Sesiwn Ddaearyddiaeth 1: BLE YN Y BYD?

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

SESIWN HYFFORDDI STAFF

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Holiadur Cyn y Diwrnod

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Addysg Oxfam

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Sesiwn Gymraeg: Bywydau cydradd neu anghydradd?

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?

Y Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Goleudy ar Werth! Adnodd addysgu Daearyddiaeth. Paula Owens. Cynradd. Goleudai a r arfordir

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Y Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth. Uwchradd. Cynlluniwch lwybr i gyrchfan twristiaid Alan Parkinson

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Sut i Ddisgleirio Adeg y Nadolig

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

Summer Holiday Programme

The Life of Freshwater Mussels

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Sesiwn Mathemateg: Mesur y bylchau Ystod oed: 9 14

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

PECYN ADNODDAU I ATHRAWON

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Rwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Technoleg Cerddoriaeth

Galwad i wasanaethu Called to serve Y Grawys 2015 Lent 2015

Syniadau Daearyddiaeth Cynradd Cyflym ag elfen hanesyddol

Addewid Duw i Abraham

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

EAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

Canllaw Rhieni. Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg. Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide

EAS Papur Ymarferol 2 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2014

offered a place at Cardiff Met

Swim Wales Long Course Championships 2018

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

F U N D RAISING pack! C O D I A RIA N!

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau

1. Cywair and although I am no expert on antiquities, I am always pleased to meet a standing stone or some ancient circle...

Adviceguide Advice that makes a difference

Y BANC Y BANC. Hyfedredd

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Rhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on

Afonydd a Chamlesi. canalrivertrust.org.uk/stem. Cynnal a Chadw. Cynnwys y pecyn hwn

Cynnwys. Gweithgareddau Cyfnod Allweddol 1 / Cyfnod Sylfaen

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol

Diolchiadau. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Uned Gyhoeddi Cyngor Astudiaethau Maes Preston Montford, Montford Bridge, Amwythig, SY4 1HW, DG

Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Talu costau tai yng Nghymru

Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008

Y BONT. Canllawiau i Fyfyrwyr. Phyl Brake

Cwm Creigiog Ystâd Piper / DACS John Piper. Mynyddoedd Cymru. Adnodd Addysg. 1

un peth cwta fuchodcoch dewch gwnewch o hyd i Tymor 7 Nodiadau r athro

Transcription:

Sesiwn Ddaearyddiaeth 1: BLE YN Y BYD? Addysg Oxfam Ystod oedran 11-16 oed Sylwer: y term priodol yn yr Alban ar gyfer y sesiynau hyn yw Astudiaethau Cymdeithasol, ond mae lle wedi golygu bod angen i ni alw'r sesiynau hyn yn Daearyddiaeth yn unig. Amlinelliad Bydd dysgwyr yn chwarae Globingo i adnabod ac archwilio eu cysylltiadau byd-eang. Yna bydd dysgwyr yn dod o hyd i'r pedair gwlad Bywydau Ifanc (Ethiopia, India, Periw a Fiet-nam) a r DU ar fap o'r byd. Byddant yn defnyddio ffotograffau i ysgogi trafodaeth ynghylch eu gwybodaeth a'u rhagdybiaethau am y gwledydd hyn. Amcanion Dysgu Adnabod rhai ffyrdd y mae pobl ifanc yn y DU wedi'u cysylltu â gwledydd a phobl eraill yn y byd. Gallu dod o hyd i bedair gwlad Bywydau Ifanc a'r DU ar fap o'r byd, ynghyd â gwledydd a chyrff dŵr sy n eu ffinio. Datblygu sgiliau daearyddol wrth ddadansoddi a dehongli ffynonellau data gwahanol. Bod yn ymwybodol o rai anghydraddoldebau rhwng gwledydd sy'n bodoli rhwng y pedair gwlad Bywydau Ifanc a'r DU. Cwestiynau allweddol Sut ydym ni wedi n cysylltu â gwledydd a phobl eraill yn y byd? Beth ydych chi'n ei wybod am y gwledydd hyn yn barod? Beth fyddech chi'n hoffi cael gwybod? Sut beth ydych chi n meddwl yw bywyd yn y gwledydd hyn? Ar ba dystiolaeth ydych chi'n seilio eich syniadau neu ch rhagdybiaethau? A allwch chi weld unrhyw enghreifftiau o anghydraddoldeb rhwng y gwledydd? Lloegr Daearyddiaeth CA3 Dylid addysgu'r disgyblion i: Nodau Deall y prosesau sy'n arwain at nodweddion daearyddol dynol allweddol y byd, sut mae'r rhain yn gyd-ddibynnol a sut y maent yn dod ag amrywiaeth ofodol a newid dros amser. Bod yn gymwys yn y sgiliau daearyddol sydd eu hangen i ddehongli ystod o ffynonellau gwybodaeth ddaearyddol a chyfleu gwybodaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd. Gwybodaeth am le Deall tebygrwydd, gwahaniaethau a chysylltiadau daearyddol rhwng lleoedd drwy astudio daearyddiaeth ddynol a ffisegol rhanbarth yn Affrica a rhanbarth yn Asia. Canlyniadau dysgu Bydd dysgwyr yn archwilio'r cysylltiadau sydd ganddynt hwy a'u cyfoedion â gwledydd a phobl eraill yn y byd. Bydd dysgwyr yn nodi pedair gwlad Bywydau Ifanc a'r DU ar fap o'r byd, ynghyd â gwledydd a chyrff dŵr sy n eu ffinio. Bydd dysgwyr yn defnyddio ffotograffau i archwilio eu gwybodaeth a'u rhagdybiaethau am y gwledydd hyn. Bydd dysgwyr yn nodi a thrafod enghreifftiau o anghydraddoldebau rhwng gwledydd. Adnoddau Sioe sleidiau Daearyddiaeth A (sleidiau 2-8) Taflenni adnoddau: o Cipluniau gwlad: A, B, C, D ac E. o Cipluniau gwlad: nodiadau cyfeirio 1 a 2 o Mapiau gwledydd Bywydau Ifanc: Ethiopia, India, Periw a Fiet-nam Taflenni gweithgareddau: o Globingo o Ble yn y byd? Cysylltiadau â'r cwricwlwm Cymru Daearyddiaeth CA3 Lleoli lleoedd, amgylcheddau a phatrymau Defnyddio mapiau, cynlluniau a delweddau o wahanol fathau a graddfeydd a TGCh i ddehongli a chyflwyno gwybodaeth leoliadol. Cyfathrebu Cyfleu canfyddiadau, syniadau a gwybodaeth gan ddefnyddio termau daearyddol, mapiau, delweddau gweledol, amrywiaeth o dechnegau graffigol a TGCh. Ymchwilio Dadansoddi a gwerthuso syniadau a thystiolaeth, ateb cwestiynau a chyfiawnhau casgliadau. Sut a pham mae'r lle/amgylchedd/nodwedd hwn yn gysylltiedig â lleoedd/amgylcheddau/nodweddion eraill, ac yn gyd-ddibynnol arnynt? Yr Alban Astudiaethau cymdeithasol Gallaf ddefnyddio ystod o fapiau a systemau gwybodaeth ddaearyddol i gasglu, dehongli a chyflwyno casgliadau a lleoli amrywiaeth o nodweddion yn yr Alban, y DU, Ewrop a'r byd ehangach. SOC 3-14a Gallaf ddisgrifio sut mae cyd-ddibyniaeth gwledydd yn effeithio ar lefelau datblygu, gan ystyried yr effeithiau ar fywydau pobl. SOC 3-19a

