Cape. Town. Pecyn Dysgu. Mehefin 2012

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Addewid Duw i Abraham

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Addysg Oxfam

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

The Life of Freshwater Mussels

SESIWN HYFFORDDI STAFF

Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb

Holiadur Cyn y Diwrnod

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

W46 14/11/15-20/11/15

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri High Speed Plastics, Llandygái ; AustinTaylors, Bethesda

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm

W39 22/09/18-28/09/18

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Sut i Ddisgleirio Adeg y Nadolig

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

Rhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on

Summer Holiday Programme

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Y Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Technoleg Cerddoriaeth

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Y Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth. Uwchradd. Cynlluniwch lwybr i gyrchfan twristiaid Alan Parkinson

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Y BANC Y BANC. Hyfedredd

PECYN ADNODDAU CREADIGOL

WALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

F U N D RAISING pack! C O D I A RIA N!

PECYN ADNODDAU I ATHRAWON

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

Talu costau tai yng Nghymru

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Adviceguide Advice that makes a difference

Rwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau

Darlun ystadegol o sefyllfa r Gymraeg. Hywel M. Jones

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

e.e. nofio/to swim Rydw i n nofio Rwyt ti n nofio Mae e n nofio Mae hi n nofio Mae John yn nofio

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide

YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

O Bydded i r Hen Iaith Barhau

yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr!

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Newyddion Ansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN

CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Sesiwn Gymraeg: Bywydau cydradd neu anghydradd?

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Transcription:

Cape Pecyn Dysgu Mehefin 2012 Town

Cape Town Opera When we come to theatre we create our own world where you totally forget your colour, you totally forget one s language. Nanhlangla Yende, Cape Town Opera Mae croeso i unrhyw un ddefnyddio r Pecyn Dysgu yma ac mae n edrych ar Cape Town Opera, Nelson Mandela a chyfnod Apartheid. Mae n cynnwys gwybodaeth wedi i anelu at blant ysgolion cynradd, pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd ac mae adran Dysgu Gydol Oes ynddo hefyd. Rydyn ni wedi cynnwys awgrymiadau ar gyfer gweithgaredd ysgol o r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4 i gynorthwyo athrawon i ddod â r pynciau yma n fyw, ond mae n bosib addasu r rhan fwyaf ohonyn nhw i w defnyddio gartref hefyd. Mae r pecyn yma n gysylltiedig â n Hwythnos Ddysgu Cape Town a ysbrydolwyd gan ail ymweliad Cape Town Opera â Chanolfan Mileniwm Cymru. Yn y blynyddoedd hynny pan oedd pobl dduon De Affrica yn cael eu rhwystro rhag llwyddo, ychydig o bobl ifanc duon oedd yn gallu gwneud bywoliaeth o u celfyddyd. Pan ddaeth cyfnod Apartheid i ben, ymrwymodd cyfarwyddwyr Cape Town Opera eu hamser i hyfforddi cantorion ifanc a rhoi cyfleoedd iddyn nhw berfformio. Cynnwys Cyfnod Sylfaen tudalen 3 CA 2 Gweithgareddau tudalen 4-6 CA 3/4 Cyflwyniad i Apartheid tudalen 7 CA3/4 Gweithgareddau tudalen 8-11 Dysgu Gydol Oes tudalen 12 Mandela Trilogy Cape Town Opera tudalen 13-14 Apartheid heddiw tudalen 15 Mae aelodau Cape Town Opera yn rhan o grŵ p llwyddiannus a chreadigol aml ethnig o Dde Affrica. Mae r cwmni n dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru gydag adfywiad o Porgy and Bess George ac Ira Gershwin, a premiére Ewrop o Mandela Triolgy gwaith gwreiddiol sy n cofio brwydr Nelson Mandela, gŵ r a arweiniodd y frwydr yn erbyn y drefn Apartheid. Mae Mandela Trilogy yn deyrnged cerddorol i un o ffigurau mwyaf eiconig y byd, ac mae n dramateiddio golygfeydd o blentyndod Mandela, sut y dechreuodd fel ymgyrchydd yn erbyn gormes a i flynyddoedd yn y carchar. a musical and visual journey through the cultural landscape of South Africa s recent past, from the choral music of the Transkei, to the jive dance in the dance halls of the 1950s, to the Struggle songs of the 1980s and finally, the liberation music of the 1990s Cape Times Mehefin 2010 2

Cyflwyno Apartheid i r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru mae cwmni Cape Town Opera o Dde Affrica yn perfformio opera newydd am Nelson Mandela o r enw Mandela Trilogy. Mae n ddyn dewr a phenderfynol. Pan oedd yn tyfu i fyny yn Ne Affrica, roedd y llywodraeth yn gorfodi pobl nad oedden nhw n wyn i fyw ar wahân i r bobl wyn. Roedd hyn yn cael ei alw n Apartheid neu wahanu hiliol. Roedd hyn yn gwneud y plant a u rhieni nad oedden nhw n wyn i deimlo eu bod yn ddinasyddion eilradd. Roedd plant ysgol dan y drefn Apartheid yn cael eu gwahanu. Roedd gan ddisgyblion gwyn ofod, llawer o lyfrau a dosbarthiadau o faint bychain. Ond, os nad oeddech yn wyn yna doedd eich ysgol ddim yn cael ei chynnal cystal. Yn aml roedd ysgolion i blant duon yn Ne Affrica yn adeiladau cytiau tin heb lawer o gadeiriau na byrddau. Roedd adnoddau n wael a doedd dim llawer o bensiliau a llyfrau ysgrifennu. Doedd ganddyn nhw ddim lawer o offer chwaraeon, dim lle chwarae glân a thaclus ac efallai bod 40 neu hyd yn oed 50 o blant mewn un dosbarth gyda dim ond un athro neu athrawes. Roedd Nelson Mandela yn gwybod ei bod yn anghywir trin pobl fel hyn a siaradodd yn erbyn hynny. Mae r opera yn adrodd stori ei fywyd, am y frwydr i wneud pawb yn Ne Affrica n gyfartal a chaniatáu i bobl fyw gyda i gilydd beth bynnag fo lliw eu croen a u cefndir hiliol. Fel person ifanc yn byw yng Nghymru heddiw, pe bai unrhyw beth drwg yn digwydd, gallwch fynd at eich athro neu athrawes a dweud wrthyn nhw bod rhywun yn camymddwyn. Bydd eich athro neu athrawes yn eich helpu i ddatrys y broblem. Yn Ne Affrica lle roedd Nelson Mandela n byw, doedd plant ysgol duon ddim yn gallu gwneud hynny a doedd eu rhieni ddim yn gallu siarad yn erbyn y rhai oedd yn eu trin yn ddrwg. 3

