Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia
|
|
- Marilynn Hopkins
- 6 years ago
- Views:
Transcription
1 TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter a Dysgu sefydlu grwp rapporteur i ystyried dulliau o drin dyslecsia yng Nghymru. Dyma aelodau r grwp: Alun Cairns AC; Jeff Cuthbert AC; Janet Ryder AC a Kirsty Williams AC. Yn ei gyfarfod ffurfiol cyntaf ar 19 Gorffennaf 2007, cytunodd y Grwp Rapporteur Dyslecsia ar y Cylch Gorchwyl a ganlyn: Ystyried dulliau traddodiadol, dulliau arloesol a dulliau newydd o drin dyslecsia a chyflwyno adroddiad ac argymhellion gerbron y Pwyllgor Menter a Dysgu erbyn diwedd tymor yr hydref Rhwng mis Awst a mis Hydref, cyfarfu r grwp bum gwaith gan gasglu tystiolaeth mewn cyfarfodydd anffurfiol gan bedwar corff. Bu r grwp hefyd ar ddau ymweliad allanol ac mae wedi cyfarfod â: Michael Davies, Prosiect Dyslecsia Cymru Jennifer Owen-Adams a Dr Ruth Gwernan Jones, Cymdeithas Dyslecisa Cymru Jacqui Brett a Dr Peter Harris, y Dull Raviv Jane Owens, Dyslexia Action Cymru Yn ogystal â hyn, aeth y grwp i Ganolfan Dore Caerdydd, a chyfarfod â Scott Quinnell, Nigel Maris a Bryan Allan. Aeth y grwp hefyd i ogledd-ddwyrain Cymru, gan gyfarfod â: David B Jones; Carol Newsam Coleg Glannau Dyfrdwy Roy Fielding British Dyslexics Sue Bell Jones a thim o athrawon sy n arbenigo mewn dyslecsia Ysgol Bryn Coch Tra oeddynt yng Ngogledd Cymru, gwelodd y grwp raglen Fast ForWord ar waith. Rhaglen yn seiliedig ar gêm gyfrifiadurol yw hon, ac fe i cyflwynwyd gan John Kerins (Ymarferydd) a r Athro Ian Crease (athro Niwrowyddoniaeth, Prifysgol Rutgers, New Jersey, America). 1 Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o DdyslecsiaPF FP, clywodd 2 a Dysgu dystiolaethpf Ann Cooke, Uned Ddyslecia, Prifysgol Bangor y Pwyllgor Menter 1 11 Tachwedd Pwyllgor Menter a Dysgu, Cofnod y Trafodion, 7 Tachwedd 2007, HTUhttp:// agendas.htm?act=dis&id=65365&ds=11/2007uth
2 Yr Athro Angela Fawcett, Canolfan Ymchwil Plant, Prifysgol Abertawe Yr Athro David Reynolds, Prifysgol Plymouth 2. Materion sy n dod i r amlwg 2.1 Diffinio Dyslecsia Un o r materion cyntaf a ddaeth i r amlwg yn ystod sesiynau casglu tystiolaeth y grwp oedd y ffaith nad oedd diffiniad safonol ar gyfer dyslecsia. Mae r rhan fwyaf yn cytuno bod dyslecsia n ymwneud ag anawsterau darllen, ysgrifennu a sillafu; mae rhai n pwysleisio bod yr anawsterau hyn yn codi oherwydd problemau â r cof tymor byr; mae eraill yn dweud eu bod yn codi oherwydd ymwybyddiaeth ffonolegol wan; mae rhai n credu mai nam ar y synhwyrau neu r ymennydd yw r broblem, ac eraill yn teimlo nad afiechyd y mae angen ei drin yw dyslecsia. Sylweddolodd y grwp fod gwahanol ddulliau o asesu a phrofi n cael eu defnyddio mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Roedd cytundeb cyffredinol mai syndrom yw dyslecsia, yn hytrach nag un anabledd unigol. Mae nifer sylweddol o awdurdodau lleol yng Nghymru yn defnyddio r diffiniad o ddyslecsia a gynigir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain: Dyslexia is evident when accurate and fluent word reading and/or spelling develops very incompletely or with great difficulty. This focuses on literacy learning at the 'word level' and implies that the problem is severe and persistent despite appropriate learning opportunities. It provides the basis for a staged process of assessment through teaching. [Cymdeithas Seicolegol Prydain Diweddarwyd yn 2005 ] Mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain yn cynnig y diffiniad a ganlyn, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio n eang: Dyslexia is a combination of abilities and difficulties that affect the learning process in one or more of reading, spelling and writing. It is a persistent condition. Accompanying weaknesses may be identified in areas of speed of processing, short-term memory, organisation, sequencing, spoken language and motor skills. There may be difficulties with auditory and / or visual perception. It is particularly related to mastering and using written language, which may include alphabetic, numeric and musical notation. Dyma sut y mae Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd Llywodraeth y DU yn disgrifio dyslecsia:
3 Pupils with dyslexia may learn readily in some areas of the curriculum but have a marked and persistent difficulty in acquiring accuracy or fluency in learning to read, write and spell. Pupils may have poor reading comprehension, handwriting and punctuation. They may also have difficulties in concentration and organisation and in remembering sequences of words. They may mispronounce common words or reverse letters and sounds in words. Clywodd y grwp dystiolaeth hefyd, gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain er enghraifft, na fyddai un diffiniad safonol o ddyslecsia n adlewyrchu profiadau gwahanol unigolion o ddyslecsia. Argymhelliad 1 Mae r grwp yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru ac awdurdodau lleol Cymru yn cytuno ar ddiffiniad safonol o ddyslecsia er mwyn sicrhau bod mwy o gysondeb ar draws Cymru wrth sgrinio, asesu a darparu gwasanaethau ar gyfer dyslecsia a ariennir gan awdurdodau lleol. 2.2 Pwysigrwydd Adnabod Anawsterau n Gynnar Pwysleisiodd pawb a fu n siarad â r Grwp Rapporteur bwysigrwydd a manteision adnabod yn gynnar anawsterau darllen ac arwyddion posibl o ddyslecsia ymhlith plant ifanc. Roedd rhywfaint o wahaniaeth barn ynghylch yr union oed y gellid rhoi profion i blant ond mae n ymddangos bod pawb yn cytuno y gall athrawon babanod, fel arfer, adnabod plant yn nosbarthiadau Blwyddyn Un (6 oed) sy n cael mwy o anhawster na u cyfoedion o ran dysgu sgiliau darllen, sillafu ac ysgrifennu sylfaenol. Mae n bosibl cadarnhau diagnosis yr athrawon hyn wedyn drwy gynnal profion sgrinio. Roedd gwahaniaeth barn ynghylch manteision sgrinio n gyffredinol. Dadleuai Prosiect Dyslecsia Cymru, ac eraill, nad oes angen sgrinio pob plentyn ifanc yn ffurfiol ar gyfer dyslecsia ac y dylid cyfyngu r profion sgrinio i r plant hynny y mae eu hathrawon yn nodi bod ganddynt anawsterau. Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Brosiect Dyslecsia Cymru na fyddai r profion sgrinio n cynnig diagnosis ffurfiol o ddyslecsia ond nad oedd hynny n angenrheidiol ar y dechrau. Ym marn rhai o r tystion, os oedd profion sgrinio n cadarnhau asesiad cychwynnol yr athrawes, gallai r disgybl gael cymorth ychwanegol yn yr ysgol ac, mewn nifer o achosion, byddai r cymorth ychwanegol hwn yn ddigonol.
4 Clywodd y grwp mai dim ond nifer fechan o ddisgyblion sydd â symptomau mwy difrifol sy n gysylltiedig â dylsecisa difrifol. Dyma r plant sy n elwa o gael eu hasesu n ffurfiol gan seicolegydd addysg ond roedd pryderon, fodd bynnag, a gadarnhawyd gan dystiolaeth anecdotaidd, ynglŷn â r amser aros hir cyn cael gweld seicolegydd addysg. Mae Coleg Addysg Bellach Glannau Dyfrdwy yn defnyddio ffurflenni cais myfyrwyr, tiwtoriaid sydd wedi u hyfforddi n arbennig a phecynnau meddalwedd sgiliau i adnabod myfyrwyr sydd ag anawsterau llythrennedd a rhifedd posibl, ac a fyddai n elwa o gael cymorth ychwanegol. Mae r coleg yn rhoi pwyslais mawr ar edrych ar y myfyriwr cyfan, gan nodi unrhyw anawsterau penodol posibl a rhoi cymorth ychwanegol iddynt sydd wedi i deilwro i ddiwallu anghenion unigolion. Argymhelliad 2 Clywodd o grwp dystiolaeth sylweddol fod amseru ymyrraeth yn dyngedfennol a bod ymyrraeth gynnar yn fwy tebygol o lwyddo i godi safon plant sy n cael anawsterau i r un lefel â u cyfoedion. Mae r grwp felly n argymell bod profion sgrinio ar gyfer dyslecsia ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg i unrhyw blentyn, pan fydd yn 6 neu n 7 oed, os yw r athro neu r athrawes yn nodi bod gan y plentyn hwnnw fwy o anawsterau darllen, sillafu neu ysgrifennu na i gyfoedion. Yna, yn fuan wedyn, rhaid rhoi strategaethau ymyrryd priodol ar waith a rhoi cymorth ychwanegol i r plant hynny y mae r profion sgrinio n dangos y gallant fod yn dioddef o ddyslecsia. 2.3 Adnoddau Cymraeg i Bobl â Dylsecisa Sylweddolodd y grwp nad oes digon o waith ymchwil, tystiolaeth na chymorth i bobl â dyslecsia sy n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Er bod y rheini sy n gweithio gyda phobl sydd â dyslecsia yn cydnabod bod her arbennig ynghlwm wrth ddysgu sgiliau Saesneg, mae r Gymraeg yn wahanol gan ei bod yn ffonetig. Mae Prosiect Dyslecsia Cymru wedi datblygu prawf sgrinio gan ddefnyddio 60,000 a gawsant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Prifysgol Bangor yn arbenigo mewn addysg Gymraeg i bobl sydd â dyslecsia, er enghraifft, maent wedi datblygu rhaglenni O Gam I Gam a Camu Mlaen. Soniodd athrawon wrth y grwp am yr angen i gael prawf darllen Cymraeg a phrawf geirfa fynegiannol a derbyngar safonol yn Gymraeg. Teimla r grwp yn gryf y dylai profion sgrinio ac asesu fod ar gael yn ddwyieithog.
