YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15
|
|
- Daniel Ray
- 5 years ago
- Views:
Transcription
1 YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15 HYDREF 2015 RHIFYN Ennill y Dwbl! Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r gerdd orau i blant Bl.5/6. Enw r gerdd fuddugol oedd Mordaith. Darllenodd ei cherdd yn y Babell Lên o flaen aelodau enwog Ymryson y Beirdd. Cyflwynwyd copi o i cherdd mewn ffrâm hyfryd. Daeth Megan Jones a Nia Jones yn gydradd 2ail yn y gystadleuaeth. Enillodd yr ysgol yr adran am yr ysgol orau. Dyma oedd achlysur i w gofio. Mae barddoniaeth Carrie i w weld ar dudalen 7. Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili, enillodd Nia Jones (Bl.6 ) - cefnither i Carrie, y wobr 1af am ysgrifennu barddoniaeth Bl5/6. Mordaith oedd enw ei cherdd hithau hefyd. Am glod! Mae n amlwg fod yna rhywbeth yng ngwaed y teulu! Ysgol Dafydd Llwyd Ffôn Lôn Y Parc Y Drenewydd Gwefan yr Ysgol:
2 Llywodraethwyr yr Ysgol Categori Enw Diwedd Cymuned Hywel Lovgreen 01/03/2019 Cymuned Llyr Ap Dafydd 01/03/2019 Cymuned Hywel Glyn Jones 31/08/2017 Pennaeth Siân Elizabeth Davies Awdurdod Addysg Lleol Marian Wyn Wilson 31/08/2019 Awdurdod Addysg Lleol Menna Jones 31/12/2017 Awdurdod Addysg Lleol John Benjamin Evans 31/12/2016 Cyngor Y Dre Rina Judith Clarke 31/01/2017 Rhiant Rhydian Williams 31/08/2017 Rhiant Jonathan Rees 31/08/2019 Rhiant Christopher Davies 31/08/2019 Rhiant Sharon Davies 31/08/2017 Staff Llinos Anne Green 30/09/2017 Athro Darryn Green 31/08/2019 Athrawon Ysgol Dafydd Llwyd Pennaeth: Mrs Siân Davies Dirprwy dros dro: Mrs Elin Yewdall a Mrs Eryl Edwards Meithrin: Miss Callyn Toms Derbyn: Ms Debbie Gilbert Bl 1: Mrs Eryl Edwards Bl 2: Mrs Lisa Prince Bl 3: Mrs Elin Yewdall Bl 4/5: Miss Betsan Llwyd / Mrs Anwen Jarman / Mrs Mererid Lewis Bl 5/6: Miss Angharad Davies Cydlynydd Anghenion Arbennig: Mrs Eryl Edwards Cynorthwywyr: Mrs Darlene Clifton, Miss Janet Davies, Mrs Anne Green, Mrs Eleri Green, Mrs Bethan Jones, Mrs Pauline Morgan, Mrs Sharon Williams, Miss Toni Green, Miss Josie Herdman, Mrs Sam Davies, Mrs Menna Wilson, Miss Bethan Thomas, Mrs Ruth Faber a Miss Ffion Evans, Ysgrifenyddes: Mrs Sheila Bebb Gweledigaeth Ysgol Dafydd Llwyd Y mae Ysgol Dafydd Llwyd yn hyrwyddo r weledigaeth y dylai plant a staff Anelu n Uchel ym mhob peth y maent yn eu gwneud. Wrth wneud hyn, bydd pob unigolyn yn cyrraedd ei lawn botensial. Rydym fel Ysgol am adeiladu ar sylfaen cadarn y gorffennol, i ddatblygu r presennol ac anelu at ddyfodol llwyddiannus. Gwerthoedd yr ysgol Gwerthoedd Ysgol Dafydd Llwyd yw Parch, Tegwch, Cyfeillgarwch ac Ymdrech gyda Chymreictod yn ganolig iddynt i gyd. Polisïau r Ysgol Adolygir polisïau r Ysgol bob blwyddyn. Hysbysir y rhieni o bob newid trwy lythyr. Gwyliau Ysgol 2015/16 Tymor yr Hydref Medi - 18 Rhagfyr Hanner tymor - 26 Hydref 30 Hydref Diwrnodau di-ddisgybl 1 Medi, 2 Tachwedd Tymor y Gwanwyn Ionawr 18 Mawrth Hanner tymor Chwefror Tymor yr Haf Ebrill - 19 Gorffennaf Hanner tymor - 30 Mai - 3 Mehefin Diwrnodau di-ddisgybl - 4 Ebrill, 18 & 19 Gorffennaf Oriau r Ysgol Bore: (Egwyl: ) Amser cinio: Babanod Plant Iau Prynhawn: (Meithrin: ) Nodyn gan y Corff Llywodraethol Mae Ysgol Dafydd Llwyd yn ysgol unigryw gan mai hi yw r ysgol cyfrwng Cymraeg penodedig gyntaf yng Ngogledd Powys. Mae r ysgol yn hybu pob agwedd drwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn. Mae r ethos Gymraeg yn amlwg drwy adeiladau r ysgol ac ar yr iard. Gofynnir i rieni gefnogi pob gweithgaredd ac i gadw at yr holl bolisïau. Absenoldeb heb ei Awdurdodi 2014/15 % Absenoldeb heb ei awdurdodi = 1.0% Absenoldeb a ganiatawyd = 2.8%. Presenoldeb 96.2% Mynediad i r Anabl Mae pob man yn yr ysgol yn gyraeddadwy i i bobl ag anableddau.
