Trosolwg Diwinyddol. Dr Stephen Holmes, Prifysgol St Andrews BYDD UN MEWN TAIR O FERCHED YN DIODDEF TRAIS AR SAIL RHYWEDD YN YSTOD EU HOES
|
|
- Spencer Merritt
- 5 years ago
- Views:
Transcription
1 SAFIAD YN ERBYN TRAIS AR SAIL RHYWEDD Trosolwg Diwinyddol Dr Stephen Holmes, Prifysgol St Andrews 1 Cyflwyniad: tawelwch Dina a llwch Iesu Yn Genesis 34, bu i rhywbeth rhyfedd ddigwydd yng nghanol stori Jacob. Dychwelodd adref ar ôl gweithio am 20 mlynedd i Laban, ymgodymodd gyda Duw, ac o r diwedd cyfarfu ag Esau i ddarganfod fod eu cweryl brawdol, o bosib, drosodd. Mae Duw ar fin ymddangos eto i ddweud wrtho am ddychwelyd i Fethel, lle breuddwydiodd unwaith am risiau i r nefoedd; cyn i hynna ddigwydd, fodd bynnag, cymer saib a cheisio ymgartrefu mewn dinas yng Nghanaan. Yno caiff ei ferch Dina ei threisio (34:2); am weddill y bennod mae ei thad, ei brodyr, y treisiwr a i dad yntau, yn dadlau ac yna n ymladd ynglŷn â sut i ddelio gyda r sefyllfa. Nid yw llais Dina i w glywed; ni ddysgwn am ei theimladau, neu ei dymuniad hi yngŷn â r ffordd ymlaen o r sefyllfa y mae ynddi. Yn Ioan 8:1-11 clywn stori arall am ryw, trais a thawelwch. Gwraig, heb ei henwi, wedi ei dal mewn godineb yn noeth tybiwn, neu n rhannol noeth yn cael ei llusgo o flaen dyn arall, gan fynnu y dylai Iesu ei chondemnio i farwolaeth drwy labyddio. Y tro yma, ef sy n dawel, ac ysgrifenna yn y llwch gyda i fys. Yn y diwedd, fe ateba, gan wrthod cydsynio â mwy o drais, er mai dyna r gosb gyfiawn yn ôl y gyfraith Iddewig; yn hytrach, dyro her i r dynion a i llusgodd hi o i flaen, a r dyrfa a gynullodd i wylio r cyfan, ynghylch pa un ohonyn nhw oedd yn ddigon pur eu moesoldeb i ddwyn barn. Mae r stori hefyd yn cuddio rhywbeth od: mae dau o bobl yn cymryd rhan mewn gweithred o odineb ; ai dianc wneath y dyn a fu n godinebu neu a adawyd e n rhydd? BYDD UN MEWN TAIR O FERCHED YN DIODDEF TRAIS AR SAIL RHYWEDD YN YSTOD EU HOES 2 Trais ar sail rhywedd Mae trais ar sail rhywedd yn cyfeirio at weithredoedd o drais corfforol sydd wedi ei gyflawni neu eu sefydlu gan ddynion neu fechgyn yn erbyn menywod a merched. Mae n syndod o gyffredin: dywed ystadegau da wrthym bod un mewn tair o ferched o gwmpas y byd yn debygol o ddioddef trais ar sail rhywedd yn ystod eu hoes 1 ; ym Mhrydain, lle gobeithiwn a disgwyliwn i r ffigyrau fod yn wahanol iawn, mewn gwirionedd nid ydynt llawer yn well: awgryma ffigyrau r llywodraeth fod un mewn pedair o ferched yn dioddef camdriniaeth rhywbryd yn ystod eu bywyd dan law dyn 2. Dylem oedi ac ystyried mor ddifrifol yw r ffigyrau: mewn eglwys o gant o bobl, bydd tua chwedeg yn fenywod; bydd pymtheg menyw yn yr eglwys, felly, wedi neu n mynd i gael eu cam-drin rhywbryd yn eu hoes. Mae r ystadegau gorau sydd gennym yn awgrymu fod y gyfradd o drais mewn eglwysi ym Mhrydain ddim yn amrywio llawer oddi wrth y cyfartaledd cenedlaethol. Mewn grŵp tŷ o ddeuddeg o bobl, wyth ohonynt yn ferched, bydd dwy yn y gorffennol, presennol neu r dyfodol yn ddioddefwyr trais. Mae r ystadegau yn ofnadwy. Y broblem yn enfawr. Felly pam rydym ni n siarad yn benodol am drais ar sail rhywedd, yn hytrach na chondemnio pob trais heb wahaniaethu? A pam canolbwyntio ar drais a achoswyd gan ddynion, gan anwybyddu trais gan ferched yn erbyn dynion? Dyma gwestiynau priodol i w gofyn; a daw r ateb wrth i ni ddeall beth a olygwn wrth rhywedd. MAE R YSTADEGAU YN OFNADWY. Y BROBLEM YN ENFAWR 1 Yn ôl y Cenhedloedd Unedig. Gweler: 2 Mae nifer o arolygon yn pwyntio tuag at y ffigwr hwn. Am fanylion ewch i Urddas: Trosolwg Diwinyddol 1