Gweithgaredd Dosbarth Gweithgaredd 1 Cyfnod Sylfaen (Ffocws Cwricwlwm: ABCh) Edrych ar bwysigrwydd rhannu, chwarae gyda ch gilydd a bod yn ymwybodol o deimladau pobl eraill Ffurfiwch ardal hwyl ar wahân yn y dosbarth neu efallai yn eich iard chwarae lle mai dim ond rhai plant dewisedig sy n cael chwarae ynddyn nhw. Defnyddiwch y dull gwahanu sydd fwyaf priodol i ch myfyrwyr lliw llygaid, y llythyren t yn eu henwau neu lliw gwallt er enghraifft. Rhowch deganau i r plant yma a darparu gweithgareddau hwyliog iddyn nhw gan eithrio r plant sydd y tu allan i r ardal hwyl. Mae r plant hynny y tu allan i r ardal hwyl yn cael eu gadael i gynnal eu gweithgaredd eu hunain gyda gemau a gweithgareddau cyfyngedig. Ar ôl chwarae am gyfnod byr Holwch y plant sydd wedi cael eu gadael allan am eu teimladau. Ydyn nhw n teimlo n hapus neu yn drist? Holwch y plant yn yr ardal hwyl os ydyn nhw wedi meddwl am y gweddill. Dewch â r holl blant at ei gilydd i rannu eu teimladau am eu profiadau pan gawsant eu gwahanu. Yn olaf, holwch y plant a ydyn nhw n gallu meddwl pam bod pobl yn cael eu rhannu fel hyn weithiau. Dewch â r holl blant at ei gilydd ar y diwedd ar gyfer gweithgaredd o hwyl arbennig, efallai canu caneuon neu weithgaredd dosbarth cyfan, i atgoffa r plant pa mor werthfawr a phleserus yw r profiad o allu chwarae a rhannu gyda i gilydd. Gweithgaredd 2 Cyfnod Sylfaen (Ffocws Cwricwlwm: Datblygiad Creadigol) Lluniwch ddarlun mewn unrhyw gyfrwng i archwilio teimladau r plentyn am gynhwysiant Siaradwch am rannu a gweithio gyda i gilydd a rhannu gwahanol brofiadau y mae r plant efallai wedi eu cael gyda diwylliannau gwahanol i w diwylliant eu hunain, yng Nghymru neu yn rhywle arall. Symudwch at weithgaredd tynnu lluniau gellir defnyddio unrhyw gyfrwng fel bod y plant yn cael cyfle i weld eu syniadau eu hunain am yr hyn sy n gwneud amgylchedd dda i bobl fyw, gweithio a chwarae gyda i gilydd ynddi. Anogwch y plant i feddwl am bobl o wahanol ddiwylliannau y maen nhw wedi eu cyfarfod a u cynnwys yn eu lluniau. Efallai bod modd annog y plant hynny sydd wedi tynnu lluniau n dangos pobl o hil neu ddiwylliant arall i siarad gyda r plant eraill yn y dosbarth am yr hyn y maen nhw n ei wybod am y byd a i amrywiaeth. 4

Gweithgaredd 3 CA2 Isaf (Ffocws Cwricwlwm: Hanes/Cronoleg) Dysgu am fywyd Nelson Mandela a threfn y digwyddiadau Nelson Mandela oedd Arlywydd cyntaf De Affrica i gael ei ethol yn ddemocrataidd. Cyn ei ethol bu n protestio yn erbyn Apartheid, y drefn o lywodraethu oedd yn gormesu pobl dduon a phobl eraill nad oedden nhw n wyn oedd oedd yn ffurfio mwyafrif y boblogaeth yn Ne Affrica. Cafodd ei garcharu am 27 mlynedd am ymladd yn erbyn y drefn Apartheid. Fe wnaeth helpu i ddod ag Apartheid i ben. Ffeithiau am Mandela 1918 Ganwyd Nelson Mandela ym mhentref Mveso yn y penrhyn Dwyreiniol. 1942 Mae Mandela yn ymuno â r Gyngres Genedlaethol Affricanaidd (ANC). 1948 Mae Apartheid yn cychwyn yn Ne Affrica. 1952 Mae Mandela yn agor y cwmni cyfreithiol du cyntaf yn Ne Affrica. 1991 Mae cynhadledd gyntaf yr ANC yn cael ei chynnal ers ei gwahardd ym 1960. 1993 Mae Mandela n cael y Wobr Heddwch Nobel gyda F. W. de Klerk. 1994 Mae Mandela n cael ei ethol yn Arlywydd De Affrica. 1999 Mae Mandela n rhoi r gorau i fod yn Arlywydd 2004 Mae Mandela n cyhoeddi y bydd yn rhoi r gorau i fywyd cyhoeddus. 2008 Mae Mandela n 90 oed 2009 Mae Cynulliad Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig yn datgan y bydd Gorffennaf 18fed yn Ddiwrnod Mandela fel teyrnged i w gyfraniad i ryddid byd. Gellir gwneud rhagor o ymchwil o amrywiol ffynonellau. Dylai r disgyblion fod yn ymwybodol o sut y mae r gorffennol yn cael ei gynrychioli a i ddehongli wrth wneud ymchwil hanesyddol. Edrychwch ar y ffyrdd gwahanol y mae llyfrau neu r rhyngrwyd yn cyflwyno gwybodaeth. Gofynnwch i r disgyblion greu llinell amser gyda digwyddiadau hanesyddol wedi u torri allan o Daflen Waith 1. Gallwch annog rhagor o ymchwil annibynnol i ymestyn llinellau amser unigolion. 1959 Mae deddfau newydd yn creu mamwledydd ar wahân i bobl dduon. Roedd INVICTUS yn ffilm a wnaethpwyd yn 2009 am Nelson Mandela a thîm rygbi De Affrica. 1960 Mae r ANC yn cael ei wahardd gan lywodraeth wen De Affrica. 1962 Mae Mandela n cael ei arestio, ei garcharu a i ddedfrydu i 5 mlynedd yn y carchar ond mae n dianc. 1964 Mae Mandela n cael ei ddal ac yn cael ei ddedfrydu n ddiweddarach i garchar am oes. Mae n 46 oed ac mae n mynd i garchar Ynys Robben. 1990 Mae Mandela n cael ei ryddhau o r carchar ar ôl 27 mlynedd. 5

