CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

Size: px
Start display at page:

Download "CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD"

Transcription

1 CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD Cyflwyno S4C Awdurdod darlledu cyhoeddus yw S4C. Sefydlwyd S4C gan Ddeddfau Darlledu 1980/1981 i ddarparu gwasanaeth teledu Cymraeg a aeth ar yr awyr gyntaf ym mis Tachwedd Darlledwr sy n comisiynu cynnwys o gwmnïau cynhyrchu yw S4C, yn hytrach nag un sy n cynhyrchu rhaglenni. Yn ogystal, mae dyletswydd statudol ar BBC Cymru i ddarparu o leiaf 10 awr o raglenni'r wythnos i w darlledu ar wasanaethau S4C. Ei amcan corfforaethol yw darparu gwasanaeth teledu Cymraeg cynhwysfawr, o safon uchel, sy n adlewyrchu a chyfoethogi bywyd yng Nghymru. Mae S4C yn darlledu r gwasanaethau canlynol ar hyn o bryd: Enw r gwasanaeth Natur y Gwasanaeth Platfform Argaeledd S4C Rhaglenni Cymraeg o 7.00 y bore tan yn hwyr. Yn oriau r nos - yn ystod sesiynau Cynulliad Cenedlaethol Cymru trafodaethau a digwyddiadau r dydd o r Cynulliad. Telewerthu yn ystod oriau r nos pan nad yw r Cynulliad yn cwrdd. Freeview, Virgin TV a Clirlun yng Nghymru. Ar gael hefyd ar Freesat a Sky yng Nghymru a gweddill y DU. Mae S4C ar gael ar: Sky 104 yng Nghymru Freeview ar 4 yng Nghymru Virgin TV ar 167 yng Nghymru Freesat 104 yng Nghymru Sky 134 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon Freesat 120 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon Mae Clirlun ar gael ar Freeview HD ar 53 yng Nghymru s4c.co.uk/clic Mae modd gwylio gweddarllediad cydamserol o wasanaeth S4C. Ar-lein DU a (lle bo hawliau n caniatáu) ar draws y byd. Hefyd ffenestr 35 diwrnod fel arfer ar gyfer gwylio ar alw. Ffrydio ychwanegol o ddigwyddiadau pwysig yng Nghymru. 1

2 Enw r gwasanaeth Natur y Gwasanaeth Platfform Argaeledd s4c.co.uk Gwefan S4C yn cynnig safleoedd chwaraeon, cerddoriaeth, drama, ffeithiol, digwyddiadau byw ac adloniant. Ar-lein Ar gael ar draws y byd Manylion ynghylch yr amserlen. Hyrwyddiadau rhaglenni a gwasanaethau. Gwybodaeth tywydd, gwasanaeth i ddysgwyr, i gynhyrchwyr a gwybodaeth gorfforaethol. Safle Caban sy n rhannu r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni a gweithgareddau S4C. Nifer o wefannau ychwanegol sy n cael eu creu gan gyflenwyr annibynnol ac sy n mynd y tu hwnt i ofynion rhaglenni teledu. Mae r gofynion statudol ar S4C, ei gwasanaethau a i gweithgareddau wedi i gosod allan yn bennaf yn y Ddeddf Darlledu 1990, y Ddeddf Darlledu 1996 a r Ddeddf Gyfathrebiadau Manylion cefndir am S4C Mae S4C yn cael ei ariannu ar hyn o bryd yn bennaf o grant gan Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ynghyd â chyllid sy n cael ei greu gan weithgareddau ei his-gwmnïau masnachol. Cyfeiriwch at Adroddiad Blynyddol S4C am fwy o fanylion. Mae n fwriad gan Yr Ysgrifennydd Gwladol i S4C gael ei ariannu o 2013/14 ymlaen yn bennaf allan o Ffi r Drwydded. Ers Deddf Gyfathrebiadau 2003, mae cynnwys rhaglenni S4C yn cael ei reoleiddio yn bennaf gan Ofcom (gan gynnwys cydymffurfiaeth rhaglenni r gwasanaeth, cwotâu ar gyfer cynnyrch rhanbarthol ac annibynnol, Cod Ymarfer a Thelerau Masnach ar gyfer cynhyrchwyr annibynnol). Mae Awdurdod S4C yn awdurdod darlledu annibynnol ac yn gyfrifol am bolisi strategol y corff. Mae r Awdurdod yn gorff annibynnol yn gyfrifol am atebolrwydd i r cyhoedd am wariant arian cyhoeddus. O ddydd i ddydd rheolir S4C gan y Prif Weithredwr a r Tîm Rheoli. Gellir cael manylion pellach drwy ddilyn y linciau canlynol:- Gwybodaeth am Ymgynghoriad