Noder: Cyfanswm yr amser sydd ei angen i gwblhau'r holl weithgareddau yn y sesiwn hon yw dros awr. Fel gyda sesiynau daearyddiaeth eraill, efallai y byddwch yn penderfynu hepgor rhai gweithgareddau yn dibynnu ar yr amser sydd ar gael a gwybodaeth, dealltwriaeth ac anghenion presennol eich dysgwyr. Bwriad y deunydd yw cefnogi eich addysgu yn hytrach na i arwain. Efallai y bydd angen mewnbwn addysgu ychwanegol i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth dysgwyr o rai o'r cysyniadau hyn. Ar gyfer y sesiwn hon, bydd angen i ddysgwyr ddeall y term 'datblygiad', a gyflwynwyd yn y sesiwn gyflwyno. Efallai y byddech hefyd yn hoffi edrych ar y Nodiadau cefndir i athrawon. Gweithgaredd 1.1 (10 mun) Globingo (gweithgaredd cynhesu dewisol) Rhowch gopi i bob dysgwr o Globingo. Esboniwch mai nod Globingo yw i ddysgwyr ryngweithio â'i gilydd a llenwi'r daflen gwestiynau cyn gynted â phosibl. Maent yn gwneud hyn drwy gasglu enw dysgwr gwahanol mewn ymateb i bob cwestiwn. Mae lle ar y daflen i ysgrifennu enw unigolyn yn erbyn pob cwestiwn. Mae'r dysgwr sy'n casglu atebion i'r holl gwestiynau yn yr amser cyflymaf yn ennill y gêm. Anogwch y dysgwyr i sefyll i ffwrdd oddi wrth eu desgiau a chadeiriau a symud yn rhydd o amgylch yr ystafell. Bydd dysgwyr wedi cael eu cyflwyno i Fywydau Ifanc yn y sesiwn gyflwyno. Dangoswch sleid 3 i atgoffa dysgwyr am gefndir y prosiect. Gofynnwch i'r dysgwyr os ydynt wedi dod o hyd i unrhyw un sydd â chysylltiad ag un o'r gwledydd Bywydau Ifanc (Ethiopia, India, Periw neu Fiet-nam) ac, os felly, beth yw r cysylltiadau hyn. Trafodwch beth mae dysgwyr wedi ei ddarganfod drwy chwarae Globingo a'r hyn y maent yn credu yw diben y gêm. Pwysleisiwch y pwynt ein bod i gyd yn gydgysylltiedig yn fyd-eang. Gwahaniaethu Ei wneud yn haws: Gofynnwch i'r dysgwyr fynd o gwmpas mewn parau i gwblhau'r daflen waith. Ei wneud yn fwy heriol: Gwnewch y cwestiynau n fwy anodd neu gofynnwch i r dysgwyr nodi ffyrdd eraill y maent yn gydgysylltiedig yn fyd-eang. Gweithgaredd 1.2 (30 munud) Ble yn y byd? Trefnwch y dysgwyr yn barau a rhoi copi i bob pâr o Ble yn y byd? (wedi i chwyddo i A3). Gofynnwch i'r dysgwyr labelu'r pedair gwlad Bywydau Ifanc (Ethiopia, India, Periw a Fiet-nam) ar eu map o'r byd. Efallai y bydd rhai dysgwyr yn cofio hyn o'r sesiwn gyflwyno. Mae copi o'r map o'r byd ar sleid 4. Cliciwch ymlaen ar y sioe sleidiau i ddangos lleoliadau r gwledydd.

