Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

Size: px
Start display at page:

Download "Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch"

Transcription

1 Datrys y dirgelwch.. Drwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Prifysgol Texas, Prifysgol Texas yn Austin tlodi. Mae Tanzania yn wlad fawr yn nwyrain Affrica. Mae ganddi boblogaeth o dros 40 miliwn (mae gan y DU 60 miliwn). Mae r mwyafrif o bobl (tua ¾) yn byw mewn ardaloedd gwledig (yn y DU mae llai na ¼). Mae llawer o r tir yno heb ei drin (heb ei ddefnyddio fel tir fferm), a thraean yn barc cenedlaethol. Mae n wlad llai datblygedig yn economaidd, gyda r incwm cyfartalog tua 875 y flwyddyn (yn y DU mae tua 21,000). Hyd disgwyliad oes yw tua 53 o flynyddoedd (yn y DU, tua 80). Mae traean o r bobl yn byw mewn Y dirgelwch Yn 2009, penderfynodd llywodraeth Tanzania roi terfyn ar werthu tir ar gyfer datblygu biodanwyddau. Roeddent am ymchwilio ac ystyried a oedd hyn yn beth da neu beidio. Pam dewis gwneud hyn yn eich barn chi? Ceisiwch ddatrys y dirgelwch!

2 Angen help? Edrychwch ar y 12 cerdyn dirgelwch. Bydd angen i chi eu gosod yn y drefn gywir i r stori wneud synnwyr. Ystyriwch yr hyn sy n digwydd ar ddechrau, canol a diwedd y stori. Cardiau dechrau Cardiau canol Cardiau diwedd Meddyliwch pa fath o wybodaeth sy n helpu i osod yr olygfa, pa fath o wybodaeth sy n cysylltu pethau gyda i gilydd, a beth sy n edrych fel diweddglo. Gall fod yn ddefnyddiol edrych ar ddyddiadau a chysyllteiriau. Dechreuwch drwy eu gosod mewn categorïau, ac yna penderfynwch ar yr union drefn.

3 Jatropha biodanwydd Ffynhonnell: Llwyn yw Jatropha, sy n medru cael ei dyfu dan amodau sych iawn. Pan fo r hedyn yn cael ei wasgu, gellir defnyddio r olew fel biodisel. Gellir ei dyfu ar dir gwael iawn. Mae llywodraethau mewn llefydd fel Ewrop yn rhoi arian (cymorthdaliadau) i gwmnïau i w ddefnyddio yn lle tanwydd ffosil, gan ei fod yn adnodd adnewyddadwy. Tir fel buddsoddiad Ffynhonnell: Yn 2008 roedd pobl â llawer o arian, megis banciau (buddsoddwyr), yn gweld prynu tir fel ffordd dda o wneud elw. Oherwydd bod prisiau olew yn uchel, roedd biodanwyddau yn edrych fel dewis amgen da i greu ynni, felly cododd pris tir ar gyfer eu tyfu. Roedd prisiau bwyd uchel hefyd yn golygu bod tir yn mynd yn ddrutach.

4 Cyfle i wledydd tlotach Ffynhonnell: Oherwydd bod buddsoddwyr tramor am brynu tir, roedd nifer o wledydd llai datblygedig yn economaidd sydd â llawer o dir (nifer ohonynt yn Affrica) yn gweld y gallai gwerthu eu tir ddod ag arian iddynt. Er enghraifft yn 2007 derbyniodd Mozambique gynigion i brynu 110,000 km 2. Mae hyn yn fwy nag un rhan o wyth o holl dir y wlad. Sun Biofuels a Tanzania Ffynhonnell: Yn 2008, cynigiodd cwmni o r enw Sun Biofuels (o r DU) brynu 8,000 hectar o dir yn ardal Kisarawe, Tanzania. Cynigiwyd talu tua 12miliwn amdano. Y bwriad oedd tyfu planhigfeydd o Jatropha ar y tir i w allforio ar gyfer cynhyrchu biodanwydd, yn Ewrop yn bennaf. Byddai hyn yn rhoi llawer o elw iddynt.

5 Llywodraeth Tanzania Drwy Garedigrwydd Llyfrgelloedd Prifysgol Texas, Prifysgol Texas yn Austin Yn 2008 roedd llywodraeth Tanzania am helpu i ddatblygu ardaloedd gwledig, tlawd iawn. Cyfartaledd incwm yn yr ardaloedd hyn oedd tua 100 y flwyddyn. Gan fod gan Tanzania lawer o dir, roedd y llywodraeth yn meddwl y byddai ei werthu i gwmnïau mawr rhyngwladol yn ffordd dda o ddod ag arian i r ardaloedd hyn. Mtamba pentref yn Tanzania Mae Mtamba yn bentref yn Kisaware, lle mae Sun Biofuels am brynu tir. Mae 850 o bobl yn byw yno. Tir pentref yw r tir hwn, sy n golygu yn ôl cyfraith Tanzania mai r bobl leol yw r perchnogion ac sy n ei reoli. Maent yn tyfu bwyd i w fwyta, defnyddio r gors i gasglu dŵr, ac mae nifer yn cael bron i ¾ o u hincwm o wneud siarcol.

