Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008
|
|
- Merryl McCormick
- 5 years ago
- Views:
Transcription
1 Adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC o Ddidueddrwydd o ran y Gwledydd: Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008 Tachwedd 2016 Getting the best out of the BBC for licence fee payers
2 Cynnwys Adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC o Ddidueddrwydd o ran y Gwledydd: Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i Casgliadau r Ymddiriedolaeth 3 Ymateb Gweithredol i'r Adolygiad o Ddidueddrwydd o ran y Gwledydd 5 Tachwedd 2016
3 Casgliadau r Ymddiriedolaeth Un o brif themâu gwaith Ymddiriedolaeth y BBC dros y deng mlynedd ddiwethaf fu sicrhau bod gwasanaethau rhwydwaith y BBC yn gwasanaethu ac yn adlewyrchu pedair Gwlad Teyrnas Unedig sy'n fwyfwy datganoledig yn well. Yn 2008 cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth adolygiad didueddrwydd o ddarllediadau rhwydwaith Newyddion a Materion Cyfoes y BBC ynghylch y Gwledydd. Roedd yr adolygiad hwnnw'n asesu swm, eglurder a dyfnder y sylw ac yn defnyddio dadansoddiad pwrpasol o'r cynnwys gan Brifysgol Caerdydd. Yn dilyn hynny, parhaodd yr Ymddiriedolaeth i fonitro cynnydd, gan gomisiynu dadansoddiad pellach o gynnwys yn 2010 yn ogystal ag adroddiadau rheolaidd gan Weithrediaeth y BBC. Y llynedd, gofynnodd Ymddiriedolaeth y BBC unwaith eto i Brifysgol Caerdydd gynnal dadansoddiad cynnwys. Awgrymwyd yn y dadansoddiad, er bod swm y darllediadau newyddion rhwydwaith am Ogledd Iwerddon a'r Alban ac am ddatganoli fel mater i gyd wedi cynyddu ers yr adroddiad blaenorol yn 2010, roedd materion i'w nodi o hyd ynghylch cywirdeb y ffordd roedd storïau yn cael eu hamlinellu a'u cyflwyno i gynulleidfaoedd. Mewn un ffordd bwysig - y tebygolrwydd y byddai cynulleidfaoedd newyddion ar deledu rhwydwaith yn cael gwybodaeth glir am y Gwledydd roedd eitemau newyddion unigol yn berthnasol iddyn nhw - roedd yn ymddangos fod sylw wedi llithro n ôl mewn cymhariaeth â'r astudiaeth wreiddiol. Mewn ymateb, rhoddodd Gweithrediaeth y BBC amrywiaeth o fesurau penodol ar waith ym mis Ionawr 2016 i sicrhau goruchwyliaeth systematig a r ffocws penderfynol roedd yr Ymddiriedolaeth yn dymuno ei weld. Yn ogystal, comisiynodd yr Ymddiriedolaeth Brifysgol Caerdydd i gynnal un rhaglen olaf o ddadansoddi cynnwys yn y gwanwyn, fel y gallai canlyniadau samplau 2015 a 2016 gael eu cyhoeddi ochr yn ochr. Er bod nifer o raglenni allweddol wedi cael eu dadansoddi dros nifer o wythnosau, mae r cyfnodau sampl yn parhau i fod yn gipluniau yn unig, ac ni ellir cyfleu darlun cyflawn o r sylw a roddir i'r Gwledydd gan newyddion rhwydwaith y BBC. Fodd bynnag, maen nhw n darparu data defnyddiol sydd o gymorth wrth asesu tueddiadau a nodi materion. Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu'r cynnydd a wnaed rhwng 2015 a Yn benodol, noda'r gyfran uchel o eitemau newyddion sy n berthnasol i Loegr yn unig, neu i Gymru a Lloegr, sydd bellach yn ei gwneud yn glir, naill ai drwy gyfeiriadau ymhlyg neu benodol, ar y wlad neu'r gwledydd lle mae r stori n gymwys. Mae hyn ar ei lefel uchaf ers i'r Ymddiriedolaeth roi sylw i'r mater gyntaf. Canfu'r dadansoddiad diweddaraf fod 78% o'r eitemau newyddion rhwydwaith yn awr yn glir yn hyn o beth - sy n welliant sylweddol ac ymhell ar y blaen i r prif ddarlledwyr eraill. Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu hyn, ond mae'n credu fod gan gynulleidfaoedd hawl i ddisgwyl cywirdeb yn hyn o beth yn ddieithriad, felly rydym yn disgwyl i'r BBC barhau i wella ar y ffigur hwn. Ar y llaw arall, awgrymodd dadansoddiad 2016 ostyngiad cyffredinol mewn cymhariaeth â'r llynedd yng nghyfran yr eitemau newyddion rhwydwaith am storïau o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ymddengys hefyd fod gostyngiad cyffredinol wedi bod yng nghyfran yr eitemau gan ohebwyr ar leoliad yn y Gwledydd hyn. Mae'r Ymddiriedolaeth yn gwbl glir fod yn rhaid i raglenni newyddion fod yn seiliedig ar farn olygyddol ar y diwrnod, heb fyth fod yn seiliedig ar gwotâu na thargedau hyd yn oed. Noda r Ymddiriedolaeth fod y gyfran uwch o straeon a oedd yn deillio o San Steffan yn sampl 2016, yn hytrach nag o Ogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, yn cuddio'r ffaith fod llawer o "straeon San Steffan" yn Tachwedd
4 gymwys, neu o leiaf yn berthnasol ac yn bwysig, i gynulleidfaoedd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Fodd bynnag, mae'r Ymddiriedolaeth yn disgwyl i olygyddion y BBC gadw disgwyliadau priodol cynulleidfaoedd ym mhob un o'r pedair Gwlad ar flaen eu meddyliau, sef eu bod yn cael gweld a chlywed eu digwyddiadau a u pryderon allweddol eu hunain yn cael eu gwyntyllu a'u rhannu ar lefel y rhwydwaith. Mae datganoli yn un o'r ffyrdd allweddol mae amrywiaeth y Deyrnas Unedig yn cynyddu, ac mae pob rheswm i gredu y bydd hyn yn her gynyddol i gynhyrchwyr cynnwys wrth geisio gwasanaethu'r Deyrnas Unedig gyfan. Mae'n her y mae'n rhaid i'r BBC roi sylw iddi ac mae n rhaid i'r BBC arwain y diwydiant darlledu wrth fynd i r afael â hyn. Noda'r Ymddiriedolaeth mai Cymru oedd yr un Wlad ddatganoledig i gael cyfran fwy o sylw yn sampl Gallai hyn fod wedi bod o ganlyniad i ymdrechion y Weithrediaeth i gyflwyno gwelliannau penodol yn dilyn sampl Mae'r Ymddiriedolaeth yn disgwyl gweld ffocws tebyg ar yr holl Wledydd ac mae n croesawu'r newidiadau strwythurol mae'r Weithrediaeth wedi eu gwneud i'w dulliau casglu newyddion ac allbwn, gan gynnwys penodi Golygydd yr Alban, mewnbwn dyddiol golygyddion newyddion o gwmpas y Gwledydd mewn cynadleddau rhaglenni, a throsolwg strategol a chyfrifoldeb y Golygydd Newyddion, Newyddion a Materion Cyfoes y BBC, o ran cyflawni yn y maes hwn. Ym marn yr Ymddiriedolaeth, er mwyn parhau n gwbl effeithiol fel darlledwr newyddion rhwydwaith mewn Teyrnas Unedig fwyfwy datganoledig, mae'n rhaid i newyddiaduraeth y BBC yn gynyddol roi sylw i wahanol heriau a blaenoriaethau pob un o'r pedair gwlad, eu deall, eu hamlygu a u cyferbynnu. Rhaid i'r BBC helpu pawb ohonom i ddysgu oddi wrth ein gilydd, yn ogystal ag am ein gilydd. Mae'r arwyddair Nation Shall Speak Peace Unto Nation yn egwyddor arweiniol ddefnyddiol, hyd yn oed o fewn cyd-destun y Deyrnas Unedig yn unig. Yn olaf, ac wrth i'r Ymddiriedolaeth baratoi i wneud lle ar gyfer cyfundrefn reoleiddio a llywodraethu newydd, roeddem yn croesawu n fawr y pwyslais yn y drafft o'r Siarter Frenhinol, a gyhoeddwyd ym mis Medi, ar rwymedigaethau r BBC i adlewyrchu'r Deyrnas Unedig gyfan yn ei rhaglenni a'i chynnwys arall. Credwn y bydd hyn yn rhan sylfaenol o'r BBC yn y dyfodol. O fis Ebrill nesaf ymlaen, bydd craffu mewnol ar berfformiad y BBC yn fater i Fwrdd Unedol newydd. Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cymryd camau heb eu tebyg o'r blaen i fonitro darllediadau newyddion y Gwledydd ar y rhwydwaith yn systematig. Bu r Adolygiad o Ddidueddrwydd o ran y Gwledydd a dadansoddiad dilynol o'r cynnwys yn amhrisiadwy wrth olrhain ac asesu perfformiad y BBC dros yr wyth mlynedd ddiwethaf. Rydym yn annog y Bwrdd Unedol i barhau i ddal y Weithrediaeth i gyfrif yn gadarn ar y mater hollbwysig hwn, ac i gynnal (a chyhoeddi) asesiadau annibynnol o berfformiad y BBC. Tachwedd