3 Adolygiad o ddatganiad Polisi Rhaglenni S4C Datganiad Polisi Cynnwys 2012: Cynllun Gwaith S4C ar gyfer 2012: Adroddiad blynyddol 2010: Y swydd Bydd y Cynorthwy-ydd yn atebol i Ysgrifennydd yr Awdurdod, a bydd yn darparu cymorth a chefnogaeth weithredol i Gadeirydd ac Ysgrifennydd yr Awdurdod. Bydd hefyd yn cydlynu gydag adrannau eraill o fewn S4C er mwyn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i Awdurdod S4C. Ymysg dyletswyddau r swydd fydd:- Cynorthwyo r Ysgrifennydd i baratoi a darparu gwybodaeth i Gadeirydd ac Aelodau Awdurdod S4C, gan gynnwys cynorthwyo i baratoi cofnodion cyfarfodydd a phwyllgorau r Awdurdod, a chyfarfodydd gyda chyrff allanol; Cynorthwyo r Ysgrifennydd i baratoi a darparu dogfennau fydd yn cyflwyno gwaith yr Awdurdod i randdeiliaid a r cyhoedd; Cydlynu gwaith asesu perfformiad gwasanaethau S4C ar gyfer yr Awdurdod; Cydweithio gyda r Adran Cyfathrebu a Phartneriaethau i drefnu gweithgareddau cyhoeddus yr Awdurdod; Paratoi ac ysgrifennu deunydd yn Gymraeg a Saesneg at ddibenion mewnol ac allanol, gan gynnwys dogfennau briff a chofnodion; Delio gydag ymholiadau, sylwadau a cheisiadau o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth; Unrhyw waith rhesymol arall. Yn ogystal bydd disgwyl i chi:- Gydweithio gyda chyd-aelodau staff ac eraill i sicrhau bod S4C yn cyrraedd ei hamcanion corfforaethol. Sicrhau bod S4C yn gweithredu n effeithiol ac yn gyson â r ymrwymiadau statudol a strategol. Hybu cyfathrebu effeithiol er mwyn cyrraedd yr amcanion corfforaethol. 3

