen yr abdomen a wneir ar ôl rhai mathau o lawdriniaeth am ganser y coluddyn. Gwisgir bag dros yr agoriad (stoma) i gasglu carthion. Cytotocsig, ystyr hyn yw gwenwynig i gelloedd. Gweler chemotherapi. Diagnosis yw pryd y darganfyddir y math o afiechyd sydd gennych. Dolur rhydd, dyma garthion o r coluddyn sy n digwydd yn aml ac yn ddyfrllyd. Gall weithiau fod yn symptom o ganser neu n sgìl effaith rhai o driniaethau canser. Dietegydd yw gweithiwr iechyd proffesiynol sy n arbenigwr ar faeth a diet. Gallant roi cyngor ar sut i fwyta n dda, yn ogystal ag helpu pobl sydd â phroblemau bwyta penodol. Diferydd, dyma ffordd o roi hylif neu gyffuriau, fel chemotherapi, i wythïen. Fe i gelwir hefyd yn drwyth mewnwythiennol. Endosgop, dyma diwb tenau, hyblyg gyda golau a chamera tu fewn iddo. Fe i defnyddir i edrych tu mewn i ch corff fel y galla'r meddyg weld unrhyw broblemau sydd gennych. Pan gaiff y prawf hwn ei wneud, fe i gelwir yn endosgopi. 13 94

13 Rhagor o wybodaeth termau meddygol Gorflinder yw pan fyddwch yn teimlo wedi blino n ormodol neu wedi ymlâdd rhan fwyaf o r amser. Gall canser a rhai o i driniaethau achosi gorflinder. Sugniad nodwydd denau Prawf sy n defnyddio nodwydd denau i gymryd sampl bach o gelloedd o ch corff i w archwilio. Haematolegydd, dyma feddyg sy n arbenigo mewn clefydau gwaed. Histoleg, term am astudio celloedd. Mae meddygon yn edrych ar gelloedd o dan ficrosgop er mwyn gweld os ydynt yn normal ai peidio. Fe i gelwir weithiau yn histopatholeg. Therapïau hormonaidd, mae'r rhain yn addasu cynhyrchiant neu weithgarwch hormonau penodol yn eich corff. Hormonau, dyma sylweddau sy n digwydd yn naturiol yn y corff. Maen nhw n gweithredu fel negeswyr cemegol sy n dylanwadu ar dwf a gweithgarwch celloedd, a chânt eu cynhyrchu gan nifer o wahanol organau neu chwarennau y i gelwir gyda i gilydd yn system endocrin. Ileostomi yw agoriad yn y coluddyn bach (ilewm) ar groen yr abdomen a wneir ar ôl rhai mathau o lawdriniaeth am ganser y coluddyn. Gwisgir bag dros yr agoriad (stoma) i gasglu carthion. System Imiwnedd yw system amddiffyn naturiol eich corff. Mae n helpu gwarchod yn erbyn haint ac afiechyd. Gweler system lymffatig. Anymataliaeth yw pryd rydych yn cael trafferth rheoli eich pledren (sy n dal troeth) a/neu eich coluddyn (sy n dal ysgarthion). 95 13

Y canllaw canser Anwelladwy, dyma pan na fydd yn bosibl gwella r canser yn llwyr mwyach, ond yn aml gellir ei reoli neu ei wella dros dro am nifer o fisoedd neu flynyddoedd. Gweler gwella dros dro. Anllawdriniadwy yw pan na ellir tynnu r canser trwy lawdriniaeth. Fe allai olygu bod y canser wedi lledaenu i ran o r corff lle na ellir gwneud llawdriniaeth neu byddai ei dynnu yn rhy beryglus. Brechiad mewngyhyrol yw brechiad i gyhyr. Mewnwythiennol (IV) yw pryd rhoddir cyffur neu hylif i un o ch gwythiennau. Sgan isotop yw pryd y cewch frechiad o hylif ychydig yn ymbelydrol (isotop) cyn sgan. Mae r isotop yn helpu dangos rhannau o ch corff yn gliriach yn ystod y sgan. Therapi lleol yw triniaeth, er enghraifft radiotherapi a llawdriniaeth, sydd ond yn effeithio ar ran benodol o ch corff. Lwmpectomi yw llawdriniaeth i dynnu lwmp. Lymff yw hylif sy n llifo o gwmpas eich system lymffatig. System lymffatig, dyma ran o r system imiwnedd amddiffyniad naturiol y corff yn erbyn haint ac afiechyd. Mae n system sy n cynnwys organau fel mêr yr esgyrn, y thymws, y ddueg, a r nodau lymff. Trwy'r corff, mae'r nodau lymff wedi eu cysylltu gan rwydwaith o diwbiau lymffatig bach (dwythellau). Mae dwy brif rôl i'r system lymffatig: mae n helpu gwarchod y corff rhag haint ac mae n draenio hylif o r meinweoedd. 13 96

13 Rhagor o wybodaeth termau meddygol Lymffoedema yw chwydd a achosir gan lymff yn cronni. Gall hyn ddigwydd os yw canser yn blocio draenio hylif trwy r system lymffatig. Gall hefyd ddigwydd pan fo rhan o r system ddraenio lymffatig wedi cael ei thynnu trwy lawdriniaeth neu wedi ei difrodi gan driniaethau canser fel radiotherapi. Lymffoma yw'r enw a roddir i ganserau sy n digwydd yn y system lymffatig. Mae nodau lymff (chwarennau lymff) yn rhan o r system lymffatig. Maent yn siâp ffeuen, yn ymladd haint ac yn draenio hylif gwastraff, cynnyrch gwastraff a chelloedd difrodus. Malaen. Mae hyn yn golygu canseraidd. Gall tiwmorau malaen ledaenu i wahanol rannau o r corff. Mamogram yw pelydr X o r fron. Gall helpu i weld canserau sy n rhy fach i w gweld neu eu teimlo. Masectomi yw llawdriniaeth i dynnu r fron. Metastasis yw pan mae r canser wedi lledu o un rhan eich corff i un arall. Gelwir canser sydd wedi lledaenu weithiau yn afiechyd metastatig. MRI (delweddu cyseiniant magnetig) yw sgan sy n defnyddio magneteg i greu darlun manwl o rannau o ch corff. Tîm amlddisgyblaeth (MDT) yw r enw a roddir i r tîm o bobl a fydd yn gofalu amdanoch. Bydd yr MDT yn cynnwys meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Cyfog yw r teimlad o fod yn sâl. 97 13