6 Helpu pobl leol Roedd pentrefwyr Mtamba yn hapus wrth glywed am y tro cyntaf am fuddsoddiad Sun Biofuels. Addawyd 4000 o swyddi yn yr ardal, ac iawndal (arian yn gyfnewid am y tir) o 50 i bob hectar. Anogwyd hwy i werthu r tir gan y Swyddog Tir Rhanbarthol (sy n gweithio i r llywodraeth). Dryswch ym Mbata Fodd bynnag, ni chafodd y pentrefwyr lawer o wybodaeth ac roedd pethau n frysiog. Dim ond 4 diwrnod o rybudd a gafwyd i gyfarfod a thrafod gwerthu r tir. Nid oedd sicrwydd faint o dir fyddai n cael ei gymryd, nid oeddent yn sylweddoli mai r cwmni fyddai berchen y gors sy n cael ei defnyddio i gael dŵr. Ni chafwyd unrhyw gytundeb ysgrifenedig.

7 Esgeuluso pobl leol? Ar ôl y gwerthiant, mae nifer o bobl leol yn anfodlon. Nid oes modd iddynt bellach gasglu siarcol i gael arian. Nid ydynt yn berchnogion ar y gors bellach, dim ond 1,500 o swyddi newydd gafwyd, ac mae angen cymwysterau eraill i w cael. Mae nifer yn ansicr sut i hawlio r iawndal, ac mae n llai na hanner yr hyn a gytunwyd. Tanzania yn adolygu tir ar gyfer biodanwydd Wrth i gwmnïau fel Sun Biofuels dyfu biodanwydd i w allforio, nid oes modd defnyddio r tir i dyfu bwyd. Mae 80% o bobl Tanzania yn dibynnu ar ardaloedd bach o dir i dyfu bwyd. Yn 2009 penderfynodd y llywodraeth roi terfyn ar bob datblygiad tir biodanwydd er mwyn penderfynu a oedd yn cael effaith wael ar dyfu bwyd a phobl leol.

8 Rhuthr aur gwyrdd Ffynhonnell: Land Matrix Partnership Ers 2008 mae mwy a mwy o gwmnïau wedi bod yn prynu tir, yn rhannol i dyfu biodanwydd ( aur gwyrdd ), ond hefyd mae cynnydd prisiau bwyd yn gwneud tir yn fwy gwerthfawr. Yn 2011, dangosodd ffigurau bod 227miliwn hectar o dir wedi i brynu ers 2001 (ardal maint gorllewin Ewrop), ei hanner yn Affrica. Tirgipio - buddsoddiad teg? Oxfam Mae nifer o fudiadau wedi sylwi bod pobl leol yn aml yn dioddef yn sgil gwerthu tir ar raddfa fawr gan gwmnïau rhyngwladol. Yn 2011 dywedodd y Gynghrair Tir Rhyngwladol (116 o fudiadau, yn cynnwys Oxfam) mai tirgipio oedd hyn, gan ddweud ei fod yn annheg ac y dylid rhoi terfyn arno.

9 Ffynonellau gwybodaeth Oxfam, Papur Briffio 114 Another Inconvenient Truth (2008) International Institute for Environment and Development (IIED), Biofuels, land access and rural livelihoods in Tanzania (2009) Oxfam, Growing a better future (2011) Gwybodaeth am wledydd: CIA world factbook Gwybodaeth am Jatropha a Tanzania (fideo) Noder Mae r ffigwr o 9 biliwn o gymorthdaliadau biodanwydd byd-eang wedi i seilio ar $15biliwn ar gyfraddau cyfnewid Daw r ffigwr hwn o Bapur Briffio Oxfam 114 Another Inconvenient Truth (2008) tudalen 16. Mae r costau eraill i gyd wedi u trosi o ddoleri gan ddefnyddio cyfraddau cyfnewid 2011 perthnasol ar adeg argraffu.