5 Ymateb Gweithredol i'r Adolygiad o Ddidueddrwydd o ran y Gwledydd Mae'r BBC yn croesawu gwaith craffu r Ymddiriedolaeth ar newyddion am bedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae trefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn newid. Felly, hefyd, mae disgwyliadau'r gynulleidfa. Mewn ymateb, mae BBC News wedi bod yn newid hefyd: rydym wedi buddsoddi mewn adrodd, gwella'r broses o rannu gwybodaeth rhwng golygyddion, datganoli'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch casglu newyddion, mynnu bod straeon yn cael eu labelu'n glir a darllediadau newyddion estynedig o bob un o'r pedair gwlad. Mae BBC News yn ymdrechu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb, gan adrodd am y newyddion sy'n bwysig yn y byd, ar draws Prydain, ym mhob Gwlad ac yn y gymuned. Mae cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn yn un o'r tasgau canolog i olygyddion a gohebwyr. Wrth gwrs, mae hon yn dasg nad yw byth yn cael ei chwblhau. Mae'n fater o farn olygyddol annibynnol. Ac, yn y Deyrnas Unedig ddeinamig, ddatganoledig rydym yn byw ynddi, mae'n bwysicach nag erioed. Mae adolygiad yr Ymddiriedolaeth yn canmol allbwn y BBC ac yn nodi lle mae mwy i'w wneud. Gadewch i ni ymdrin â'r ganmoliaeth yn gyntaf, yn gyflym. Daw astudiaeth 2016 gan Brifysgol Caerdydd i'r casgliad fod y BBC yn cyfathrebu newyddion am y pedair Gwlad yn fwy rheolaidd ac yn fwy eglur na darlledwyr eraill. Dywedir fod y BBC yn llawer mwy cywir wrth gyfathrebu perthnasedd daearyddol eitemau newyddion na chystadleuwyr. Y pwynt pwysicaf a godwyd gan adolygiad yr Ymddiriedolaeth yw'r angen i barhau i wella r ffordd mae storïau yn cael eu labelu. Mae'n hanfodol fod cynulleidfaoedd yn gwybod sut mae stori yn effeithio arnyn nhw, neu'n wir a yw stori yn effeithio arnyn nhw. Er bod yr Ymddiriedolaeth yn nodi'r cynnydd sylweddol a pharhaus o ran yr agwedd hon, mae'r BBC yn cydnabod fod yn rhaid iddi fod yn ddidrugaredd: mae perthnasedd yn hanfodol, o ran adrodd straeon yn glir a barnu lle dylent ymddangos yn y drefn ddarlledu. Ymatebodd y BBC i ganfyddiadau cychwynnol yr adolygiad ym mis Ionawr, (yn seiliedig ar astudiaeth 2015) a oedd yn tanlinellu fod yn rhaid i ni weithio'n galetach ar labelu. Canfu astudiaeth 2016 fod cyfran eitemau r BBC a oedd yn berthnasol i Loegr yn unig neu i Gymru a Lloegr, a oedd yn cyfleu eu perthnasedd daearyddol, yn 78%, sef y lefel uchaf mewn unrhyw un o'n hastudiaethau. Cyhoeddodd y Cyfarwyddwr Newyddion gyfarwyddyd i atgoffa r holl staff newyddion am y gofyniad i bennu straeon datganoledig yn y system gynllunio ac ar yr awyr. Mae system adborth yn ei lle a gofynnir i r Gwledydd amlygu gwallau i'r Golygydd Newyddion. Mae'r BBC yn trin y pryderon a godwyd gan yr Ymddiriedolaeth yn yr adolygiad hwn fel mater difrifol. Byddai hefyd yn hoffi cydnabod y gwaith gwerthfawr a wnaed gan aelodau o bob un o Gynghorau Cynulleidfa r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. O ganlyniad i waith craffu r Ymddiriedolaeth ac yn dilyn cyfarfodydd y Cynghorau Cynulleidfa, mae'r BBC: Tachwedd
6 Wedi cyflwyno "gwregys newyddion y gwledydd" ar y rhaglen News at Six, gan warantu proffil ar gyfer straeon o amgylch y Deyrnas Unedig pan nad ydyn nhw n croesi'r trothwy i gael eu cynnwys yn y nifer fach o straeon sy'n cael triniaeth lawnach. Mae'r fformat newydd wedi ffitio'n ddi-dor i'r rhaglen heb unrhyw adwaith anffafriol gan gynulleidfaoedd. Mae cynulleidfaoedd News at Six, mewn gwirionedd, wedi bod yn hynod gadarn. Ar ôl cyfnod prawf cychwynnol, mae'r dull newydd wedi ei gadarnhau ar sail barhaol. Mae swydd newydd Golygydd yr Alban wedi cael ei chreu i godi proffil newyddion yr Alban, o ystyried y newid sylweddol diweddar yn y dirwedd gyfansoddiadol a gwleidyddol. Mae Penaethiaid Newyddion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn bresennol yn