Nelson Mandela Galwedigaeth: Arlywydd De Affrica a Gweithredwr Gwleidyddol Ganwyd: 18 Gorffennaf 1918 yn Mvezo, De Affrica Yn enwog am: Treulio 27 mlynedd yn y carchar fel protest yn erbyn Apartheid Mae ganddo chwech o blant ac ugain o wyrion a wyresau. Gweithgaredd 4 CA2 Uwch (Ffocws Cwricwlwm: Llythrennedd) Bywgraffiad a Hunanfywgraffiad chwilio a chasglu gwybodaeth Pawb i ddarllen yr wybodaeth fywgraffiadol ac yna cwblhau Taflen Waith 2 gyda r manylion y maen nhw wedi eu casglu ac sydd fwyaf perthnasol. Mae r gweithgaredd yma n datblygu sgiliau darllen y disgyblion trwy brofi ac ymateb i destun. Pwy yw Nelson Mandela? Mae Nelson Mandela yn arweinydd hawliau sifil mewn gwlad o r enw De Affrica. Fe wnaeth ymladd yn erbyn gormes hiliol gan lywodraeth oedd dan reolaeth y bobl wynion, system o r enw Apartheid. O dan Apartheid, ychydig o hawliau oedd gan y bobl dduon a doedden nhw ddim yn cael mynediad i rannau o u gwlad eu hunain. Treuliodd Mandela ran helaeth o i fywyd yn y carchar oherwydd ei brotestiadau, ond daeth yn symbol i w bobl. Yn nes ymlaen byddai n dod yn Arlywydd De Affrica. Ble wnaeth Nelson Mandela dyfu i fyny? Ganwyd Nelson Mandela ar 18 Gorffennaf, 1918 yn Mvezo, De Affrica. Ei enw genedigol yw Rolihlahla (sy n golygu un sy n creu helynt ) Mandela. Roedd ei dad yn bennaeth dinas Mvezo. Cafodd y ffug enw Nelson gan athro yn yr ysgol. Magwyd Mandela a i dair chwaer yn y crâl teuluol. Crâl yw grŵ p bach o gytiau a ddefnyddir gan yr Affricanwyr cynhenid. Roedd y cytiau yma n syml iawn, gyda lloriau pridd. Doedd gan bobl ddim matresi fel sydd gennym ni. Roedden nhw n cysgu ar y lloriau ar fatiau syml. Roedd teulu Mandela n bwysig o ran statws roedd ei dad yn bennaeth brenhinol llwyth o r enw Thembu. Ond doedd y ffaith ei fod yn frenhinol ddim yn golygu bod Mandela n teithio o gwmpas mewn car mawr; roedd yn gorfod gofalu am yr anifeiliaid a gweithio yn y caeau. Aeth i brifysgol Witwatersrand. Enillodd radd yn y gyfraith ym 1942 a chyfarfod pobl eraill oedd yn anghytuno gydag Apartheid. Beth wnaeth Nelson Mandela i frwydro yn erbyn Apartheid? Daeth Nelson Mandela yn arweinydd plaid wleidyddol o r enw y Gynghrair Genedlaethol Affricanaidd (ANC). Ar y dechrau gwthiodd yn galed i r ANC a r protestwyr ddilyn dull di-drais i gyflawni diwygiad gwleidyddol. Ond, ar ôl i r ANC gael ei wahardd gan lywodraeth De Affrica ym 1960, dechreuodd amau a fyddai r dull heddychlon yma n gweithio. Sefydlodd gangen arfog o r ANC Umkhonto we Sizwe neu Gwaywffon y Genedl. Roedd yn bwriadu bomio rhai adeiladau neilltuol. Ond roedd eisiau sicrhau nad oedd neb yn cael ei anafu. Cafodd ei alw n derfysgwr gan lywodraeth De Affrica ac roedden nhw eisiau ei arestio. Blynyddoedd Mandela yn y carchar Cafodd Mandela ei arestio gan lywodraeth De Affrica ym 1962 am ymgyrchu i ddymchwel y llywodraeth. Cafodd ei ddedfrydu i 5 mlynedd o lafur caled ond fe ddihangodd. Cafodd ei ddal eto ddwy flynedd yn ddiweddarach ym 1964 ac yna, tra roedd yn garchraror, aethpwyd ag ef gerbron y llys am gynllwynio dulliau eraill o ddymchwel y llywodraeth o bobl wynion yn unig. Fe i cafwyd yn euog o frad a difrod a chafodd ddedfryd o oes yn y carchar. Rhwng 1964 a 1982 cafodd ei garcharu yn Ynys Robben, carchar ar ynys 7km oddi ar yr arfordir ger Cape Town. O 1984 tan ei ryddhau roedd yng Ngharchar Pollsmoor ar y tir mawr. Treuliodd Mandela 27 mlynedd yn y carchar. Gwrthododd roi r gorau i w egwyddorion er bod hynny n golygu aros yn y carchar. Roedd eisiau i bobl o bob hil gael hawliau cyfartal a dywedodd y byddai n marw dros ei gredoau. Ar ôl ei ryddhau Cafodd Nelson Mandela ei ryddhau yn y diwedd ar 11 Chwefror 1990 oherwydd bob pobl ar draws y byd wedi protestio yn erbyn ei garchariad. Yna daeth yn arweinydd ymgyrch gyfreithiol a phwerus yn erbyn Apartheid. Roedd hyn yn rhywbeth yr oedd wedi ei gychwyn pan yn ddyn ifanc, ac roedd hynny wedi golygu ei fod wedi treulio nifer o flynyddoedd yn y carchar. Nawr gallai alw n agored ar bobl dduon De Affrica i ymuno ag ef i gymryd grym trwy ddulliau heddychlon. Ym 1991 daeth Mandela yn Arlywydd y Gyngres Genedlaethol Affricanaidd (ANC) yn ei chynhadledd rydd gyntaf ar dir De Affrica ar ôl bod yn anghyfreithlon am ddeugain mlynedd. Tyfodd plaid wleidyddol Mandela o frwydr benderfynol a chymrodd y blaid reolaeth a rhedeg llywodraeth De Affrica ar ôl yr etholiad rydd gyntaf ym 1994. Daeth Nelson Mandela yn Arlywydd ei wlad o garcharor i Arlywydd mewn pedair blynedd. 6