Gofynnwch i'r dysgwyr labelu'r cyfandiroedd lle mae pob un o'r gwledydd ar eu map. Trafodwch pa wledydd a chyrff dŵr sy n ffinio pob un o'r gwledydd a gofynnwch i'r dysgwyr nodi hyn ar eu map. Efallai y bydd angen i ddysgwyr chwilio am wybodaeth mewn atlas neu ar y Rhyngrwyd. Trafodwch unrhyw ffeithiau y mae dysgwyr yn eu gwybod am y pedair gwlad yn barod, gan ddefnyddio'r cwestiynau canlynol fel ysgogiadau: Beth ydych chi'n ei wybod am y pedair gwlad yn barod? Dechreuwch archwilio r mater o stereoteipio drwy ofyn i ddysgwyr a ydynt yn credu bod yr hyn y maent yn ei ddweud yn berthnasol i bawb yn y wlad honno. o Sut beth ydych chi'n meddwl yw bywyd yn y gwledydd hyn? Pam felly? o Beth hoffech chi gael gwybod am y gwledydd hyn? Gweithgaredd 1.3 (30 mun) Gweld bylchau Sylwer: Mae dysgwyr hefyd yn cael eu cyflwyno i'r term anghydraddoldeb yn y sesiwn Gyflwyno a Sesiwn Fathemateg 1. Defnyddiwch sleidiau 5-8 i gyflwyno dysgwyr i'r cysyniad o anghydraddoldeb ac yna eglurwch y bydd dysgwyr yn yr uned Ddaearyddiaeth hon yn cael gwybod rhagor am rai o'r 'bylchau' sy'n bodoli rhwng ac o fewn y pedair gwlad Bywydau Ifanc a'r DU. Trefnwch y dysgwyr yn grwpiau o dri. Argraffwch gopïau o'r ffotograffau yn Cipluniau gwlad a rhowch un o'r setiau gwlad ( A, B, C, D neu E) i bob grŵp. Esboniwch fod pob set o luniau wedi u tynnu yn un o'r gwledydd Bywydau Ifanc (Ethiopia, India, Periw neu Fiet-nam) neu'r DU. Gofynnwch i'r dysgwyr edrych drwy eu lluniau a phenderfynu o ba wlad y maen nhw'n meddwl y mae eu set o luniau yn dod. Noder y bydd dysgwyr wedi gweld rhai o'r delweddau hyn yn y sesiwn gyflwyno. Gofynnwch y cwestiynau canlynol i r dysgwyr: o Pam ydych chi'n meddwl bod y lluniau hyn o'r wlad honno? Beth yn y ffotograffau sy n gwneud i chi feddwl hyn? o Pa syniadau neu ragdybiaethau am y gwledydd hyn ydych yn eu defnyddio i helpu i benderfynu o ble mae r lluniau yn dod? o Ar ba dystiolaeth ydych chi'n seilio eich syniadau neu ragdybiaethau? o Llun o beth yw hwn yn eich barn chi? o A ydych chi'n meddwl y tynnwyd y llun hwn mewn ardal drefol neu ardal wledig? Pam felly? o A oes gennych unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn am unrhyw un o'r lluniau? Os felly, beth ydynt? Sut allech chi ddarganfod yr atebion? o A allwch chi weld unrhyw enghreifftiau o anghydraddoldeb o fewn y wlad yn eich set o luniau? Rhannwch y setiau gwlad fel bod pob grŵp yn cael y cyfle i weld pob set o luniau. Rhowch amser i ddysgwyr rannu eu syniadau am bob set o luniau ac yna rhannwch yr atebion cywir. Trafodwch ymatebion dysgwyr a gofyn y cwestiynau canlynol iddynt: o A wnaeth unrhyw rai o r lluniau o'r wlad eich synnu chi? o A ydych chi'n meddwl ei bod yn bosibl i ddangos sut le yw gwlad mewn dim ond wyth o

luniau? Pam/pam ddim? Nodwch yn Cipluniau Gwlad E, nid yw r delweddau o'r DU yn gynrychioliadol o'r wlad yn ei chyfanrwydd. o A allwch chi weld unrhyw enghreifftiau o anghydraddoldeb rhwng y gwledydd? o A ydych chi'n meddwl bod ein hargraffiadau am sut yw lleoedd yn gywir bob amser? o Pa ddelweddau fyddech chi'n eu dewis i gynrychioli'r DU a pham? Defnyddiwch y cwestiwn hwn i drafod anhawster crynhoi gwlad gyfan mewn ychydig o ddelweddau ac felly r ffaith ei fod yn bwysig peidio â chymryd gormod yn ganiataol am wlad o ychydig ddelweddau. Gweithgaredd 1.4 (30 mun) Ar y map Trefnwch y dysgwyr yn barau a rhowch gopi i bob pâr o r mapiau gwlad Bywydau Ifanc (wedi u chwyddo i A3). Mae'r mapiau hyn yn dangos lleoliadau bras safleoedd astudiaeth Bywydau Ifanc ym mhob gwlad. Sylwer, er mwyn diogelu manylion y plant sy n ymddangos, ni ellir rhoi yr union gyfesurynnau ar gyfer y cymunedau a astudiwyd gan ymchwilwyr Bywydau Ifanc. Gofynnwch i'r dysgwyr ddefnyddio Google Earth (ewch i www.google.co.uk/intl/en_uk/earth/ i lawrlwytho) i ymchwilio eu gwlad yn fwy manwl a chofnodi ar fap y wlad unrhyw beth y maent yn ei ddarganfod, megis nodweddion daearyddol ffisegol a dynol pwysig. Rhowch amser i ddysgwyr rannu'r hyn y maent wedi ei ddarganfod am eu gwlad gydag eraill yn y dosbarth. Trafodwch unrhyw debygrwydd neu wahaniaethau cychwynnol rhwng y gwledydd y mae'r dysgwyr wedi sylwi arnynt. Syniad pellach Gofynnwch i'r dysgwyr greu cymylau geiriau i ystyried a rhannu eu gwybodaeth bresennol am y gwledydd Bywydau Ifanc: o Gofynnwch i'r dysgwyr ddewis un o'r pedair gwlad a threulio ychydig funudau yn ysgrifennu geiriau y gallent eu cysylltu â r wlad honno neu eu defnyddio i w disgrifio hi. Gallai dysgwyr sy'n cael y gweithgaredd yn heriol gael eu hannog i feddwl am gwestiynau yr hoffent eu gofyn am y wlad yn lle hynny. o Rhannwch syniadau dysgwyr mewn grwpiau neu fel dosbarth cyfan. Ar gyfer pob gwlad, gofynnwch i'r dysgwyr nodi pa eiriau yw'r rhai mwyaf cyffredin. Gallai rhestrau geiriau dysgwyr gael eu defnyddio i greu cwmwl geiriau dosbarth ar gyfer pob gwlad. Gwnewch y geiriau sy'n cael eu defnyddio amlaf ymddangos yn fwy amlwg yn y cwmwl geiriau. Fel arall, gallai dysgwyr greu cwmwl geiriau digidol drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol: www.wordle.net. Mae enghraifft syml isod.

