Cynhadledd Arweinyddiaeth 2018
|
|
- Marion Atkinson
- 6 years ago
- Views:
Transcription
1 Cynhadledd Arweinyddiaeth 2018 Mercure Holland House, Caerdydd 19 a 20 Mehefin 2018
2 Cynhadledd Arweinyddiaeth 2018 Gwesty Mercure Holland House 19/20 Mehefin am 9.45am Lluniaeth a Rhwydweithio yn cael ei noddi trwy garedigrwydd Hugh James Cyfreithwyr Lobi Ystafelloedd Calon Croeso Ystafelloedd Calon Laura Mae Laura McAllister yn academydd, cyn-beldroedwraig a gweinyddydd chwaraeon. Fel aelod o dîm pêl-droed menywod cenedlaethol Cymru, enillodd McAllister 24 cap ac bu n gapten y tîm. 9.55am Gosod y Llwyfan Stuart Ropke, Prif Swyddog Gweithredol, Cartrefi Cymunedol Ystafell - Ystafelloedd Calon 1 Croeso cynnes i'r gynhadledd gan Brif Swyddog Gweithredol Cartrefi Cymunedol Cymru. Bydd Stuart yn gosod y llwyfan ar gyfer y gynhadledd, edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf a'r hyn a gyflawnodd y sector a'r heriau a'i wynebodd. Bydd Stuart yn rhoi ei sylwadau ar arweinyddiaeth ar gyfer y dyfodol yn seiliedig ar yr heriau a'r cyfleoedd i ddod am Arweinyddiaeth ar gyfer y Dyfodol
3 Rt.Hon Jim Murphy Ystafell - Ystafelloedd Calon 1 Mae'r Gwir Anrh Jim Murphy yn gyn Weinidog yng Nghabinet y Deyrnas Unedig a bu ganddo nifer o bortffolios fel gweinidog. Bu'n Aelod Seneddol rhwng 1997 a Yn un o enwau mawr gwleidyddiaeth yr Alban yn y 21ain ganrif mae Murphy yn wleidydd, awdur, siaradwr ac yn awr gyhoeddwr. Mae wedi cadeirio llu o gyrff cyhoeddus a llywodraethol. Fel Arweinydd Plaid Lafur yr Alban, roedd Murphy yn amlwg iawn yn ymgyrch proffil uchel 'Vote No Thanks' yn ystod ymgyrch y refferendwm, gan deithio'r Alban a chynnal 100 o gyfarfodydd stryd cyhoeddus byrfyfyr. Roedd hefyd yn aelod o dîm arweinyddiaeth ymgyrch drawsbleidiol Better Together. Yn ei ffordd unigryw ei hun, bydd Jim yn dynodi pa gamau y dylai arweinwyr yn y sector Tai Cymdeithasol yng Nghymru eu cymryd i gyflawni gweledigaeth Gorwelion Tai. Bydd yn rhannu ei sylwadau ei hun ar arweinyddiaeth o brofiad mewn amgylchedd wleidyddol ac economaidd gynhwysfawr am 11.45am Lluniaeth a Rhwydweithio yn cael ei noddi trwy garedigrwydd Hugh James Cyfreithwyr Gweithdai Egin Arweinwyr Marchnata eich hun Mohammed Ahmed, Ystafell Kidwelly Sut y gallwn ein gosod ein hunain ar wahân i eraill? Mae llunio eich brand personol yn allu hanfodol wrth drin a chynnal gyrfa lwyddiannus. Mae angen i ni gyd rymuso ein hunain drwy ddynodi 3 peth allweddol: 1) Beth sydd gennych i'w gynnig
4 2) Beth ydych ei eisiau, ac yn bwysicaf oll 3) Sut i ofyn am hynny. Mae eich gallu i farchnata eich talentau, eich llwyddiannau a'ch gwerth, o fewn eich sefydliad ac o fewn eich proffesiwn, yn rhan allweddol o hyrwyddo eich brand. Aiff Mohammed â chi drwy'r camau sydd angen i chi eu dilyn er mwyn bod yn llwyddiannus Gweithdai Egin Arweinwyr Datblygu eich Hunan - Stori Arweinydd Chris O Meara, Prif Weithredydd, Cymdeithas Tai CadwynHA Ystafell Aberrhoddu Mae'r Chris yn un o'r ffigurau uchaf ei pharch yn sector Tai Cymdeithasol Cymru. Yn ogystal â bod yn Brif Weithredydd Cymdeithas Tai Cadwyn, bu Chris hefyd yn gynghorydd rhan-amser i'r Gweinidog Tai yn Llywodraeth Cymru. Yn y sesiwn caiff arweinwyr newydd eu hysgogi gan angerdd Chris am ei gwaith a chael eu hysbrydoli gan ei chymhelliant sy'n deillio o ddeall a gwerthfawrogi'r gwahaniaeth y gall sicrwydd cartref ei wneud i fywydau pobl. Arweinyddiaeth 2025 Creu amrywiaeth mwy amrywiol Sioned Hughes a Mihir Shah, Ystafell Calon 1 Mae Arweinyddiaeth 2025 yn gynllun naw mis a lansiwyd yn 2016 gyda'r nod o ymyrryd mewn modd cadarnhaol ar y sector tai drwy herio canfyddiadau cyfredol a hyrwyddo'r ffaith fod amrywiaeth yn fwy na thicio blychau yn unig ond ei fod mewn gwirionedd yn dda i fusnes.