Cyflwyno Apartheid yn Ne Affrica i Gyfnod Allweddol 3 a 4 Apartheid yw r gair a ddefnyddir i ddisgrifio r drefn o lywodraeth a roddodd reolaeth lwyr dros y wlad i bobl wynion De Affrica, gan roi statws eilradd neu drydydd radd i r rhan fwyaf o r dinasyddion oherwydd eu bod yn bobl dduon. Mae r gair Apartheid yn air sy n perthyn i iaith y lleiafrif gwyn yr oedd eu hynafiaid y setlwyr o r Iseldiroedd yn ei siarad ac mae n golygu arwahanrwydd. Yr iaith yw Afrikaans. Ceisiodd y bobl wynion orfodi plant ysgol duon i ddysgu Afrikaans, ond gwrthododd llawer ohonyn nhw wneud hynny a chawsant eu cosbi am hynny. Roedd pobl dduon De Affrica yn gofod cario paslyfr i brofi bod ganddyn nhw ganiatád i fod mewn ardaloedd gwyn o r wlad. Roedd arwyddion yn dweud These Public Premises and the Amenities Thereof Have Been Reserved for the Exclusive Use of White Persons yn gwneud i bobl dduon De Affrica fod yn ymwybodol o u statws israddol bob dydd. Rhwng 1910-48 dim ond pobl wynion a r Cape Coloureds term a ddefnyddid yn Ne Affrica i ddisgrifio pobl o hil cymysg, oedd yn cael pleidleisio. Cafodd y Cape Coloureds eu symud oddi ar y gofrestr ar ôl i r Blaid Genedlaethol Afrikaner ddod i rym ym 1948. Roedd y math yma o ormes yn seiliedig yn unig ar liw croen; doedd dim gwahaniaeth pa mor alluog neu weithgar oedd rhywun yn Ne Affrica o dan reolaeth y bobl wynion; os nad oedden nhw yn wyn yna doedd ysgolion da, cartrefi da na swyddi da ddim ar gael iddyn nhw, ac roedden nhw hyd yn oed yn cael eu gwrthod rhag symud i r dinasoedd mawr. Y syniad gwreiddiol y tu ôl i Apartheid oedd rhoi rheolaeth wleidyddol i r bobl wynion oherwydd roedden nhw n credu na allai pobl dduon De Affrica lywodraethu eu hunain. Ond, o r 1960au daeth y system yn fwy llym. Byddai heddlu yn gyrru o gwmpas mewn ceir arfog trwm, o r enw hipos oherwydd eu siâp trwsgwl, weithiau n saethu at dyrfaoedd oedd yn protestio yn erbyn annhegwch Apartheid. Roedd trefn Apartheid De Affrica yn creu dioddefaint, yn gorfforol ac yn economaidd ac emosiynol, i fwyafrif y bobl dduon yn Ne Affrica. Mae nifer o bobl De Affrica sy n fyw heddiw yn gallu cofio r drefn annynol yma. Daeth i ben trwy frwydrau mewnol pobl De Affrica a galwadau rhyngwladol cryf yn erbyn y drefn. Mae Cape Town Opera wedi ffynnu yn y rhyddid newydd y mae pobl nad ydyn nhw n wyn yn Ne Affrica yn ei fwynhau ac rydym yn ffodus yng Nghymru o gael croesawu r cwmni yma ym mis Mehefin 2012. Mae eu hopera newydd Mandela Triolgy yn deyrnged i un o ffigurau mwyaf eiconig y byd, ac mae n dramateiddio golygfeydd o blentyndod Mandela, cychwyn ei gyfnod fel ymgyrchwr yn erbyn gormes a i flynyddoedd yn y carchar. 7

Gweithgaredd Dosbarth Gweithgaredd 1 CA 3/4 (Ffocws Cwricwlwm: Llythrennedd Llefaredd) Trafodaeth a dadl Cyfathrebu i amrywiaeth o ddibenion Education is the most powerful weapon which you can use to change the world. Nelson Mandela Ganwyd Nelson Mandela ar 18 Gorffennaf 1918. Mandela oedd yr Arlywydd cyntaf yn Ne Affrica i gael ei ethol mewn etholiadau cwbl ddemocrataidd. Fe wnaeth ei hyfforddiant yn y gyfraith ei helpu i greu Cynghrair Ieuenctid y Gynghrair Genedlaethol Afrricanaidd (ANC) ym 1944. Ar ddechrau r 1960au daeth yn fwy a mwy siomedig gyda r drefn Apartheid gaeth ac felly arweiniodd gangen filwrol newydd yr ANC. Cafodd ddedfryd o oes yn y carchar ym 1964; unwyd pobl ar draws y byd gan yr ymgyrch dros ei ryddhau. Cafodd ei enwi yn bennaeth yr ANC ar ôl ei ryddhau ym 1990. Trafododd drosglwyddiad heddychlon i ddemocratiaeth aml hiliol gydag F.W.de Klerk, a derbyniodd y ddau Wobr Heddwch Nobel am hynny. Fel Arlywydd ar ôl etholiadau 1994, chwiliodd am fuddsoddiadau o dramor a harmoni rhwng hiliau yn Ne Affrica. Ar ôl cyflwyno Apartheid a bywyd Nelson Mandela, gofynnwch i r myfyrwyr drafod mewn grwpiau beth y maen nhw n feddwl yw ystyr y dyfyniad gan Mandela. Pa brofiadau sydd ganddyn nhw allai gefnogi r syniad yma? Pam bod y myfyrwyr yn credu bod y drefn yn Ne Affrica wedi gweithredu fel y gwnaethon nhw, yn gorfodi myfyrwyr fel nhw i gael cyfleusterau addysgol gwael a mynediad cyfyngedig at addysg a chyfle? 8