Y canllaw canser Canlyniad negyddol yw pan na ellir dod o hyd i rywbeth. Er enghraifft, mae biopsi nod lymff negyddol yn golygu na ddaethpwyd o hyd i gelloedd canser yn y nodau lymff. Therapi neo-gynorthwyol yw triniaeth a roddir cyn y brif driniaeth, er enghraifft rhoi chemotherapi cyn llawdriniaeth, i leihau r tiwmor a gwneud y llawdriniaeth yn haws neu n fwy effeithiol. Therapydd galwedigaethol yw gweithiwr iechyd proffesiynol a all roi cyngor ymarferol i ch helpu i fyw gartref, ac edrych ar ôl eich hun. Gallant hefyd argymell cymhorthion ac offer i r cartref os ydych eu hangen. Oedema yw croniant o hylif yng nghelloedd, meinweoedd neu geudodau r corff. Mae n achosi chwydd yn y rhan o ch corff lle mae r hylif yn casglu. Oncoleg yw r astudiaeth ac ymarfer o drin canser. Geneuol yw pan fyddwch yn cymryd rhywbeth, fel tabled, trwy r geg. Orcidectomi yw llawdriniaeth i dynnu un o r ceilliau. Pan dynnir y ddwy gaill, gelwir hyn yn orcidectomi dwyochrog. Claf allanol yw pan fyddwch yn mynychu ysbyty ar gyfer apwyntiad a gadael ar yr un diwrnod. Nid yw cleifion allanol yn aros yn yr ysbyty dros nos. Gofal lliniarol yw triniaeth a roddir i wella ansawdd bywyd, ond nid i iachau canser. Mae triniaeth liniarol yn ceisio cwrdd ag anghenion corfforol, ysbrydol, seicolegol a chymdeithasol rhywun â chanser. 13 98

13 Rhagor o wybodaeth termau meddygol Patholeg yw r astudiaeth a diagnosis o afiechyd. Sgan PET (tomograffeg gollwng positronau) yw prawf yn defnyddio dos isel o glwcos (math o siwgr) ymbelydrol i fesur gweithgarwch celloedd mewn gwahanol rannau o r corff. Gellir eu defnyddio i ddiffinio canser yn gywir a darganfod os yw wedi lledaenu i rannau eraill o r corff. Ffisiotherapydd yw gweithiwr iechyd proffesiynol sy n eich helpu i gadw i symud, ac yn rhydd rhag poen, trwy eich dysgu sut i ymarfer yn ystod ac ar ôl eich triniaeth. Platen yw math o gell sydd yn y gwaed. Maent yn helpu eich gwaed i geulo os oes gennych friw, neu os ydych yn cleisio mewn rhyw ffordd. Gall chemotherapi ostwng y nifer o blatennau yn eich gwaed dros dro, gan eich gwneud yn fwy tueddol i waedu a chleisio. Canlyniad positif yw r hyn a geir pan ddaethpwyd o hyd i rywbeth. Er enghraifft, mae biopsi nod lymff positif yn golygu y daethpwyd o hyd i gelloedd canser yn y nodau lymff. Cyn-feddyginiaeth flaenorol yw meddyginiaeth a ellir ei roi i chi cyn prawf neu driniaeth. Er enghraifft, cyn i chi ddechrau chemotherapi, efallai cewch ychydig o gyn-feddyginiaeth i helpu atal unrhyw salwch (cyfog). Canser sylfaenol yw canser sy n cychwyn mewn un rhan o r corff (safle). Mae r rhan fwyaf o ganserau, heblaw lewcemia a lymffoma, yn ganserau sylfaenol. Gweler canser eilaidd. Prognosis yw canlyniad tebygol eich afiechyd. Mae r prognosis yn dweud wrthych beth sy n debygol o ddigwydd nesaf, a pha mor hir y gallech fyw. 99 13

Y canllaw canser Cynnydd (neu cynyddwyd) yw r term a ddefnyddir pan fydd eich canser yn dal i dyfu, neu wedi parhau i ledaenu. Prosthesis yw darn wedi ei wneud yn arbennig yn lle r darn o ch corff a gafodd ei dynnu. Er enghraifft, coes neu fron artiffisial. Pwmp yw rhywbeth y gellid ei ddefnyddio i ddarparu chemotherapi neu hylifau mewnwythiennol. Mae r pwmp yn gwneud yn siwr bod y symiau cywir yn cael eu rhoi dros yr hyd amser a ragnodwyd. Mae rhai pympiau yn fach a symudol a gellir mynd â nhw adref fel nad oes raid i chi aros yn yr ysbyty. Radioleg yw defnyddio delweddu (pelydrau x a sganiau) i helpu cael diagnosis o ganser. Radiotherapi, mae'n trin canser trwy ddefnyddio pelydrau-x ynni uchel i ddinistrio celloedd canser, wrth wneud cyn lleied o niwed â phosibl i gelloedd arferol. Gall helpu lleihau a rheoli r canser a lliniaru r symptomau. Dychweliad yw pan mae r canser yn dod yn ôl. Gallai hyn un ai fod ym man y canser sylfaenol gwreiddiol (dychweliad lleol), neu o ganlyniad i ledaeniad eilaidd o r canser i rannau eraill o r corff (dychweliad pell). Gwellhad dros dro, dyma pan fydd triniaeth yn rheoli r canser, neu wedi gwneud iddo ddiflannu dros dro, ond efallai na fydd wedi ei wella. Canserau eilaidd yw canserau sydd wedi lledaenu o r canser sylfaenol, a bellach yn tyfu mewn rhan arall o r corff. Gweler metastasis. 13 100

13 Rhagor o wybodaeth termau meddygol Therapydd iaith a lleferydd yw gweithiwr iechyd proffesiynol a all eich helpu gydag unrhyw broblemau lleferydd sydd gennych, neu os ydych yn ei chael hi n anodd cnoi a llyncu. Camau yw r broses lle mae meddygon yn defnyddio profion ac ymchwiliadau i ganfod maint a lleoliad canser ac i weld i le os mae wedi dechrau lledaenu. Gall gwybod cam canser helpu meddygon i benderfynu ar y driniaeth orau. Stoma yw agoriad artiffisial a wneir yn eich croen. Brechiad isgroenol yw brechiad a roddir o dan y croen. Gyrrwr chwistrell yw pwmp bach sy n darparu cyffuriau yn raddol un ai i ch llif gwaed neu i r meinwe o dan y croen (isgroenol). Therapi systemig yw triniaeth, fel cemotherapi, sy n trin y corff cyfan. Terfynol yw pan na ellir rhoi unrhyw driniaeth bellach i reoli r canser a bod diwedd bywyd yn agos. Therapi yw gair arall am driniaeth. Thorasig yw rhywbeth ymwneud â ch brest. Meinwe yw r modd mae eich celloedd wedi eu gosod nesaf i w gilydd i ffurfio rhan o ch corff. Er enghraifft, mae celloedd brest yn gorwedd nesaf i w gilydd i wneud meinwe r frest. 101 13