4 Gyfrannu at drafodaethau a chyfarfodydd sydd yn ymwneud yn benodol â ch cyfrifoldebau unigol ac yn fwy eang lle mae budd i S4C yn gyffredinol. Gyd-weithio mewn modd sydd yn cyd-fynd â nod S4C i ddarparu awyrgylch gwaith parchus, urddasol a diogel ar gyfer eich cyd-weithwyr. Sicrhau eich bod yn gweithredu yn unol â r Polisi Iechyd a Diogelwch ac yn gweithredu argymhellion asesiadau risg. Gefnogi nodau S4C mewn perthynas ag amrywiaeth, gan gynnwys anabledd, ac yn hybu ymarfer da. Manylion Eraill LLEOLIAD: CYFLOG: CYTUNDEB: ORIAU GWAITH: CYFNOD PRAWF: IECHYD: Lleolir y swydd hon yn swyddfeydd S4C yng Nghaerdydd, ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn o dro i dro. 25,000-30,000 yn unol â phrofiad. 2 flynedd i gychwyn. Oriau arferol swyddfa yw 9.00am pm ar Ddydd Llun i Ddydd Iau ac o 9.00am pm ar Ddydd Gwener ond oherwydd natur y swydd disgwylir peth hyblygrwydd ar adegau, gan gynnwys gweithio ar rai penwythnosau. Bydd y cyflog yn cymryd i ystyriaeth yr oriau ychwanegol y mae n bosibl y bydd angen i chi weithio. Mae gofyn i bob un a benodir gan S4C fod ar brawf am gyfnod o chwe mis er mwyn i r cyflogwr gael adolygu perfformiad, ymddygiad, a phresenoldeb yn y gwaith. Diogelir hawl S4C i derfynu r cytundeb yn ystod y cyfnod prawf gydag 1 wythnos o rybudd. Disgwylir i staff newydd gael archwiliad meddygol gan feddyg S4C ar ddechrau'r cyfnod cyflogaeth. Cedwir cofnod o bob absenoldeb oherwydd afiechyd. GWYLIAU: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl yn ystod pob blwyddyn wyliau, y cyfryw flwyddyn i redeg o ddyddiad cychwyn eich cyflogaeth gydag S4C. Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth byddai hawl gennych i 2 ddiwrnod ychwanegol o wyliau, ynghyd â diwrnod ychwanegol o wyliau bob blwyddyn wedi hynny hyd at uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 9 mlynedd o wasanaeth. PENSIWN: Bydd hawl gennych i ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro ar ôl dri mis o gyflogaeth. Os byddwch yn ymuno â r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o ch cyflog sylfaenol i r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. Ceisiadau Dylid anfon ceisiadau erbyn 17:00 ar 28 Mehefin 2012 at Carys Hedd Paschalis, Swyddog Adnoddau Dynol, S4C, Parc Ty^ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU. 4

5 Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economaidd cymdeithasol, oedran, sefyllfa deuluol, statws priodasol, gweithwyr rhan neu lawn amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tueddfryd rhywiol, defnydd o iaith neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall ac mae'n ymroddedig i ystyried amrywiaethau mewn modd positif. Mae S4C yn croesawu ac yn cymell ceisiadau am swyddi oddi wrth grwpiau allai fod wedi eu tangynrychioli gan gynnwys merched, pobl dduon ac o leiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth agored a theg a phenderfynir ar benodiadau ar sail teilyngdod. This is a job description for the post of Assistant to the Secretary to the Authority. The ability to speak Welsh fluently is essential for this post. 5

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the

More information

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth

More information

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme 1. INTRODUCTION 1.1. This report covers the period from October to the end of October 2011. 1.2. The Legal Services

More information

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol

More information

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol

More information

NatWest Ein Polisi Iaith

NatWest Ein Polisi Iaith NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600

More information

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i DOGFENNAU SY N MYND GYDA R BIL Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân. Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r

More information

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1 Cynllun Strategol 2018-2021 Tudalen 1 Cynnwys 1. Crynodeb 2. Swyddogaethau 3. Gweledigaeth a gwerthoedd 4. Amcanion strategol Amcan 1 dylanwadu ar bolisi Amcan 2 ehangu hawliau pobl i ddefnyddio r Gymraeg

More information

Welsh Language Scheme

Welsh Language Scheme Welsh Language Scheme What is the purpose of this policy? The GPhC recognises the cultural and linguistic needs of the Welsh speaking public and we are committed to implementing the principle of equality

More information

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18 Cyhoeddwyd yn unol ag adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Awst 2018 Dyma grynodeb o adroddiad sicrwydd 2017-18 adroddiad

More information

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol

More information

Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2005

Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2005 S4C Programme Policy Statement 2005 Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2005 Dyma Ddatganiad Polisi Rhaglenni cyntaf Awdurdod S4C o dan ofynion y Ddeddf Gyfathrebu 2003. Mi fydd yr Awdurdod yn adolygu llwyddiant