3 Annwyl Rieni, Mae blwyddyn academaidd 2014/15 wedi bod yn un brysur tu hwnt i r ysgol unwaith eto. Fel Cadeirydd rwy n ymweld â r ysgol yn rheolaidd. Ar bob ymweliad rwy n synnu ar ymroddiad a phroffesiynoldeb y staff, ymddygiad a pherfformiadau arbennig y plant, y cyffro a r hwyl maent yn eu cael, ond yn bwysicach, fel ysgol Gymraeg, eu sgiliau Iaith. Fe ddwedais i hyn llynedd, ond rwyf am ei hailadrodd. Mae gennyf barch o r mwyaf i chi rieni di- gymraeg sydd am i ch plant cael y cyfle i dyfu fyny gyda dwy iaith. Mae hi n glod i r ysgol, ac yn rhoi boddhad mawr i mi yn bersonol, i weld cyn disgyblion yr ysgol yn llwyddo mewn gwahanol yrfaoedd, ac yn defnyddio r Iaith yn naturiol. Gobeithiaf o ddifri y bydd holl blant Ysgol Dafydd Llwyd yn parhau gyda u haddysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg i sicrhau datblygiad ieithyddol a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio r Iaith yn hyderus, fel pobol ifanc, ac oedolion. Heboch chi rieni, ni fase r ysgol yn ffynnu, ac yn sicr, ni faswn ar drothwy symud i mewn i ysgol newydd sbon - ysgol a fydd yn rhoi r cyfleoedd gorau i r plant. Mae n amser mor gyffrous i ni gyd! Mi fydd cyfle i chi gyd ymweld â r ysgol yn y flwyddyn newydd. Ar lefel academaidd, mae n rhaid llongyfarch y plant ar eu canlyniadau yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft cafwyd cynnydd ym Mathemateg ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a CA2, gyda 100% o flwyddyn 2 yn cyrraedd deilliant 5+ (46% yn ddeilliant 6) a 94% o flwyddyn 6 yn cyrraedd deilliant 4+ (47% yn ddeilliant 5+). Ardderchog. Rwyf yn ymwybodol iawn o r pwysau cynyddol mae Llywodraeth Cymru, a swyddogion Cyngor Sir Powys, yn rhoi ar ysgolion i godi safonau a chanlyniadau, ac mae r holl staff wedi ymateb i r her yn arbennig unwaith eto eleni. Hoffwn ddiolch o waelod nghalon i r staff, dan arweiniad arbennig Mrs Davies, am eu hymrwymiad diflino i r plant ac i r ysgol. Unwaith eto, yn y flwyddyn a aeth heibio, mae plant yr ysgol wedi cael profiadau heb eu hail, ac wedi llwyddo mewn cymaint o wahanol feysydd. Ni wnaf enwi na rhestru - mae r adroddiad hon yn cynnwys digon o enghreifftiau o lwyddiannau a phrofiadau r plant. Hoffwn ddymuno yn dda i Miss Betsan Llwyd a symudodd i fod yn bennaeth parhaol yn Ysgol Dyffryn Banw, i Mrs Menna Jones ar ei hymddeoliad fel athrawes CPA ac i Mrs Pauline Morgan wrth iddi orffen fel cynorthwyydd CA2. Diolch o galon hefyd i Mrs Meinir Ward a Mr Dan Owen wrth i w cyfnod fel llywodraethwyr dod i ben. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Ffrindiau r Ysgol am eu gwaith caled yn trefnu digwyddiadau llawn hwyl i godi arian i r ysgol dros y flwyddyn ddiwethaf. Er y byddwn mewn adeilad newydd yn y flwyddyn newydd, gyda r holl adnoddau newydd, mae toriadau i gyllidebau yn her fawr i bob ysgol, ac mi fyddwn yn parhau i fod yn werthfawrogol iawn o holl ymdrechion y Ffrindiau. Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi rieni am eich holl gefnogaeth i r ysgol. Mi rydym yn ysgol hapus a llwyddiannus, ac edrychaf ymlaen at flwyddyn arall o brofiadau a llwyddiannau arbennig, ac yn enwedig i symud i n cartre newydd. Hywel Lovgreen, Cadeirydd Pwyllgor Llywodraethwyr Blaenoriaethau Cynllun Gwella Ysgol 2014/5. Adolygu a mireinio r ddarpariaeth ym Mathemateg. Herio'r disgyblion mwy abl a thalentog ar draws yr ysgol. Codi safonau ysgrifennu estynedig ar draws y cwricwlwm yn y ddwy iaith ond yn arbennig yn y Gymraeg erbyn diwedd CA2. Parhau i sefydlu r systemau monitro a hunan arfarnu drwy r ysgol gan ddatblygu rôl yr Uwch Dim Reoli a r Llywodraethwyr. Paratoi ar gyfer y symudiad i r safle newydd