Y canllaw canser Traceostomi yw agoriad o r beipen wynt (tracea) ar groen y gwddf a wneir ar ôl rhai mathau o lawdriniaeth am ganser o r laryncs. Mae r agoriad (stoma) yn caniatáu i chi anadlu. Cylch triniaeth yw sesiwn driniaeth a chyfnod o orffwys. Rhoddir rhai triniaethau canser, fel chemotherapi, mewn cylchoedd. Mae cylch yn cynnwys yr amser pan gewch y cemotherapi gyda r cyfnod gorffwys i ddilyn cyn i chi ddechrau ar y chemotherapi eto. Mae cwrs triniaeth yn cynnwys nifer o gylchoedd. Tiwmor yw grwp o gelloedd sy n tyfu mewn ffordd annormal. Gall tiwmorau fod wedi eu gwneud o gelloedd anfalaen (di-ganseraidd) neu falaen (canseraidd). Gwneuthurwyr tiwmor yw proteinau a gynhyrchir gan rai mathau o ganser. Gellir eu canfod yn y gwaed a gallant helpu meddygon i gael diagnosis o ganser, ac i weld pa mor dda mae triniaethau yn gweithio. Sgan uwchsain yw ffordd o ddefnyddio tonnau uwchsain i greu llun o du mewn eich corff. Wrostomi yw agoriad yn y system wrinol (pledren a r arennau) ar groen yr abdomen a wneir ar ôl rhai mathau o lawdriniaeth. Gwisgir bag dros yr agoriad (stoma) i gasglu r troeth. 13 102

13 Rhagor o wybodaeth sut gallwn ni eich helpu Sut gallwn ni eich helpu Canser yw r frwydr anoddaf y bydd y rhan fwyaf ohonom fyth yn ei hwynebu. Ond does dim rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun. Mae tîm Macmillan gyda chi bob cam o r ffordd. Cysylltwch Cymorth Canser Macmillan 89 Albert Embankment, Llundain SE1 7UQ Cwestiynau am ganser? Galwch am ddim ar 0808 808 00 00 (Llun-Gwe, 9am 8pm) www.macmillan.org.uk Trwm eich clyw? Defnyddiwch ffôn testun 0808 808 0121 neu Text Relay. Ddim yn siarad Saesneg? Mae cyfieithwyr ar gael. Gwybodaeth glir a dibynadwy ynglwn â chanser Gallwn helpu dros y ffôn, e-bost, trwy'n gwefan a chyhoeddiadau, neu yn bersonol. Ac mae ein gwybodaeth am ddim i bawb sydd wedi eu heffeithio gan ganser. Llinell Gymorth Macmillan Mae ein gwasanaeth ffôn am ddim, cyfrinachol ar agor Llun- Gwener, 9am 8pm. Mae ein harbenigwyr cymorth canser yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth glinigol, ariannol, emosiynol ac ymarferol i unrhyw un sydd wedi ei effeithio gan ganser. Ffoniwch ni ar 0808 808 00 00 neu anfon e-bost trwy n gwefan, macmillan.org.uk/ talktous Canolfannau gwybodaeth Mae ein canolfannau gwybodaeth a chymorth wedi eu lleoli mewn ysbytai, llyfrgelloedd a chanolfannau symudol, ac yn cynnig cyfle i chi siarad â rhywun wyneb yn wyneb. Chwiliwch am yr un agosaf atoch chi yn macmillan.org.uk/ informationcentres. 103 13

Y canllaw canser Cyhoeddiadau Rydym yn darparu gwybodaeth arbenigol, gyfredol am wahanol fathau o ganser, profion a thriniaethau, a gwybodaeth ynglyn â byw gyda chanser. Gallwn anfon gwybodaeth am ddim atoch ar sawl ffurf, yn cynnwys llyfrynnau, taflenni, dalenni ffeithiau a CDs sain. Gallwn hefyd ddarparu ein gwybodaeth mewn Braille a phrint bras. Mae ein gwybodaeth i gyd, ynghyd â nifer o fideos, ar gael ar-lein yn macmillan.org.uk/ cancerinformation Adolygu ein gwybodaeth Helpwch ni i wneud ein hadnoddau hyd yn oed yn well i bobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser. Mae bod yn un o n hadolygwyr yn rhoi cyfle i chi roi sylwadau ar amrywiaeth o wybodaeth yn cynnwys llyfrynnau, dalenni ffeithiau, taflenni, fideos, darluniau a thestun gwefan. Os hoffech gael gwybod mwy am fod yn adolygwr, anfonwch e-bost at reviewing@ macmillan.org.uk Angen cymorth tu allan i oriau gwaith? Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ar ein gwefan, macmillan.org.uk I gael sylw meddygol tu allan i oriau gwaith, cysylltwch â'ch meddyg teulu am eu gwasanaeth 'tu allan i oriau gwaith'. Siarad â rhywun Os oes gennych chi neu rywun rydych yn ei adnabod ganser, gall fod yn anodd siarad am sut rydych yn teimlo. Gallwch ffonio ein harbenigwyr cymorth canser i siarad am sut rydych yn teimlo a beth sy'n eich poeni. Gallwn hefyd eich helpu i ganfod cymorth yn eich ardal leol, fel eich bod yn gallu siarad wyneb yn wyneb â phobl sy n deall eich sefyllfa. 13 104

13 Rhagor o wybodaeth sut gallwn ni eich helpu Help proffesiynol Mae ein nyrsys Macmillan, meddygon a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol eraill yn cynnig triniaeth a gofal arbenigol. Maent yn helpu unigolion a theuluoedd i ddelio â chanser o r diagnosis ymlaen, nes byddant yn penderfynu nad oes angen yr help hwn arnynt mwyach. Gallwch ofyn i ch meddyg teulu, ymgynghorydd ysbyty, nyrs ardal neu brif nyrs ward ysbyty os oes yna unrhyw weithwyr Macmillan Proffesiynol yn eich ardal, neu ffoniwch ni. Cymorth i'n gilydd Does neb yn gwybod mwy am yr effaith mae canser yn ei gael ar fywyd rhywun na rhywun sydd wedi ei brofi ei hunan. Dyna pam ein bod yn helpu i ddod â phobl â chanser a gofalwyr at ei gilydd yn eu cymunedau ac ar-lein. Grwpiau cymorth Gallwch ddod o hyd i grwpiau cymorth yn eich ardal trwy n ffonio neu ymweld â macmillan. org.uk/selfhelpandsupport. Cymuned ar-lein Gallwch hefyd rannu eich profiadau, holi cwestiynau, cael cymorth a rhoi cymorth i eraill trwy fynd i n cymuned ar-lein macmillan.org.uk/community. 105 13