2 3 Rhyw a rhywedd: y greadigaeth a diwylliant Os ydym i ddeall trais ar sail rhywedd mae angen i ni ddeall yr hyn a olygwn wrth y gair rhywedd neu gender a sut mae n wahanol i ryw : gallwn ddechrau gyda dau ddiffiniad: Rhyw yw r fioleg y cawsom ein creu i fod, ein gwrywdod a n benyweiddiwch Rhywedd yw ein cydymffurfiad diwylliannol i syniadau o wrywdod a benyweiddiwch Caiff y rhan fwyaf o fodau dynol eu geni yn wryw neu fenyw diamwys: canlyniad gwahaniaeth bach yn ein cromosomau (XX neu XY) sydd i gyfrif am wahaniaethau corfforol amlwg, sylwir ar ein horganau cenhedlu ar ein genedigaeth ac yna n dilyn glaslencyndod ein siâp corfforol, patrymau tyfiant gwallt, a.y.b.. Dyma yw rhyw. Wrth i ni aeddfedu ymdoddwn i mewn i n diwylliant: cawn ein dysgu i gydymffurfio â safonau cymdeithasol penodol. Gall y rhain fod yn eithaf arwynebol ond yn weledol iawn, fel dysgu beth sy n addas i w wisgo mewn sefyllfaoedd arbennig. Gallant fod yn ddyfnach yn ein diwylliant hefyd, fel dysgu ffyrdd derbyniol o fynegi galar neu ddicter. Yn amlwg, mae r safonau n amrywio un diwylliant i ddiwylliant arall. Mae rhai o r safonau yma n gyffredin i bawb o fewn un diwylliant, ond mae eraill yn amrywio o berson i berson; ystyriwch sut gwnaiff pobl sydd wedi eu geni i mewn i ddosbarth cymdeithasol arbennig ddysgu i wisgo n wahanol, er enghraifft. Ym mhob cymdeithas ddynol y gwyddom amdani mae safonau diwylliannol gwahanol i wrywod a benywod; disgrifiwn y gwahanol syniadau ynghylch beth mae n ei olygu i fod yn wryw neu n fenyw fel rhywedd. Eto, gall gwahaniaeth rhywedd fod yn amlwg ond yn ddibwys, neu n ddyfnach neu n fwy dadleuol; neu r ddau. Yn aml, bydd merched cyn eu glasoed yn dechrau arbrofi gyda cholur; mewn rhai isddiwylliannau ( Glam ; neu n fwy diweddar, Goth neu Emo ) bydd bechgyn hŷn yn defnyddio colur yn gyson, mae ei ddefnydd yn gysylltiedig â rhywedd yn wahanol i wrywod a benywod mewn diwylliannau Gorllewinol. Ar yr olwg gyntaf mae hyn yn ddibwys: a oes ots bod merched ifanc yn tueddu i arbrofi â minlliw yn fwy na bechgyn ifanc? Ond, pan gyfunwn hynny â gwahaniaethau eraill yn ymwneud â rhywedd yn ein diwylliant, efallai y gwelwn batrwm lle mae disgwyliadau pwerus ar ferched i gyrraedd safon anghyraeddadwy o harddwch, disgwyliad sy n troi merched i fod yn wrthrych wrth fesur eu gwerth drwy eu hymddangosiad, nid yn eu natur ddynol, eu gallu, sgiliau neu gampau. Dyma rhywedd : patrymau cynnil o wahaniaethu sy n cynnal ac atgyfnerthu rhagdybiaethau diwylliannol dwfn. 4 Rhyw a rhywedd yn y Beibl [ RHYWEDD :] PATRYMAU CYNNIL O WAHANIAETHU SY N CYNNAL AC ATGYFNERTHU RHAGBYBIAETHAU DIWYLLIANNOL DWFN Mae r sail Feiblaidd ar gyfer rhyw yn amlwg: Genesis 1. Mae r Beibl hefyd yn gwybod am rhywedd. Mae r emyn enwog sy n disgrifio r Eshet Chayil, y wraig fedrus yn Diarhebion 31 yn dangos rhagdybiaethau gwahanol am rywedd. Mae ei gŵr yn eistedd ar byrth y ddinas (adnod 23) gyda dynion eraill, yn penderfynu ar faterion cyhoeddus bywyd sifil; nid yw hi n weithgar ym mywyd sifil, ond hi sy n rhedeg y cartref a r busnes, rheoli r prynu a r gwerthu, masnachu am elw (adnod 18), rhoi i elusen (adnod 20). Ni cheir cyfrif tu hwnt i r safonau diwylliannol pam gwaith masnachu ac elusennol yw ei sffêr hi, nid ei un ef, na pam bywyd cyhoeddus yw ei sffêr ef, nid ei un hi, ond dyma r darlun a roddir. Cawn olwg wahanol yn y codau tŷ yn llythyrau Paul (ac yn 1 Pedr), sy n rhoi disgwyliadau gwahanol rhyweddol ar ŵr a gwraig mewn priodas. Hyd yn oed os credwn fod y gorchmynion yma n cynrychioli norm trosgynnol y dylid cydymffurfio â hwy, mae r ffaith eu bod yn orchmynion MAE BOD YN BENTEULU YN RHYWBETH A DDEWISIR EI YMARFER, NID RHYWBETH SY N ANOCHEL O DDIGWYDD YN NATURIOL Urddas: Trosolwg Diwinyddol 2
3 yn dangos i ni mai rhywedd yw hyn, nid rhyw: mae awdurdod ac ymostyngiad yn batrymau ymddygiad a ddewiswyd ac a annogir neu beidio gan ddisgwyliadau diwylliannol a chan batrymau ymddygiad a ystyrir yn normal ; hyd yn oed os ystyrir y gŵr fel y penteulu a r wraig yn ymostwng iddo fel gwerthoedd Cristnogol, maent felly ar sail rhywedd : mae bod yn benteulu, yn wahanol i allu rhywun i dyfu barf, yn rhywbeth a ddewisir ei ymarfer, nid r hywbeth sy n anochel o ddigwydd yn naturiol. 