10 Sun Biofuels a Tanzania (trosolwg) Roedd cwmni o r DU o r enw Sun Biofuels am brynu 8,000 hectar o dir mewn rhan o Tanzania o r enw Kisaware. Y bwriad oedd cynhyrchu Jatropha, yn bennaf i w allforio i Ewrop. Byddai hyn yn rhoi elw mawr iddynt. Yn 2007 rhoddwyd llawer o arian ( 9biliwn) i gwmnïau i ddefnyddio biodanwyddau yn lle tanwydd ffosil. Dywed Peter Auge, rheolwr cyffredinol Sun Biofuels na fydd y planhigfeydd yn defnyddio tir sy n cael ei ddefnyddio i dyfu bwyd. Bydd yn rhoi iawndal i bobl leol sy n colli eu tir, ac yn rhoi swyddi iddynt yn trin a chynaeafu r planhigion. Hefyd bydd 5 y cant o r gyllideb yn cael ei wario ar bethau fel ysgolion. Pencadlys Sun Biofuels, Dar Es Salaam, Tanzania. Safbwynt y llywodraeth Yn 2008 roedd llywodraeth Tanzania yn awyddus iawn i werthu tir i gwmnïau rhyngwladol. Mae r mwyafrif o r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig tlawd iawn, lle nad yw tir yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd dda. Mae nifer yn ennill dim ond 100 y flwyddyn. Roeddent yn meddwl y byddai buddsoddiad gan gwmnïau rhyngwladol yn helpu i wella hyn. Safbwyntiau o Mbata Mae pentref Mbata yn Kisarawe, lle mae Sun Biofuels am brynu tir. Mae 850 o bobl yn byw yno. Maent yn tyfu bwyd, ac yn dibynnu ar y gors i gasglu dŵr, ac ar y coedwigoedd o u hamgylch i gasglu coed i wneud siarcol, i w werthu. Mae nifer o r bobl yn cael ¾ o u hincwm drwy werthu siarcol. Bag o siarcol ym Mbata. Menywod yn casglu dŵr yn y gors, Mbata Roedd y pentrefwyr yn hapus i weld Sun Biofuels yn prynu tir. Dywedodd un o r trigolion, Mussa Mirisho, Maent yn rhoi hadau a marchnad i ni, felly mae hyn yn dda i bobl y pentref.

11 Proses ddryslyd Y pentrefwyr sydd berchen y tir o u hamgylch. Rhaid iddynt gytuno i r gwerthiant. Mae r Swyddog Tir Rhanbarthol a gwleidydd lleol yn annog y pentrefwyr i gytuno. Ceir addewid o 50 o iawndal am bob hectar, a hyd at 4,000 o swyddi. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth yn ysgrifenedig. Mae pethau braidd yn frysiog. Dim ond 4 diwrnod sydd ar gael i drafod cyn cytuno ar y gwerthiant. Arwydd ar y tir sy n cael ei werthu Mae r pentrefwyr yn cytuno i r gwerthiant, ond wedyn mae nifer wedi drysu am gynnwys y cytundeb. Pentrefwyr ar eu colled? Ar ôl y gwerthiant, derbyniodd y pentrefwyr lai na hanner yr iawndal a addawyd. Roedd nifer wedi drysu am sut i gael yr arian hwn. Dim ond 1,500 o swyddi gafodd eu creu, a bellach nid yw r pentrefwyr yn berchnogion ar y gors na r goedwig y maent yn dibynnu arnynt. Mae Saibi Mrisho (chwith) yn paratoi siarcol. "Rwy n dibynnu ar y siarcol i ddarparu ar gyfer fy nheulu. Wn i ddim beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Dydyn ni ddim yn gwybod a fyddwn yn cael caniatâd i ddefnyddio r goedwig i wneud siarcol. Rwy n poeni na fyddwn. Os felly, ni fydd modd i mi fwydo fy nheulu, yn arbennig os na fyddwn yn cael ein cyflogi, fel addawyd." Dywed Emilia Isdori (dde, yn casglu dŵr): Mae r dŵr hwn yn bwysig i mi, oherwydd rydym yn ei ddefnyddio i goginio, golchi dillad, ymolchi ac yfed. Mae n cymryd 2 awr i mi gerdded i r gors ac yn ôl, ond dyna r unig ddewis yn y tymor sych. Os fyddant yn gwrthod mynediad at y dŵr, ein unig ddewis fydd erfyn arnynt i gael mynediad." Adolygu gwerthiant tir Yn sgil problemau fel hyn, yn 2009 penderfynodd llywodraeth Tanzania roi terfyn ar bob gwerthiant tir ar gyfer biodanwydd er mwyn ystyried ymhellach. Roeddent yn poeni na fyddai modd i bobl leol gynhyrchu digon o fwyd, a bod eu hanghenion yn cael eu hanwybyddu.

