Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb o syniadau sydd ar y ddalen hon. Am fanylion pellach a syniadau eraill gweler y tudalennau dilynol.. Crynodeb Cofiwch y bydd plentyn dyslecsig wedi cael diwrnod caled yn yr ysgol oherwydd ei anawsterau. Yn y cartref mae n bwysig cyfnerthu r broses ddysgu mewn ffordd hamddenol a hwyliog. Peidiwch byth â gadael i chi na r plentyn fod dan straen gan y byddai hynny n wrthgynhyrchiol.. Gweithgareddau Hybu hunan-barch eich plentyn. Dywedwch wrth y plentyn am bobl enwog sy n ddyslecsig. Chwarae gemau fel Mi welai â m llygad bach i (I Spy) i helpu gyda seiniau neu Scrabble i helpu efo sillafu. Darllen gyda ch plentyn darllen pâr. Gofyn cwestiynau am y testun i annog dealltwriaeth. Defnyddiwch lyfrau llafar. Weithiau mae rhoi gorchudd lliw tryloyw ar y testun yn helpu plentyn dyslecsig. Trïo ffyrdd newydd i ddysgu sillafu, fel ysgrifennu geiriau mewn tywod neu gydag ewyn siafio. Mae cofeiriau (mnemonics) yn gallu helpu plant i ddysgu geiriau anodd. Dyma enghraifft Saesneg, Big Elephants Can Always Upset Small Elephants -> because Chwaraewch gemau syml i ymarfer dilyniant gyda ch plentyn, er enghraifft, drwy ailadrodd rhifau ffôn neu rifau cofrestru car a cheisio eu dysgu ar y cof. Hefyd gallech ddefnyddio ffyrdd syml er mwyn gwella r cof, er enghraifft, ydy r plentyn yn cofio beth wnaethoch chi brynu yn y siop ddoe? Edrychwch ar ddyddiadur gwaith cartref eich plentyn a i helpu i roi trefn ar bethau sy n angenrheidiol fel y llyfrau cywir, distawrwydd i weithio a.y.b. Anogwch eich plentyn i ymarfer tasgau syml fel clymu carrai esgidiau, chwarae gemau efo pêl a thriciau i wella cydbwysedd. Mae yna wahanol fathau o raglenni cyfrifiadurol all helpu plentyn dyslecsig. Page 1 of 5
Help gyda hunan-barch Gallwch roi hwb i hunan-barch eich plentyn drwy drafod y bobl enwog oedd, neu sydd, yn ddyslecsig fel: Leonardo da Vinci, Richard Branson, Orlando Bloom, Einstein, Jamie Oliver a Keira Knightley i enwi dim ond ychydig. Gweithgareddau a awgrymir Mae r gweithgareddau a awgrymir isod yn cynnig syniadau i chi. Ni does raid i chi weithio drwyddynt yn y drefn hon. Yn hytrach, dewiswch y rhai sydd fwyaf addas i anghenion neu anawsterau eich plentyn. Mae n bwysig eich bod chi a ch plentyn yn mwynhau r broses a bod gan y plentyn ymdeimlad o hunan-barch ac o hunanwerth; teimladau nad yw hwyrach wedi eu profi yn ystod y dydd yn yr ysgol. Help gyda seiniau Dewiswch sain y dydd (fel st, ch ) a defnyddiwch weithgareddau fel Mi welai â m llygad bach i (I Spy) i ymarfer y sain o ch dewis. Darllenwch gerddi a chwiliwch am odlau. Mae hyn yn sefydlu patrymau sillafu ac yn helpu gydag ymwybyddiaeth ffonig. Yn achos geiriau sydd ddim yn gweithio n dda yn seinegol - gosodwch y rhain o gwmpas y tŷ a gofynnwch i r plentyn chwilio amdanynt a u darllen i chi. Neu fe allech ddewis nifer o eiriau bob dydd i r plentyn eu hadnabod. Byddai rhoi gwobr i'r plentyn yn gwneud y dasg yn fwy deniadol! Help gyda darllen