5 Deall trais ar sail rhywedd Y pwynt canolog ynglŷn â thrais ar sail rhywedd yw ei fod wedi ei seilio ar rywedd, nid rhyw. Mae r ffordd y dyfeisiwn ein gwrywdod a n benyweiddiwch yn arwain at ragdybiaethau am batrymau ymddygiad sy n cyfrif trais fel rhywbeth derbyniol yn ddiwylliannol. Pan gaiff menywod a merched eu gweld fel gwrthrychau, mae tuedd i weld trais ar sail rhywedd fel rhywbeth llai erchyll, mwy derbyniol, na mathau eraill o drais a dyna pam dylid ystyried trais ar sail rhywedd gwryw tuag at ferch yn realiti penodol. Mae patrymau diwylliannol wedi cyfrif y trais hwn yn normal ac yn un y gellir ei gyfiawnhau. Yn deillio o hyn ceir y rhagdyb cyffredin brawychus ei bod hi n dderbyniol, ac weithiau n angenrheidiol, i ddyn guro ei bartner, y rhagdyb ei bod hi n anochel i ddinasyddion benywaidd gael eu treisio gan filwyr sy n meddiannu eu tiroedd, a r gofyniad i ferched ddioddef anffurfio organau cenhedlu ( genital mutilation ), priodasau plentyn/cynnar, ac yn aml eu hystyried yn llai haeddiannol o dderbyn addysg a gofal iechyd. Ar yr un pryd, mae troi rhywun yn wrthrych yn cyfiawnhau, ac yn ei dro yn cael ei gadarnhau gan, ymarferion diwylliannol fel pornograffi, sy n cyfrif menyw fel rhywbeth i edrych arni a i defnyddio, yn hytrach nag unigolyn i uniaethu â hi. Y weithred derfynol i ddangos dibrisiad yw llofruddiaeth: babanladdiad plentyn benywaidd. Sut darllenwn ni destun Beiblaidd fel stori Dina (gallwn ychwanegu storiau Tamar, merch Jefftha, gordderchwraig y Lefiaid yn Barnwyr 19, ac eraill)? Mae r testun yn dwyn tystiolaeth sobreiddiol iddi gael ei gwrthrycholi n gyfan: nid yw ei llais yn ddim, llais nas clywir; cyflwynir ei stori fel dim mwy na digwyddiad neu esgus i ddynion gecru dros eu dyheadau gwleidyddol. Mae r Beibl yn ddiarbed o onest a realistig: mae trais ar sail rhywedd trais rhywiol yn y fan hon yn realiti sy n cael ei wneud yn ddiwylliannol ddichonadwy, ac yn dderbyniol mewn ystyr, o droi merched o fod yn fodau dynol i fod yn wrthrychau. Ar yr un pryd, rhaid i ni fod yn ymwybodol o r berthynas wahaniaethol o ran grym. Mae r ffordd y dyfeisiwn ddiwylliant yn golygu fod gan ddynion mwy o rym gwleidyddol/diwylliannol na menywod. Dyma farn ystadegol, nid un absoliwt; mae Prydain wedi cael un prif weinidog benywaidd; ond mae tystiolaeth dros yr haeriad uchod yn ysgubol. [YMARFERION DIWYLLIANNOL:] FEL PORNOGRAFFI, SY N CYFRIF MENYW FEL RHYWBETH I EDRYCH ARNI A I DEFNYDDIO, YN HYTRACH NAG UNIGOLYN I UNIAETHU Â HI Bron i 50 mlynedd cyfnod gyrfa ar ôl i r Ddeddf Gyflog Gyfartal (1970) ddod i rym, mae anghyfartaledd rhywedd yn parhau o fewn cyflogau: caiff menywod eu talu 18.6 y cant yn llai na dynion. Serch y cyhoeddusrwydd a r ymgeision niferus i wahaniaethu n gadarnhaol i gywiro r anghydbwysedd, mae r gyfradd o fenywod yn y senedd yn druenus o isel dim ond ychydig dros 20 y cant. Gallai r ystadegau yma gael eu lluosogi n ddiddiwedd. Mewn cymdeithasau llai datblygedig na Phrydain, mae r gwahaniaethau yma n amlygu n ddigamsyniol camdriniaeth economaidd menywod. Ym Mhrydain, a chymdeithasau datblygedig eraill, mae r bwlch ystadegol yn parhau. Ym mha ffordd bynnag, mae tra-arglwyddiaeth dynion dros fenywod yn weladwy a chlir. Mae r ddwy esiampl Brydeinig yn arwyddocaol, fodd bynnag: bu dyletswydd gyfreithiol i gydraddoli cyflog ers 1970, ac fe gryfhawyd y ddeddf sawl gwaith, bu ymdrech lew i gynyddu r nifer o fenywod yn y Senedd, gan gynnwys rhai pleidiau yn mabwysiadu rhestr ymgeiswyr menywod yn unig ar gyfer rhai seddi. Yn wyneb pwysau cyfreithiol a gweithredu uniongyrchol, sut y deil yr anghydbwysedd? Pam na fedr ein hymdrechion gorau newid anghyfiawnderau mor amlwg? Urddas: Trosolwg Diwinyddol 3 MAE TRA- ARGLWYDDIAETH DYNION DROS FENYWOD YN WELADWY A CHLIR
4 6 Tywysogaethau, pwerau a phatriarchaeth Mae anghyfartaledd rhyw yn debyg i r uchod wedi bodoli ym mhob diwylliant sy n bod, neu wedi byw ar y blaned, cyn belled ag y gwyddom ni. Mae diwylliannau dynol yn amrywio n fawr yn y rhan fwyaf o bethau; pam fod y mater hwn mor unffurf ymysg pob diwylliant? Mae theori rhywedd wedi rhoi r cyflwyno r cysyniad o batriarchaeth ; ond efallai gall y Beibl esbonio i ni sut mae n gweithio. Mae patriarchaeth yn llythrennol yn golygu rheolaeth y tadau. Mae cymdeithas batriarchaidd yn un lle mae pŵer wedi ei ganoli yn nwylo dynion, nid menywod sy n golygu fod bron i bob cymdeithas ddynol heddiw a thrwy hanes yn, neu wedi bod, yn batriarchaidd. Efallai ei bod hi n bosibl i ddychmygu cymdeithas sy n pwysleisio r gwryw fel y penteulu ond sy n gwrthwynebu trais, ond, yn hanesyddol mae n glir ac yn anochel, fod trais ar sail rhywedd yn