More information

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau

More information

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU WHC/2017/014 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi 29 Mawrth 2017 STATWS: GWYBODAETH CATEGORI: ANSAWDD A DIOGELWCH Teitl: Gwybodaeth i gleifion ynghylch trefniadau Gweithio i Wella Dyddiad dod i ben

More information

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Gwybodaeth am Hafan Cymru PECYN RECRIWTIO Gwybodaeth am Hafan Cymru Pwy ydym ni Cymdeithas Tai Gofrestredig yw Hafan Cymru, a r un darparwr mwyaf o wasanaethau ynghylch trais yn erbyn menywod, dynion a phlant sy n gweithredu ledled

More information

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau Datganiad Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015 1 Y ddogfen hon Fel rhan o Adolygiad Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus,

More information

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA

More information

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation

More information

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY Appendix 11 Staff Handbook BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY INTRODUCTION Antur Teifi s aim is to follow good practice under the Welsh Language Act 1993 and this policy applies to all our business activities.

More information

Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad

Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad Rhif: WG33010 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2018 Camau i w cymryd:

More information

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau Polisi Prevent Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau 1. Chwefror 2016 Cymeradwyaeth Gychwynnol 11 Chwefror 2016 2. Ionawr 2016 Adolygu

More information

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad I SYLW: PENAETHIAID A CHYDLYNWYR ADYaCh Croeso i Rifyn yr Hydref (2017) o Gylchlythyr ADYaCh. Mae llawer o brysurdeb wedi bod dros y misoedd diwethaf

More information

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi

More information

Swim Wales Long Course Championships 2018

Swim Wales Long Course Championships 2018 Swim Wales Long Course Championships 2018 Closed event March 30 th April 2 nd 2018 #SWLC18 Meet Summary Swim Wales National Long Course Championships is a level 1 Closed Long Course (50m) meet aimed at

More information

Tour De France a r Cycling Classics

Tour De France a r Cycling Classics Tour De France a r Cycling Classics - 2014-2016 Mae S4C wedi sicrhau r hawliau i ddarlledu rhaglenni Cymraeg o r Tour de France a rhai o rasys y Cycling Classics am y tair blynedd nesaf 2014, 2015 a 2016.

More information

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr

More information

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Adroddiad ar yr ymgynghoriad Ynglŷn â r ymgynghoriad hwn Mae r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o r ymatebion i r ymgynghoriad ar samplo cofnodion

More information

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events IPC registered and approved Monday 30 th July Sunday 5 th August 2018 #SWSO18 1 Meet summary Swim Wales is proud to present

More information

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd

More information

Safonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015

Safonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015 Safonau Iechyd a Gofal Ebrill 2015 Rhagair Rhagair gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ar 9 Gorffennaf 2013 fe roddon ni ymrwymiad i adolygu a diweddaru r Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd

More information

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on

More information

NUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG

NUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG NUT CANLLAW ANG 2015-16 Cyfnod Sefydlu Cymwys i addysgu yn 2015? Cewch aelodaeth lawn tan 2017 am 1 Ffoniwch neu ewch ar lein er mwyn uwchraddio o aelodaeth myfyriwr i aelodaeth lawn o r NUT. Llinellau

More information

offered a place at Cardiff Met

offered a place at Cardiff Met UCAS Teacher Training Congratulations on being offered a place at Cardiff Met We re delighted that you ve selected us as one of your University choices and we hope to see you in September 2015. In the

More information

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m

More information

Summer Holiday Programme

Summer Holiday Programme Summer Holiday Programme for Flintshire Leisure Centres Our fantastic summer holiday programme for each of our four leisure centres www.flintshire.gov.uk Like Follow us Deeside Leisure Centre - 01352 704200

More information

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400. Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg

More information

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 Ionawr 2018 Hawlfraint y Goron 2018 WG33909 ISBN digidol 978-1-78903-394-6 Cynnwys Rhif

More information

Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill Mawrth 2017

Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill Mawrth 2017 Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill 2016 31 Mawrth 2017 Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn ei gyfarfod cyntaf ar 24 Mehefin 2016. O r chwith i r