5 Bydd Sioned a Mihir yn rhoi enghreifftiau o'r cynllun yma ac yn dynodi sut y gallwn i gyd chwarae rhan wrth annog arallgyfeirio ledled ein sefydliadau a'n timau arweinyddiaeth Gweithdai Egin Arweinwyr - Sesiwn Bowlen Pysgodyn Aur Arweinyddiaeth Seiliedig ar Ddoethineb - gwybodaeth v doethineb Dr Barrie Kennard a Dave Thomas, Call of the Ystafell Calon Suite 2 Gyda llawer iawn o wybodaeth ar gael ar flaenau'n bysedd, daeth y byd yn gae chwarae gwastad pan ddaw i gasglu gwybodaeth. Mae llawer iawn o wybodaeth yn awr ar gael yn rhwydd ac am ddim. Fodd bynnag, nid oes pris ar ddoethineb! Bydd Dr Barrie Kennard a Dave Thomas yn hwyluso'r sesiwn a gaiff ei chychwyn gan grŵp trafod bach o gyfranogwyr a wahoddwyd yn arbennig, gyda'r holl gynrychiolwyr sydd ar ôl yn ffurfio 'cynulleidfa'. Bydd lleoedd gwag yn y grŵp trafod ar gael a gall aelodau o'r gynulleidfa gymryd y lleoedd hyn pan deimlant fod ganddynt gyfaniad i'w wneud. Mae aelodau'r grŵp trafod yn gadael eu lleoedd ar ôl dweud eu dweud, gan wneud lle ar gyfer cyfranogwyr newydd. Bydd y sesiwn yn dynodi'r doniau sydd eu hangen i lwyddo mewn byd cystadleuol, sy'n newid yn gyflym. Gyda chwestiynau fel a ddylem fod yn cyflogi pobl yn seiliedig ar eu gwybodaeth ac addysg neu ystyried ffactorau fel profiad, effaith, ffactor ymwybyddiaeth ac agoredrwydd i dyfu, dysgu a chreu? Beth ydym ei angen i symud ein sefydliadau ymlaen pm Egwyl Cinio Lobi Ystafelloedd Calon
6 1.45 pm Gwyddor Arweinyddiaeth Paul Chudleigh, RW Ystafelloedd Calon 1 Yn dilyn ei brif sesiwn, bydd Paul yn helpu cynrychiolwyr i roi'r ddamcaniaeth ar waith! Ar adeg pan fo'n sefydliadau'n esblygu drwy'r amser ac yn newid yn gyson, mae byd gwaith yn dod yn fwyfwy cymhleth. Nod y sesiwn yw rhoi modelau a dulliau ymarferol i gynrychiolwyr fydd yn galluogi eu sefydliadau i weithredu'n fwy effeithlon! Gweithdai Egin Arweinwyr 2.45pm Datblygu eich Hunan - Taith Arweinydd Hannah Evans, Gwasanaeth Ambiwlans Ystafell Brecon Ymunodd Hannah â'r GIG ar Gynllun Rheoli i Raddedigion yn 2002 ac aeth ei gyrfa o nerth i nerth ers hynny. Bu'n gweithio i ddechrau mewn nifer o swyddi rheoli gweithredol cyn newid cyfeiriad a symud i gynllunio strategol. Ers mis Hydref 2016 bu Hannah yn Gyfarwyddydd Cynllunio a Pherfformiad yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru. Dewch i glywed am ei thaith, yr heriau a wynebodd a sut y gwnaethodd ei goresgyn ac, wrth gwrs, y llwyddiannau!