4 Adroddiad y Pennaeth. Bu n flwyddyn adeiladol ym mhob ystyr - yr adeilad newydd yn datblygu n gyflym, newidiadau allweddol o ran staff a chynnydd da i w weld yng nghanlyniadau diwedd Cyfnod Allweddol. Mae ymrwymiad a gwaith caled y disgyblion, staff a Llywodraethwyr yn cyfrannu n helaeth at lwyddiant parhaol yr ysgol. Rwyf yn hynod falch o r ffaith fod plant Ysgol Dafydd Llwyd yn sicr yn gwrtais ac maent yn arddangos ymddygiad arbennig o dda. Mae hyn yn bwysig iawn i mi. Pleser o r mwyaf oedd gweld disgyblion yr ysgol yn cymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a r Gororau. Roeddwn yn hynod falch i weld a chlywed popeth cysylltiol ag Ysgol Dafydd Llwyd ym Mhrifwyl ein cenedl. Yn ystod y flwyddyn, roedd yn rhaid ffarwelio a 2 aelod o staff gwerthfawr sef Miss Betsan Llwyd a Mrs Pauline Morgan. Diolch yn fawr iawn i r ddwy am eu cyfraniad a u harbenigedd i r ysgol. Bu n flwyddyn brysur wrth baratoi ar gyfer ein symudiad i r ysgol newydd. Roedd ein hymweliad cyntaf i r adeilad a cherdded drwy r ystafelloedd yn brofiad eithriadol ac yn un yr ydym wedi aros am flynyddoedd lawer. Mae Ionawr 11 yn agosáu a chyfnod newydd cyffrous ar y gorwel... Siân Davies Cyfarfod y Llywodraethwyr gyda Rhieni. Ni fu galw dros gynnal cyfarfod o r Llywodraethwyr gyda r Rhieni yn unol ag adran 94 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion ( Cymru 2013) yn ystod y flwyddyn addysgol 2014/15. Pe byddai rhieni am ofyn am gyfarfod gyda chorff Llywodraethol bydd angen i r rhieni fodloni 4 gofyniad statudol wrth alw cyfarfod sef; Rhaid i rieni 10% o r disgyblion cofrestredig, neu rieni 30 o r disgyblion cofrestredig ( pa un bynnag sydd isaf) arwyddo deiseb yn gofyn am gyfarfod; Rhaid mai diben y cyfarfod yw trafod materion sy n ymwneud â r ysgol; Y nifer fwyaf o gyfarfodydd y gall rieni ofyn amdanynt o fewn unrhyw flwyddyn ysgol yw 3; Rhaid bod yna ddigon o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol i ganiatáu cyfarfod. At hynny; Rhaid cynnal y cyfarfodydd cyn diwedd cyfnod o 25 diwrnod. Mae r cyfnod o 25 diwrnod yn cychwyn y diwrnod ar ôl derbyn y ddeiseb, ond nid yw n cynnwys unrhyw ddiwrnod nad yw n ddiwrnod ysgol. Os oes angen cynnal cyfarfod arall o ganlyniad i ddeiseb wahanol, ni fydd y cyfnod o 25 ddiwrnod yn dechrau tan y diwrnod ar ôl cynnal y cyfarfod arall. Rhaid bod digon o ddyddiau ar ôl yn y flwyddyn ysgol i gynnal cyfarfod cyn diwedd y cyfnod o 25 diwrnod. Bydd cyfarfodydd yn agored i holl rieni r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol, y Pennaeth ac unrhyw un arall a wahoddir gan y corff llywodraethol. Mae n rhaid i hysbysiad y cyfarfodydd i r rhieni gynnwys dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod ynghyd â r mater neu faterion i w trafod.
5 Darpariaeth Chwaraeon Yr Ysgol am Nofio Bu i flynyddoedd 3, 4,5, a 6 gael hyfforddiant nofio am 10 wythnos yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn. Bu tîm o r ysgol yn nofio yng nghystadleuaeth gala r Urdd yn nhymor yr Hydref ac yna yng ngala Ysgolion Maldwyn. Athletau Cafodd disgyblion Bl.5 a 6 gyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth athletau dan do yn Maldwyn. Daeth myfyrwyr Coleg Powys am 10 wythnos i hyfforddi Bl.3-6. Mae ein disgyblion yn mwynhau pnawn dydd Gwener. Pêl-rwyd Cynhaliwyd clwb ar ôl ysgol i Fl.5/6 ac fe lwyddodd tîm yr ysgol i fynd drwodd i r rhanbarth. Trawsgwlad Unwaith eto aeth CA2 draw i Barc Dolerw i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Ysgolion Y Drenewydd. Mabolgampau Cafwyd diwrnod llwyddiannus i r diwrnod mabolgampau. Llongyfarchiadau i r anlynol ar ennill y marciau mwyaf eleni yn ein mabolgampau ysgol; Cyfnod Sylfaen Bl. M = Elin a Lewis. Bl. D = Cerys a Ffion, Evan a William. Bl. 1 = Loyce a Morgan. Bl. 2 = Ffion ac Archie. Bl. 3 = Tirion a Mark. Bl. 4 = Holly a Zac. Bl. 5 = Tilly a Toby. Bl. 6 = Carrie a Tomas. Tenis Cafwyd hyfforddiant tenis yn ystod y flwyddyn. Bu timoedd yr ysgol yn cystadlu mewn cystadlaethau gan obeithio gwelwn ni rhai yn Wimbledon yn y dyfodol. Pêl Droed Cynhaliwyd Clwb Pêl Droed amser cinio a bu r timau yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau yn ystod y flwyddyn. Diolch Unwaith eto rydym yn hynod o ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn helpu hyfforddi, cludo a chefnogi ein disgyblion trwy r flwyddyn. Hefyd diolch i bawb sydd yn trefnu holl weithgareddau chwaraeon ar hyd y flwyddyn academaidd. Mae ein disgyblion yn hynod o lwcus o r cyfleodd.