12 Trosolwg tirgipio Dengys ffigurau bod 227 miliwn hectar o dir wedi u prynu rhwng 2001 a 2011 mewn cytundebau tir mawr fel yr un yn Tanzania. Dyma ardal maint gorllewin Ewrop. Roedd hanner y tir hwn yn Affrica. Y prif reswm yw bod cwmnïau rhyngwladol mawr yn gweld tir fel buddsoddiad da yn y gwledydd hynny. Mae hynny gan ei fod yn weddol rhad, a gellir ei ddefnyddio i dyfu biodanwyddau i w allforio am arian, ac mae r defnydd o fiodanwydd yn cael ei annog. Mae nifer hefyd yn meddwl y bydd pris tir yn cynyddu gyda r galw cynyddol am fwyd. Yna bydd modd gwerthu r tir yn y dyfodol am elw. Mae nifer o lywodraethau fel llywodraeth Tanzania wedi bod yn hapus i helpu r buddsoddiad hwn, gan feddwl y bydd yn helpu i ddatblygu ardaloedd gwledig. Pe bai n cael ei wneud mewn ffordd foesegol a chynaliadwy, gallai buddsoddiad tir fod yn bwysig iawn i ffermwyr bach. Tirgipio Fodd bynnag, dywedodd pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Sicrwydd Bwyd y Byd yn ddiweddar: Dengys tystiolaeth bod buddsoddi mewn tir ar raddfa fawr yn niweidio sicrwydd bwyd, incwm, bywoliaethau ac amgylchedd pobl leol (HLPE, Gorffennaf 2011, tudalen 8). Fel yn Tanzania, mae nifer o grwpiau yn gweld nad yw r cytundebau hyn bob amser yn deg i bobl leol. Yn aml iawn, nid oes unrhyw un yn gofyn yn iawn iddynt am eu barn, nid yw r addewidion yn cael eu rhoi n ysgrifenedig ac nid ydynt yn cael y swm cywir o iawndal (arian am gael eu symud oddi ar eu tir). Hefyd mae llawer o r tir o ganlyniad yn methu cael ei ddefnyddio i dyfu bwyd, gan ei gwneud hi n anoddach i wledydd dyfu digon o fwyd i bawb. Yn 2011 dywedodd y Gynghrair Tir Rhyngwladol (116 o fudiadau, yn cynnwys Oxfam) yn eu Datganiad Tirana fod prynu tir fel hyn yn dirgipio, yn annheg, ac y dylid rhoi terfyn arno. Ffynhonnell: Land Matrix Partnership

13 Gwerthu tir ym Mbata y bobl Dychmygwch mai chi yw un o r bobl ganlynol. Ystyriwch beth fyddai eu barn am werthu tir ym Mbata. Dychmygwch eich bod mewn cyfarfod yn y pentref cyn gwerthu r tir. Ydych chi o blaid neu yn erbyn y gwerthiant? Beth fyddech chi n ei ddweud i gyfiawnhau hyn? Oes modd i chi ddod i gytundeb? John Hangi, Swyddog Tir Rhanbarth Kisarawe. Mae n cynrychioli pobl leol ond hefyd yn gweithio i lywodraeth ganolog Tanzania. Peter Auge, Prif Weithredwr Sun Biofuels Tanzania Ltd, yn Dar Es Salaam (prifddinas). Mae n cael ei gyflogi i wneud arian i Sun Biofuels.

14 Ffynhonnell: Yr Athro Jumanne Maghembe, Gweinidog Amaeth, Sicrwydd Bwyd a Chydweithfeydd. Cyfrifol am benderfyniadau datblygu ardaloedd gwledig. Veronica Mabuga gyda i meibion a i gŵr. Mae n rhedeg siop fach ym mhentref Mbata, yn gwerthu pethau i bobl leol. Mae nifer o i chwsmeriaid yn gwneud siarcol i gael arian.

15 Addysg Oxfam Trafodaeth Tir Tanzania Gwneud eich pwynt! Beth yw eich barn am y gwerthiant? Trafodaeth Tir Tanzania Gwneud eich pwynt! Beth yw eich barn am y gwerthiant? Pa ffeithiau neu wybodaeth sy n eich cefnogi? Pa ffeithiau neu wybodaeth sy n eich cefnogi? Beth fyddwch yn ei ddweud? Beth fyddwch yn ei ddweud? ucational purposes only. Page 15

Addysg Oxfam

Addysg Oxfam Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd

More information

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth

More information

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400. Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg

More information

The Life of Freshwater Mussels

The Life of Freshwater Mussels The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell

More information

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid

More information

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous. BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau

More information

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd

More information

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on

More information

Holiadur Cyn y Diwrnod

Holiadur Cyn y Diwrnod LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl

More information

Talu costau tai yng Nghymru

Talu costau tai yng Nghymru Talu costau tai yng Nghymru Trosolwg Mae r papur hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg 1 a gomisiynwyd ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yr haf diwethaf i bennu i ba raddau y mae pobl

More information

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court 5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.