5 Argymhelliad 3 Mae r Grwp Rapporteur yn argymell yn gryf y dylai profion sgrinio ac asesu yn ogystal â chymorth fod ar gael yn ddwyieithog ac y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael at y diben hwn. 2.4 Data n ymwneud â Disgyblion sydd â Dyslecsia Clywodd y grwp bod mwy o fechgyn na merched yn tueddu i ddioddef o ddyslecsia ac mae digon o dystiolaeth yn dangos mai ffactorau genetig sy n gyfrifol am y cyflwr. Mewn tua 50 y cant o achosion, mae n bosibl dangos bod person wedi etifeddu r cyflwr. Mae r cyflwr yn effeithio ar tuag 1 o bob 10 o bobl ac mae tuag 1 o bob 4 yn achosion difrifol, ond mae pob achos yn wahanol. Mae n bosibl adnabod dyslecsia mewn plant 7 oed, ond gyda mwy o adnoddau mae n bosibl y gellid ei adnabod mewn plant 4 oed. Os yw oed darllen plentyn 2 flynedd yn is na i oed cronolegol, caiff gymorth ychwanegol, ac mae r rhan fwyaf o blant yn ymateb yn dda i r cymorth a gânt. Mae pryder ynglŷn â gwahaniaethu yn erbyn plant sydd â chyniferydd deallusrwydd isel, sy n cael eu hystyried fel disgyblion sydd ag anawsterau dysgu n hytrach na dyslecsia. Mae plant sydd â dyslecsia n aml yn dioddef o gyflyrau eraill hefyd, fel dyscalciwla, dysgraffia neu ADHD. Teimlai r grwp y dylid blaenoriaethu anghenion plant yn ôl eu difrifoldeb i ofalu bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Ar hyn o bryd, nid yw ystadegau r Llywodraeth, sy n seiliedig ar gronfa ddata Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn gallu gwahaniaethu rhwng y plant hynny sydd â dyslecsia a r plant hynny sydd ag anawsterau dysgu eraill. Caiff categorïau a diffiniadau eraill eu cynnwys pan gaiff y data blynyddol ei gasglu nesaf ond er hyn, nid yw dyslecsia n cael ei gynnwys fel categori ar wahân. Argymhelliad 4 Mae r Grwp Rapporteur yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gasglu gwybodaeth swyddogol fanwl gywir ynglŷn â faint o blant ysgol sydd â dyslecsia gan gynnwys data ynghylch nodweddion y rheini sydd â dyslecsia a data ynghylch amseroedd aros cyn i blant unigol gael gweld seicolegydd addysg. 2.5 Hyfforddi un athro neu athrawes arbenigol ym mhob ysgol Clywodd y grwp feirniadaeth gref gan nifer o dystion ynglŷn â lefel yr hyfforddiant arbenigol yn ymwneud â dyslecsia sy n cael ei gynnwys ar
6 TP PT Y gyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon e.e. mae modiwlau sy n gysylltiedig â dyslecsia n ddewisol yn hytrach na n orfodol mewn cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon. Clywodd y grwp dystiolaeth gref gan nifer o dystion ynglŷn â manteision cael athro neu athrawes ym mhob ysgol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol. Yn benodol, mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain yn ymgyrchu i gael athro neu athrawes ym mhob ysgol sy n arbenigo mewn dyslecsia ac sydd wedi i hyfforddi hyd at lefel diploma ôl-raddedig. Mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain hefyd yn rhedeg Ymgyrch Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia. O ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, lansiwyd Pecyn Gwybodaeth Cyflawni Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia dwyieithog cyntaf ym mis Mai AALl Sir y Fflint oedd y cyntaf i ennill statws AALl Cyfeillgar at Ddyslecsia yng Nghymru. Mae gan Abertawe fenter Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia hefyd. Mae r fenter Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia yn rhoi cryn bwyslais