Y canllaw canser Cymorth ariannol ac yn ymwneud â'r gwaith Gall cael canser ddod â chostau ychwanegol fel parcio yn yr ysbyty, costau teithio a biliau gwresogi uwch. Efallai bydd rhaid i rai pobl roi r gorau i weithio. Os effeithiwyd arnoch chi fel hyn, gallwn helpu. Ffoniwch Linell Gefnogaeth Macmillan a bydd un o n harbenigwyr cymorth canser yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y budddaliadau a chymorth ariannol arall y bydd gennych hawl i w dderbyn. Gallwn hefyd roi gwybodaeth i chi am eich hawliau yn y gwaith fel gweithiwr, a ch helpu i ganfod cymorth pellach. Ceir rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth ariannol a chysylltiedig â r gwaith sydd ar gael gennym yn macmillan.org. uk/financialsupport Dysgu am ganser Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddysgu mwy am ganser a sut i reoli ei effaith ar eich bywyd. Gallwch wneud hyn ar-lein ar ein Learn Zone macmillan. org.uk/learnzone sy n cynnig amrywiaeth o gyrsiau e-ddysgu a gweithdai. Mae yna hefyd adran benodol ar gefnogi pobl gyda chanser delfrydol i bobl sydd eisiau dysgu mwy am beth mae eu perthynas neu gyfaill yn wynebu. Grantiau Macmillan Problemau ariannol yw r peth olaf rydych angen pan fyddwch yn dioddef o ganser. Mae Grant Macmillan yn daliad untro i bobl gyda chanser, i dalu am amrywiaeth o anghenion ymarferol yn cynnwys biliau gwresogi, dillad ychwanegol, neu egwyl haeddiannol. 13 106

13 Rhagor o wybodaeth sefydliadau defnyddiol eraill Sefydliadau defnyddiol eraill Mudiadau cymorth canser cyffredinol Cancer Black Care 79 Acton Lane, Llundain NW10 8UT Ffôn 020 8961 4151 E-bost info@cancerblackcare.org.uk www.cancerblackcare. org.uk Yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i bobl gyda chanser o gymunedau ethnig, eu ffrindiau, gofalwyr a theuluoedd. Cancer Focus Northern Ireland 40 44 Eglantine Avenue, Belfast BT9 6DX Ffôn 0800 783 3339 (Llun Gwe, 9am 1pm) E-bost Llinell Gymorth@cancerfocusni.org www.cancerfocusni.org Yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau canser i bobl wedi eu heffeithio gan ganser, yn cynnwys llinell gymorth am ddim, cynghori a chysylltiadau i grwpiau cefnogaeth lleol. Cancer Support Scotland Shelley Court, Gartnavel Complex, Glasgow G12 0YN Ffôn 0141 211 0122 E-bost info@ cancersupportscotland.org www.cancersupport scotland.org Yn gynnig gwybodaeth a chefnogaeth i bobl mae canser wedi effeithio arnynt. Mae hefyd yn rhedeg grwpiau cefnogaeth, ac yn darparu cynghori a therapïau cyflenwol. Maggie s Centres 1 st Floor, One Waterloo Street, Glasgow G2 6AY Ffôn 030 123 1801 E-bost enquiries@maggiescentres.org www.maggiescentres.org Mae Maggie s Centres yn darparu gwybodaeth am ganser, cyngor budd-daliadau, a chefnogaeth emosiynol neu. 107 13

Y canllaw canser Gofal Canser Marie Curie 89 Albert Embankment, Llundain SE1 7TP Ffôn 0800 716 146 (Llun Gwe, 9am 5.30pm) E-bost supporter.services@ mariecurie.org.uk www.mariecurie.org.uk Mae Marie Curie yn cynnig gofal am ddim ar ddiwedd bywyd i bobl yn eu cartrefi eu hunain, neu mewn hosbisau Marie Curie, 24 awr y dydd, 365 diwrnod o'r flwyddyn. Penny Brohn Cancer Care Chapel Pill Lane, Pill, Bryste BS20 0HH Ffôn 0845 123 2310 (Llun Gwe, 9.30am 5pm) E-bost Llinell Gymorth@pennybrohn.org www.pennybrohn cancercare.org Yn cynnig cyfuniad o gefnogaeth gorfforol, emosiynol ac ysbrydol, gan ddefnyddio therapïau cyflenwol a thechnegau hunangymorth. Tenovus Prif Swyddfa, Ty Gleider, Ffordd Ty Glas, Caerdydd CF14 5BD Ffôn 0808 808 1010 www.tenovus.org.uk Maent yn darparu ystod o wasanaethau i ddioddefwyr canser a'u teuluoedd, yn cynnwys cynghori a llinell gymorth rhadffôn. Offer a chyngor ar fyw gydag anabledd Assist UK Redbank House, 4 St Chad s Street, Manceinion M8 8QA Ffôn 0161 832 9757 E-bost general.info@assist-uk.org www.assist-uk.org Rhwydwaith ledled y Deyrnas Unedig o Ganolfannau Byw i r Anabl. Gall staff roi cyngor ar y cynnyrch a gynlluniwyd i wneud bywyd yn haws i bobl sydd ag anhawster gyda u gweithgareddau dyddiol. Disability Rights UK 12 City Forum, 250 City Road Llundain EC1V 8AF Ffôn 020 7250 3222 E-bost enquiries@ disabilityrightsuk.org www.disabilityrightsuk.org 13 108

13 Rhagor o wybodaeth sefydliadau defnyddiol eraill Mae n darparu gwybodaeth ar fudd-daliadau nawdd cymdeithasol a hawliau anabledd. Disabled Living Foundation (DLF) 380 384 Harrow Road, Llundain W9 2HU Ffôn 0845 130 9177 (Llun Gwe, 10am 4pm) E-bost helpline@dlf.org.uk www.dlf.org.uk Yn darparu cyngor am ddim, diduedd ynglyn â phob math o offer anabledd a chynnyrch mudoledd. Gwybodaeth a chyngor cyfreithiol neu ariannol Llinell Ymholiadau Budddaliadau (Cymru, Lloegr, Yr Alban) Warbreck House, Warbreck Hill Road, Blackpool FY2 0YE Ffôn 0800 882 200 (Llun Gwe, 8.30am 6.30pm) E-bost BEL-Customer-Services@ dwp.gsi.gov.uk www.direct.gov.uk/ disability-money Yn darparu cyngor a gwybodaeth i bobl anabl a gofalwyr ar yr ystod o fudd-daliadau sydd ar gael. NI Direct (Gogledd Iwerddon) Ffôn 0800 220 674 www.nidirect.gov.uk/ money-tax-and-benefits Cyngor ar Bopeth Yn darparu cyngor ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys rhai ariannol, cyfreithiol, tai a chyflogaeth. Cewch fanylion eich swyddfa leol yn y llyfr ffôn neu ar un o r gwefannau canlynol: Cymru a Lloegr www.citizensadvice.org.uk Yr Alban www.cas.org.uk Gogledd Iwerddon www.citizensadvice.co.uk Gallwch hefyd ddod o hyd i gyngor ar-lein mewn amrywiaeth o ieithoedd yn adviceguide.org.uk 109 13