ganlyniad i, ac yn cefnogi, trefn batriarchaidd. Ar y naill law, mae dynion sy n credu bod ganddynt neu y dylent gael pŵer dros ferched yn gallu teimlo bod modd cyfiawnhau troi at drais i ddangos neu feddiannu pŵer; ar y llaw arall, mae r bygythiad cyson, hyd yn oed yn y dirgel, yn digalonni rhywun rhag ceisio gosod eu hunain yn erbyn y normau patriarchaidd. Mae n werth ymchwilio i r ddeinameg yma ymhellach. Mae r syniad o ddyn yn teimlo ei fod wedi ei gyfiawnhau i ddefnyddio trais yn erbyn menywod yn fwyaf cyfarwydd yng nghymeriad y treisiwr/llofrudd heb sgiliau cymdeithasol mewn ffuglen drosedd; mae r realiti yn llawer mwy cyffredin, yn fwy eang, ac yn fwy pryderus. Canfyddodd astudiaeth Brydeinig ym 1998 fod 20 y cant o ddynion ifanc, 10 y cant o ferched ifanc yn meddwl fod defnydd dyn o drais i reoli ei bartner mewn perthynas yn dderbyniol. Yma, mae rhagdybiaethau patriarchaidd y dylai dyn reoli ei bartner, gan gynnwys defnyddio trais, wedi eu normaleiddio i nifer brawychus o uchel o bobl. Ac mae n werth cofio bod y ffigwr hwn ar gyfer y sawl sy n cydnabod yr agwedd honno pan gwestiynwyd hwy; mae r nifer o bobl a fyddai n cyfiawnhau neu n cynnig esboniad dros drais tymor hir heb fod yn barod i w gyfiawnhau yn y ffordd yma yn llawer uwch heb amheuaeth. Mae agweddau patriarchaidd yn cyfiawnhau trais ar sail rhywedd. Yn debyg i hynny, mae trais ar sail rhywedd yn cynnal patriarchaeth. Yr enghreifftiau fwyaf gweledol yn ddiweddar fu menywod a ddaeth yn ffigyrau gweladwy i herio patriarchaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, Twitter yn benodol. Ym mhob achos, roeddynt wedi derbyn llif sarhaus o negeseuon, a nifer fawr yn bygwth trais rhywiol graffig. Deillia pŵer bygythiadau o r fath o ba mor gredadwy yn ddiwylliannol y maent: mewn diwylliant lle mae trais rhywiol yn gyffredin, rhaid delio â bygythiad o drais yn hollol ddifrifol. Fel y dywedodd rhywun, Cyn hired ag y bydd rhai dynion yn defnyddio grym corfforol i ddarostwng benywod, nid oes rhaid i bob dyn ; mae realiti effeithiau trais ar sail rhywedd yn effeithio ac yn ystumio pob perthynas, hyd yn oed os na ddychmygwyd trais fel rhan o r berthynas honno. MAE PŴER WEDI EI GANOLI YN NWYLO DYNION, NID MENYWOD A fedrwn ni ddeall y realiti pwerus a llechwraidd yma yn ddiwinyddol? Mae r Beibl yn siarad am bwerau ysbrydol sy n ffurfio diwylliant dynol, y tywysogaethau a phwerau yng ngeiriau Paul. Mae Paul yn dychmygu realaeth ysbrydol sy n rhoi ffurf i ddiwylliant dynol ond sy n aml yn wyrdroëdig, gan arwain at ein diwylliannau yn cael eu torri a u cam-ffurfio mewn ffyrdd pellgyrhaeddol. Yn aml, efallai, byddwn yn gallu gweld y gwyrdroad, ond yn analluog i ddianc ohono (gallwn ystyried er enghraifft ein profiadau diweddar o r system ariannol fyd-eang.) Os deallwn batriarchaeth yn y termau yma, pŵer ysbrydol gwyrdroëdig sy n llygru ac ystumio diwylliant dynol o ganlyniad i r tor-addewid sylfaenol a wnaethom yn ein perthynas â Duw, efallai y deuwn o hyd i gyfrif da yn y Beibl sy n gwneud synnwyr o r data diwylliannol rydym wedi bod yn edrych arno. Y darlun cyntaf a gawn o berthynas rhyweddol yn yr Ysgrythurau yw un o gydymddibyniaeth. Fel y dywedodd y Piwritanydd Matthew Henry, the woman was made of a rib out of the side of MAE RHAGBYBIAETHAU PATRIARCHAIDD WEDI EU NORMALEIDDIO I NIFER BRAWYCHUS O UCHEL O BOBL Urddas: Trosolwg Diwinyddol 4
5 Adam; not made out of his head to rule over him, nor out of his feet to be trampled upon by him, but out of his side to be equal with him. Trown wedyn at y felltith sy n dilyn pechod dynol yn Genesis 3: mae r testun yn sôn am dorri sawl perthynas o ganlyniad i r toriad sylfaenol a fu yn y berthynas rhwng Duw a dynoliaeth: yn benodol, caiff perthynas dyn â r greadigaeth ei wyrdroi, gyda r canlyniad o lafurio a chael trafferth wrth amaethu; bydd y berthynas rhwng menyw a dyn yn cael ei dorri, gyda dyhead a dominyddiaeth yn cymryd lle r gydymddibyniaeth hawddgar. MAE DYHEAD A DOMINYDDIAETH YN CYMRYD LLE R GYDYMDDIBYNIAETH HAWDDGAR Ni ddylid clywed y cyfrif hwn o r Beibl fel un heb obaith. Mae r dyfarniad yn Genesis 3 yn felltith; nid dyma sut dylai bywyd