o Dangoswch a thrafodwch y cymylau geiriau. Pa eiriau neu argraffiadau oedd y mwyaf cyffredin? O le mae eich syniadau a ch gwybodaeth bresennol am y gwledydd hyn wedi dod? Mae r posibiliadau cynnwys teledu, llyfrau neu bapurau newydd. A yw'r syniadau wedi u cefnogi gan ffeithiau neu a ydynt yn rhagdybiaethau? Telerau defnydd Hawlfraint Think Global ac Oxfam DU Gallwch ddefnyddio r ffotograffau a r wybodaeth gysylltiedig yn yr adnodd hwn at ddibenion addysgol yn eich sefydliad addysgol. Gyda phob defnydd, rhaid i chi roi credyd i r ffotograffydd a enwir ar gyfer y llun hwnnw ac Oxfam. Ni chewch ddefnyddio delweddau a gwybodaeth gysylltiedig at ddibenion masnachol neu y tu allan i'ch sefydliad addysgol. Mae'r holl wybodaeth sy'n gysylltiedig â'r delweddau hyn yn ymwneud â'r dyddiad a'r amser y cynhaliwyd y gwaith prosiect.

Globingo Dewch o hyd i rywun sydd: 1. wedi bwyta rhywbeth o wlad arall yn ystod yr wythnos ddiwethaf. 2. yn gallu dweud 'Helo' mewn iaith arall. 3. yn gwisgo rhywbeth a wnaed mewn gwlad arall. 4. yn gallu enwi seren chwaraeon enwog o wlad arall. 5. yn gallu enwi elusen sy'n gweithio dramor. 6. wedi defnyddio e-bost i gyfathrebu â rhywun mewn gwlad wahanol. 7. ag aelod o'u teulu yn byw mewn gwlad arall. 8. wedi teithio i wlad arall. 9. yn gallu enwi gwleidydd enwog o wlad arall. 1. Enw: 2. Enw: 3. Enw: Ateb: Ateb: Ateb: 4. Enw: 5. Enw: 6. Enw: Ateb: Ateb: Ateb: 7. Enw: 8. Enw: 9. Enw: Ateb: Ateb: Ateb:

Ble yn y byd? Ffynhonnell: Geographical Association www.geography.org.uk A allwch chi ddod o hyd i'r DU, Ethiopia, India, Periw a Fiet-nam ar y map hwn o r byd? Ar ba gyfandir mae pob un o'r gwledydd hyn? Labelwch y cyfandiroedd hyn ar y map. Pa wledydd a chyrff dŵr sy n ffinio pob un o'r gwledydd hyn? Labelwch y rhain ar y map.