More information

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA

More information

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Aelodau Yn Bresennol / Members Present Cyngh / Cllr Eryl Jones Williams (EJW) O.G Thomas

More information

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol

More information

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant

More information

Adviceguide Advice that makes a difference

Adviceguide Advice that makes a difference Ceir ail-law Pan fyddwch chi n prynu car ail-law, bydd eich hawliau n dibynnu a ydych wedi prynu r car oddi wrth ddeliwr, gwerthwr preifat, mewn ocsiwn neu dros y rhyngrwyd. Prynu oddi wrth ddeliwr- beth

More information

A oes modd cynhyrchu mwy o fwyd mewn ffordd gynaliadwy?

A oes modd cynhyrchu mwy o fwyd mewn ffordd gynaliadwy? A oes modd cynhyrchu mwy o fwyd mewn ffordd gynaliadwy? Janet Cadogan Cynnwys a b c d A oes angen cynhyrchu mwy o fwyd? Beth yw ystyr cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy? Y defnydd o hydroponeg ac aeroponeg

More information

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m

More information

Addewid Duw i Abraham

Addewid Duw i Abraham Beibl i Blant yn cyflwyno Addewid Duw i Abraham Awdur: Edward Hughes Lluniau gan: Byron Unger; Lazarus addaswyd gan: M. Maillot; Tammy S. Cyfieithydd: Catrin Roberts Cynhyrchwyd gan: Bible for Children

More information

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

APIAU CYMRAEG. C.Phillips APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan

More information

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946 LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR Ffatri baco, Amlwch 1938-1942, a rhai misoedd yn c. 1946 Cyfwelai: VN056 Sali (Sarah) Williams Dyddiad: 17: 11: 2014 Cyfwelydd: Kate Sullivan ar

More information

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora? DANIEL MORDEN Straeon dirgel o Gymru Beth yw straeon? A pham mae angen inni eu hadrodd? Mae stori yn ffrâm neu n gyd-destun defnyddiol i brofiad. Mae adrodd stori yn ein galluogi ni i archwilio r digwyddiadau

More information

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...? ciwb Beth ydych chi n feddwl o...? Beth ydych chi n feddwl o...? siocled poeth cacen / teisen siocled grawnfwyd siocled creision siocled past dannedd siocled Os ydych chi n hoffi siocled, mae mis Hydref

More information

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH CYNLLUN GWASANAETH BETH YW? NODAU: Rhoi cyflwyniad i r Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Ysgolion. Cynnig cipolwg cychwynnol ar awtistiaeth. GWAITH PARATOI I R ATHRO: Edrychwch ar A Teen s Guide To Autism

More information

Canser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales

Canser yng Nghymru.   Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru Cyfadran Deallusrwydd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru Canser

More information

Pecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr

Pecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr Pecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru n cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad o bob rhan o Gymru. Maen nhw n cael eu hethol gan bobl

More information

Esbonio Cymodi Cynnar

Esbonio Cymodi Cynnar Sut all Acas helpu Esbonio Cymodi Cynnar inform advise train work with you Beth mae ACAS yn ei wneud? Acas yw r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu. Rydym yn sefydliad annibynnol sy n derbyn arian

More information

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from The CAMPSITE toolkit A rough guide to setting up a new campsite Produced by and with support from We are Creative Rural Communities; the Vale of Glamorgan Council s Rural Regeneration initiative. In short

More information

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyfathrebu Digidol Mae twf digidol yn allweddol i ddatblygu economi Cymru, ac felly mae angen polisïau arloesol i

More information

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol

More information

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig

More information

W46 14/11/15-20/11/15

W46 14/11/15-20/11/15 W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil

More information

TGAU Busnes 4. Cyllid

TGAU Busnes 4. Cyllid TGAU Busnes 4 Cyllid Mynegai Ffynonellau cyllid - 2 Refeniw a chostau - 16 Cyfrifon elw a cholled (datganiadau incwm) - 28 Llif arian parod - 41 Dadansoddi perfformiad ariannol - 58 Cydnabyddiaethau -

More information

EAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015

EAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015 Mathemateg Rhifedd UNED 2 Haen Canolradd EAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015 Cweswn Marc Uchaf Marc yr 1. 6 2. 4 3. 6 4. 17 5. 8 6. 4 7. 5 8. 3 9. 11 10. 5 11. 4 12. 4 13. 3 Cyfanswm

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places

More information

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm Students present: Callum Smith Chiron Hooson David Hooson Emlyn Pratt Esyllt Lewis Jake Smith James Daly Jordan Martin Joshua Green Marcus Connolly Matthew