Y canllaw canser Community Legal Advice Ffôn 0845 345 43 45 www.community legaladvice.org.uk Mae ganddynt restr o ganolfannau cyngor cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr a chyfreithwyr sy n cymryd achosion cymorth cyfreithiol. Institute of Financial Planning Whitefriars, Lewins Mead, Bryste BS1 2NT Ffôn 0117 945 2470 E-bost enquiries@ financialplanning.org.uk www.financialplanning.org. uk/consumers Grwp dielw sy n awdurdodi cynllunwyr ariannol ac yn cadw golwg ar eu gweithgareddau proffesiynol. Gallant helpu dod o hyd i gynllunydd ariannol yn eich ardal. Local Government Ombudsman PO Box 4771, Coventry CV4 0EH Ffôn 0845 602 1983 (Llun Gwe 8.30am 5pm, ar gau 9.30 10.30am, Maw Gwe) www.lgo.org.uk Yn ymchwilio i gwynion am awdurdodau lleol a chyrff penodol eraill yn Lloegr, yn cynnwys pob math o ddarparwyr gofal cymdeithasol i oedolion. Mae r gwasanaeth yn annibynnol, diduedd ac am ddim. Gallwch hefyd anfon neges destun call back at 0762 480 3014. Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol Holborn Centre, 120 Holborn, Llundain EC1N 2TD Ffôn 0300 500 5000 E-bost enquiries@ moneyadviceservice.org.uk www.moneyadvice service.org.uk Mae'n rhedeg gwasanaeth gwirio iechyd ariannol am ddim ac yn rhoi cyngor am bob math o faterion ariannol. 13 110

13 Rhagor o wybodaeth sefydliadau defnyddiol eraill Money Advice Scotland Ffôn 0141 572 0237 www.moneyadvice scotland.org.uk Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed CF35 5LJ Ffôn 0845 601 0987 www.ombudsman-wales. org.uk Scottish Public Services Ombudsman Freepost EH641, Caeredin EH3 0BR Ffôn 0800 377 7330 (Llun Gwe, 9am 5pm a Maw, 10am 5pm) www.spso.org.uk Northern Ireland Ombudsman Ffôn 0800 34 34 24 E-bost ombudsman@ ni-ombudsman.org.uk www.ni-ombudsman. org.uk Personal Finance Society gwasanaeth Canfod Cynghorydd 42 48 High Road, South Woodford, Llundain E18 2JP Ffôn 020 8530 0852 www.findanadviser.org Defnyddiwch y wefan i ganfod cynghorwyr ariannol cymwys yn eich ardal. Unbiased.co.uk 1 Sekforde Street, Llundain EC1R 0BE E-bost contact@unbiased.co.uk www.unbiased.co.uk Chwiliwch ar-lein am gynghorwyr cymwys sy n arbenigo mewn rhoi cyngor ariannol, morgais, cyfrifo neu gyfreithiol. Cefnogaeth i ofalwyr Crossroads Caring for Carers (Gogledd Iwerddon) 7 Regent Street, Newtownards, Gogledd Iwerddon BT23 4AB Ffôn 028 9181 4455 E-bost mail@crossroadscare.co.uk www.crossroadscare.co.uk 111 13

Y canllaw canser Carers Direct PO Box 4338, Manceinion M61 0BY Llinell Gymorth 0808 802 0202 (Llun Gwe, 9am 8pm, Sad Sul, 11am 4pm) www.nhs.uk/carersdirect Carers Trust (Princess Royal Trust for Carers yn yr Alban) 32 36 Loman Street, Llundain SE1 0EH Ffôn 0844 800 4361 E-bost info@carers.org www.carers.org www.youngcarers.net Yn darparu cefnogaeth, gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau i bawb sy n gofalu adref am aelod o r teulu neu ffrind. Gallwch ddod o hyd i fanylion swyddfeydd y Deyrnas Unedig ar y wefan. Carers UK 20 Great Dover Street, Llundain SE1 4LX Ffôn (Cymru, yr Alban, Lloegr) 0808 808 7777 Ffôn (Gogledd Iwerddon) 028 9043 9843 (Mer Iau, 10am 12pm a 2 4pm) E-bost adviceline@carersuk.org www.carersuk.org Cynnig gwybodaeth a chymorth i ofalwyr ledled y Deyrnas Unedig. Gall roi pobl mewn cysylltiad â grwpiau cymorth ar gyfer gofalwyr yn eu hardal. Carers Scotland The Cottage, 21 Pearce Street, Glasgow G51 3UT Ffôn 0141 445 3070 E-bost info@ carerscotland.org www.carersuk.org/scotland Cynhalwyr Cymru River House, Ynsbridge Court, Gwaelod-y-Garth, Caerdydd CF15 9SS Ffôn 029 2081 1370 E-bost info@carerswales.org www.carersuk.org/wales Carers Northern Ireland 58 Howard Street, Belfast BT1 6PJ Ffôn 028 9043 9843 E-bost info@carersni.org www.carersuk.org/ northernireland 13 112

13 Rhagor o wybodaeth sefydliadau defnyddiol eraill Young Carers Initiative (rhan o Gymdeithas y Plant) The Children's Society, Edward Rudolf House, Margery Street, Llundain WC1X 0JL Ffôn 0300 303 7000 E-bost supportercare@ childrenssociety.org.uk www.youngcarer.com Yn hyrwyddo arfer da i ofalwyr ifanc a u teuluoedd. O r wefan gallwch chwilio am brosiectau gofalwyr ifanc lleol yn y Deyrnas Unedig, a hefyd cael gwybodaeth at gyfer gofalwyr ifanc. Young Carers Net (YCNet) Head Office Carers Trust, 32 36 Loman Street, Llundain SE1 0EH Ffôn 0844 800 4361 E-bost youngcarers@carers.org www.youngcarers.net Mae r Young Carers Net (sy n rhan o'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr) yn darparu cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc 18 oed ac iau yn y Deyrnas Unedig sy n helpu gofalu am rywun yn eu teulu sydd â salwch, anabledd, dibyniaeth i gyffuriau neu alcohol neu gyflwr iechyd meddwl. Cymorth i bobl hyn Age UK Tavis House, 1 6 Tavistock Square, Llundain WC1H 9NA Ffôn(Cymru a Lloegr) 0800 169 6565 Ffôn (Yr Alban) 0845 125 9732 Ffôn (Gogledd Iwerddon) 0808 808 7575 (Dyddiol, 8am 7pm) www.ageuk.org.uk Yn darparu gwybodaeth a chyngor i bobl hyn ledled y Deyrnas Unedig trwy r wefan a llinell gynghori. Mae hefyd yn cyhoeddi dalenni ffeithiau a chanllawiau cynghori amhleidiol ac addysgiadol. Age Cymru Ty John Pathy, 13/14 Neptune Court, Vanguard Way, Caerdydd CF24 5PJ Ffôn 0800 169 6565 www.ageuk.org.uk/cymru 113 13