More information

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our

More information

Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol

Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol 1 Sefyllfaoedd a gweithdrefnau Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol Mae'r ddogfen hon ar gyfer pobl sy'n bwriadu cofrestru plaid wleidyddol neu sydd am newid manylion plaid wleidyddol gofrestredig

More information

Technoleg Cerddoriaeth

Technoleg Cerddoriaeth Edexcel CE Technoleg Cerddoriaeth Uwch yfrannol Uned 1: Portffolio Technoleg Cerddoriaeth 1 Dyddiad rhyddhau: Dydd wener 11 Medi 2009 Amser: 60 awr Cyfeirnod y Papur 6MT01/01 Rhaid bod gennych: Copi o

More information

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant

More information

Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol

Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol Datganiad Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2017 Gair am y ddogfen hon Mae'r ddogfen hon yn cloi ein hadolygiad o r broses o reoleiddio r Post Brenhinol. Cafodd

More information

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods

More information

Cynnwys. Atodiad 1- Strwythur trefniadaeth rhaglenni mamau a phlant Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol

Cynnwys. Atodiad 1- Strwythur trefniadaeth rhaglenni mamau a phlant Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol Cynnwys Crynodeb Gweithredol... 4 1. Cyflwyniad... 7 2. Y tîm... 8 3. Cynllun gweithredol... 9 4. Yr hyn y mae r tîm wedi i gyflawni... 10 4.1 Gweithio gyda rhanddeiliaid... 10 4.2 Rheoli perfformiad a

More information

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Ysgol Dyffryn Conwy Llyfryn Gwybodaeth Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Calendr Dyddiadau Pwysig MEDI 2017 HYDREF 2017 TACHWEDD 2017 1 HMS 1 1 Hanner Tymor 2 2 2 Hanner Tymor 3 3 3 Hanner Tymor 4 HMS 4

More information

Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru

Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru 2018-2023 1 CYNNWYS 1. Rhagymadrodd gan Gefnogwr Rhanbarthol Atal Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais

More information

W46 14/11/15-20/11/15

W46 14/11/15-20/11/15 W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil

More information

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Rhif: WG25772 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 18 Rhagfyr 2015

More information

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid

More information

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil

More information

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig

More information

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU WHC/2016/036 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi: 30 Medi 2016 Teitl: Tystysgrif Nam ar y Golwg Cymru STATWS: CYDYMFFURFIO CATEGORI: POLISI Dyddiad dod i ben / Adolygu Amherthnasol I w weithredu

More information

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost Y flwyddyn ariannol 2016-17 Diweddariad ar y farchnad Dyddiad Cyhoeddi: 23 Tachwedd 2017 Gair am y ddogfen hon Mae r adroddiad hwn yn cynnwys y prif ddata

More information

Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus

Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus Canllaw ymarferol i bolisi ac ymarfer da yr eglwysi wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc,

More information

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!

More information

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

APIAU CYMRAEG. C.Phillips APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan

More information

Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i

Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i CYFLWYNIAD Mae plant yn cynrychioli chwarter o boblogaeth y DU sy'n cynnwys 718,248 o blant a phobl ifanc 0-19 oed sy'n byw yng Nghymru 1. Mae Plant yng Nghymru yn

More information

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line) North Wales Cancer Service Information Leaflet Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line) This leaflet has been written to give you some general information about PICC lines. It is a guide to help

More information

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i'n cylchlythyr Gwanwyn. Mae cymaint wedi digwydd ers ein cylchlythyr olaf- gobeithio eich wedi bod yn cadw i fyny gyda'r rhan fwyaf ohono

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places

More information

Cymorth i Ferched Cymru Fersiwn 5 Cymorth i Ferched Cymru Rhoi Merched a Phlant yn Gyntaf