Cipluniau Gwlad A

Cipluniau Gwlad B

Cipluniau Gwlad C

Cipluniau Gwlad D

Cipluniau Gwlad E

Cipluniau Gwlad: Nodiadau cyfeirio 1 Cipluniau Gwlad A: Ethiopia Gwybodaeth am y llun (clocwedd o'r brig ar y chwith) Pobl ar eu ffordd i gasglu dŵr o ffynhonnau agored a gloddiwyd â llaw mewn gwely afon yn Ethiopia wledig. Aelodau Menter Ffermwyr Assosa yn gwerthu llysiau mewn marchnad yn rhanbarth Benishangul Gumuz yn Ethiopia. Traffig yn Addis Ababa, prifddinas Ethiopia. Merch fach yn helpu i symud pren yn Ethiopia wledig. Mae r rhan fwyaf o blant yn Ethiopia wledig yn dechrau helpu eu rhieni o chwech oed. Pobl ifanc ar eu ffordd i'r ysgol yn Ethiopia wledig. Mewn rhai rhannau o Ethiopia, gall plant dreulio hyd at awr yn cerdded bob ffordd i'r ysgol. Yr olygfa o Imet Gogo ger gwersyll Geech, ger Ras Dashan ym Mynyddoedd Simien. Canolfan Siopa Dembel, Addis Ababa. Mae llawer o blant yn Addis Ababa yn byw mewn tai wedi'u gwneud o haearn rhychiog. Yn fuan bydd yr ardal hon yn cael ei dymchwel er mwyn gwneud lle ar gyfer adeiladau newydd. Bydd yn rhaid i r holl deuluoedd sy'n byw yma i symud. Credyd ar gyfer y llun: Jane Beesley / Oxfam Carol Salter / Oxfam Justin Clements www.flickr.com/photos/giustino/38838510/in/set-864476/ Young Lives / Antonio Fiorente Young Lives / Yisak Tafere Giustino en.wikipedia.org/wiki/semien_mountains#/media/file:semien_mountai ns_02.jpg VO: en.wikipedia.org/wiki/dembel_city_center#/media/file:dembel_city_ Center.jpg Young Lives / Alula Pankhurst Cipluniau Gwlad B: India Gwybodaeth am y llun (clocwedd o'r brig ar y chwith) Ardal slymiau yn Delhi. Tai ar gyfer y dosbarth canol uwch cyfoethocach uwchben y cabanau sy'n gartref i drigolion slym o'r enw Shanti Busti yn ninas Lucknow, Uttar Pradesh. Gwyrddni deniadol pentref Nagullanka yn Andhra Pradesh. Golygfa gyda r nos yn ninas Anantapur yn Andhra Pradesh. Y ddinas yn edrych dros Beach Road 4, Visakhapatnam, Andhra Pradesh. Menyw ifanc yn casglu dŵr yng nghefn gwlad Andhra Pradesh. Marchnad mewn pentref gwledig yn Andhra Pradesh. Marchnad lysiau ddwywaith yr wythnos yn nhref Bara Gaon, yn ardal Faizabad Uttar Pradesh. Credyd ar gyfer y llun: David Levene / Oxfam. Tom Pietrasik / Oxfam Kotikalapudi SVD Prasad commons.wikimedia.org/wiki/andhra_pradesh#/media/file:scenic_gre enery_of_nagullanka_village_by_prasad_svd.jpg Abbie Trayler-Smith / Oxfam Nballa en.wikipedia.org/wiki/andhra_pradesh#/media/file:vizagcity.jpg Young Lives / Sarika Gulati Young Lives / Canolfan Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol Tom Pietrasik / Oxfam Cipluniau Gwlad C: Periw Gwybodaeth am y llun (clocwedd o'r brig ar y chwith) Y farchnad yng Ngŵyl Gastronomaidd Mistura yn Lima, yr ŵyl fwyd fwyaf yn y byd. Tatws yw un o'r prif gnydau yn y wlad a nhw yw prif fwyd cymunedau r Andes. Llun o r awyr o ddinas Cusco. Mae r ddinas hon yn ne-ddwyrain Periw, ar uchder o 3,400m, a dyma oedd prifddinas ymerodraeth yr Inca. Ardal Pabellones talaith CANAS, rhanbarth Cusco. Tai mewn maestref ar gyrion Lima. Chwarae y tu allan i dŷ yn rhanbarth Amazon Periw. Credyd ar gyfer y llun: Percy Ramírez / Oxfam Paul Newbon / Marilene Ch'ng Percy Ramírez / Oxfam Young Lives / Monica Bazán Young Lives / Raúl Egúsquiza Turriate Edrych allan dros Lima, prifddinas Periw, ar fachlud haul. Ardal slymiau o'r enw Pueblo Joven yn rhan ddeheuol Lima. Cerdded ar hyd ffordd ym mynyddoedd Periw. Quado678 commons.wikimedia.org/wiki/file:lima,_peru_sunset_skyline_%26_c ityscape.png Håkan Svensson Xauxa commons.wikimedia.org/wiki/file:lima_pueblojov_4.jpg Young Lives / Raúl Egúsquiza Turriate