Y canllaw canser Age Northern Ireland 3 Lower Crescent, Belfast BT7 1NR Ffôn 0808 808 7575 www.ageuk.org.uk/ northern-ireland Age Scotland Causewayside House, 160 Causewayside, Caeredin EH9 1PR Ffôn 0845 125 9732 www.ageuk.org.uk/scotland Cefnogaeth i bobl ifanc CLIC Sargent Horatio House, 77 85 Fulham Palace Road, Llundain W6 8JA Ffôn 0300 330 0803 www.clicsargent.org.uk Yn darparu cefnogaeth glinigol, ymarferol, ariannol ac emosiynol i blant sydd â chanser. Teenage Cancer Trust 3 rd Floor, 93 Newman Street, Llundain W1T 3EZ Ffôn 020 7612 0370 www.teenage cancertrust.org Elusen sy n ymroddedig i wella bywydau rhai yn eu harddegau ac oedolion ifanc gyda chanser. Yn rhedeg rhwydwaith gefnogaeth i bobl ifanc gyda chanser, eu ffrindiau a theuluoedd. Sefydliadau cefnogaeth eraill Action on Hearing Loss 19 23 Featherstone Street, Llundain EC1Y 8SL Llinell wybodaeth 0808 808 0123 Ffôn testun 0808 808 9000 E-bost informationline@ hearingloss.org.uk www.actiononhearingloss. org.uk Yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer pobl sy n fyddar neu n drwm eu clyw, ac yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar bob agwedd o fyddardod, colli clyw a tinitws. Mae ganddynt swyddfeydd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 13 114

13 Rhagor o wybodaeth sefydliadau defnyddiol eraill Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Ffôn 0845 604 6610 (Lloegr) 0845 604 8810 (Cymru) 0845 604 5510 (Yr Alban) www.equalityhuman rights.com Yn herio gwahaniaethu, ac yn diogelu a hyrwyddo hawliau dynol. Equality Commission for Northern Ireland Equality House, 7 9 Shaftesbury Square, Belfast BT2 7DP Ffôn 028 90 500 600 Ffôn testun 028 9089 0890 www.equalityni.org Yn hyrwyddo cyfle cyfartal, annog cysylltiadau da ac yn herio gwahaniaethu trwy hybu, cynghori a gorfodi. RNIB (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall) 105 Judd Street, Llundain WC1H 9NE Ffôn 0303 123 9999 E-bost helpline@rnib.org.uk www.rnib.org.uk Yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i bron ddwy filiwn o bobl sydd wedi colli eu golwg. 115 13

Y canllaw canser Adnoddau pellach Gwybodaeth Macmillan Berthnasol Efallai yr hoffech archebu rhai o'r adnoddau a grybwyllwyd yn y llyfryn hwn. Mae'r rhain yn cynnwys: Ask about your cancer treatment Cancer and complementary therapies Caring for someone with advanced cancer Coping with body changes after cancer Getting the best from your cancer services Hello, and how are you? Cymorth gyda chost canser How are you feeling? It all adds up Lost for words Self-employment and cancer Talking about your cancer Understanding allogeneic (donor) stem cell transplants Deall cemotherapi Understanding cancer research trials (clinical trials) Understanding high-dose treatment with stem cell support Deall radiotherapi Work and cancer Working while caring for someone with cancer I archebu, ewch i be.macmillan. org.uk. I archebu'r taflenni ffeithiau a grybwyllwyd yn y llyfryn hwn, ffoniwch 0808 808 00 00. Mae ein gwybodaeth i gyd hefyd ar gael ar-lein ar macmillan. org.uk/cancerinformation Life after cancer treatment 13 116

13 Rhagor o wybodaeth adnoddau pellach Adnoddau sain Mae ein deunyddiau sain o ansawdd uchel, sy n seiliedig ar ein detholiad o lyfrynnau, yn cynnwys gwybodaeth am fathau o ganser, gwahanol driniaethau ac am fyw gyda chanser. I archebu eich CD am ddim, ewch i be.macmillan.org.uk neu ffoniwch 0808 808 00 00. Fideos Macmillan Mae yna nifer o fideos ar wefan Macmillan yn cynnwys straeon go iawn a gwybodaeth gan weithwyr gofal iechyd a chymdeithasol. Gwefannau defnyddiol Mae cryn dipyn o wybodaeth am ganser ar gael ar y rhyngrwyd. Mae rhai gwefannau yn wych tra bod rhai eraill yn gamarweiniol neu'n cynnwys hen wybodaeth. Mae meddygon a nyrsys yn ystyried bod y safleoedd a restrir yma yn cynnwys gwybodaeth gywir ac maent yn cael eu diweddaru'n rheolaidd. Macmillan Cancer Support www.macmillan.org.uk Gellir darganfod mwy am fyw gydag effeithiau ymarferol, emosiynol ac ariannol canser. Mae ein gwefan yn cynnwys gwybodaeth arbenigol, gywir a chyfredol ar ganser a'i driniaethau, yn cynnwys: yr holl wybodaeth o n 100+ o lyfrynnau a 350+ o ddalenni ffeithiau fideos yn cynnwys straeon go iawn gan bobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser a gwybodaeth gan weithwyr meddygol sut y gallwn helpu, y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig a ble i droi am gefnogaeth sut i gysylltu â'n harbenigwyr cymorth canser, yn cynnwys ffurflen e-bost i anfon eich cwestiynau chwilio grwpiau cymorth lleol, dolenni at sefydliadau canser eraill a chyfeiriadur o ddeunydd gwybodaeth 117 13