y gynhadledd newyddion am 9 y bore drwy gynhadledd fideo, dan gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Newyddion. Felly, hefyd, y mae cynrychiolydd o ranbarthau Lloegr. Maen nhw n cynnig straeon o'r Gwledydd a'r rhanbarthau ac yn cynghori golygyddion allbwn ar sut mae'r ddarpariaeth yn cael ei gweld a'i chlywed ym mhob un o'r pedair gwlad. Mae r prif gyfarfod cynllunio newyddion wythnosol wedi mabwysiadu r un model erbyn hyn. Mae golygyddion newyddion o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr yn rhoi mwy o broffil i ddigwyddiadau sydd ar ddod, yn darparu amser ar gyfer paratoi, yn tynnu sylw at ddatblygiadau sylweddol yn y tymor hwy ac yn cyflwyno cyfleoedd i drin straeon mewn modd cymharol rhwng y Gwledydd. Rydym yn disgwyl i r datblygiad hwn atgyfnerthu pwysigrwydd adrodd yn drylwyr o bob cwr o'r Deyrnas Unedig gyfan. Mae'r BBC yn cydnabod pwysigrwydd gwerthuso academaidd cynnyrch, ond, fel mae'r awduron yn nodi'n glir, nid yw dull meintiol yr astudiaeth hon yn casglu'r barnau newyddion a wnaed mewn ymateb i agenda newyddion benodol y cyfnod dan sylw. Yn 2014, cynhaliwyd refferendwm yn yr Alban; yn 2015, cafwyd Etholiad Cyffredinol; ac yn 2016, cafwyd y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd. O ddur Tata i feddygon iau yn Lloegr, i berfformiad Gogledd Iwerddon a Chymru (ac am resymau gwahanol, Lloegr) yn Ewro 2016, cafwyd straeon a gipiodd y penawdau ac a gafodd le blaenllaw yn y bwletinau gan fod golygyddion yn gwbl briodol o'r farn eu bod nhw n ddiddorol a phwysig. Mae dadansoddi cynnwys yn trin pob munud o newyddion yr un fath heb ystyried yr ystyr; mae'n cymharu un cyfnod ag un arall, ni waeth beth sy'n digwydd. Risg hyn yw newyddion drwy ddidueddrwydd ticio blychau, ac felly rydym yn croesawu datganiad Prifysgol Caerdydd nad yw dadansoddiad meintiol yn awgrymu y dylai sylw gael ei yrru gan gwotâu neu nifer y cyfeiriadau. Mae'r gofyniad i ddarparu adroddiadau cywir a llawn gwybodaeth i gynulleidfaoedd, sy'n adlewyrchu r Deyrnas Unedig gyfan i'r Deyrnas Unedig gyfan, wedi dod yn fwy pwysig yn dilyn y bleidlais mewn refferendwm ynghylch y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan hyn oblygiadau gwahanol i wleidyddiaeth a r gymdeithas yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon o bosibl. Yn dilyn y bleidlais Brexit, buom yn adrodd ar rai o'r goblygiadau yn y Gwledydd, gan gynnwys symudiadau Llywodraeth yr Alban tuag at y posibilrwydd o ail refferendwm ar annibyniaeth, y cwestiynau yng ngogledd Iwerddon ynghylch statws y ffin â r Weriniaeth yn y dyfodol a galwadau Sinn Fein am refferendwm, pryderon gan Brif Weinidog Cymru Tachwedd
7 ynghylch disodli cronfeydd presennol yr Undeb Ewropeaidd ac adroddiadau o ardaloedd yn Lloegr oedd yn mynegi cefnogaeth gref i Brexit dros bryderon am fewnfudo ac allgáu economaidd. Bydd adrodd ar ddimensiynau gwleidyddol a chyfansoddiadol proses Brexit yn parhau i ffurfio rhan sylweddol o wasanaeth y rhwydwaith wrth i'r broses fynd rhagddi. Yn fwy cyffredinol, bydd BBC News yn parhau i roi blaenoriaeth uchel i adrodd am y newyddion ar draws Teyrnas Unedig sy'n fwyfwy datganoledig. Tachwedd
Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau
Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau Datganiad Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015 1 Y ddogfen hon Fel rhan o Adolygiad Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus,
More informationArolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationAdolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu
Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau
More informationAdroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.