Cipluniau Gwlad: Nodiadau cyfeirio 2 Cipluniau gwlad D: Fiet-nam Gwybodaeth am y llun (clocwedd o'r brig ar y chwith) Bywyd nos prysur yng nghanol tref Tra Vinh. Marchnad Hom yn Hà Noi yn gwerthu eitemau bwyd yn amrywio o ffowls byw i fadarch sych. Pentref pysgota sy n arnofio ym Mae Halong (Safle Treftadaeth y Byd UNESCO). Cynaeafu reis yng nghefn gwlad Fiet-nam. Credyd ar gyfer y llun: Abbie Trayler-Smith / Oxfam Abbie Trayler-Smith / Oxfam Young Lives / Caroline Knowles Young Lives / Nguyen Quang Thai & Trinh Van Dang Casglu Sbwriel yn Fiet-nam. Young Lives / Nguyen Quang Thai & Trinh Van Dang Ystafell ddosbarth nodweddiadol yn Fiet-nam. Young Lives / Nguyen Quang Thai & Trinh Van Dang Mynd i'r ysgol yn Fiet-nam. Mae bron pob un o'r plant yn defnyddio beiciau i gyrraedd yr ysgol. Mae plant llai yn aml yn mynd i'r ysgol gyda u rhieni ar feiciau modur. Caeau reis yn Mai Châu, talaith Hòa Bình yng ngogledd orllewin Fiet-nam. Young Lives / Nguyen Quang Thai & Trinh Van Dang Young Lives / Caroline Knowles Cipluniau gwlad E: Y DU Gwybodaeth am y llun (clocwedd o'r brig ar y chwith) Minarét Mosg Canolog Birmingham yn erbyn y gorwel yn ardal Five Ways yn Edgbaston, Birmingham. Fflatiau Red Road, Glasgow. Defaid a gwartheg ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Stondin lysiau ar Farchnad Whitechapel yn Ffordd Whitechapel, Llundain. Giant s Cause, Swydd Antrim. Y Senedd a'r Afon Tafwys, Llundain. Pont Inveraray ar Loch Fyne. Stryd y Bont, Caer. Credyd ar gyfer y llun: JimmyGuano en.wikipedia.org/wiki/birmingham#/media/file:five-ways-and- Birmingham-Central-Mosque-II.jpg AxaxaxaxMlö commons.wikimedia.org/wiki/file:redroadflats.jpg Eric Jones commons.wikimedia.org/wiki/file:sheep_and_cattle_at_the_back _of_snowdon_view_-_geograph.org.uk_- _568127.jpg?uselang=en-gb SilkTork commons.wikimedia.org/wiki/category:east_end_of_london?usel ang=en-gb#/media/file:veg_stall_2.jpg cod bardd en.wikipedia.org/wiki/northern_ireland#/media/file:causewaycode_poet-4.jpg DaniKauf commons.wikimedia.org/wiki/london#/media/file:westminster_pa lace.jpg Michael Parry commons.wikimedia.org/wiki/scotland#/media/file:inveraray_brid ge_-_loch_fyne.jpg Crashlanded, en.wikipedia.org/wiki/chester#/media/file:bridge_street,_chester. jpg

Map gwlad Bywydau Ifanc Ethiopia Ffynhonnell: Young Lives

Map gwlad Bywydau Ifanc India Ffynhonnell: Young Lives

Map Gwlad Bywydau Periw Ffynhonnell: Young Lives

Map gwlad Bywydau Ifanc Fiet-nam Ffynhonnell: Young Lives