ar ddelio â dyslecsia fel ysgol gyfan dan arweiniad athrawon sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol. Argymhelliad 5 Cafodd dull Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia o drin dyslecsia fel ysgol gyfan gryn argraff ar y grwp a daeth i r casgliad fod llawer o fanteision ynghlwm wrth ddysgu drwy ganolbwyntio ar y disgybl. Mae r Grwp Rapporteur yn argymell bod y fenter Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia yn ymgymryd ag astudiaeth gwerthuso 2.6 Astudiaeth Gwerthuso Annibynnol o Ddulliau Anhraddodiadol o Gynorthwyo Pobl â Dyslecsia. Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig i r Pwyllgor Menter a Dysgu, dywedodd yr Athro Fawcett Dyslexia is one of the most controversial areas of education, not least because of the burning commitment of many dyslexia activists, but 3 also because of its genuinely interdisciplinary and multi-goal nature TPF FPT. Roedd y grŵp yn synnu at yr holl dystiolaeth wrthgyferbyniol a gyflwynwyd ac at gryfder y teimladau o blaid dulliau traddodiadol a dulliau arloesol o ddelio â dyslecsia. Mae angen gwaith ymchwil pellach, wedi i ariannu gan gorff annibynnol, er mwyn darganfod pwy sy n elwa fwyaf o r gwahanol ddulliau anhraddodiadol er enghraifft, rhaglen Dore, Dull Raviv, rhaglen Brain Gym a lensys lliw. Rhaid 3 Pwyllgor Menter a Dysgu, 7 Tachwedd 2007, HTUhttp:// agendas.htm?act=dis&id=63637&ds=11/2007uth
7 cynnal ymchwil drwyadl sy n ymdebygu i astudiaeth reoledig gyda mesuriadau clir ar gyfer y canlyniadau tymor byr a r mesuriadau hirdymor. Rhaid hefyd cael grwp safonol ac, yn ddelfrydol, ni ddylai r ymchwilwyr na r rheini sy n cael eu hastudio, wybod pa ddulliau sy n cael eu defnyddio ym mha gyd-destun. Rhaid trafod yr ystyriaeth foesol sydd ynghlwm wrth ddefnyddio grwp safonol, efallai drwy ofalu bod pob dull yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pawb, ar ryw adeg o r ymchwil. Trafodwyd cwmpas yr ymchwil a r defnydd o feincnodau priodol yn fanwl gan yr Athro Fawcett a r Athro Reynolds yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 7 Tachwedd Mae rhieni ac unigolion â dyslecsia n wynebu amrywiaeth eang o driniaethau, ac mae rhai ohonynt i w gweld yn ddrud. Mae n amlwg bod angen gwerthusiad annibynnol i roi gwybodaeth i r rheini sy n chwilio am gymorth er mwyn iddynt fedru dewis y driniaeth/triniaethau mwyaf addas ar eu cyfer nhw. Dywedodd y rheini sy n cynnig cymorth i bobl â dyslecsia wrth y Grwp Rapporteur y byddent yn croesawu, ac yn cefnogi, ymchwil annibynnol i werthuso u rhaglenni a u dulliau. Gallai r ymchwil annibynnol archwilio effeithiau r canlynol, yn enwedig yr effeithiau hirdymor: rhaglenni sydd wedi u seilio ar symudiadau/cydbwysedd fel Rhaglen Dore, Brain Gym rhaglenni sydd wedi u seilio ar y gwahanol synhwyrau e.e. Dull Raviv cynlluniau darllen ffonig fel Toe by Toe defnyddio lensys a throshaeanu lliw rhaglenni cyfrifiadurol fel FastForWord Argymhelliad 6 Mae r Grwp Rapporteur yn argymell bod gwaith ymchwil annibynnol yn cael ei gomisiynu i r gwahanol fathau o raglenni er mwyn ei gwneud hi n haws adnabod y rheini sy n debygol o elwa o r gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael. Fodd bynnag, mae r Grŵp Rapporteur am ymgymryd â rhagor o waith i gymharu r gwahanol fathau o raglenni cyn cyflwyno i argymhellion terfynol gerbron y Pwyllgor Menter a Dysgu ynghylch pa raglenni y dylid eu cynnwys yn yr astudiaeth gwerthuso annibynnol.