Cymorth i Ferched Cymru Fersiwn 5 Cymorth i Ferched Cymru Rhoi Merched a Phlant yn Gyntaf Cymorth i Ferched Cymru Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cam-drin Domestig Arbenigol Dogfen Gyflwyno Fersiwn 5 Chwefror 2018 Cymorth i Ferched Cymru Welsh Women s Aid Rhoi

More information

Holiadur Cyn y Diwrnod

Holiadur Cyn y Diwrnod LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl

More information

Canllaw Diogelu Data. Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth [Tachwedd 2009]

Canllaw Diogelu Data. Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth [Tachwedd 2009] Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth [Tachwedd 2009] Cynnwys RHAN A Cyflwyniad ar ddiogelu data A1 Elfennau sylfaenol diogelu data A2 Rôl Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth A3 - Diffiniadau allweddol yn y Ddeddf

More information

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,

More information

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus

More information

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous. BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau

More information

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017 Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community

More information

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017. Adroddiad yn dilyn monitro Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY Dyddiad yr ymweliad: gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Hawlfraint

More information

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Aelodau Yn Bresennol / Members Present Cyngh / Cllr Eryl Jones Williams (EJW) O.G Thomas

More information

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion

More information

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd

More information

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau Cynnwys Tudalen Cyflwyniad 2 Dogfennau a gwybodaeth allweddol 3 1. Senarios 4 Sioe gerdd ysgol 4 Grŵp ieuenctid 6 Teledu 8 Rhaglen realiti 10 2. Materion

More information

Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack

Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Urdd National Eisteddfod Business Pack Beth yw Eisteddfod yr Urdd? Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl flynyddol sy n ddathliad o r iaith Gymraeg, y diwylliant a

More information

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

ARWEINLYFR I FYFYRWYR ARWEINLYFR I FYFYRWYR HŶN Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 www.bangor.ac.uk www.facebook.com/prifysgolbangor @prifysgolbangor Mae r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i

More information

Cynnwys. 1. Cyflwyniad. 2. Manylion Cyswllt Radio Cymru. 3. Comisiynau Llwyddiannus Y Gynulleidfa

Cynnwys. 1. Cyflwyniad. 2. Manylion Cyswllt Radio Cymru. 3. Comisiynau Llwyddiannus Y Gynulleidfa Cynnwys 1. Cyflwyniad 2. Manylion Cyswllt Radio Cymru 3. Comisiynau Llwyddiannus 2014-15 4. Y Gynulleidfa 5. 2015-16: Y Categoriau Annibynol - Crynodeb 6. Dogfen 2015-16 7. Nodwedd a Rhaglenni Unigol 2015-16

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 26 June/Mehefin 23-29, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Exhibitionists 3 Crimewatch Roadshow 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth

More information

W42 13/10/18-19/10/18

W42 13/10/18-19/10/18 W42 13/10/18-19/10/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Match of the Day Wales 4 Tourist Trap 5 Stand Up at BBC Wales 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Ammanford / Rhydaman 2 Bridgend

More information

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16 Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16 Awdur Linda Bailey: Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus / Gwybodaeth Iechyd Tynnu data Louise Richards (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) Dadansoddi data Mari Jones (Dadansoddwr

More information

Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg

Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg Rhif: WG32353 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori ar y Papur Gwyn Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 31 Hydref 2017

More information

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid Etholiad cyffredinol Senedd y DU Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid Rhan 6 o 6 - Ar ôl datgan y canlyniad Tachwedd 2018 Mae'r ddogfen hon yn berthnasol i etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain

More information

Talu costau tai yng Nghymru

Talu costau tai yng Nghymru Talu costau tai yng Nghymru Trosolwg Mae r papur hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg 1 a gomisiynwyd ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yr haf diwethaf i bennu i ba raddau y mae pobl

More information

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyfathrebu Digidol Mae twf digidol yn allweddol i ddatblygu economi Cymru, ac felly mae angen polisïau arloesol i