Rhoddwyd Gwobr Heddwch Nobel i Nelson Mandela ym 1993. Nanhlanhla Yende Gloria Bosman Mthunzi Mbombela Gweithgaredd 2 CA 3/4 (Ffocws Cwricwlwm: Llythrennedd Ysgrifennu) Ysgrifennu i amrywiaeth o ddibenion llythyr o berswâd Nanhlanhla Yende yn chwarae Bess yn Porgy and Bess.. http://www.youtube.com/watch?v=e7kqhqp9cag&feature=relmfu Sut brofiad oedd eich bywyd yn yr ysgol? Roedd rhaid i chi fynd yn ddirgel i r ysgol o r Drefgordd oherwydd roedd pawb yn gwybod nad oedd y plant yn mynd i r ysgol. Os oedden nhw n darganfod eich bod yn mynd i r ysgol fe fydden nhw n sicrhau eu bod yn llosgi r drafnidiaeth yr oeddech yn ei defnyddio neu yn gwneud rhywbeth a fyddai n ei gwneud yn amhosibl i chi fynd i r ysgol oherwydd nad oedd gweddill y plant yn y Drefgordd yn mynd i r ysgol. Ydi pobl ifanc yn Ne Affrica yn deall beth ddigwyddodd? Mae llawer i w wneud o hyd yn seiliedig ar yr ieuenctid gan bobl fy oedran i. Dwi ddim yn meddwl ein bod yn deall llawer am Apartheid; dwi n meddwl mai r cyfan rydyn ni n ei wybod yw lliw ac iaith; dydyn ni ddim yn deall pam ei fod wedi digwydd. Gloria Bosman yn chwarae Dolly Radebe yn Mandela Trilogy. http://www.youtube.com/watch?v=rmpyz_dfqii&feature=relmfu Oedd yna rwystrau i gymryd rhan yn y celfyddydau pan oeddech chi n tyfu i fyny? O r stigma sy n dod gyda lliw, byddai pobl yn gwybod os oeddech chi eisiau bod yn y theatr, hynny yw yn y dref, mae llawer o heriau i w hwynebu. Roedd hefyd gyfnodau o gyfyngiadau, tan pryd y gallech fod yn y dref, ac roedd hynny n ei gwneud yn anodd i lawer o bobl fod yn rhan o unrhyw ddramáu neu rhywbeth felly oherwydd eich bod yn poeni am drafnidiaeth, roeddech chi n poeni hefyd am allu cymryd rhan, ffitio i mewn i r amgylchedd hwnnw. Mthunzi Mbombela yn chwarae r Newyddiadurwr y Mandela Trilogy. www.youtube.com/watch?v=ysv-osdswho&feature=relmfu A oedd gennych chi ffrindiau gwynion pan oeddech chi n tyfu i fyny? Dim ond ym 1994 y cefais i ffrindiau gwynion. Dwi n dod o r Drefgordd lle mai dim ond pobl dduon sy n byw yno; maen nhw yn siarad yr un iaith dim ond wrth fynd ar y bws i r dref y byddwch chi n cyfarfod â phobl wynion. Rydych chi wedi gwrando ar rai atgofion tri aelod o Cape Town Opera sydd wedi cael eu magu yn Ne Affrica o dan y drefn Apartheid. Dim system yn unig oedd Apartheid; roedd yn frwydr feunyddiol i bobl ifanc o Dde Affrica fel nhw. Ar draws y byd, dysgodd bobl o bob cefndir am yr anghydraddoldeb o dan Apartheid a dechreuwyd protestio. Cafwyd protestiadau; roedd nwyddau o Dde Affrica yn cael eu gwrthod, yn cynnwys Orennau Outspan a Ffrwythau Cape Fruits, dim ond dau o r cwmnïau oedd yn berchen i bobl wynion De Affrica yr oedd nifer o bobl yn gwrthod prynu eu nwyddau. Cynhaliodd gweithredwyr gwrth Apartheid wylnos barhaus y tu allan i lysgenhadaeth De Affrica yn Sgwâr Trafalgar yn Llundain i godi ymwybyddiaeth am garchariad maith Nelson Mandela. I roi darlun pellach i r myfyrwyr o sut yr oedd pobl yn byw o dan Apartheid, gallwch ddefnyddio r dolenni yma i ddeunydd fideo: The Legacy of Apartheid 5 :45 http://www.youtube.com/watch?v=y9wb5nonhiy Growing Up In Apartheid South Africa 4 :13 http://www.youtube.com/watch?v=2bzpkr4kvim&feature=related Ar ôl darllen profiadau aelodau Cape Town Opera a gweld y fideos, rhowch dasg i r myfyrwyr ysgrifennu llythyr o berswâd yn erbyn Apartheid i wleidyddion ym Mhrydain a De Affrica fel pe bai Apartheid yn dal i fodoli. Bydd y llythyrau yma n annog myfyrwyr i feddwl am y defnydd effeithiol o iaith berswâd a u hymateb i amrediad o anogaethau ysgrifenedig a sain/gweledol. 9

Gweithgaredd 3 CA3 (Ffocws Cwricwlwm: Celf a Dylunio/TGC) Dylunio a chynhyrchu poster Gwrth Apartheid. Gan ddefnyddio r pecyn dysgu yma ac unrhyw ymchwil pellach yr hoffech ei gynnal, soniwch wrth y myfyrwyr am sloganau ac adnoddau gweledol Gwrth Apartheid adnabyddus eraill. Anogwch syniadau gwreiddiol i gynhyrchu poster meddylgar, llawn perswâd sy n cyfleu eu neges. Yn dangos ffydd pobl ym Mandela Dyluniwyd gan yr artist Keith Haring Cynhaliwyd ymgyrchoedd ar draws y byd i berswadio pobl i beidio â phrynu nwyddau oddi wrth gwmnïau dan reolaeth pobl wynion oedd yn cyflogi gweithwyr duon ar gyflogau isel iawn. 10