8 3 Meysydd ar gyfer Gwaith Ychwanegol Cyfarfod â disgyblion, rhieni disgyblion a phobl eraill â dyslecsia i roi tystiolaeth i r Aelodau ei thrafod ac i ymchwilio ymhellach i r ffordd y gall rhieni gynorthwyo plant â dyslecsia. Ar hyd o bryd, mae r cyfarfodydd hyn wedi u trefnu ar gyfer tymor y gwanwyn Ymweld ag Uned Ddyslecsia Prifysgol Bangor. (Mae ymweliad wedi i drefnu ar gyfer mis Ionawr 2008) Cymharu r tebygrwydd a r gwahaniaeth rhwng gwahanol raglenni a r dulliau o gynorthwyo pobl â dyslecsia cyn cyflwyno argymhellion manwl ynglyn ag astudiaeth gwerthuso annibynnol gerbron Llywodraeth Cynulliad Cymru. Siarad â phobl broffesiynol yn y byd addysg gan gynnwys Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a r rheini sy n darparu hyfforddiant cychwynnol i athrawon ynglŷn ag hyfforddiant cychwynnol a chyrsiau datblygiad proffesiynol i athrawon yn ymwneud â chynorthwyo disgyblion o bob oed sydd ag anawsterau darllen, sillafu ac ysgrifennu. Archwilio polisïau ac enghreifftiau o arfer da sydd wedi bod yn effeithiol mewn gwledydd eraill o ran cynorthwyo pobl â dyslecsia. Clywed tystiolaeth gan unigolion sydd wedi llwyddo er gwaethaf eu dyslecsia, a darganfod beth fu o gymorth iddyn nhw o ran rheoli r cyflwr. Trafod ffyrdd o hysbysebu llwyddiant pobl amlwg sydd â dyslecsia. Ymchwilio ymhellach i r hyfforddiant sydd ar gael i gynorthwywyr dysgu i w help nhw i helpu plant â dyslecsia a rôl bosibl cynorthwywyr dysgu a nyrsys ysgol yn y broses o adnabod dyslecsia n gynnar, gan gynnwys gweinyddu profion sgrinio ar gyfer dyslecsia. Trafod rôl llywodraethwyr ysgol a r canllawiau sydd ar gael iddynt.
9 Atodiad A Cyfeiriwch at yr Adroddiad Saesneg ar gyfer Atodiad A.
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationAPIAU CYMRAEG. C.Phillips
APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationRhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Rhif: WG25772 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 18 Rhagfyr 2015
More informationCANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH
CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,
More informationBil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i DOGFENNAU SY N MYND GYDA R BIL Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân. Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r
More informationYsgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11
Ysgol Dyffryn Conwy Llyfryn Gwybodaeth Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Calendr Dyddiadau Pwysig MEDI 2017 HYDREF 2017 TACHWEDD 2017 1 HMS 1 1 Hanner Tymor 2 2 2 Hanner Tymor 3 3 3 Hanner Tymor 4 HMS 4
More informationTempled Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer
Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationPolisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch
Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More informationDatblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru
Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru Ebrill 2010 CYNNWYS I II Crynodeb gweithredol Cefndir, pwrpas a dulliau Cyflwyniad Cefndir Methodoleg Cydnabyddiaethau Strwythur yr Adroddiad III IV V VI
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informationMesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg
Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18 Cyhoeddwyd yn unol ag adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Awst 2018 Dyma grynodeb o adroddiad sicrwydd 2017-18 adroddiad
More informationBriff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur
Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol
More informationAdolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu
Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau
More informationBeth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations
Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods
More informationRhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16
Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16 Awdur Linda Bailey: Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus / Gwybodaeth Iechyd Tynnu data Louise Richards (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) Dadansoddi data Mari Jones (Dadansoddwr
More informationTalu costau tai yng Nghymru
Talu costau tai yng Nghymru Trosolwg Mae r papur hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg 1 a gomisiynwyd ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yr haf diwethaf i bennu i ba raddau y mae pobl
More informationGwybodaeth am Hafan Cymru
PECYN RECRIWTIO Gwybodaeth am Hafan Cymru Pwy ydym ni Cymdeithas Tai Gofrestredig yw Hafan Cymru, a r un darparwr mwyaf o wasanaethau ynghylch trais yn erbyn menywod, dynion a phlant sy n gweithredu ledled
More informationNatWest Ein Polisi Iaith
NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600
More informationASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005
ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO Hydref Rhagfyr 2005 Wedi ei baratoi ar gyfer: S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru Cyswllt y cleient: Carys
More informationDysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion
Medi 2013 Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion Arolwg o ysgolion i werthuso effaith y Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru Cynnwys Crynodeb gweithredol tudalen 3 Cyflwyniad tudalen 5 Yr arolwg
More informationCymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:
Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau ac Ymarfer i Brifysgolion helpu Myfyrwyr sy n Gofalu gael Mynediad i a Llwyddo mewn Addysg Uwch Cymru Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau
More informationSESIWN HYFFORDDI STAFF
SESIWN HYFFORDDI STAFF i Mae r canlynol yn ymarferion i staff eu defnyddio i baratoi i gyflawni rhaglen. Gellir defnyddio ymarferion fel rhan o ddiwrnod HMS/hyfforddiant. Mae n bosibl y byddwch eisiau
More informationGWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol
GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol Ymchwil gan Brifysgol Northampton 2007-2009 Rhagair Sut bydd Gwobr
More informationNUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG
NUT CANLLAW ANG 2015-16 Cyfnod Sefydlu Cymwys i addysgu yn 2015? Cewch aelodaeth lawn tan 2017 am 1 Ffoniwch neu ewch ar lein er mwyn uwchraddio o aelodaeth myfyriwr i aelodaeth lawn o r NUT. Llinellau
More informationCynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1
Cynllun Strategol 2018-2021 Tudalen 1 Cynnwys 1. Crynodeb 2. Swyddogaethau 3. Gweledigaeth a gwerthoedd 4. Amcanion strategol Amcan 1 dylanwadu ar bolisi Amcan 2 ehangu hawliau pobl i ddefnyddio r Gymraeg
More informationAdroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.