More information

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi

More information

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation

More information

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) GWERS 86 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) Geirfa llyfrgell f - library oriel f - gallery eglwys(i) f - church(es) pont(ydd) f - bridge(s) eglwys - cathedral

More information

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with: Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR

More information

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi. Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn

More information

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History GWERS 90 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Cyflwyno 'I prefer...' Geirfa rygbi -rugby pêl droed - soccer cig eidion -beef persawr - perfume bwyd llysieuol -vegetarian anrheg - present food cawl - soup, broth

More information

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu Yr MAWR Your guide your to getting hool primary sc involved w i gael a l l n a c h c i E radd n y g l o g s y eich i gyfrannu with gyda The BIG Raise lots with spots and help change the lives of disadvantaged

More information

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Adroddiad ar yr ymgynghoriad Ynglŷn â r ymgynghoriad hwn Mae r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o r ymatebion i r ymgynghoriad ar samplo cofnodion

More information

Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh

Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh Senedd Myfyrwyr Hysbysir aelodau Senedd y Myfyrwyr y cynhelir y cyfarfod nesaf fel y dangosir isod: Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh Agenda Cysylltwch â Thîm Llais

More information

SESIWN HYFFORDDI STAFF

SESIWN HYFFORDDI STAFF SESIWN HYFFORDDI STAFF i Mae r canlynol yn ymarferion i staff eu defnyddio i baratoi i gyflawni rhaglen. Gellir defnyddio ymarferion fel rhan o ddiwrnod HMS/hyfforddiant. Mae n bosibl y byddwch eisiau

More information

Canllaw Rhieni. Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg. Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth

Canllaw Rhieni. Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg. Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth Canllaw Rhieni Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg 2017 MD-923 Ionawr 2016 Cynnwys UCAS 2016 Cedwir pob hawl.

More information

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods

More information

Gwen 30 Medi. Maw 4 Hyd. Maw 18 Hyd. Maw 8 Tach. Maw 22 Tach

Gwen 30 Medi. Maw 4 Hyd. Maw 18 Hyd. Maw 8 Tach. Maw 22 Tach RM2160_10085_RMX12_DL_Bi.indd 16 Dosbarthu mwy Arweiniad i ch gwasanaethau post dros y Nadolig 2011 13/10/2011 09:38 Fe wyddom pa mor anodd y gall fod yn y cyfnod cyn y Nadolig, ond does dim rhaid i ch

More information

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol

More information

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil

More information

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y

More information

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer

More information

Cynhyrchu ynni ac effeithlonrwydd ynni ar y fferm - canllaw

Cynhyrchu ynni ac effeithlonrwydd ynni ar y fferm - canllaw Cynhyrchu ynni ac effeithlonrwydd ynni ar y fferm - canllaw ADAS a Llyodraeth Cynulliad Cymru yn helpu chi i wneud y gorau o ch busnes fel rhan o farchnad ynni heddiw Cyflwyniad Mae ynni adnewyddadwy

More information

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr

More information

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018 Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018 Mae'r diweddariad hwn yn rhoi gwybodaeth a gafwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yng nghyfarfod bwrdd crwn CHC a DWP, cyfarfod Strategol Landlordiaid Sector

More information

Datganiad Technegol Rhanbarthol

Datganiad Technegol Rhanbarthol Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a De Cymru - Adolygiad Cyntaf- (Prif Ddogfen) Argraffiad Terfynoli w (gymeradwy) - 1 Awst 2014 Gweithgor Agregau Rhanbarthol

More information

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter

More information

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our

More information

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,

More information

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL Ymateb Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drafnidiaeth Cymru Dylunio Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a r Gororau gan gynnwys y Metro Mai 2017 Am fwy o wybodaeth am yr ymateb hwn,

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 9 March/Mawrth 1-7, 2014 Pages/Tudalennau: 2 Iolo s Welsh Sea 3 The Country Midwives 4 Police 24/7 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth 2 Bangor 2 Cardiff/Caerdydd

More information

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser Y canllaw CANSeR Y canllaw canser The cancer guide Ynglyn â r llyfryn hwn Ynglyn â r llyfryn hwn Nod y llyfryn hwn yw eich helpu chi, a r rheiny

More information

NatWest Ein Polisi Iaith

NatWest Ein Polisi Iaith NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600

More information

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau

More information

Rwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau

Rwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau Diolchiadau Hoffen ni ddiolch i r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma. Rydyn ni n arbennig o ddiolchgar i Gwyther Rees o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol

More information

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel Mae help ar gael Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel The Royal College of Psychiatrists 1 Am y daflen hon Mae nifer o bobl wedi helpu i lunio r daflen hon. Mae rhai ohonom â chymhwyster