fod; ac mae gennym ganiatâd, yn wir cawn ein galw, gan Dduw i leihau r dinistr hwnnw yma. Defnyddiwn dechnoleg i wneud ein hamaethu n haws, felly trwy ras Duw gwelwn leddfu r agwedd honno o r felltith, a gallwn ddisgwyl i ras Duw yn yr un modd allu ailffurfio perthnasau rhyngbersonol ac i adfer perthnasau toredig. Ymhellach, mae bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu wedi ei ganoli o gwmpas gwrthdroi r felltith. Yn yr efengylau, er enghraifft, yn y stori o Ioan 8 y dechreuon ni ag ef, gwelwn Iesu yn gwrthod cydweithio â threfn batriarchaidd a gwrthod cydymffurfio â u hagweddau, gan drin y merched y bu iddo gyfarfod â hwy gyda pharch a dyngarwch. Dylai r eglwys, fel y lle sy n adnabod achubiaeth Iesu ac yn mwynhau ffrwyth cyntaf y deyrnas, fod yn le uwchlaw unrhyw le arall o gydnabod agweddau patriarchaidd, eu henwi, eu hwynebu a u disodli. Eto, mae tystiolaeth Paul ynghylch tywysogaethau a phwerau yn obeithiol yn ei hanfod: yn ei waith achubol mae Iesu wedi torri eu grym, eu trosgynnu, eu harwain a u cadwyno yn ei orymdaith orfoleddus i ddangos ei fuddugoliaeth yn gyhoeddus. Os yw patriarchaeth yn gymaint o dywysogaeth, yn Iesu cafodd ei bŵer ei dorri, ac yn yr eglwys dylem weld cymdeithas newydd lle nid oes na gwryw na benyw, lle bydd eich meibion a ch merched yn proffwydo, lle bydd Duw yn tywallt [ei] Ysbryd ar [ei] weision i gyd, yn ddynion a merched. DYLAI R EGLWYS FOD YN FFAGL AC YN NODDFA AC YN LE I GANFOD IACHÂD I OROESWYR Dylai r eglwys fod yn ffagl ac yn noddfa i oroeswyr a throseddwyr trais ar sail rhywedd: lle o iachâd ar gyfer goroeswyr, lle i gyffesu, dod i edifeirwch, ac adferiad i droseddwyr. bmscymru.org/urddas Cofrestrwyd fel elusen yng Nghymru a Lloegr (rhif ) ac yn Yr Alban (rhif SC037767) Urddas: Trosolwg Diwinyddol 5
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationStori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.
Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationAddewid Duw i Abraham
Beibl i Blant yn cyflwyno Addewid Duw i Abraham Awdur: Edward Hughes Lluniau gan: Byron Unger; Lazarus addaswyd gan: M. Maillot; Tammy S. Cyfieithydd: Catrin Roberts Cynhyrchwyd gan: Bible for Children
More informationCyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More informationSTADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informationCanser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales
Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru Cyfadran Deallusrwydd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru Canser
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places
More informationAddysg Oxfam
Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More informationMae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.
Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn
More informationCANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH
CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,
More informationThe Life of Freshwater Mussels
The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationSESIWN HYFFORDDI STAFF
SESIWN HYFFORDDI STAFF i Mae r canlynol yn ymarferion i staff eu defnyddio i baratoi i gyflawni rhaglen. Gellir defnyddio ymarferion fel rhan o ddiwrnod HMS/hyfforddiant. Mae n bosibl y byddwch eisiau
More informationHelo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.
BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau
More informationASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005
ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO Hydref Rhagfyr 2005 Wedi ei baratoi ar gyfer: S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru Cyswllt y cleient: Carys
More informationPolisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch
Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi
More informationPECYN ADNODDAU I ATHRAWON
PECYN ADNODDAU I ATHRAWON BBC CYFLWYNIAD Doctor Who - The Doctor and the Dalek Gêm ydy hon sy n cynnig cyfle i ddisgyblion hynaf yr ysgol gynradd a disgyblion ieuengaf yr ysgol uwchradd i ddysgu a chymhwyso
More informationEnwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?