6 Llangrannog Aeth criw o ddisgyblion o Flwyddyn 5 a 6 i Langrannog gyda Miss Davies, Mrs Yewdall a Mr Lovgreen ar gwrs gloywi iaith. Mae n gyfle ardderchog i r disgyblion gael gyfathrebu a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn y Gymraeg. Gyda llawer o ysgolion eraill o Bowys yn y gwersyll yr un pryd mae pawb yn gwneud ffrindiau newydd gydag amryw yn dod i adnabod rhywun newydd fydd yn mynd i r ysgol uwchradd yr un pryd a nhw. Ar y Cwrs Antur Yn paratoi am y disgo
7 Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a r Gororau Barddas; Carrie yn derbyn ei chadair ac yn darllen ei cherdd yn y Babell Len. Megan Jones a Nia Jones yn dod yn gydradd 2ail. Yr Ysgol yn ennill y wobr am yr ysgol orau. Caitlyn yn aelod o r Dawns Flodau. Côr yr ysgol yn canu ym Mhabell CYTÛN a Menter Maldwyn. Rhys yn canu ei orau yn rhagbrawf Unawd dan 12. Disgyblion yn rhan o Gôr Plant yr Eisteddfod. Arddangosfa o wybodaeth, ffeithiau ac arfer dda yr ysgol. Gwaith celf Bl 5 ym Mhabell Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Eisteddfod i w chofio!! Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili. Lawr i r de y tro hwn ac i Gaerffili. Clod aruthrol oedd gweld Nia Jones yn ennill 1afy fedal aur, yn yr adran Barddoniaeth i Fl.5/6. FFANTASTIG! Y Band Roc unwaith eto yn parhau gyda u llwyddiant o ennill medal ers 10 mlynedd bellach - ennill y 3ydd wobr - Gwych! Gwefr oedd gweld y grŵp dawnsio disgo yn perfformio mor egnïol yn y rhagbrawf - arbennig iawn. Y côr hefyd yn hyderus ac yn sicr ac yn canu o u gorau. Pleser llwyr oedd cefnogi Tomas, Owen a Rhys yn y grŵp lleisiol a hefyd Rhys yn yr Unawd i Fl3/4. Diolch i r plant am eu gwaith caled, i r staff am eu hyfforddi ac i r rhieni am eich cefnogaeth. Dyma r ddwy gerdd a enillodd wobrau
8 Ysgol Goedwig. Mae r Ysgol Goedwig wedi cael ei gweithredu dros nifer o flynyddoedd. Ystyr yr Ysgol Goedwig yw gweithio yn yr awyr agored, astudio bywyd gwyllt, a deall beth yw cynefinoedd gwahanol. Rydym yn defnyddio offer i gynllunio pethau allan o bren. Rydym wedi cynllunio a gwneud cyllyll pren, bwydwyr adar, tai adar, tai i drychfilod a rhawiau bach i r ardd. Hefyd ceir gyfle i dyfu planhigion a garddio. Datblygir sgiliau meddwl a llafar. Defnyddiwn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd wrth gynllunio r gwersi. Neges wrth Mrs Pauline Morgan Hoffwn ddiolch i r Llywodraethwyr, Staff, rhieni a disgyblion am eu cefnogaeth a i haelioni yn ystod fy amser fel Cynorthwywraig Dysgu yn Ysgol Dafydd Llwyd. Pan ddechreuais weithio yn yr Uned Gymraeg ryw 17,mlynedd yn ôl. Feddyliais i byth faint y byddem yn glynu wrth fath Ysgol wych, Mae wedi bod yn bleser i weithio gyda thîm ymroddedig. Roedd yn benderfyniad anodd iawn i adael Dafydd Llwyd a chymerid Swydd llawn amser yn Ysgol Hafren. Dros y blynyddoedd gwelais lawer iawn o ddisgyblion yn mynd a dod, pob un yn arbennig. I mi, y gwaith mwy pleserus oedd gweld disgyblion oedd yn cael trafferthion yn dysgu goresgyn eu problemau. Rwyf wedi cael profiadau gwerthfawr iawn ac fe fyddaf yn mynd a llawer o atgofion melys gyda mi. Dymunaf bob llwyddiant a hapusrwydd yn y dyfodol anturus sydd o ch blaen. Mrs Pauline Morgan. Ffeil o ffeithiau Miss Barnett Enw llawn: Sioned Mair Lloyd Barnett Man geni: Amwythig Addysg: Ysgol Hafren/Ysgol Dafydd Llwyd Ysgol Uwchradd Caereinion Prifysgol Bangor Diddordebau: Mynd allan am fwyd, siopa, pêl droed, nofio a mynd ar wyliau. Lliw llygaid: Glas Taldra: 5 troedfedd 6 modfedd Hoff liw: Pinc Hoff le: Barcelona a thŷ mam a dad. Hoff bwnc: Daearyddiaeth/Hanes Hoff fwyd: Cinio rhost Hoff raglen deledu: Coronation Street neu The Only Way Is Essex Fy swydd gyntaf: Gweithio yn Club Sport, Y Drenewydd Os oedd rhaid i mi fynd â thri pheth ar ynys ddirgel, buaswn yn mynd â: Ffôn symudol, gwely, siocled.