Mae 18 Gorffennaf yn Ddiwrnod Nelson Mandela. Gweithgaredd 4 CA 3/4 (Ffocws Cwricwlwm: ABCh/Llythrennedd) Datblygu meddwl a chyfathrebu gyda geiriau trwy ysgrifennu caneuon. Rôl Cerddoriaeth ym Mudiad Gwrth Apartheid De Affrica Daeth yr ymgyrch yn erbyn carchariad Nelson Mandela yn ymgyrch gwrth hiliol byd-eang yn yr 1980au. Dechreuwyd gwylnos barhaus y tu allan i lysgenhadaeth De Affrica yn Llundain, ac ym 1984 cyfansoddodd Jerry Dammers gân a ddatblygodd yn anthem ar draws y byd. Cafodd ei pherfformio gan y band o Coventry The Special AKA gyda r prif leisydd Stan Campbell ac fe i rhyddhawyd ar y sengl Nelson Mandela/Break Down the Door. Yn aml mae tôn ddifrifol i ganeuon protest. Mae r gân yma n wahanol oherwydd ei thempo deniadol ac egnïol a i harddull, ska, sydd yn tynnu ar elfennau o gerddoriaeth traddodiadol Affricanaidd. Roedd (Free) Nelson Mandela yn boblogaidd iawn yn Affrica a chyrhaeddodd rif 9 yn siartiau r DU. Dolen i r gân http://bit.ly/apcx4i http://bit.ly/apcx4i Darllenwch y geiriau a gofynnwch i r myfyrwyr esbonio llinellau fel Only one man in a large army. Meddyliwch am yr ansoddeiriau blind, deaf a dumb. Mae r rhain yn eiriau cyffredin bob dydd ond wrth eu gosod gyda i gilydd yn feddylgar mae geiriau r gân yn adrodd stori ac yn annog y gwrandawr i gael ei gymell i weithredu i helpu Mandela. Chwaraeodd y gân yma ran mewn creu rhagor o ymwybyddiaeth yn y DU o garchariad Nelson Mandela a r frwydr yn erbyn Apartheid. Bydd myfyrwyr yn ymwybodol o ddylanwad geiriau caneuon ar gynulleidfa. Rhowch y dasg iddyn nhw o ysgrifennu eu geiriau eu hunain, gan ddefnyddio r geiriau yn eu caneuon eu hunain i siarad am bethau sydd yn eu cymell, y maen nhw n teimlo n gryf amdanyn nhw, yn ymgysylltu â nhw, yn cytuno neu n anghytuno â nhw. Ymhelaethwch ar y gweithgaredd trwy feddwl am y steil o gerddoriaeth y gallen nhw ei ddefnyddio i gydweddu gyda u geiriau. Mae cân Mandela yn defnyddio cerddoriaeth lawen sy n dathlu, dan ddylanwad y rhythmau a r curiadau a glywir mewn cerddoriaeth gynhenid De Affrica. Trafodwch ganeuon gwleidyddol eraill, fel, Talkin bout A Revolution Tracy Chapman neu Strange Fruit Billie Holiday. Free Nelson Mandela Free, Free, Free, Nelson Mandela Free Nelson Mandela Twenty-one years in captivity His shoes too small to fit his feet His body abused but his mind is still free Are you so blind that you cannot see I say Free Nelson Mandela I m begging you Free Nelson Mandela He pleaded the causes of the ANC Only one man in a large army Are you so blind that you cannot see Are you so deaf that you cannot hear his plea Free Nelson Mandela I m begging you Free Nelson Mandela Twenty-one years in captivity Are you so blind that you cannot see Are you so deaf that you cannot hear Are you so dumb that you cannot speak I say Free Nelson Mandela I m begging you Oh free Nelson Mandela Free Nelson Mandela I m begging you, begging you Please free Nelson Mandela Free Nelson Mandela I m telling you, you ve got to free Nelson Mandela Geiriau r gân (Free) Nelson Mandela, a ysgrifennwyd gan Jerry Dammers 11

Dysgu Gydol Oes Mae digon wedi i gofnodi am Apartheid ac mae ei effeithiau ar fywydau pobl a fu n byw oddi tano yn adnabyddus ar draws y byd. Mae r rhan fwyaf o aelodau cwmni Cape Town Opera wedi profi r cyfyngiadau a r problemau yma n uniongyrchol ac i lawer ohonyn nhw dim ond ar ôl i Apartheid ddechrau chwalu y gallen nhw hyd yn oed feddwl am weithio yn y celfyddydau. I only reached the stage where I can sing opera in 1994, you understand in South Africa in 1994 that was when we started voting. That s when I came to understand that I can be one of the opera singers of South Africa, it was hard before Mthunzi Mbombela, Cape Town Opera Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn falch o groesawu premiére Ewrop gwaith gwreiddiol yn cofio brwydr y gŵ r a arweiniodd y frwydr yn erbyn y drefn Apartheid hiliol, Nelson Mandela. Mae Mandela Trilogy yn deyrnged gerddorol i un o ffigurau mwyaf eiconig y byd, ac mae n dramateiddio golygfeydd o blentyndod Mandela, y cyfnod pan ddechreuodd ymgyrchu yn erbyn gormes a i flynyddoedd yn y carchar. Mae r gwaith wedi cael bendith Sefydliad Nelson Mandela a chefnogaeth gan Ganolfan Mileniwm Cymru ac Athrofa Celfyddydau Perfformio Gordon ym Mhrifysgol Cape Town. 12