DANIEL MORDEN Straeon dirgel o Gymru Beth yw straeon? A pham mae angen inni eu hadrodd? Mae stori yn ffrâm neu n gyd-destun defnyddiol i brofiad. Mae adrodd stori yn ein galluogi ni i archwilio r digwyddiadau
More informationWales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report
Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation
More informationTempled Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer
Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationLLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946
LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR Ffatri baco, Amlwch 1938-1942, a rhai misoedd yn c. 1946 Cyfwelai: VN056 Sali (Sarah) Williams Dyddiad: 17: 11: 2014 Cyfwelydd: Kate Sullivan ar
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 30 July/Gorffennaf 21-27, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Royal Welsh Show 2012 3 Olympics 2012: Women s Football 4-6 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Builth Wells 2 Cardiff
More informationTalu costau tai yng Nghymru
Talu costau tai yng Nghymru Trosolwg Mae r papur hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg 1 a gomisiynwyd ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yr haf diwethaf i bennu i ba raddau y mae pobl
More informationAdroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia
TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter
More informationStudent Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm
Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm Students present: Callum Smith Chiron Hooson David Hooson Emlyn Pratt Esyllt Lewis Jake Smith James Daly Jordan Martin Joshua Green Marcus Connolly Matthew
More informationYMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH
CYNLLUN GWASANAETH BETH YW? NODAU: Rhoi cyflwyniad i r Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Ysgolion. Cynnig cipolwg cychwynnol ar awtistiaeth. GWAITH PARATOI I R ATHRO: Edrychwch ar A Teen s Guide To Autism
More informationMesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg
Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18 Cyhoeddwyd yn unol ag adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Awst 2018 Dyma grynodeb o adroddiad sicrwydd 2017-18 adroddiad
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More informationChwilio am oddrychedd yn L Homme rompu gan Tahar Ben Jelloun
Sophie Smith Chwilio am oddrychedd yn L Homme rompu gan Tahar Ben Jelloun C Y F N O D O L Y N A C A D E M A I D D C Y M R A E G Golygydd Yr Athro Ioan Williams 41 Chwilio am oddrychedd yn L Homme rompu
More informationBI-LINGUAL LANGUAGE POLICY
Appendix 11 Staff Handbook BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY INTRODUCTION Antur Teifi s aim is to follow good practice under the Welsh Language Act 1993 and this policy applies to all our business activities.
More informationCanllaw Diogelu Data. Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth [Tachwedd 2009]
Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth [Tachwedd 2009] Cynnwys RHAN A Cyflwyniad ar ddiogelu data A1 Elfennau sylfaenol diogelu data A2 Rôl Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth A3 - Diffiniadau allweddol yn y Ddeddf
More informationTROSEDDAU CASINEB: YR ACHOS DROS YMESTYN Y TROSEDDAU PRESENNOL
Comisiwn y Gyfraith Papur ymgynghorol Rhif 213 TROSEDDAU CASINEB: YR ACHOS DROS YMESTYN Y TROSEDDAU PRESENNOL Crynodeb ar gyfer y rhai nad ydynt yn arbenigwyr CYFLWYNIAD 1.1 Mae hwn yn grynodeb o'n papur
More informationVOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)
VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) 1978 1990 Cyfwelai: VSW066 Enid Mary Thomas Dyddiad Geni: 20.9.1937 Dyddiad: 4.9.14 Cyfwelydd:
More informationBeth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide
Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser Y canllaw CANSeR Y canllaw canser The cancer guide Ynglyn â r llyfryn hwn Ynglyn â r llyfryn hwn Nod y llyfryn hwn yw eich helpu chi, a r rheiny
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 26 June/Mehefin 23-29, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Exhibitionists 3 Crimewatch Roadshow 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth
More informationYMARFER 6: Sylwadau Cywair/ The pain and grief that follows bereavement can be made Cystrawen/ much worse by identity fraud of the deceased.
YMARFER 6: Sylwadau The pain and grief that follows bereavement can be made much worse by identity fraud of the deceased. 1 According to the Fraud Prevention Service, impersonation of the dead is Britain
More informationBeth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations
Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods
More informationAdolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu
Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau
More informationAdviceguide Advice that makes a difference
Ceir ail-law Pan fyddwch chi n prynu car ail-law, bydd eich hawliau n dibynnu a ydych wedi prynu r car oddi wrth ddeliwr, gwerthwr preifat, mewn ocsiwn neu dros y rhyngrwyd. Prynu oddi wrth ddeliwr- beth
More informationCynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1
Cynllun Strategol 2018-2021 Tudalen 1 Cynnwys 1. Crynodeb 2. Swyddogaethau 3. Gweledigaeth a gwerthoedd 4. Amcanion strategol Amcan 1 dylanwadu ar bolisi Amcan 2 ehangu hawliau pobl i ddefnyddio r Gymraeg
More informationGollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068
Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig
More informationAnhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD), Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)', Anhwylder Gorginetig' a Gorfywiogrwydd' yn wahanol
More informationWelsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport
#amdani Y Gymraeg: Amdani! Defnyddio r Gymraeg mewn chwaraeon Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport Mae defnydd naturiol o r iaith yn hollbwysig boed mewn cynhadledd i r wasg neu ar grysau
More informationWALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA
FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v BOSNIA & HERZEGOVINA 07.06.2018 Liberty Stadium Swansea Kick Off 7pm FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v RUSSIA 12.06.2018 Newport Stadium Newport
More informationPREGETHU O R EFENGYLAU GWELODD DUW YN DDA TRWY FFOLINEB YR HYN YR YDYM NI YN EI BREGETHU ACHUB Y RHAI SYDD YN CREDU.