9 Ffeil o ffeithiau - Darryn Green Enw llawn - Darryn Ifor Green Man geni - Aberystwyth Addysg - Ysgol Gynradd Pencae, Caerdydd Uned Gymraeg Ysgol Hafren Ysgol Uwchradd Caereinion Prifysgol Y Drindod Dewi Sant Diddordebau Chwaraeon a chymdeithasu Lliw llygaid - Glas Taldra - 5'10 Anifeiliaid anwes - Dim diolch! Hoff le - Stadiwm y Mileniwm Hoff fwyd - Cinio dydd Sul Cas fwyd - olives Hoff raglen teledu - Scrum V Swydd gyntaf - stondin pysgod a sglodion yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003 Os oedd rhaid mynd a 3 peth ar ynys ddirgel ; pêl rygbi, sach gysgu a...cwch! Adroddiad-SENCo Yma yn Ysgol Dafydd Llwyd, mae gan bob plentyn yr hawl i brofiadau bythgofiadwy a r cyfle i gyrraedd ei lawn botensial. Fel staff, rydym yn sicrhau bod plant ag Anghenion Arbennig yn cael pob chwarae teg trwy gynllunio n fanwl, creu a defnyddio adnoddau effeithiol a gweithio n agos gydag asiantaethau allanol. Mrs Anwen Jarman a Miss Callyn Toms yw r athrawon SENCo yr ysgol y flwyddyn yma. Maent wedi mynychu r Fforwm Senco a chael cyfle i drafod unigolion mewn cyfarfodydd consultation. Cafodd yr Ysgol hyfforddiant mewn tueddiadau dyslecsia yn ddiweddar. Yn deillio o hwn mae staff yr ysgol yn fwy ymwybodol o strategaethau i helpu disgyblion. Rydym hefyd yn defnyddio cynllun newydd Nessy ar gyfer disgyblion sydd â thueddiadau dyslecsia. Darperir Cynllun Addysg Unigol i bob plentyn sydd ar y rhestr Anghenion Arbennig ac mae targedau a chanlyniadau plant grwpiau ymyrraeth yn cael eu cofnodi ar Fapiau Darparol.
10
11
12
Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.
BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau
More informationArolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationYSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID
YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID Annwyl Riant / Warcheidwad, Mae n fraint ac anrhydedd i mi fel Cadeirydd y Corff Llywodraethol gyflwyno
More informationAPIAU CYMRAEG. C.Phillips
APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan
More informationYsgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11
Ysgol Dyffryn Conwy Llyfryn Gwybodaeth Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Calendr Dyddiadau Pwysig MEDI 2017 HYDREF 2017 TACHWEDD 2017 1 HMS 1 1 Hanner Tymor 2 2 2 Hanner Tymor 3 3 3 Hanner Tymor 4 HMS 4
More informationSTADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationStori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.
Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg
More informationBlagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN
Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN Ffôn: 01239 891267. Ebost: head.eglwyswrw@pembrokeshire.gov.uk 19/10/18
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More informationAMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016
AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationW46 14/11/15-20/11/15
W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil
More informationBwletin Gorffennaf 2016
Bwletin Gorffennaf 2016 Hau i Fedi www.ysgoluwchraddbodedern.org @YUBoded Boded a Bale Gydag ymgyrch llwyddiannus tîm pêl droed Cymru wedi bod yn un mor gyffrous, mae r ysgol fel gweddill Cymru wedi dilyn
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationGwybodaeth i Rieni Parent Information
Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More informationPROSBECTWS YSGOL
PROSBECTWS YSGOL 2014-2015 CYNNWYS 1. Cyffredinol 2. Ethos a Gwerthoedd yr Ysgol 3. Mynediad 4. Trefniadau Ymarferol 5. Lles yn yr Ysgol 6. Cysylltiadau gyda r gymuned 7. Polisïau Cyffredinol 8. Gwyliau
More informationPARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES
Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!
More informationBwletin Rhieni / Parents Bulletin Ebrill / April 2016 RHAI DYDDIADAU PWYSIG / SOME IMPORTANT DATES Dydd Llun / Monday
Bwletin Rhieni / Parents Bulletin Ebrill / April 2016 RHAI DYDDIADAU PWYSIG / SOME IMPORTANT DATES Dydd Llun / Monday Gwyliau Calan Mai / May Day Bank Holiday 02.05.2016 Dydd Gwener / Friday Arholiadau
More informationCAMU MLAEN STEPPING FORWARD 2018/19 CROESO CYNNES I FLWYDDYN /19 A WARM WELCOME TO YEAR
CAMU MLAEN STEPPING FORWARD 2018/19 CROESO CYNNES I FLWYDDYN 7 2018/19 A WARM WELCOME TO YEAR 7 2018/19 Fy Llyfryn Trosglwyddo Personol My Personal Transition Booklet Enw/Name Ysgol Gynradd/Primary School
More informationSTAFFIO: Estynnwn groeso cynnes i Mrs Emma Robertshaw (Athrawes newydd dosbarth Jac y Jwc).