Mae awdur a chyfarwyddwr Mandela Trilogy yn esbonio in preparing to take on Mr. Mandela as an operatic figure, (he) studied biographies and delved into the official archives at the Nelson Mandela Foundation. The set is decorated with reproductions of calendars and photographs Mr. Mandela had in prison and that now are housed at his foundation... Sets use archival footage of anti-apartheid protests and a photograph of Mr. Mandela s Robben Island prison cell is projected on screens. Washington Times, Awst 14, 2011 Fe wnaeth Michael Williams ddarllen hanesion trefedigaethau Johannesburg a darganfod bod troseddwyr trefol De Affrica wedi datblygu obsesiwn yn yr 1950au am y ffilm Holywood ym 1948 The Street with No Name. Mae golygfeydd o r ffilm yn cael eu chwarae heb sain yn y cefndir yn ystod y darnau jazz. Mae Mandela Trilogy yn gorffen yn fuddugoliaethus gyda i ryddhau a i fuddugoliaeth dros drefn a i carcharodd am 27 mlynedd. Mae ei stori yn cael ei gweld ar draws y byd fel un o frwydr benderfynol. A phan gafodd ei ryddhau, ar ôl blynyddoedd o gythrwfl a chaledi, fe wnaeth Mandela wynebu ei ryddid gyda gras ac urddas. Crynodeb Prolog Sgwrs I 1976. Mae r Dyn Gwyn yn ymweld â Mandela yn ei gell yn Ynys Robben ac yn cynnig rhyddid iddo pe bai n ymddeol i r Transkei ac yn derbyn dinasyddiaeth Bantustan a ffurfiwyd yn ddiweddar. Mae Mandela n gwrthod y cynnig ac yn cofio sut y gadawodd ei bentref pan oedd yn ddyn ifanc. Rhan 1 Qunu Oratorio 1934 1941. Mae Nelson Mandela a Justice,ei gefnder a i gyfaill oes, yn teithio at lannau r Afon Mbashe ar gyfer y defodau derbyn. Mae r Canwr Mawl yn canu mawlgan am Nelson Mandela, ac mae mam Mandela yn cofio sut yr aeth â i mab naw mlwydd oed i Mqhekwzweni a i adael yng ngofal Jongintaba Dalindyebo, brenin llwyth y Thembu. Mae Mandela yn cael ei enwaedu ac yn derbyn yr enw Dalibungha. Pan mae n dychwelyd adref mae seremoni n cael ei chynnal i groesawu r bechgyn yn ôl fel dynion. Mae r brenin yn dweud wrth y dynion ifanc nad yw r rhoddion y maen nhw wedi eu derbyn yn golygu dim os nad oes ganddyn nhw annibyniaeth neu ryddid. Mae Mandela yn dysgu nad yw n ddyn rhydd. Mae r brenin yn cyflwyno Mandela a Justice i r menywod y mae wedi penderfynu y byddan nhw yn eu priodi. Mae Mandela yn gwrthod priodi yn y dull traddodiadol. Mae ei fam yn cyrraedd i w argyhoeddi y dylai ddilyn arferion y Thembu, ond mae n dweud wrthi bod ei ddyfodol yn gorwedd y tu hwnt i fryniau Transkei. Mae Mandela a Justice yn gadael y pentref ac yn mynd i Johannesburg. Egwyl Sgwrs II 1986. Mae r Dyn Gwyn yn gwneud cais i gael cyfarfod gyda Mandela yn ei gartref yn Constantia ac mae n cael ei gludo yno o garchar Pollsmoor. Mae n holi Mandela am y trais yn y wlad ac yn cynnig rhyddid iddo os bydd yn troi ei gefn ar drais. Mae Mandela n gwrthod ac yn awgrymu eu bod yn darganfod dull o siarad gyda i gilydd yn swyddogol. Mae n atgoffa r Dyn Gwyn am ei safiad di-drais a ddechreuodd yn yr 1950au. 13

Rhan 2 Sophiatown Jazz 1955. Mae Mandela a r Tad Huddleston yn cael eu hatal gan yr heddlu ar eu ffordd i Sinema r Odin. Mae r Tad Huddleston yn ymyrryd ac maen nhw n cael llonydd gan yr heddlu i barhau ar eu taith. Unwaith y mae yn y sinema, mae Mandela n rhoi araith am sut y bydd deddfau cynyddol lym llywodraeth y Blaid Genedlaethol yn effeithio ar bobl dduon ac mae n cael ei holi gan y Newyddiadurwr. Mae r heddlu yn tarfu ar y cyfarfod ac yn arestio gweithredwr. Mae r Clwb Jig yn Sophiatown yn llawn cyffro. Mae Dolly yn dweud wrth Mandela am yr ail rybudd y mae wedi ei dderbyn ynghylch cael eu symud yn orfodol o Sophiatown. Mae Dolly yn holi Mandela beth y dylai ei wneud am y rhybuddion i adael. Mae llawer o bobl yn y tŷ cwrw eisiau ymladd yn erbyn y llywodraeth ond mae Mandela n mynnu eu bod yn parhau i brotestio n heddychlon. Mae ei wraig, Evelyn, yn torri ar draws y sgwrs gan ffraeo gyda Mandela oherwydd ei absenoldeb o r cartref. Mae r olygfa n gorffen gyda r bobl yn cael eu troi ymaith o Sophiatown. Mae Mandela yn galw am gyflwyniadau ysgrifenedig ar gyfer y Siarter Rhyddid. Mae r cyhoedd yn ymgasglu i glywed y Siarter Rhyddid yn cael ei gadarnhau yn Kliptown. Mae r heddlu yn cyrraedd i darfu ar y gweithrediadau ac i arestio r rhai sydd yno ar gyhuddiadau o Uchel Frad. Mae Evelyn yn disgrifio cyfnod olaf ei phriodas; mae Dolly n mynnu na fydd y fenyw newydd ym mywyd Mandela yn para; mae Winnie n disgrifio ei hoed cyntaf gyda Mandela. Mae r digwyddiad codi arian Uchel Frad ar ei anterth pan fo Mandela n cyrraedd ac yn gafael yn dynn yn Winnie. Maen nhw n cusanu ac yn atgoffa ei gilydd y bydd rhaid iddyn nhw aberthu cryn dipyn cyn y bydd rhyddid yn cael ei gyflawni. Rhan 3 Blynyddoedd yn y Carchar 1960 1994. Mae Mandela yn areithio yn yr achos llys brad yn Rivonia ac mae n cael ei ddedfrydu i oes yn y carchar. Mae Winnie Mandela yn ymweld ag ef yn y carchar yn Ynys Robben gan ddweud wrtho bod yr heddlu cudd yn ei gwylio. Mae Mandela yn derbyn y newyddion bod ei fam a i fab cyntaf anedig wedi marw. Dydi r llywodraeth ddim yn gadael iddo fynd i w hangladdau. Mae Mandela n cael ei symud i garchar Pollsmoor. Mae chwech o i gyd garcharorion yn ei holi am ei awydd i siarad gyda r llywodraeth. Maen nhw n dweud wrtho am boblogrwydd cynyddol Winnie a i galwadau am chwyldro treisgar. Mae n galw am gael gweld ei wraig. Mae Winnie n dod i weld Mandela ac maen nhw n dadlau am ei dulliau o wrthwynebu. Mae Mandela n mynd ar daith o r Penrhyn. Mae n cael ei adael ar ei ben ei hun yn y car ac mae n ystyried dianc. Mae r Dyn Gwyn yn ei groesawu i Victor Verster hanner ffordd rhwng carchar a rhyddid ac mae n ei atgoffa o r daith y mae wedi bod arni. Mae Mandela n cael ei ryddhau ac mae n rhoi ei araith gyntaf fel dyn rhydd ar y Grand Parade. Ntobeko Rwanqa,Baritôn Cape Town Opera, am rôl Nelson Mandela The best part is when I confront F. W. de Klerk on level ground, facing the enemy after years of abuse, and the surprise of unexpected harmony. I was politically active at school and trained as a lawyer. My passion now is all for singing. 14