Adroddiad yn dilyn monitro Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY Dyddiad yr ymweliad: gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Hawlfraint
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationYmgynghoriad ar y meini prawf dyrannu arfaethedig ar gyfer Darllediadau Etholiadol y Pleidiau 2015
Ymgynghoriad ar y meini prawf dyrannu arfaethedig ar gyfer Darllediadau Etholiadol y Pleidiau 2015 Canlyniad yr Ymgynghoriad Chwefror 2015 Sicrhau bod pawb sy'n talu ffi'r drwydded yn cael y gorau o'r
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationRhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16
Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16 Awdur Linda Bailey: Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus / Gwybodaeth Iechyd Tynnu data Louise Richards (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) Dadansoddi data Mari Jones (Dadansoddwr
More informationBriff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur
Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol
More informationAdolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol
Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol Datganiad Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2017 Gair am y ddogfen hon Mae'r ddogfen hon yn cloi ein hadolygiad o r broses o reoleiddio r Post Brenhinol. Cafodd
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More informationCyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More informationSamplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu
Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Adroddiad ar yr ymgynghoriad Ynglŷn â r ymgynghoriad hwn Mae r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o r ymatebion i r ymgynghoriad ar samplo cofnodion
More informationBil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i DOGFENNAU SY N MYND GYDA R BIL Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân. Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r
More informationBrexit a Hawliau Plant yng Nghymru i
Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i CYFLWYNIAD Mae plant yn cynrychioli chwarter o boblogaeth y DU sy'n cynnwys 718,248 o blant a phobl ifanc 0-19 oed sy'n byw yng Nghymru 1. Mae Plant yng Nghymru yn
More informationWales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report
Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation
More informationAnnual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme
Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme 1. INTRODUCTION 1.1. This report covers the period from October to the end of October 2011. 1.2. The Legal Services
More informationStori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.
Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg
More informationCanser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales
Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru Cyfadran Deallusrwydd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru Canser
More informationW46 14/11/15-20/11/15
W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil
More informationDiweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol
Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost Y flwyddyn ariannol 2016-17 Diweddariad ar y farchnad Dyddiad Cyhoeddi: 23 Tachwedd 2017 Gair am y ddogfen hon Mae r adroddiad hwn yn cynnwys y prif ddata
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
WHC/2017/014 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi 29 Mawrth 2017 STATWS: GWYBODAETH CATEGORI: ANSAWDD A DIOGELWCH Teitl: Gwybodaeth i gleifion ynghylch trefniadau Gweithio i Wella Dyddiad dod i ben
More informationBeth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations
Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods
More informationPolisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch
Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 26 June/Mehefin 23-29, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Exhibitionists 3 Crimewatch Roadshow 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth
More informationCynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1
Cynllun Strategol 2018-2021 Tudalen 1 Cynnwys 1. Crynodeb 2. Swyddogaethau 3. Gweledigaeth a gwerthoedd 4. Amcanion strategol Amcan 1 dylanwadu ar bolisi Amcan 2 ehangu hawliau pobl i ddefnyddio r Gymraeg
More informationPRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU
PRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU ADRODDIAD TERFYNOL HYDREF 2017 ADRODDIAD TERFYNOL [2] Adroddiad wedi'i gynhyrchu gan: Dr Edward Thomas Jones
More informationMai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL
Ymateb Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drafnidiaeth Cymru Dylunio Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a r Gororau gan gynnwys y Metro Mai 2017 Am fwy o wybodaeth am yr ymateb hwn,
More informationMae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.
Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn
More informationGwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work
Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y
More informationCANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH
CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informationRhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Rhif: WG25772 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 18 Rhagfyr 2015
More informationBwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter
Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our
More informationPolisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau
Polisi Prevent Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau 1. Chwefror 2016 Cymeradwyaeth Gychwynnol 11 Chwefror 2016 2. Ionawr 2016 Adolygu
More informationBuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit Diogelu Dyfodol Cymru
Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit Diogelu Dyfodol Cymru Buddsoddi Rhanbarthol yng Securing Nghymru Wales ar ôl Future Brexit 1 2 Fair Movement Hawlfraint y of Goron People 2017 WG33593 ISBN
More informationTempled Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer
Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationCanllaw cyflogwyr i ailddilysu
Canllaw cyflogwyr i ailddilysu CYNNWYS BETH MAE R DDOGFEN HON YN EI WNEUD?...3 BETH YW AILDDILYSU?...5 Y BROSES AILDDILYSU A I GOFYNION... 7 RÔL CYFLOGWYR YN Y BROSES AILDDILYSU...10 CYNORTHWYO NYRSYS
More informationAdroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia
TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places
More informationPRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU
PRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU ADRODDIAD TERFYNOL RHAGFYR 2018 ADRODDIAD TERFYNOL [2] Adroddiad wedi'i gynhyrchu gan: Dr Edward Thomas Jones
More informationNatWest Ein Polisi Iaith
NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600
More informationNewidiadau i'r broses o roi caniatâd seilwaith: Tuag at sefydlu proses bwrpasol ar gyfer rhoi caniatâd seilwaith yng Nghymru.
Rhif: WG34221 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Newidiadau i'r broses o roi caniatâd seilwaith: Tuag at sefydlu proses bwrpasol ar gyfer rhoi caniatâd seilwaith yng Nghymru. Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill
More informationMesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg
Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18 Cyhoeddwyd yn unol ag adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Awst 2018 Dyma grynodeb o adroddiad sicrwydd 2017-18 adroddiad
More informationASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005
ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO Hydref Rhagfyr 2005 Wedi ei baratoi ar gyfer: S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru Cyswllt y cleient: Carys
More informationWelsh Language Scheme
Welsh Language Scheme What is the purpose of this policy? The GPhC recognises the cultural and linguistic needs of the Welsh speaking public and we are committed to implementing the principle of equality
More informationStudent Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm
Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm Students present: Callum Smith Chiron Hooson David Hooson Emlyn Pratt Esyllt Lewis Jake Smith James Daly Jordan Martin Joshua Green Marcus Connolly Matthew
More informationPanel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill Mawrth 2017
Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill 2016 31 Mawrth 2017 Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn ei gyfarfod cyntaf ar 24 Mehefin 2016. O r chwith i r
More informationTalu costau tai yng Nghymru
Talu costau tai yng Nghymru Trosolwg Mae r papur hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg 1 a gomisiynwyd ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yr haf diwethaf i bennu i ba raddau y mae pobl
More informationGweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad
Rhif: WG33010 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2018 Camau i w cymryd:
More informationYsgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11
Ysgol Dyffryn Conwy Llyfryn Gwybodaeth Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Calendr Dyddiadau Pwysig MEDI 2017 HYDREF 2017 TACHWEDD 2017 1 HMS 1 1 Hanner Tymor 2 2 2 Hanner Tymor 3 3 3 Hanner Tymor 4 HMS 4
More informationPecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr
Pecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru n cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad o bob rhan o Gymru. Maen nhw n cael eu hethol gan bobl
More informationBwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter
Awst August 2012 Bwcabus Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect Llythyr Newyddion Newsletter www.bwcabus.info Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our rural communities
More informationDiweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018
Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018 Mae'r diweddariad hwn yn rhoi gwybodaeth a gafwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yng nghyfarfod bwrdd crwn CHC a DWP, cyfarfod Strategol Landlordiaid Sector