More information

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter

More information

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu Canllaw cyflogwyr i ailddilysu CYNNWYS BETH MAE R DDOGFEN HON YN EI WNEUD?...3 BETH YW AILDDILYSU?...5 Y BROSES AILDDILYSU A I GOFYNION... 7 RÔL CYFLOGWYR YN Y BROSES AILDDILYSU...10 CYNORTHWYO NYRSYS

More information

E-fwletin, Mawrth 2016

E-fwletin, Mawrth 2016 Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru E-fwletin, Mawrth 2016 Aelodau Staff Newydd yn NWDA Mae dau aelodau newydd wedi ymuno Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru. Hoffem eu croesawu'n gynnes i'r tîm ac yn eu cyflwyno

More information

October Half Term. Holiday Club Activities.

October Half Term. Holiday Club Activities. October Half Term Holiday Club Activities Hoffi Dilynwch ni Like Follow us www.aura.cymru www.aura.wales BUCKLEY SWIMMING ACTIVITIES 4 YEARS AND OLDER Activity Description Dates of Activity Activity Start

More information

W39 22/09/18-28/09/18

W39 22/09/18-28/09/18 W39 22/09/18-28/09/18 2 Rhondda Rebel 3 Back In Time for the Factory 4 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Newport / Casnewydd 2 Usk / Brunbuga 2 1 Follow @BBCWalesPress on Twitter to

More information

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Primary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 3 Year 4 Year 5 Year 6 How old are

More information

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg 2 Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Initially I joined the class to learn Welsh to help my three-year-old build his language skills for school and at home. The real bonus is that the

More information

Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr

Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr 28/3/213 Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr ADRODDIAD TERFYNOL Mawrth 213 Gan Dr David Hirst a Teresa Crew Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor. Ar ran y Gweithgor Sipsiwn a Theithwyr.

More information

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners ********************************************************************************************************* Beth amdani? 2017 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners Eisteddfod Genedlaethol

More information

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL Ymateb Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drafnidiaeth Cymru Dylunio Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a r Gororau gan gynnwys y Metro Mai 2017 Am fwy o wybodaeth am yr ymateb hwn,

More information

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form This competition is organised by the Engineering Education Scheme Wales on behalf of the Welsh Government to recognise the exciting

More information

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm Students present: Callum Smith Chiron Hooson David Hooson Emlyn Pratt Esyllt Lewis Jake Smith James Daly Jordan Martin Joshua Green Marcus Connolly Matthew

More information

Tuesday 26th January 2016 Bryn Meadows Golf Club, Maesycwmmer

Tuesday 26th January 2016 Bryn Meadows Golf Club, Maesycwmmer Tuesday 26th January 2016 Bryn Meadows Golf Club, Maesycwmmer Order of Ceremony - Trefn y Seremoni 6:15 Arrival 6:30 Welcome by Ben Hammond Kelly Davies Speech Young Volunteer of the Year award presented

More information

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from The CAMPSITE toolkit A rough guide to setting up a new campsite Produced by and with support from We are Creative Rural Communities; the Vale of Glamorgan Council s Rural Regeneration initiative. In short

More information

Gwneud y Rheilffyrdd yn Hygyrch: Cynorthwyo Teithwyr Hŷn ac Anabl Yn ddilys o 1 Hydref 2016

Gwneud y Rheilffyrdd yn Hygyrch: Cynorthwyo Teithwyr Hŷn ac Anabl Yn ddilys o 1 Hydref 2016 Gwneud y Rheilffyrdd yn Hygyrch: Cynorthwyo Teithwyr Hŷn ac Anabl Yn ddilys o 1 Hydref 2016 Cynnwys Cyflwyniad... 2 Disgrifiad o'r rhwydwaith... 2 1 Crynodeb o r polisi... 3 2 Cymorth i deithwyr... 3 3

More information

Datganiad Technegol Rhanbarthol

Datganiad Technegol Rhanbarthol Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a De Cymru - Adolygiad Cyntaf- (Prif Ddogfen) Argraffiad Terfynoli w (gymeradwy) - 1 Awst 2014 Gweithgor Agregau Rhanbarthol

More information