Mae darllen pâr neu gyd-ddarllen yn brofiad positif i r plentyn ac i r rhiant. Gellir delio â hyn mewn amryw ffyrdd. Gallwch ddewis darllen yn uchel gyda ch gilydd neu ddarllen paragraff neu ddau un ar ôl y llall. Hefyd gallwch benderfynu ymlaen llaw os ydych chi am ddweud gair petai r plentyn yn baglu neu os yw r plentyn am wneud cynnig yn gyntaf. Gallech ofyn i r plentyn gyffwrdd eich llaw petai angen help. Gofynnwch gwestiynau i r plentyn am y testun a ddarllenwyd er mwyn datblygu dealltwriaeth. Darllenwch lyfrau gyda thapiau sain/cryno ddisgiau neu e-lyfrau. Mae hyn yn diogelu rhediad y stori ac yn annog y plentyn i ddarllen ar rythm naturiol. Arbrofwch gyda gorchudd lliw tryloyw. Mae rhai plant dyslecsig yn perfformio n llawer gwell wrth ddarllen efo gorchudd lliw (pinc a gwyrdd yw r mwyaf effeithiol). Os bydd plentyn yn cwyno fod y print yn aneglur neu n symud o gwmpas mae gorchudd lliw tryloyw yn atal hyn. Page 2 of 5
Help gyda geirfa a sillafu Ceisiwch ddysgu sillafu geiriau newydd drwy ddulliau amlsynhwyraidd: ysgrifennu geiriau ar fwrdd gwyn, mewn tywod, mewn ewyn siafio neu ewyn bath. Rhowch ymarferion copïo i ch plentyn. Yn achos plant ieuanc gallai hyn fod yn eiriau unigol i ddechrau gan arwain wedyn at frawddegau byrion. Mae gemau geiriol yn hwyl ac yn brofiad addysgol da ar gyfer dysgu sillafu, darllen a datblygu geirfa. Mae r rhan fwyaf o blant yn mwynhau Scrabble ac mae llawer o adnoddau eraill ar gael i w prynu neu eu llawr lwytho o r we. Yn achos geiriau anodd eu sillafu, defnyddiwch gofeiriau (mnemonics) fel: Big Elephants Can Always Upset Small Elephants -> because Can Oliver Understand Long Division -> could. Gellir annog plant hŷn i greu rhai eu hunain ac felly gael boddhad yn ogystal â u cofio n well. Mae gemau sy n cysylltu geiriau yn effeithiol er mwyn datblygu meddwl dargyfeiriol. Er enghraifft, coeden - coedwig - bwyell fforest blaidd. Ar y dechrau hwyrach y bydd y plentyn yn cynnig geiriau sy n rhy agos at y gair gwreiddiol fel coeden gwair llwyn a.y.b. Anogwch syniadau ehangach. Dechreuwch chi r grŵp, a gofyn i r plentyn roi r gair nesaf ac ymlaen felly bob yn ail. Gall grŵp gynnwys rhwng 5 ac 20 gair yn ôl oedran ac aeddfedrwydd y plentyn. Help gyda chyfarwyddiadau a dilyniant Rhowch dasgu sy n gofyn am ddilyn cyfarwyddiadau i ch plentyn. Gallech chwi adrodd y cyfarwyddiadau ac wedyn annog eich plentyn i w hysgrifennu yn y drefn gywir. Gallai dilyn cyfarwyddiadau fod yn dasg syml fel llunio cylch gyda sgwâr yn y canol neu dynnu llinell 10 centimedr o hyd gyda llinell 8 centimedr o hyd uwch ben ac un 12 centimedr oddi tanodd. Mae digon o bosibiliadau yma. Hefyd gofynnwch i ch plentyn roi cyfarwyddiadau i chi. Dilynwch hwy n union ac os nad ydynt yn gywir gall eich plentyn weld yr angen i fod yn fanwl gywir. Gallech ymarfer dilyniant fel hyn: o dilyniant llythrennau, geiriau neu frawddegau o ffurfio dilyniant stori o luniau wedi u torri allan a u gosod yn y drefn anghywir ac angen eu hail drefnu er mwyn gwneud synnwyr. o chwarae gêm rhifau cofrestru ceir. Pwyntiwch at gar a llefarwch y llythrennau a r rhifau ac wedyn gofynnwch i r plentyn eu hailadrodd yn gywir. o gêm y rhifau ffôn: rhowch rif i r plentyn a gofyn iddo/iddi ei ailadrodd. Anogwch y plentyn ei gofio mewn rhaniadau byr o r rhif cyfan. Er enghraifft, mae 01742918672 yn haws i w gofio fel hyn: 017 429 186 72. Page 3 of 5