Apartheid heddiw Esgorodd rhyddid Mandela ar y Genedl Enfys, a sefydlwyd ar Saith Colofn Cyfansoddiad De Affrica, sydd i w gweld y tu allan i r Amgueddfa Apartheid yn Johannesburg. Gan gofio am eiriau Mandela Trilogy a meddwl am y newidiadau yn Ne Affrica ers rhyddhau Mandela newidiadau sydd wedi u symboleiddio gan lwyddiant Cape Town Opera meddyliwch am y syniadau canlynol: y frwydr am gymod; gwahaniaethu ar arddull Apartheid mewn mannau eraill yn y byd heddiw. Cafwyd cymod yn Ne Affrica trwy r Comisiwn Gwirionedd a Chymod (TRC) a ddaeth â dioddefwyr a throseddwyr at ei gilydd. Dyma un yn unig o r atgofion trasig o adroddiad y Comisiwn: In 1969, seven people across the country died in detention. One of them was South African Congress of Trade Unions (SACTU) unionist and ANC activist Caleb Mayekiso [EC0644/96PLZ], who died in Port Elizabeth on 1 June 1969, reportedly of natural causes, after being held for eighteen days under the Terrorism Act.8. His daughter, Ms Nomakhosazana Queenie Mayekiso, told the Commission that her father had been jailed for two and a half years in 1964 on charges of terrorism, re-tried while in jail and sentenced to an additional three years. He was released in August 1968 and detained again in May 1969. Two weeks later his family was told he had died of chronic bronchitis. However, I learnt from another detainee that he was killed with an electric shock. Mr Mayekiso had taken a leading role in the Defiance Campaign of the 1950s and worked as an underground member of the ANC after it was banned. TRC report Vol.3 p.41 Doedd pob un o r dioddefwyr ddim yn dduon. Er enghraifft, roedd cyflafan Eglwys Saint James yn ymosodiad ar Eglwys St. James yn Cape Town ar 25 Gorffennaf 1993. Lladdodd pedwar dyn arfog o Fyddin Rhyddid Pobl Azania 11 aelod o r gynulleidfa a chafodd 58 eu hanafu. Ym 1998 cafodd yr ymosodwyr amnesti gan y TRC. Mae un o r digwyddiadau enwog yn ystod y protestiadau yn erbyn Apartheid yn cael ei enwi yn Gyflafan Sharpeville. Ym mis Mawrth 1960, ymgasglodd tyrfa i brotestio yn erbyn y deddfau oedd yn gorfodi pobl dduon i gario paslyfr i nodi lle roedden nhw i fod i fyw a gweithio. Diben y deddfau oedd cadw r rhan fwyaf o r wlad a rhan fwyaf o r cyfoeth ar gyfer pobl wynion De Affrica. Bu farw 69 o bobl pan saethodd yr heddlu at y protestwyr. Mae Cynulliad Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig wedi datgan Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu ar Sail Hil i nodi dyddiad y marwolaethau yma. Bu cymodi yn broses boenus i lawer ond mae n rhan o r broses o wella. Mae De Affrica heddiw yn wlad sydd yn chwarae ei rhan yn y byd a gellir ei galw n aelod croesawgar o r gymuned fyd-eang honno. Heddiw mae r byd yn edrych yn ôl ar ddileu Apartheid yn Ne Affrica ychydig ddegawdau yn ôl gyda synnwyr o gyflawniad. Mae De Affrica yn gymdeithas aml ethnig sy n datblygu ac sy n dysgu symud ymlaen. Ydyn ni n gallu dweud bod Apartheid wedi i ddileu yn gyfan gwbl ar draws y byd? Yn yr 21ain ganrif mae honiadau yn parhau am wahaniaethu ar steil Apartheid mewn rhai rhannau o r byd. Mae r Cenhedloedd Unedig yn dal i gredu bod angen cynnal digwyddiad blynyddol i amlygu gwahaniaethu ar sail hil, ar 21 Mawrth bob blwyddyn. 15

Taflen Waith 1: Llinell Amser Nelson Mandela Mandela n cael ei ryddhau o r carchar ar ôl 27 mlynedd. Ganwyd Nelson Mandela. Mandela yn agor cwmni cyfreithiol du cyntaf De Affrica. Mandela yn cael ei ddal eto, ei ddedfrydu i garchar am oes ac yn mynd i garchar Ynys Robben. Mandela yn ymuno â r Gyngres Genedlaethol Affricanaidd (ANC). Mae Mandela yn 90 oed. Cynhelir y gynhadledd ANC yn Ne Affrica ers ei gwahardd ym 1960. Apartheid yn dechrau yn Ne Affrica. Mandela n rhoi r gorau i fod yn Arlywydd. Mae r Cenhedloedd Unedig yn gwneud Gorffennaf 18fed yn Ddiwrnod Mandela. Mandela n rhoi r gorau i fywyd cyhoeddus Mandela yn cael ei arestio a i ddedfrydu i 5 mlynedd yn y carchar ond mae n dianc. Mandela n cael y Wobr Heddwch Nobel. Caiff mamwledydd ar wahân eu creu i bobl dduon. Mae r ANC yn cael ei gwahardd gan lywodraeth wen De Affrica. Mandela yn cael ei ethol yn Arlywydd De Affrica.

Taflen Waith 2: Gwybodaeth am Nelson Mandela Bywyd Teuluol ac Addysg Yr hyn a wnaeth yn yr ANC Ei gyfnod yn y carchar Ei ryddhau o r carchar a bywyd ar ôl hynny Yr hyn y mae fwyaf adnabyddus amdano A yw Nelson Mandela yn fodel rôl da?