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i'n cylchlythyr Gwanwyn. Mae cymaint wedi digwydd ers ein cylchlythyr olaf- gobeithio eich wedi bod yn cadw i fyny gyda'r rhan fwyaf ohono
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion
More informationW39 22/09/18-28/09/18
W39 22/09/18-28/09/18 2 Rhondda Rebel 3 Back In Time for the Factory 4 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Newport / Casnewydd 2 Usk / Brunbuga 2 1 Follow @BBCWalesPress on Twitter to
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationGRŴP GWYDDONIAETH PYSGODFEYDD A CHADWRAETH
GRŴP GWYDDONIAETH PYSGODFEYDD A CHADWRAETH CYLCHLYTHYR ELECTRONIG 15 Chwefror 2015 Gyda dim ond 3 mis ar ôl rydym yn brysur yn dadansoddi ac yn ysgrifennu canlyniadau'r prosiect. Yn ystod y misoedd nesaf
More informationSENEDD SY N GWEITHIO I GYMRU. Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
SENEDD SY N GWEITHIO I GYMRU Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad Tachwedd 2017 Sefydlwyd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ym mis Chwefror 2017 i roi cyngor
More informationDydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh
Senedd Myfyrwyr Hysbysir aelodau Senedd y Myfyrwyr y cynhelir y cyfarfod nesaf fel y dangosir isod: Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh Agenda Cysylltwch â Thîm Llais
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More informationNetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community
More informationDatganiad Polisi Rhaglenni S4C 2005
S4C Programme Policy Statement 2005 Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2005 Dyma Ddatganiad Polisi Rhaglenni cyntaf Awdurdod S4C o dan ofynion y Ddeddf Gyfathrebu 2003. Mi fydd yr Awdurdod yn adolygu llwyddiant
More informationWALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA
FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v BOSNIA & HERZEGOVINA 07.06.2018 Liberty Stadium Swansea Kick Off 7pm FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v RUSSIA 12.06.2018 Newport Stadium Newport
More informationDatganiad Technegol Rhanbarthol
Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a De Cymru - Adolygiad Cyntaf- (Prif Ddogfen) Argraffiad Terfynoli w (gymeradwy) - 1 Awst 2014 Gweithgor Agregau Rhanbarthol
More informationBil yr Amgylchedd (Cymru) Memorandwm Esboniadol yn ymgorffori r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a r Nodiadau Esboniadol
Bil yr Amgylchedd (Cymru) Memorandwm Esboniadol yn ymgorffori r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a r Nodiadau Esboniadol Mai 2015 1 BIL YR AMGYLCHEDD (CYMRU) Memorandwm Esboniadol i Fil yr Amgylchedd (Cymru)
More informationGwybodaeth i Rieni Parent Information
Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr
More informationNational Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack
National Youth Orchestra of Wales Auditions 2019 Violin Audition Pack Contents: 2019 Music Ensemble Audition Information Violin Audition Requirements Set Orchestral Excerpts (Violin) Example Marksheet
More informationTechnoleg Cerddoriaeth
Edexcel CE Technoleg Cerddoriaeth Uwch yfrannol Uned 1: Portffolio Technoleg Cerddoriaeth 1 Dyddiad rhyddhau: Dydd wener 11 Medi 2009 Amser: 60 awr Cyfeirnod y Papur 6MT01/01 Rhaid bod gennych: Copi o
More informationW45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:
W45 4/11/17-10/11/17 2 David Hurn: A Life in Pictures 3 James and Jupp 4 Wales Live 5 Shane: For the Love of the Game 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Port Talbot 3 Swansea / Abertawe
More informationGwybodaeth am Hafan Cymru
PECYN RECRIWTIO Gwybodaeth am Hafan Cymru Pwy ydym ni Cymdeithas Tai Gofrestredig yw Hafan Cymru, a r un darparwr mwyaf o wasanaethau ynghylch trais yn erbyn menywod, dynion a phlant sy n gweithredu ledled
More informationHelo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.
BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau
More informationCanllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid
Etholiad cyffredinol Senedd y DU Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid Rhan 6 o 6 - Ar ôl datgan y canlyniad Tachwedd 2018 Mae'r ddogfen hon yn berthnasol i etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain
More informationTaro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg
Rhif: WG32353 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori ar y Papur Gwyn Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 31 Hydref 2017
More informationThe Life of Freshwater Mussels
The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell
More informationNational Youth Arts Wales Auditions 2019
National Youth Arts Wales Auditions 2019 Flute Audition Pack Contents: 2019 Musical Ensemble Audition Information Flute Audition Requirements Set Orchestral and Wind Orchestral Excerpts (Flute) Example
More informationDysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion
Medi 2013 Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion Arolwg o ysgolion i werthuso effaith y Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru Cynnwys Crynodeb gweithredol tudalen 3 Cyflwyniad tudalen 5 Yr arolwg
More informationBI-LINGUAL LANGUAGE POLICY
Appendix 11 Staff Handbook BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY INTRODUCTION Antur Teifi s aim is to follow good practice under the Welsh Language Act 1993 and this policy applies to all our business activities.
More informationSTADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 17 April/Ebrill 21-27, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Elizabeth s Wales 3 They Sold A Million: Ricky Valance 4 Connie s People 5 Scrum V Live: Blues v Edinburgh 6 BBC National Orchestra of Wales
More informationYmateb Passenger Focus i Ddrafft Ymgynghori Network Rail o Strategaeth Defnyddio Llwybrau (RUS) yng Nghymru
Ymateb Passenger Focus i Ddrafft Ymgynghori Network Rail o Strategaeth Defnyddio Llwybrau (RUS) yng Nghymru Awst 2008 Passenger Focus yw r corff cenedlaethol annibynnol sy n diogelu buddiannau defnyddwyr
More informationDysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU
Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer
More informationRwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau
Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau Diolchiadau Hoffen ni ddiolch i r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma. Rydyn ni n arbennig o ddiolchgar i Gwyther Rees o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol
More informationProses ffedereiddio ysgolion a gynhelir yng Nghymru
Proses ffedereiddio ysgolion a gynhelir yng Nghymru Canllawiau i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol Canllawiau Cylchlythyr Llywodraeth Cymru rhif: 011/2014 Dyddiad cyhoeddi: Mai 2014 Yn disodli cylchlythyr
More informationWelsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport
#amdani Y Gymraeg: Amdani! Defnyddio r Gymraeg mewn chwaraeon Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport Mae defnydd naturiol o r iaith yn hollbwysig boed mewn cynhadledd i r wasg neu ar grysau
More informationDarlun ystadegol o sefyllfa r Gymraeg. Hywel M. Jones
Darlun ystadegol o sefyllfa r Gymraeg Hywel M. Jones i Cynnwys Rhagair... ix 1 Crynodeb... 1 2 Cyflwyniad... 2 3 Trosolwg... 4 3.1 Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth... 4 3.2 Daearyddiaeth...
More informationNewyddion REF2014. Ein Hymchwil Ragorol. Cyfrol 21 Rhif 2
Newyddion Cyfrol 21 Rhif 2 REF2014 Ein Hymchwil Ragorol CYFLWYNIAD Cyflwyniad Pleser o'r mwyaf yw cyflwyno rhifyn cyntaf Newyddion Caerdydd yn 2015, yn enwedig gan mai canlyniadau REF 2014 sy'n cael y
More informationGollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068
Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig
More informationManiffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyfathrebu Digidol Mae twf digidol yn allweddol i ddatblygu economi Cymru, ac felly mae angen polisïau arloesol i
More informationCERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.
DEWCH I NI GERDDED I R YSGOL CERDDED I R YSGOL gyda Living Streets. MAE NEWID MAWR AR DROED. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. ˇ Mae r daith yn dechrau nawr. Helpwch ni i GREU CENEDL SY N CERDDED
More informationCynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol
Rhif: WG33656 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Cynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018 Ymatebion erbyn: 2 Ebrill 2018 Hawlfraint y Goron 1 Trosolwg Mae
More informationHawliau Plant yng Nghymru
Hawliau Plant yng Nghymru Hawliau Plant yng Nghymru Hydref 18 Cyflwyniad Mae ychydig dros 550,000 o blant 0-15 oed yn byw yng Nghymru, ac mae 350,000 arall rhwng 16 a 24 oed. 1 Gan mai fi yw, fy rôl i
More informationPwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16
Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Aelodau Yn Bresennol / Members Present Cyngh / Cllr Eryl Jones Williams (EJW) O.G Thomas
More informationW42 13/10/18-19/10/18
W42 13/10/18-19/10/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Match of the Day Wales 4 Tourist Trap 5 Stand Up at BBC Wales 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Ammanford / Rhydaman 2 Bridgend
More informationSwyddfa r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth. National Park Office, Penrhyndeudraeth. Y Cynghorwyr /Councillors : Eurig Wyn, Elizabeth Roberts;
R HYBUDD O GYFARFOD / NOTICE OF M EETING Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Aneurin Phillips Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Penrhyndeudraeth Gwynedd LL48 6LF Ffôn/Phone (01766) 770274 E.bost/E.mail
More information