Adroddiad yn dilyn monitro Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY Dyddiad yr ymweliad: gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Hawlfraint
More informationAnhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD), Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)', Anhwylder Gorginetig' a Gorfywiogrwydd' yn wahanol
More informationGwybodaeth i Rieni Parent Information
Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr
More informationARWEINLYFR I FYFYRWYR
ARWEINLYFR I FYFYRWYR HŶN Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 www.bangor.ac.uk www.facebook.com/prifysgolbangor @prifysgolbangor Mae r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informationSamplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu
Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Adroddiad ar yr ymgynghoriad Ynglŷn â r ymgynghoriad hwn Mae r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o r ymatebion i r ymgynghoriad ar samplo cofnodion
More informationMae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.
Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn
More informationDysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU
Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer
More informationCEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU
CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU ARWEINIAD ARFER GORAU Crown copyright 02/11 Registered charity number 219279 www.britishlegion.org.uk CYNNWYS Mae r Lleng Brydeinig Frenhinol wrth galon
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
WHC/2016/036 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi: 30 Medi 2016 Teitl: Tystysgrif Nam ar y Golwg Cymru STATWS: CYDYMFFURFIO CATEGORI: POLISI Dyddiad dod i ben / Adolygu Amherthnasol I w weithredu
More informationStori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.
Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg
More informationWelsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport
#amdani Y Gymraeg: Amdani! Defnyddio r Gymraeg mewn chwaraeon Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport Mae defnydd naturiol o r iaith yn hollbwysig boed mewn cynhadledd i r wasg neu ar grysau
More informationSTADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationMai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL
Ymateb Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drafnidiaeth Cymru Dylunio Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a r Gororau gan gynnwys y Metro Mai 2017 Am fwy o wybodaeth am yr ymateb hwn,
More informationYSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID
YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID Annwyl Riant / Warcheidwad, Mae n fraint ac anrhydedd i mi fel Cadeirydd y Corff Llywodraethol gyflwyno
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationSylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008
Adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC o Ddidueddrwydd o ran y Gwledydd: Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008 Tachwedd 2016 Getting
More informationHawliau Plant yng Nghymru
Hawliau Plant yng Nghymru Hawliau Plant yng Nghymru Hydref 18 Cyflwyniad Mae ychydig dros 550,000 o blant 0-15 oed yn byw yng Nghymru, ac mae 350,000 arall rhwng 16 a 24 oed. 1 Gan mai fi yw, fy rôl i
More informationVOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)
VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) 1978 1990 Cyfwelai: VSW066 Enid Mary Thomas Dyddiad Geni: 20.9.1937 Dyddiad: 4.9.14 Cyfwelydd:
More informationNewyddion Ansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru
Newyddion Ansawdd Rhifyn 29 Gorffennaf 2011 Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru Mynychwyr yn y digwyddiad CRAE Yn ddiweddar cynhaliodd Prifysgol Cymru o addysg, mae Safonau fel arfer
More informationYMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH
CYNLLUN GWASANAETH BETH YW? NODAU: Rhoi cyflwyniad i r Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Ysgolion. Cynnig cipolwg cychwynnol ar awtistiaeth. GWAITH PARATOI I R ATHRO: Edrychwch ar A Teen s Guide To Autism
More informationCanllaw cyflogwyr i ailddilysu
Canllaw cyflogwyr i ailddilysu CYNNWYS BETH MAE R DDOGFEN HON YN EI WNEUD?...3 BETH YW AILDDILYSU?...5 Y BROSES AILDDILYSU A I GOFYNION... 7 RÔL CYFLOGWYR YN Y BROSES AILDDILYSU...10 CYNORTHWYO NYRSYS
More informationDIGIDOL I R DYFODOL. Adolygiad Sector o Gymwysterau a r System Gymwysterau ym maes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu CONTENTS
DIGIDOL I R DYFODOL Adolygiad Sector o Gymwysterau a r System Gymwysterau ym maes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu CONTENTS RHAGFYR 2018 Cynnwys Rhagair 5 Pennod 1: Cyflwyniad a Chrynodeb Gweithredol
More informationWelsh Language Scheme
Welsh Language Scheme What is the purpose of this policy? The GPhC recognises the cultural and linguistic needs of the Welsh speaking public and we are committed to implementing the principle of equality
More informationStudent Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm
Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm Students present: Callum Smith Chiron Hooson David Hooson Emlyn Pratt Esyllt Lewis Jake Smith James Daly Jordan Martin Joshua Green Marcus Connolly Matthew
More informationPARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES
Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!