PREGETHU O R EFENGYLAU GWELODD DUW YN DDA TRWY FFOLINEB YR HYN YR YDYM NI YN EI BREGETHU ACHUB Y RHAI SYDD YN CREDU. Dyma osod y gwaith o bregethu yn ei gyd-destun priodol ar y dechrau. Cyfrwng y mae Duw
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 17 April/Ebrill 21-27, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Elizabeth s Wales 3 They Sold A Million: Ricky Valance 4 Connie s People 5 Scrum V Live: Blues v Edinburgh 6 BBC National Orchestra of Wales
More information1. Cywair and although I am no expert on antiquities, I am always pleased to meet a standing stone or some ancient circle...
YMARFER 3: Sylwadau This year I have done much walking in Snowdonia, and although I am no expert on antiquities, I am always pleased to meet a standing stone or some ancient circle 1 to remind me 2 that
More informationY Wisg Ysgol. The School Uniform
Y Wisg Ysgol The School Uniform Siaced y Bechgyn / Boys Blazer Winterbottom Knightsbridge Siaced las tywyll gydag ymyl aur a logo r ysgol Blazer with gold piping and school logo Bydd disgwyl i bob disgybl
More informationciwb Beth ydych chi n feddwl o...?
ciwb Beth ydych chi n feddwl o...? Beth ydych chi n feddwl o...? siocled poeth cacen / teisen siocled grawnfwyd siocled creision siocled past dannedd siocled Os ydych chi n hoffi siocled, mae mis Hydref
More informationAdolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol
Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol Datganiad Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2017 Gair am y ddogfen hon Mae'r ddogfen hon yn cloi ein hadolygiad o r broses o reoleiddio r Post Brenhinol. Cafodd
More informationSUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL
SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus
More informationBil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i DOGFENNAU SY N MYND GYDA R BIL Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân. Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r
More informationY BANC Y BANC. Hyfedredd
Y Gymraeg a r Gyfraith 1 amddiffynydd ar sail cyfartal arwyddocaol blaenoriaeth dylanwad gwahardd * gweinyddiaeth gwireddu addewidion hawl * hawl llwyr hwyluso hyrwyddo y Ddeddf Uno ymgyrchu Nodyn i r
More informationDatrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch
Datrys y dirgelwch.. Drwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Prifysgol Texas, Prifysgol Texas yn Austin tlodi. Mae Tanzania yn wlad fawr yn nwyrain Affrica. Mae ganddi boblogaeth o dros 40 miliwn (mae gan y DU
More informationGWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)
GWERS 86 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) Geirfa llyfrgell f - library oriel f - gallery eglwys(i) f - church(es) pont(ydd) f - bridge(s) eglwys - cathedral
More informationBriff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur
Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol
More informationAPIAU CYMRAEG. C.Phillips
APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan
More informationMAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu
Yr MAWR Your guide your to getting hool primary sc involved w i gael a l l n a c h c i E radd n y g l o g s y eich i gyfrannu with gyda The BIG Raise lots with spots and help change the lives of disadvantaged
More informationRwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau
Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau Diolchiadau Hoffen ni ddiolch i r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma. Rydyn ni n arbennig o ddiolchgar i Gwyther Rees o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol
More informationRhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16
Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16 Awdur Linda Bailey: Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus / Gwybodaeth Iechyd Tynnu data Louise Richards (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) Dadansoddi data Mari Jones (Dadansoddwr
More informationLLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri High Speed Plastics, Llandygái ; AustinTaylors, Bethesda
LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR Ffatri High Speed Plastics, Llandygái 1970-2; AustinTaylors, Bethesda 1972-1998 Cyfwelai: VN054 Sandra Owen Dyddiad: 28:07:2014 Cyfwelydd: Shan
More informationHerio Materion Crefyddol
ISSN 2053-5171 Rhifyn 11 Hydref 2017 Herio Materion Crefyddol Jeff Astley ar Ian Ramsey ar Iaith Grefyddol Samuel Tranter ar Protestaniaid a Chyfraith Naturiol: Gwrthod ac Adferiada James Francisar ar
More informationDydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh
Senedd Myfyrwyr Hysbysir aelodau Senedd y Myfyrwyr y cynhelir y cyfarfod nesaf fel y dangosir isod: Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh Agenda Cysylltwch â Thîm Llais
More informationGalwad i wasanaethu Called to serve Y Grawys 2015 Lent 2015
Galwad i wasanaethu Called to serve Y Grawys 15 Lent 15 Adnodd ieuenctid Youth resource The English-language follows the Welsh-language version 3 Adnodd Ieuenctid RHAN 1: DECHREUADAU DARLLENIAD YR WYTHNOS
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationCynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol
Rhif: WG33656 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Cynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018 Ymatebion erbyn: 2 Ebrill 2018 Hawlfraint y Goron 1 Trosolwg Mae
More informationRhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Rhif: WG25772 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 18 Rhagfyr 2015
More informationCynnwys Rhifyn 3 (Mis Mehefin)
AGORA Mis Mehefin 2016 Medrwch argraffu r fersiwn hon o r cylchgrawn Agora, neu ei darllen ar y sgrin yn ei ffurf bresennol fel pdf, yn union fel pebai n gopi print, neu medrwch ddewis ei ddarllen yn ddigidol
More informationHawliau Plant yng Nghymru
Hawliau Plant yng Nghymru Hawliau Plant yng Nghymru Hydref 18 Cyflwyniad Mae ychydig dros 550,000 o blant 0-15 oed yn byw yng Nghymru, ac mae 350,000 arall rhwng 16 a 24 oed. 1 Gan mai fi yw, fy rôl i
More informationTechnoleg Cerddoriaeth
Edexcel CE Technoleg Cerddoriaeth Uwch yfrannol Uned 1: Portffolio Technoleg Cerddoriaeth 1 Dyddiad rhyddhau: Dydd wener 11 Medi 2009 Amser: 60 awr Cyfeirnod y Papur 6MT01/01 Rhaid bod gennych: Copi o
More informationYsgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11
Ysgol Dyffryn Conwy Llyfryn Gwybodaeth Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Calendr Dyddiadau Pwysig MEDI 2017 HYDREF 2017 TACHWEDD 2017 1 HMS 1 1 Hanner Tymor 2 2 2 Hanner Tymor 3 3 3 Hanner Tymor 4 HMS 4
More informationW46 14/11/15-20/11/15
W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil
More informationProses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol
1 Sefyllfaoedd a gweithdrefnau Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol Mae'r ddogfen hon ar gyfer pobl sy'n bwriadu cofrestru plaid wleidyddol neu sydd am newid manylion plaid wleidyddol gofrestredig
More informationPwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16
Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Aelodau Yn Bresennol / Members Present Cyngh / Cllr Eryl Jones Williams (EJW) O.G Thomas
More informationCymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb
Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb o syniadau sydd ar y ddalen hon. Am fanylion pellach a syniadau eraill gweler
More informationPARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES
Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!