Y canllaw canser cymuned ar-lein enfawr o bobl sy n cael eu heffeithio gan ganser yn rhannu eu profiadau, cyngor a chymorth. www.cancer.gov (National Cancer Institute National Institute of Health USA) Gwybodaeth gynhwysfawr ar ganser a thriniaethau. www.cancer.org (American Cancer Society) Sefydliad iechyd cymunedol cenedlaethol yn ymroddedig i ddiddymu canser. Mae n ceisio gwneud hyn trwy ymchwil, addysg ac eiriolaeth. www.cancer buddiesnetwork.org (Cancer Buddies Network) Grwp cymorth ar-lein ar gyfer unrhyw un mae canser yn effeithio arnynt. www.healthtalkonline.org www.youthhealthtalk.org (safle i bobl ifanc) Mae r ddwy wefan yn cynnwys gwybodaeth am rai canserau a gyda fideo a chlipiau sain o bobl yn siarad am eu profiadau o ganser a i driniaethau. www.intelihealth.com (gwybodaeth ar gyffuriau a meddyginiaethau) Yn cynnwys newyddion iechyd, gwybodaeth ar glefydau a chyflyrau, offer ac asesiadau risg. Hawdd i w ddefnyddio ac yn rhydd o jargon meddygol. www.macmillan.org.uk/ cancervoices (Lleisiau Canser Macmillan) Rhwydwaith ledled y Deyrnas Unedig sy n galluogi pobl sydd gyda neu wedi cael canser, a r rhai sy n agos atynt fel teulu a gofalwyr, i siarad am eu profiadau o ganser. www.cancerhelp.org.uk (Cancer Research UK) Yn cynnwys gwybodaeth cleifion ar bob math o ganser a chronfa ddata treialon clinigol. 13 118

13 Rhagor o wybodaeth adnoddau pellach www.nhs.uk (NHS Choices) Mae NHS Choices yn 'borth' ar-lein i'r GIG. Dyma wefan iechyd fwyaf y wlad ac mae n rhoi r holl wybodaeth rydych ei hangen i wneud penderfyniadau am eich iechyd. www.nhsdirect.nhs.uk (NHS Direct Online) Safle gwybodaeth iechyd GIG ar gyfer Lloegr ymdrin â holl agweddau iechyd, salwch a thriniaeth. www.nhs24.com (NHS 24 in Scotland) www.patient.co.uk (Patient UK) Gwybodaeth o ansawdd da i bobl yn y Deyrnas Unedig yngly n ag iechyd ac afiechydon. Mae'n cynnwys taflenni gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth ar ystod eang o bynciau meddygol ac iechyd. Mae hefyd yn adolygu a chysylltu i nifer o wefannau iechyd a salwch. www.riprap.org.uk (Riprap) Wedi ei ddatblygu yn arbennig ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau sydd â rhiant yn dioddef o ganser. www.nhsdirect.wales.nhs.uk (Galw Iechyd Cymru) www.n-i.nhs.uk (Health and Social Care in Northern Ireland) Y porth swyddogol i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon. 119 13

Y canllaw canser Eich nodiadau a chwestiynau Gallech ddefnyddio r dudalen hon i nodi unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn i ch meddyg neu nyrs, ac yna i ysgrifennu r atebion a dderbyniwch. 13 120

Ymwrthodiad, diolch a ffynonellau Ymwrthodiad Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir gennym yn gywir ac yn gyfredol, ond ni ddylid dibynnu arno yn lle cael cyngor proffesiynol arbenigol wedi'i deilwra i'ch sefyllfa. Cyn belled ag y caniateir gan y gyfraith, nid yw Macmillan yn derbyn cyfrifoldeb mewn perthynas â'r defnydd o unrhyw wybodaeth sydd yn y cyhoeddiad hwn, neu wybodaeth trydydd parti neu wefannau sydd wedi eu cynnwys neu y cyfeirir atynt ynddo. Defnyddir modelau ar gyfer rhai o'r lluniau. Diolch Mae r llyfryn hwn wedi cael ei ysgrifennu, ei adolygu a i olygu gan dîm Datblygu Gwybodaeth Canser Cymorth Canser Macmillan. Mae wedi cael ei gymeradwyo gan ein golygydd meddygol, Dr Terry Priestman, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol. Gyda diolch i: James Powell, Cofrestrydd Arbenigol, Ysbyty Felindre; Dr Steven Beaven, Dr Jonathan Browne, Dr Charles Campion-Smith, Dr Bridget Gwynne, Dr David Linden Cynghorwyr Meddygon Teulu Macmillan; Charlotte Argyle, Rheolwr Cefnogaeth Gofalwyr; Lynne Colbourne, Oncoleg Llym ANP Macmillan; Phil Hanns, Prif Swyddog, Gweithio gyda Chanser Macmillan; Elaine Heywood, Cynghorydd a Swyddog Gwybodaeth Macmillan; Alison Hill, Cyfarwyddwr Nyrsio, rhwydwaith Canser De Orllewin Llundain; Lynne Kitson, Rheolwr Gwybodaeth Cleifion Macmillan; Karen Orr, Uwch Reolwr Dysgu a Datblygu Macmillan; Kate Seymour, Rheolwr Materion Allanol Macmillan; Tricia Tierney, Rheolwr Canolfan Wybodaeth a Chefnogaeth Macmillan; tîm Polisi Macmillan; a r bobl a effeithiwyd gan ganser sydd wedi adolygu r rhifyn hwn. Ffynonellau Y Comisiwn Ansawdd Gofal. Healthwatch. www.cqc.org.uk/public/about-us/partnershipsother-organisations/healthwatch (cyrchwyd 2 Awst 2012). Yr Adran Iechyd. The Cancer Drugs Fund: Guidance to support operation of the Cancer Drugs Fund in 2011 12. www.dh.gov. uk/en/publicationsandstatistics/publications/publicationspolicyandguidance/dh_125445 (cyrchwyd 2 Awst 2012). 121

Y canllaw canser Yr Adran Iechyd. Improving outcomes: a strategy for cancer. 2011. DeVita, Hellman, Rosenberg. Cancer: Principles and Practice of Oncology. 2008. Lippincott Williams a Wilkins. Disability Rights UK. Disability Rights Handbook. 2012. 37 ain rhifyn, Llundain. Management of core cancer services. Mawrth 2008. NHS Quality Improvement Scotland. National Cancer Action Team. National Cancer Peer Review Programme Manual for Cancer Services: Network Service User Partnership Group Measures Intelligence. Fersiwn 1.0. Ebrill 2011. Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE). Improving Supportive and Palliative Care for Adults with Cancer The Manual. Ebrill 2004. Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol. Referral Guidelines for Suspected Cancer. 2005. www.nice.org.uk/cg027 (cyrchwyd 31 Gorffennaf 2012). NHS Choices. Complaints. www.nhs.uk/choiceinthenhs/rightsandpledges/complaints/ Pages/NHScomplaints.aspx (cyrchwyd 3 Awst 2012). NHS Choices. The NHS Constitution. www.nhs.uk/choiceinthenhs/rightsandpledges/ NHSConstitution/Pages/Overview.aspx (cyrchwyd 2 Awst 2012). NHS Commissioning Board. Strategic clinical networks. www.commissioningboard.nhs. uk/2012/07/26/strat-clin-networks/ (cyrchwyd 20 Awst 2012). Llywodraeth yr Alban. Better Cancer Care, an Action Plan. 2008. Edinburgh.Souhami R, et al. Oxford Textbook of Oncology. 2 il rifyn. 2001. Gwasg Prifysgol Rhydychen. 122