09.09.16 Annwyl Rieni, Croeso cynnes iawn yn ôl i bawb wedi r gwyliau haf. Gan obeithio cawsoch chi seibiant a chyfle i ymlacio efo ch teuluoedd. Edrychwn ymlaen at groesawu r plant yn ôl i r ysgol. Croeso
More informationBeth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners
********************************************************************************************************* Beth amdani? 2017 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners Eisteddfod Genedlaethol
More informationCynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan
Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan Cynllun Sion s Plan Enw Llawn / Full Name: Sion Davies Dyddiad Geni / Date of Birth: 04.06.10 Lleoliad Addysgol / Educational Placement: Ysgol Tan
More informationChwefror / February 2015
Bwletin Rhieni / Parents Bulletin Chwefror / February 2015 RHAI DYDDIADAU PWYSIG / SOME IMPORTANT DATES Dydd Mawrth / Tuesday 10.03.2015 3.45-5.45 Dydd Mawrth / Tuesday 24.03.2015 3.45-5.45 Dydd Llun /
More informationSUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL
SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus
More informationPenglais DATES FOR YOUR DIARY YR URDD
Penglais Cylchlythyr Newsletter Mawrth / March 2009 www.penglaisschool.org.uk Rhif/No. 46 YR URDD Bydd gan yr ysgol nifer o bartion ac unigolion yn cystadlu yn yr Eisteddfod eleni. Byddant yn cystadlu
More informationNewyddion yr ysgol gan y disgyblion.. / School news from the pupils.. RHYBUDD!!!! Mae wedi bod yn 3 wythnos brysur!!!
CYLCHLYTHYR MISOL ygyffin.ik.org Newyddion yr ysgol gan y disgyblion.. / School news from the pupils.. Rhifyn 5 Gorffennaf 2017 RHYBUDD!!!! Mae wedi bod yn 3 wythnos brysur!!! NODYN GAN Y PENNAETH Here
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informatione-bost/ Rhif testun yr ysgol/school s text no:
Ysgol Eifionydd, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9HS Pennaeth/ Headteacher: Mr. Dewi Bowen B.Sc Pennaethiaid Cynorthwyol / Assistant Headteachers: Mrs. Gwyneth E Owen B.Add & Mrs. Lyn Parry Hughes B.A Tachwedd
More informationBeth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners
********************************************************************************************************* Beth amdani? 2016 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners 2 Beth amdani? 3 Croeso
More informationSCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools
SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Primary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 3 Year 4 Year 5 Year 6 How old are
More informationDysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU
Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer
More informationAdroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia
TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter
More informationTuesday 26th January 2016 Bryn Meadows Golf Club, Maesycwmmer
Tuesday 26th January 2016 Bryn Meadows Golf Club, Maesycwmmer Order of Ceremony - Trefn y Seremoni 6:15 Arrival 6:30 Welcome by Ben Hammond Kelly Davies Speech Young Volunteer of the Year award presented
More informationNatWest Ein Polisi Iaith
NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion
More informationBeth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations
Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods
More informationAdroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.
Adroddiad yn dilyn monitro Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY Dyddiad yr ymweliad: gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Hawlfraint
More informationCANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH
CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationWelsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport
#amdani Y Gymraeg: Amdani! Defnyddio r Gymraeg mewn chwaraeon Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport Mae defnydd naturiol o r iaith yn hollbwysig boed mewn cynhadledd i r wasg neu ar grysau
More informationAdroddiad Blynyddol 2017
Adroddiad Blynyddol 2017 Ysgol Gyfun Gŵyr Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe, SA4 3DB. Ffôn: (01792) 872403 Ffacs: (01792) 874197 Gwefan: www.yggwyr.org.uk E-bost: ysgol.gyfun.gwyr@swansea-edunet.gov.uk
More informationSummer Holiday Programme
Summer Holiday Programme for Flintshire Leisure Centres Our fantastic summer holiday programme for each of our four leisure centres www.flintshire.gov.uk Like Follow us Deeside Leisure Centre - 01352 704200
More informationWales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report
Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation
More informationGair o r Garth Garth Grapevine
Côr yr ysgol yn The Gate School Choir performs in The Gate Gair o r Garth Garth Grapevine Rhagfyr December 2017 COFIWCH: REMEMBER: Tymor y Pasg yn cychwyn 8/1/18 Easter term begins 8/1/18 Côr Ysgol Gwaelod
More informationCylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad
Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad I SYLW: PENAETHIAID A CHYDLYNWYR ADYaCh Croeso i Rifyn yr Hydref (2017) o Gylchlythyr ADYaCh. Mae llawer o brysurdeb wedi bod dros y misoedd diwethaf
More informationTempled Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer
Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationW39 22/09/18-28/09/18
W39 22/09/18-28/09/18 2 Rhondda Rebel 3 Back In Time for the Factory 4 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Newport / Casnewydd 2 Usk / Brunbuga 2 1 Follow @BBCWalesPress on Twitter to
More informationSCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools
SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Secondary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 7 Year 8 Year 9 Year 10 Year 11 How
More informationYsgol Pencae Ffordd Graiglwyd Penmaenmawr LL34 6YG.
Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Pencae Mae'r ysgol yn Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru Ysgol Pencae Ffordd Graiglwyd Penmaenmawr LL34 6YG. Ffôn: Penmaenmawr (01492) 622219 Ffacs: (01492) 623732
More informationPwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16
Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Aelodau Yn Bresennol / Members Present Cyngh / Cllr Eryl Jones Williams (EJW) O.G Thomas
More informationWALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA
FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v BOSNIA & HERZEGOVINA 07.06.2018 Liberty Stadium Swansea Kick Off 7pm FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v RUSSIA 12.06.2018 Newport Stadium Newport
More informationPwyllgor Newydd ar gyfer LOLFA!