More information

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU WHC/2017/014 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi 29 Mawrth 2017 STATWS: GWYBODAETH CATEGORI: ANSAWDD A DIOGELWCH Teitl: Gwybodaeth i gleifion ynghylch trefniadau Gweithio i Wella Dyddiad dod i ben

More information

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Rhif: WG25772 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 18 Rhagfyr 2015

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 30 July/Gorffennaf 21-27, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Royal Welsh Show 2012 3 Olympics 2012: Women s Football 4-6 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Builth Wells 2 Cardiff

More information

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau Datganiad Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015 1 Y ddogfen hon Fel rhan o Adolygiad Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus,

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 26 June/Mehefin 23-29, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Exhibitionists 3 Crimewatch Roadshow 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth

More information

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i'n cylchlythyr Gwanwyn. Mae cymaint wedi digwydd ers ein cylchlythyr olaf- gobeithio eich wedi bod yn cadw i fyny gyda'r rhan fwyaf ohono

More information

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter Awst August 2012 Bwcabus Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect Llythyr Newyddion Newsletter www.bwcabus.info Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our rural communities

More information

WALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA

WALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v BOSNIA & HERZEGOVINA 07.06.2018 Liberty Stadium Swansea Kick Off 7pm FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v RUSSIA 12.06.2018 Newport Stadium Newport

More information

Galwad i wasanaethu Called to serve Y Grawys 2015 Lent 2015

Galwad i wasanaethu Called to serve Y Grawys 2015 Lent 2015 Galwad i wasanaethu Called to serve Y Grawys 15 Lent 15 Adnodd ieuenctid Youth resource The English-language follows the Welsh-language version 3 Adnodd Ieuenctid RHAN 1: DECHREUADAU DARLLENIAD YR WYTHNOS

More information

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) 1978 1990 Cyfwelai: VSW066 Enid Mary Thomas Dyddiad Geni: 20.9.1937 Dyddiad: 4.9.14 Cyfwelydd:

More information

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD), Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)', Anhwylder Gorginetig' a Gorfywiogrwydd' yn wahanol

More information

Sir Ddinbych / Denbighshire. Sir y Fflint / Flintshire. Merthyr Tudful / Merthyr Tydfil Vicky Thomas (VT) Ernie Galsworthy (EG)

Sir Ddinbych / Denbighshire. Sir y Fflint / Flintshire. Merthyr Tudful / Merthyr Tydfil Vicky Thomas (VT) Ernie Galsworthy (EG) Cyfarfod Cymdeithas CYSAG au Cymru, yn Sir Fynwy Swyddfeydd y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhadyr, Brynbuga. 3 Mawrth 2017 (10.30am 3pm) Wales Association of SACREs meeting, at the Monmouthshire County Council

More information

Calon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April

Calon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April 2016 Grŵp Cynefin Mwy na thai / More than housing Grŵp Cynefin www.grwpcynefin.org post@grwpcynefin.org Ffôn/Phone: 0300 111 2122 Ffacs/Fax: 0300

More information

yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr!

yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr! yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr! croeso... I rifyn gwanwyn / haf Cwtsh. Rydym yn dal i gael ein syfrdanu

More information

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Primary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 3 Year 4 Year 5 Year 6 How old are

More information

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017 Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community

More information

Ymgynghori. Brexit a n tir: Diogelu dyfodol ffermio yng Nghymru

Ymgynghori. Brexit a n tir: Diogelu dyfodol ffermio yng Nghymru Ymgynghori Brexit a n tir: Diogelu dyfodol ffermio yng Nghymru Ymatebion erbyn 30 Hydref 2018 Cynnwys Trosolwg o r Ymgynghoriad 2 Crynodeb 3 Pennod 1: Cyd-destun newydd Brexit 4 Pennod 2: Gwerth tir Cymru

More information

PECYN ADNODDAU I ATHRAWON

PECYN ADNODDAU I ATHRAWON PECYN ADNODDAU I ATHRAWON BBC CYFLWYNIAD Doctor Who - The Doctor and the Dalek Gêm ydy hon sy n cynnig cyfle i ddisgyblion hynaf yr ysgol gynradd a disgyblion ieuengaf yr ysgol uwchradd i ddysgu a chymhwyso

More information

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42 Cyfle i Aros Yn eu geiriau eu hunain Weithiau, pan fo pethau n wirioneddol anodd, rwy n teimlo fel gwneud rhywbeth gwirion, wyddoch chi? Rwy n teimlo fel cyflawni trosedd fach, dim byd mawr, dim ond rhywbeth

More information

Roedd yr holl wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir yn Awst 2015.