More informationPOLISI AMDDIFFYN PLANT YSGOL GYNRADD ABERAERON
POLISI AMDDIFFYN PLANT YSGOL GYNRADD ABERAERON Adolygwyd y polisi: Cadeirydd y Llywodraethwyr: Pennaeth: 1 Cafodd Gweithgor Diogelu ERW'r dasg o greu polisi amddiffyn plant safonol i'w defnyddio mewn ysgolion
More informationRwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau
Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau Diolchiadau Hoffen ni ddiolch i r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma. Rydyn ni n arbennig o ddiolchgar i Gwyther Rees o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol
More informationLlyfr Croeso Dysgu Cymraeg
Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg 2 Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Initially I joined the class to learn Welsh to help my three-year-old build his language skills for school and at home. The real bonus is that the
More informationPecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr
Pecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru n cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad o bob rhan o Gymru. Maen nhw n cael eu hethol gan bobl
More informationPwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16
Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Aelodau Yn Bresennol / Members Present Cyngh / Cllr Eryl Jones Williams (EJW) O.G Thomas
More informationW46 14/11/15-20/11/15
W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil
More informationWales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report
Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation
More informationDarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau
Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau Datganiad Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015 1 Y ddogfen hon Fel rhan o Adolygiad Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus,
More informationAnnual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme
Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme 1. INTRODUCTION 1.1. This report covers the period from October to the end of October 2011. 1.2. The Legal Services
More informationSUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL
SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus
More informationDarlun ystadegol o sefyllfa r Gymraeg. Hywel M. Jones
Darlun ystadegol o sefyllfa r Gymraeg Hywel M. Jones i Cynnwys Rhagair... ix 1 Crynodeb... 1 2 Cyflwyniad... 2 3 Trosolwg... 4 3.1 Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth... 4 3.2 Daearyddiaeth...
More informationCanser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales
Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru Cyfadran Deallusrwydd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru Canser
More informationBil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) Hydref 2018 www.cynulliad.cymru Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy
More informationFforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru
Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru Adroddiad Blynyddol 2009 2010 Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru Grŵp cydweithredol o holl lyfrgelloedd prifysgol a llyfrgelloedd addysg uwch yng Nghymru yw WHELF
More informationPolisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau
Polisi Prevent Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau 1. Chwefror 2016 Cymeradwyaeth Gychwynnol 11 Chwefror 2016 2. Ionawr 2016 Adolygu
More informationCynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol
Rhif: WG33656 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Cynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018 Ymatebion erbyn: 2 Ebrill 2018 Hawlfraint y Goron 1 Trosolwg Mae
More informationCanllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 Ionawr 2018 Hawlfraint y Goron 2018 WG33909 ISBN digidol 978-1-78903-394-6 Cynnwys Rhif
More informationAddysg Oxfam
Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd
More informationBI-LINGUAL LANGUAGE POLICY
Appendix 11 Staff Handbook BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY INTRODUCTION Antur Teifi s aim is to follow good practice under the Welsh Language Act 1993 and this policy applies to all our business activities.
More informationCadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau
Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau Cynnwys Tudalen Cyflwyniad 2 Dogfennau a gwybodaeth allweddol 3 1. Senarios 4 Sioe gerdd ysgol 4 Grŵp ieuenctid 6 Teledu 8 Rhaglen realiti 10 2. Materion
More informationE-fwletin, Mawrth 2016
Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru E-fwletin, Mawrth 2016 Aelodau Staff Newydd yn NWDA Mae dau aelodau newydd wedi ymuno Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru. Hoffem eu croesawu'n gynnes i'r tîm ac yn eu cyflwyno
More informationSir Ddinbych / Denbighshire. Sir y Fflint / Flintshire. Merthyr Tudful / Merthyr Tydfil Vicky Thomas (VT) Ernie Galsworthy (EG)
Cyfarfod Cymdeithas CYSAG au Cymru, yn Sir Fynwy Swyddfeydd y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhadyr, Brynbuga. 3 Mawrth 2017 (10.30am 3pm) Wales Association of SACREs meeting, at the Monmouthshire County Council
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationDOGFEN HUNAN-WERTHUSO
DOGFEN HUNAN-WERTHUSO Cyflwyniad gan Brifysgol Bangor i r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Chwefror 2012 2 CYNNWYS Tudalen 1. CEFNDIR, HANES A STRWYTHUR 7 1.1 Hanes 8 1.2 Y Brifysgol Heddiw 8 1.3 Strwythur Academaidd
More informationCylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau
Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr 2018 + Cynnwys T2: Newyddion a digwyddiadau T4: Diweddariadau cyffredinol T5: Cwrdd â r tîm Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd Blwyddyn Newydd Dda i n darllenwyr i
More informationPROSBECTWS YSGOL
PROSBECTWS YSGOL 2014-2015 CYNNWYS 1. Cyffredinol 2. Ethos a Gwerthoedd yr Ysgol 3. Mynediad 4. Trefniadau Ymarferol 5. Lles yn yr Ysgol 6. Cysylltiadau gyda r gymuned 7. Polisïau Cyffredinol 8. Gwyliau
More informationDatganiad Technegol Rhanbarthol
Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a De Cymru - Adolygiad Cyntaf- (Prif Ddogfen) Argraffiad Terfynoli w (gymeradwy) - 1 Awst 2014 Gweithgor Agregau Rhanbarthol
More informationNodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 3 : 1.
Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 3 : 1. AMCANION ADDYSGU Lefel geiriau 14: diffinio a defnyddio geiriau n fanwl gywir, gan gynnwys eu hunion synnwyr o fewn y cyd-destun; Lefel brawddegau 18:
More informationSyr David Attenborough
Darlith Nodedig Hadyn Ellis 2013 Syr David Attenborough OM, CH, CVO, CBE, FRS Wallace a r Adar Paradwys Croeso Mae n bleser eich croesawu i chweched Darlith Nodedig flynyddol Hadyn Ellis. Rwy n siwr eich
More informationThe. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from
The CAMPSITE toolkit A rough guide to setting up a new campsite Produced by and with support from We are Creative Rural Communities; the Vale of Glamorgan Council s Rural Regeneration initiative. In short
More informationCyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd
Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd Cofnodion cyfarfod Grŵp Cyswllt Wylfa Newydd a gynhaliwyd ddydd Iau 20 Hydref yn Ystafelloedd Eleth a Eilian. Yn bresennol Enw Geraint Hughes Jac Jones Jean
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
WHC/2017/014 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi 29 Mawrth 2017 STATWS: GWYBODAETH CATEGORI: ANSAWDD A DIOGELWCH Teitl: Gwybodaeth i gleifion ynghylch trefniadau Gweithio i Wella Dyddiad dod i ben
More informationPRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU
PRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU ADRODDIAD TERFYNOL HYDREF 2017 ADRODDIAD TERFYNOL [2] Adroddiad wedi'i gynhyrchu gan: Dr Edward Thomas Jones
More informationTROSEDDAU CASINEB: YR ACHOS DROS YMESTYN Y TROSEDDAU PRESENNOL
Comisiwn y Gyfraith Papur ymgynghorol Rhif 213 TROSEDDAU CASINEB: YR ACHOS DROS YMESTYN Y TROSEDDAU PRESENNOL Crynodeb ar gyfer y rhai nad ydynt yn arbenigwyr CYFLWYNIAD 1.1 Mae hwn yn grynodeb o'n papur
More informationPECYN ADNODDAU I ATHRAWON
PECYN ADNODDAU I ATHRAWON BBC CYFLWYNIAD Doctor Who - The Doctor and the Dalek Gêm ydy hon sy n cynnig cyfle i ddisgyblion hynaf yr ysgol gynradd a disgyblion ieuengaf yr ysgol uwchradd i ddysgu a chymhwyso
More informationHelo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.
BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau
More informationYsgol Pencae Ffordd Graiglwyd Penmaenmawr LL34 6YG.
Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Pencae Mae'r ysgol yn Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru Ysgol Pencae Ffordd Graiglwyd Penmaenmawr LL34 6YG. Ffôn: Penmaenmawr (01492) 622219 Ffacs: (01492) 623732
More informationCylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad
Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad I SYLW: PENAETHIAID A CHYDLYNWYR ADYaCh Croeso i Rifyn yr Hydref (2017) o Gylchlythyr ADYaCh. Mae llawer o brysurdeb wedi bod dros y misoedd diwethaf
More informationCyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid
More informationTaro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg
Rhif: WG32353 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori ar y Papur Gwyn Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 31 Hydref 2017
More informationTechnoleg Cerddoriaeth
Edexcel CE Technoleg Cerddoriaeth Uwch yfrannol Uned 1: Portffolio Technoleg Cerddoriaeth 1 Dyddiad rhyddhau: Dydd wener 11 Medi 2009 Amser: 60 awr Cyfeirnod y Papur 6MT01/01 Rhaid bod gennych: Copi o
More informationNetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community
More informationGRŴP GWYDDONIAETH PYSGODFEYDD A CHADWRAETH
GRŴP GWYDDONIAETH PYSGODFEYDD A CHADWRAETH CYLCHLYTHYR ELECTRONIG 15 Chwefror 2015 Gyda dim ond 3 mis ar ôl rydym yn brysur yn dadansoddi ac yn ysgrifennu canlyniadau'r prosiect. Yn ystod y misoedd nesaf
More information