Pwyllgor Newydd ar gyfer LOLFA! Erbyn hyn, mae pwyllgor newydd yn gyfrifol am y cylchgrawn, sef Bethan, Rhian, Steffan a Betsan. Gwnaethon nhw gyflwyniad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Hydref er mwyn
More informationCyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid
More informationYsgol Bro Banw Adran y Cyfnod Sylfaen Heol Walter Rhydaman Sir Gaerfyrddin SA18 2NS Ffôn:
Ysgol Bro Banw Adran y Cyfnod Sylfaen Heol Walter Rhydaman Sir Gaerfyrddin SA18 2NS Ffôn: 01269 592481 Ysgol Bro Banw Adran Iau Heol Walter Rhydaman Sir Gaerfyrddin SA18 2NS Ffôn: 01269 592481 Ebost: admin@banw.ysgolccc.org.uk
More informationCylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau
Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr 2018 + Cynnwys T2: Newyddion a digwyddiadau T4: Diweddariadau cyffredinol T5: Cwrdd â r tîm Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd Blwyddyn Newydd Dda i n darllenwyr i
More informationThe Life of Freshwater Mussels
The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell
More informationCEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU
CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU ARWEINIAD ARFER GORAU Crown copyright 02/11 Registered charity number 219279 www.britishlegion.org.uk CYNNWYS Mae r Lleng Brydeinig Frenhinol wrth galon
More informationRhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Rhif: WG25772 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 18 Rhagfyr 2015
More informationGWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History
GWERS 90 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Cyflwyno 'I prefer...' Geirfa rygbi -rugby pêl droed - soccer cig eidion -beef persawr - perfume bwyd llysieuol -vegetarian anrheg - present food cawl - soup, broth
More informationCanlyniadau Arholiad / Examination Results
Mis Hydref 2015 October 2015 Rhifyn: 15 Issue: 15 Canlyniadau Arholiad / Examination Results Safon Uwch A Level Cafodd ein myfyrwyr Blwyddyn 13 cryn lwyddiant gydag 28% yn ennill y graddau uchaf A*-A (11%
More informationYMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS
YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS swansea.ac.uk/reaching-wider @ReachingWider RHAGAIR Mae ymwneud Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot â Phartneriaeth Ymgyrraedd yn
More informationMae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.
Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn
More informationBil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i DOGFENNAU SY N MYND GYDA R BIL Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân. Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r
More informationWales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form
Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form This competition is organised by the Engineering Education Scheme Wales on behalf of the Welsh Government to recognise the exciting
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More information+ Digwyddiadau Ymweld â Phrifysgol Bangor
+ Cynnwys T1: Digwyddiadau T2: Yr offer holi T3: Cipolwg T4: Cwrdd â r tîm T5: Hwyl fawr a helo T6: Cysylltu â ni + Digwyddiadau Ymweld â Phrifysgol Bangor Yn ddiweddar, bu Dawn Knight, Paul Rayson a Steve
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places
More informationAddysg Oxfam
Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd
More informationCERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.
DEWCH I NI GERDDED I R YSGOL CERDDED I R YSGOL gyda Living Streets. MAE NEWID MAWR AR DROED. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. ˇ Mae r daith yn dechrau nawr. Helpwch ni i GREU CENEDL SY N CERDDED
More informationNetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community
More informationARWEINLYFR I FYFYRWYR
ARWEINLYFR I FYFYRWYR HŶN Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 www.bangor.ac.uk www.facebook.com/prifysgolbangor @prifysgolbangor Mae r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i
More informationAnnual Report. PERIOD: 1 st March th February 2017
Annual Report PERIOD: 1 st March 2016 28 th February 2017 Principal address of the charity: DASH (Disabilities and Self Help) Min y Mor Bungalow Wellington Gardens ABERAERON Ceredigion SA46 0BQ Tel. (01545)
More informationLlyfr Croeso Dysgu Cymraeg
Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg 2 Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Initially I joined the class to learn Welsh to help my three-year-old build his language skills for school and at home. The real bonus is that the
More informationYsgol Pen-y-bryn, Bethesda Llawlyfr i Rieni/Gofalwyr
Ysgol Pen-y-bryn, Bethesda Llawlyfr i Rieni/Gofalwyr 2017-2018 Pennaeth: Mrs Ceren Lloyd 01248 600375 Ffacs / Fax: 01248 600375 ebost/email : CerenLloyd@gwynedd.gov.uk Mae'r llawlyfr hwn wedi ei gynhyrchu
More informationCylchgrawn C.Ff.I. Ceredigion. Yn y rhifyn yma.. Adnabod eich swyddogion newydd Cipolwg ar arwyddion y rali Dathliadau Cystadlaethau Joio Newyddion
Cylchgrawn C.Ff.I. Ceredigion Yn y rhifyn yma.. Adnabod eich swyddogion newydd Cipolwg ar arwyddion y rali Dathliadau Cystadlaethau Joio Newyddion Cwrdd â Swyddogion 2017-2018 FFARMWR IFANC BRENHINES Enw:
More informationWelcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID
Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID YOUR FUNDRAISING pack! EICH PECYN CODI ARIAN! BBC Children in Need is back. And this year we re partnering with Lloyds Bank to bring you Champions
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 26 June/Mehefin 23-29, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Exhibitionists 3 Crimewatch Roadshow 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth
More informationAnnual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme
Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme 1. INTRODUCTION 1.1. This report covers the period from October to the end of October 2011. 1.2. The Legal Services
More informationY Wisg Ysgol. The School Uniform
Y Wisg Ysgol The School Uniform Siaced y Bechgyn / Boys Blazer Winterbottom Knightsbridge Siaced las tywyll gydag ymyl aur a logo r ysgol Blazer with gold piping and school logo Bydd disgwyl i bob disgybl
More informationNational Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack
National Youth Orchestra of Wales Auditions 2019 Violin Audition Pack Contents: 2019 Music Ensemble Audition Information Violin Audition Requirements Set Orchestral Excerpts (Violin) Example Marksheet
More informationTASG 2 FFERM FOLLY FFERM FOLLY
TASG 2 1 I : Bob ysgol yng Nghymru FFERM FOLLY FFERM FOLLY Ydych chi n gallu helpu creu logo newydd i r We ar gyfer Fferm Folly os gwelwch yn dda? Mae syniadau newydd gyda ni ac mae map newydd gyda ni.
More informationDysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion
Medi 2013 Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion Arolwg o ysgolion i werthuso effaith y Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru Cynnwys Crynodeb gweithredol tudalen 3 Cyflwyniad tudalen 5 Yr arolwg
More informationGWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)
GWERS 86 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) Geirfa llyfrgell f - library oriel f - gallery eglwys(i) f - church(es) pont(ydd) f - bridge(s) eglwys - cathedral
More informationPOBL PENWEDDIG. Parêd Gŵyl Dewi. Pêl-droedwyr Penweddig yn Chwarae Dros Gymru.
POBL PENWEDDIG POBL PENWEDDIG www.penweddig.ceredigion.sch.uk Pêl-droedwyr Penweddig yn Chwarae Dros Gymru Haf 2013 Cafodd Nia Jones Bl. 11 y cyfle i hyfforddi gyda Thîm Pêl-droed Merched Cymru Dan-17
More informationWeek/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:
Week/Wythnos 41 October/Hydref 11-17 Pages/Tudalennau: The Devil s Vice Lucy Owen: Working Mum Sex Love and Cwtches Cwmderi: Dathlu Deugain Pobol y Cwm at 40 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb:
More informationSwim Wales Long Course Championships 2018
Swim Wales Long Course Championships 2018 Closed event March 30 th April 2 nd 2018 #SWLC18 Meet Summary Swim Wales National Long Course Championships is a level 1 Closed Long Course (50m) meet aimed at
More informationCadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau
Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau Cynnwys Tudalen Cyflwyniad 2 Dogfennau a gwybodaeth allweddol 3 1. Senarios 4 Sioe gerdd ysgol 4 Grŵp ieuenctid 6 Teledu 8 Rhaglen realiti 10 2. Materion
More informationCymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:
Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau ac Ymarfer i Brifysgolion helpu Myfyrwyr sy n Gofalu gael Mynediad i a Llwyddo mewn Addysg Uwch Cymru Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau
More informationSummer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events
Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events IPC registered and approved Monday 30 th July Sunday 5 th August 2018 #SWSO18 1 Meet summary Swim Wales is proud to present
More informationAddewid Duw i Abraham
Beibl i Blant yn cyflwyno Addewid Duw i Abraham Awdur: Edward Hughes Lluniau gan: Byron Unger; Lazarus addaswyd gan: M. Maillot; Tammy S. Cyfieithydd: Catrin Roberts Cynhyrchwyd gan: Bible for Children
More informationdysgucymraeg.cymru/gwent learnwelsh.cymru/gwent
Cynnwys Contents Welcome Croeso What level? Pa lefel? How often? Pa mor aml? What type of course? Pa fath o gwrs? Examinations Arholiadau Supporting Learners Cefnogi Dysgwyr How to enrol? Sut i gofrestru?
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informationRwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau
Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau Diolchiadau Hoffen ni ddiolch i r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma. Rydyn ni n arbennig o ddiolchgar i Gwyther Rees o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol
More informationOctober Half Term. Holiday Club Activities.
October Half Term Holiday Club Activities Hoffi Dilynwch ni Like Follow us www.aura.cymru www.aura.wales BUCKLEY SWIMMING ACTIVITIES 4 YEARS AND OLDER Activity Description Dates of Activity Activity Start
More informationCyrsiau Courses.
rsiau yrsia Cyrsiau Courses 2017 www.nantgwrtheyrn.org Croeso Pentref hudolus Nant Gwrtheyrn wedi i leoli mewn hen bentref chwarelyddol ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn yng Ngogledd Cymru yw cartref
More informationRhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16
Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16 Awdur Linda Bailey: Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus / Gwybodaeth Iechyd Tynnu data Louise Richards (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) Dadansoddi data Mari Jones (Dadansoddwr
More informationNational Youth Arts Wales Auditions 2019
National Youth Arts Wales Auditions 2019 Flute Audition Pack Contents: 2019 Musical Ensemble Audition Information Flute Audition Requirements Set Orchestral and Wind Orchestral Excerpts (Flute) Example
More information