Gwella r cof Dyfeisiwch gemau cofio. Gallai hyn fod y nifer o eiriau y gall eich plentyn gofio o r dydd blaenorol neu pa eitemau wnaethoch chi eu prynu ar y dydd blaenorol. Help gyda gwaith cartref/arholiadau Edrychwch ar ddyddiaduron gwaith cartref a helpwch eich plentyn i fod yn drefnus ar gyfer y sesiwn: y llyfrau cywir, distawrwydd i weithio a.y.b. Hefyd sicrhewch fod pethau n barod ar gyfer y diwrnod canlynol - bod popeth sydd ei angen yn y bag ar gyfer yr ysgol! Mae rhai ysgolion yn rhoi caniatâd i riant fod yn amanuensis i r plentyn; hynny yw caniatáu i r rhiant ddarllen y cwestiynau ac ysgrifennu r atebion a roddir gan y plentyn. Mae bod yn rhydd o orfod canolbwyntio ar ddarllen a sillafu yn caniatáu i r plentyn roi atebion helaethach neu n rhoi cyfle i ymestyn y dychymyg. Helpwch blant hŷn i ddefnyddio diagramau ( spidergrams neu mind maps ) i drefnu eu syniadau ar gyfer ysgrifennu traethodau. Astudio ar gyfer arholiadau: Nodwch y pwyntiau allweddol ar gyfer adolygu a gofynnwch i r plentyn ymhelaethu ar lafar (gellir cofnodi hyn er mwyn cyfeirio atynt yn ddiweddarwch). Mae adnabod y pwyntiau allweddol yn arwain at ddysgu llawer mwy effeithiol Syniadau eraill Mae cadw dyddiadur yn effeithiol ar gyfer pob agwedd o ddysgu - o ddarllen ac ysgrifennu i amgyffred dilyniant a threfn. Mae hefyd yn help i gofio dyddiau r wythnos, misoedd y flwyddyn a.y.b. Gallech ddefnyddio lluniau sy n berthnasol i weithgareddau r dydd ac yna ychwanegu brawddeg neu ddwy er mwyn datblygu diddordeb. Mae clock digidol sy n dangos y cloc 24 awr yn help i ddysgu sut i ddweud yr amser. Er mwyn helpu gyda mathemateg a dileu r boen o ddysgu tablau, tasg sy n aml bron yn amhosibl i blentyn dyslecsig, gofalwch bod eich plentyn yn gallu defnyddio sgwâr rhifau ( number square ). Gellir gwella cyd-symudedd drwy ymarfer clymu carrai esgidiau neu chwarae gemau Troi i r dde, troi i r chwith. Mae chwarae gemau pêl a thriciau cydbwysedd yn effeithiol iawn hefyd. Page 4 of 5
Defnyddio technoleg i helpu Ystyriwch y defnydd o raglen gyfrifiadurol sy n gallu ynganu geiriau ac ysgrifennu dros eich plentyn. Anogwch eich plentyn i ddysgu sut i gyffwrdd-deipio. Mae nifer o raglenni ar gael ar y We i helpu, er enghraifft Dance Mat gan y BBC. Gall gemau sillafu ar gyfrifiadur fod yn hwyl. Mae gan rhai fel Wordshark a Spellmate y fantais ychwanegol o fod yn addas i w haddasu i r Gymraeg. Mae cwblhau chwilair neu groesair yn ffordd dda o ddatblygu sillafu a geirfa. Mae llawer o raglenni creu chwileiriau a chroeseiriau ar gael ar y We yn rhad ac am ddim. Page 5 of 5