Roedd yr holl wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir yn Awst 2015. Mae r llyfryn hwn wedi i anelu at ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a r Alban. Oni nodir yn wahanol, mae r wybodaeth yn berthnasol i r tair gwlad. Lluniwyd y llyfryn hwn gan Ofgem, Cyngor ar Bopeth a Chyngor

More information

Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd

Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd Cofnodion cyfarfod Grŵp Cyswllt Wylfa Newydd a gynhaliwyd ddydd Iau 20 Hydref yn Ystafelloedd Eleth a Eilian. Yn bresennol Enw Geraint Hughes Jac Jones Jean

More information

Ymgynghoriad ar y meini prawf dyrannu arfaethedig ar gyfer Darllediadau Etholiadol y Pleidiau 2015

Ymgynghoriad ar y meini prawf dyrannu arfaethedig ar gyfer Darllediadau Etholiadol y Pleidiau 2015 Ymgynghoriad ar y meini prawf dyrannu arfaethedig ar gyfer Darllediadau Etholiadol y Pleidiau 2015 Canlyniad yr Ymgynghoriad Chwefror 2015 Sicrhau bod pawb sy'n talu ffi'r drwydded yn cael y gorau o'r

More information

1 Llawlyfr Gwyn Gogledd Cymru

1 Llawlyfr Gwyn Gogledd Cymru 1 Llawlyfr Gwyn Gogledd Cymru Yn sgîl gaeafau da yn ddiweddar mae llawer mwy o bobl wedi dod i ddringo ar yr eira a r rhew, gan beri pryder am effeithiau posibl yr holl weithgaredd yma ar blanhigion arbennig

More information

Tour De France a r Cycling Classics

Tour De France a r Cycling Classics Tour De France a r Cycling Classics - 2014-2016 Mae S4C wedi sicrhau r hawliau i ddarlledu rhaglenni Cymraeg o r Tour de France a rhai o rasys y Cycling Classics am y tair blynedd nesaf 2014, 2015 a 2016.

More information

Swim Wales Long Course Championships 2018

Swim Wales Long Course Championships 2018 Swim Wales Long Course Championships 2018 Closed event March 30 th April 2 nd 2018 #SWLC18 Meet Summary Swim Wales National Long Course Championships is a level 1 Closed Long Course (50m) meet aimed at

More information

EAS Papur Ymarferol 2 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2014

EAS Papur Ymarferol 2 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2014 Mathemateg Rhifedd UNED 1 Haen Canolradd EAS Papur Ymarferol 2 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2014 Cweswn Marc Uchaf Marc yr 1. 6 2. 6 3. 8 4. 5 5. 3 6. 8 7. 4 8. 2 9. 6 10. 5 11. 5 12. 4 13. 2 14. 4 15.

More information

Cost unioni cam: y gwersi i w dysgu o r sgandal ynghylch camwerthu Yswiriant Gwarchod Taliadau (PPI)

Cost unioni cam: y gwersi i w dysgu o r sgandal ynghylch camwerthu Yswiriant Gwarchod Taliadau (PPI) Cost unioni cam: y gwersi i w dysgu o r sgandal ynghylch camwerthu Yswiriant Gwarchod Taliadau (PPI) Mae n hanfodol hefyd bod banciau a rheolyddion yn dysgu gwersi PPI er mwyn sicrhau na fydd modd i sgandal

More information

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!

More information

Summer Holiday Programme

Summer Holiday Programme Summer Holiday Programme for Flintshire Leisure Centres Our fantastic summer holiday programme for each of our four leisure centres www.flintshire.gov.uk Like Follow us Deeside Leisure Centre - 01352 704200

More information

Perchnogaeth ar dai lesddaliad: prynu eich rhydd-ddaliad neu ymestyn eich les Papur ymgynghori Crynodeb

Perchnogaeth ar dai lesddaliad: prynu eich rhydd-ddaliad neu ymestyn eich les Papur ymgynghori Crynodeb Perchnogaeth ar dai lesddaliad: prynu eich rhydd-ddaliad neu ymestyn eich les Papur ymgynghori Crynodeb Papur Ymgynghori 238 20 Medi 2018 PERCHNOGAETH AR DAI LESDDALIAD: PRYNU EICH RHYDD-DDALIAD NEU YMESTYN

More information

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu Canllaw cyflogwyr i ailddilysu CYNNWYS BETH MAE R DDOGFEN HON YN EI WNEUD?...3 BETH YW AILDDILYSU?...5 Y BROSES AILDDILYSU A I GOFYNION... 7 RÔL CYFLOGWYR YN Y BROSES AILDDILYSU...10 CYNORTHWYO NYRSYS

More information

E-fwletin, Mawrth 2016

E-fwletin, Mawrth 2016 Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru E-fwletin, Mawrth 2016 Aelodau Staff Newydd yn NWDA Mae dau aelodau newydd wedi ymuno Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru. Hoffem eu croesawu'n gynnes i'r tîm ac yn eu cyflwyno

More information