More informationHarri VIII a Chrefydd
gan Lucy Wooding Cyhoeddwyd yn History Review 2008 Harri VIII a Chrefydd Drwy ei osod yn gadarn o fewn cyd-destun newidiol ei gyfnod, mae Lucy Wooding yn canfod cydlyniad ym mholisïau crefyddol Harri VIII
More informationGwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work
Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y
More informationGwybodaeth i Rieni Parent Information
Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr
More informationDarlun ystadegol o sefyllfa r Gymraeg. Hywel M. Jones
Darlun ystadegol o sefyllfa r Gymraeg Hywel M. Jones i Cynnwys Rhagair... ix 1 Crynodeb... 1 2 Cyflwyniad... 2 3 Trosolwg... 4 3.1 Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth... 4 3.2 Daearyddiaeth...
More informationCanllaw cyflogwyr i ailddilysu
Canllaw cyflogwyr i ailddilysu CYNNWYS BETH MAE R DDOGFEN HON YN EI WNEUD?...3 BETH YW AILDDILYSU?...5 Y BROSES AILDDILYSU A I GOFYNION... 7 RÔL CYFLOGWYR YN Y BROSES AILDDILYSU...10 CYNORTHWYO NYRSYS
More informationSCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools
SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Secondary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 7 Year 8 Year 9 Year 10 Year 11 How
More informationCynhadledd Arweinyddiaeth 2018
Cynhadledd Arweinyddiaeth 2018 Mercure Holland House, Caerdydd 19 a 20 Mehefin 2018 Cynhadledd Arweinyddiaeth 2018 Gwesty Mercure Holland House 19/20 Mehefin 2018 9.00am 9.45am Lluniaeth a Rhwydweithio
More informationGWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol
GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol Ymchwil gan Brifysgol Northampton 2007-2009 Rhagair Sut bydd Gwobr
More informationSwim Wales Long Course Championships 2018
Swim Wales Long Course Championships 2018 Closed event March 30 th April 2 nd 2018 #SWLC18 Meet Summary Swim Wales National Long Course Championships is a level 1 Closed Long Course (50m) meet aimed at
More informationSyniadau Daearyddiaeth Cynradd Cyflym ag elfen hanesyddol
Syniadau Daearyddiaeth Cynradd Cyflym ag elfen hanesyddol Paula Owens Adnodd addysgu Daearyddiaeth Cynradd Teitl: Syniadau daearyddiaeth cyflym ag elfen hanesyddol Cyflwyniad Dyma rai syniadau cyflym ac
More informationCod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yng Nghymru
Mai 2017 Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yng Nghymru Sut y dylid cymhwyso Cytundebau Rheoli Rhywogaethau a Gorchmynion Rheoli Hawlfraint y Goron 2017 WG31285 ISBN digidol: 978 1
More informationSamplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu
Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Adroddiad ar yr ymgynghoriad Ynglŷn â r ymgynghoriad hwn Mae r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o r ymatebion i r ymgynghoriad ar samplo cofnodion
More informationBREUDDWYD DR. SUN YAT-SEN
BREUDDWYD DR. SUN YAT-SEN Ar ôl bod yn China am y tro cyntaf yn 1980 addunedais nad awn byth yn ôl. Roedd y bwyd Chineaidd yn Japan yn dderbyniol iawn, ond yr ansawdd a r coginio cymaint salach yn Beijing.
More informationSCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools
SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Primary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 3 Year 4 Year 5 Year 6 How old are
More informationSummer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events
Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events IPC registered and approved Monday 30 th July Sunday 5 th August 2018 #SWSO18 1 Meet summary Swim Wales is proud to present
More informationW45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:
W45 4/11/17-10/11/17 2 David Hurn: A Life in Pictures 3 James and Jupp 4 Wales Live 5 Shane: For the Love of the Game 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Port Talbot 3 Swansea / Abertawe
More informationCanllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid
Etholiad cyffredinol Senedd y DU Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid Rhan 6 o 6 - Ar ôl datgan y canlyniad Tachwedd 2018 Mae'r ddogfen hon yn berthnasol i etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain
More information