Allech chi wneud rhywbeth i helpu? Gobeithio y bu r llyfryn hwn yn ddefnyddiol i chi. Dim ond un o nifer o gyhoeddiadau sydd ar gael am ddim i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan ganser ydyw. Fe u cynhyrchir gan ein harbenigwyr gwybodaeth canser sydd, ynghyd â n nyrsys, cynghorwyr budddaliadau, ymgyrchwyr a gwirfoddolwyr, yn rhan o r tîm Macmillan. Pan fydd pobl yn wynebu brwydr fwyaf eu bywydau, rydym yno i w cefnogi pob cam o r ffordd. Rydym eisiau sicrhau nad oes rhaid i neb ddioddef canser ar ben eu hunain, felly rydym angen mwy o bobl i n helpu. Pan fyddwch yn barod, dyma rai ffyrdd y gallech ddod yn rhan o n tîm. 5 ffordd i chi helpu rhywun gyda chanser Rhannu eich profiad o ganser Cefnogi pobl sy'n byw gyda chanser trwy adrodd eich stori, ar-lein, yn y wasg neu wyneb yn wyneb. Ymgyrchu dros newid Rydym angen eich help i sicrhau bod pawb yn derbyn y gefnogaeth briodol. Gweithredwch, yn fawr neu n fach, dros well gofal canser. Helpwch rywun yn eich cymuned Lifft i apwyntiad. Helpu gyda'r siopa. Neu baned o de a sgwrs. Allech chi helpu? Hel pres Beth bynnag yr hoffech ei wneud, gallwch hel pres i helpu. Cymerwch ran yn un o'n digwyddiadau neu crëwch un eich hun. Rhowch arian Mawr neu fach, mae pob ceiniog yn cyfrif. I wneud rhodd unigol, gweler trosodd. Ffoniwch ni am ragor o wybodaeth 0300 1000 200 macmillan.org.uk/getinvolved 13

Cwblhewch eich manylion personol Mr/Mrs/Miss/Arall Enw Cyfenw Cyfeiriad Cod Post Ffôn E-bost Derbyniwch fy rhodd o (Dileer fel fo n briodol) Rwy n amgáu siec / archeb bost / Taleb Elusen yn daladwy i Macmillan Cancer Support NEU debydwch fy ngherdyn: Visa / MasterCard / CAF Charity Card / Switch / Maestro Rhif y cerdyn Dilys o Rhif cyhoeddi Llofnod Dyddiad / / Dyddiad dod i ben Rhif diogelwch Peidiwch â gadael i r dyn treth gadw ch arian Ydych chi n talu treth? Os felly, bydd eich rhodd werth 25% yn fwy i ni heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Yr oll sy n rhaid i chi wneud yw ticio r blwch isod, a bydd y swyddfa dreth yn rhoi 25c ar gyfer pob punt a roddwch. Rwy n drethdalwr yn y Deyrnas Unedig ac fe hoffwn i Gymorth Canser Macmillan drin unrhyw roddion gennyf yn y pedair blynedd cyn y flwyddyn hon, ac unrhyw roddion a wnaf yn y dyfodol, fel rhoddion Cymorth Rhodd, hyd nes y byddaf yn hysbysu fel arall. Rwy n cadarnhau fy mod wedi talu swm o Dreth Incwm ac/neu Dreth Enillion Cyfalaf ym mhob blwyddyn dreth, sydd o leiaf yn gyfartal i r dreth y bydd Elusennau a CASCau rwy n rhoi iddynt yn hawlio yn ôl ar fy rhoddion. Rwy n deall nad yw trethi eraill fel TAW a'r Dreth Gyngor yn gymwys ac y bydd Cymorth Canser Macmillan yn hawlio 25c o dreth ar bob 1 y byddaf yn rhoi. Hoffai Cymorth Canser Macmillan a n cwmnïau masnachol gadw eich manylion er mwyn cysylltu â chi ynglyn â n gweithgareddau codi arian, ein hymgyrchoedd a'n gwasanaethau i bobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser. Pe byddai n well gennych i ni beidio defnyddio eich manylion fel hyn, ticiwch y blwch hwn. Er mwyn cyflawni ein gwaith, efallai y byddwn angen pasio eich manylion ymlaen at asiantaethau neu bartneriaid sy n gweithredu ar ein rhan. Pe byddai n well gennych roi ar-lein, ewch i macmillan.org.uk/donate Datgysylltwch y ffurflen hon a i dychwelyd mewn amlen (nid oes angen stamp) at: Supporter Donations, Macmillan Cancer Support, FREEPOST LON15851, 89 Albert Embankment, Llundain SE1 7UQ # 27530

Canser yw r frwydr anoddaf y bydd y rhan fwyaf ohonomyn ei wynebu. Os ydych chi neu rywun sy'n annwyl i chi wedi cael diagnosis, rydych angen tîm o bobl yn ymladd ar eich rhan, yn eich cefnogi pob cam o'r ffordd. Dyna pwy ydyn ni. Ni yw'r nyrsys a'r therapyddion fydd yn eich helpu trwy'ch triniaeth. Yr arbenigwyr ar ben arall y ffôn. Y cynghorwyr sy'n dweud wrthych pa fudd-daliadau mae gennych hawl iddynt. Y gwirfoddolwyr sy'n rhoi help llaw i chi gyda manion bob dydd. Yr ymgyrchwyr sy'n gwella gofal canser. Y gymuned sy'n eich cefnogi ar-lein, unrhyw dro. Y codwyr arian sy'n gwneud y cyfan yn bosib. Does dim rhaid i chi wynebu canser ar eich pen eich hun. Gallwn roi nerth i chi gyrraedd pen y daith. Ni yw Cymorth Canser Macmillan. Cwestiynau am fyw gyda chanser? Ffoniwch am ddim ar 0808 808 00 00 (Llun-Gwe, 9am 8pm) Neu ewch i macmillan.org.uk Trwm eich clyw? Defnyddiwch ffôn testun 0808 808 0121, neu Text Relay. Ddim yn siarad Saesneg? Mae cyfieithwyr ar gael. Cymorth Canser Macmillan, 2012. 5 ed rhifyn. MAC5765_Welsh. Adolygiad arfaethedig nesaf 2014. Cymorth Canser Macmillan, elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (261017), Yr Alban (SC039907) ac Ynys Manaw (604). Argraffwyd yn defnyddio deunydd cynaliadwy. Ailgylchwch os gwelwch yn dda.