7 Gweithdai Egin Arweinwyr Sut i fod yn Arweinydd Tîm Rheoli Tai Bethan Gladwyn, Hugh James Ystafell Kidwelly Yn y sesiwn 60 munud yma bydd Bethan Gladwyn, Partner a Phennaeth tîm Rheoli Tai Hugh James, yn llywio arweinwyr tîm drwy agweddau allweddol eu rôl a sut i sylwi ar y camgymeriadwu cyffredin a allai fod â goblygiadau costus i ch sefydliad. Bydd hyn yn cynnwys: - Deall eich cytundebau tenantiaeth; - Dod yn gyfarwydd â pholisi a gweithdrefnau; - Egwyddorion y Ddeddf Cydraddoldeb; - Pwysigrwydd nodiadau ffeil; - Pwyntiau sbardun ar gyfer cael help; a - Beth i edrych amdano wrth oruchwylio eich tîm. Datblygu Cymunedau Yr Athro Ken Gibb -What Works Ystafell Calon 2 Mae Ken yn Athro yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol ym maes pwnc Astudiaethau Trefol a bu'n gynghorydd i'r Comisiwn Tai a Llesiant. Yn ddiweddar bu'n gweithredu fel cynghorydd i Bwyllgor Seilwaith a Buddsoddiad Cyfalaf Senedd yr Alban ac mae wedi gweithio i Bwyllgor Diwygio Llesiant Senedd yr Alban. Dros y tair blynedd ddiwethaf bu tîm ymchwil 'What Works Scotland' yn gweithio'n ddygn i gychwyn, meithrin a chynnal ymchwil ar y cyd gydag ystod eang o gyrff gyhoeddus a thrydydd sector.
8 Aiff Ken â ni drwy'r hyn y gallwn ni fel sector ei ddysgu o'r ymchwil a sut y gallwn ganolbwyntio ar arfer cydweithredol i drin materion hir-sefydlog yn ymwneud â mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol. Llesiant a Gwytnwch yn y Gwaith Paul Chudleigh, RW Learning a Georgina Ystafell Calon 1 Bydd y sesiwn yma'n dechrau drwy gyflwyno'r canfyddiadau a gwybodaeth diweddaraf ar lesiant a gwytnwch yn y gwaith. Gan gymryd dull ymarferol, bydd yn cyflwyno rhai cynghorion ac arferion allweddol a all fod yn rhan o fywyd gwaith bob dydd er mwyn gwella gwytnwch personol. Bydd y sesiwn wedyn yn cynnig rhai profiadau personol yn ymwneud â sefyllfaoedd lle caiff gwytnwch ei brofi. Bydd yr enghreifftiau real a chofiadwy hyn yn ysgogi mwy o feddwl ac yn rhoi cynghorion pellach a dulliau ar gyfer hybu gwytnwch personol. Bydd Georgina Gilbert yn cefnogi Paul gyda'r gweithdy. Yn sefydlydd TH:ink your future ac yn ymladdwr tân llawn-amser, mae Georgina yn gyfarwydd gyda thrin realaeth lem iechyd meddwl a sut y gall effeithio ar lawer o bobl o wahanol broffesiynau a chefndiroedd. Mae Georgina yn cyflwyno darlun realistig ac onest o realaeth di-flewyn ar dafod yr hyn y gall iechyd meddwl ei olygu i'r unigolyn, cydweithwyr, cyfoedion ac arweinwyr busnes. Gan ddefnyddio iaith a delweddau syml, mae Georgina'n esbonio'r hyn y gallwn ei wneud i helpu adeiladu a chynnal gwytnwch drwy ddull gweithredu ymdeimlad cyffredin y gellir ei gyflawni a'i gynnal yn rhwydd. Byddant yn helpu'r grŵp i ddefnyddio technegau gwahanol, syml a hwyluso sgwrs ar bynciau a godwyd o'u prif sesiwn neu a ddynodwyd gan y sawl sy'n cymryd rhan. I wneud y defnydd gorau o'r gweithdy, caiff y sawl sy'n cymryd rhan eu gwahodd i gyflwyno eu cwestiynau i Ruth ac Eleanor cyn y toriad cinio i'w galluogi i gynllunio'r sesiwn. 3.45pm 4.15pm Lluniaeth a Rhwydweithio yn cael ei noddi trwy garedigrwydd Hugh James Cyfreithwyr Gwyro o'r Cynllun
9 Tori James, Siaradwraig, Anturiaethwraig ac Ystafell Calon Suite 1 Yn 25 oed, Tori James oedd y fenyw ieuengaf (bryd hynny) ym Mhrydain a'r fenyw gyntaf o Gymru i ddringo i gopa Everest. Ym mis Mai 2005, 'The Pink Lady Pole Cats' oedd y tîm cyntaf erioed o fenywod enfawr i gwblhau Her y Pegwn, ras 360 milltir galed i begwn magnetig y Gogledd. Yn ogystal â gorffen y ras yn y 6ed safle allan o'r 16 tîm, gan drechu timau dynion yn unig, aeth The Pink Lady Pole Cats hefyd drwy dir lle mae eirth y Gogledd yn byw, ar draws iâ môr sy'n symud yn gyson a brwydro yn erbyn tymheredd o -40 o C. Dewch i gael eich ysbrydoli gan stori Tori a sut nad oedd y tîm yn ofni gwyro o'r cynllun i sicrhau llwyddiant. 5.00pm Diwedd Diwrnod pm Bodlonrwydd Aelodau: Barn y Cadeirydd David Hedges, Cyngor Ystafell Kidwelly Mae CHC yn cynnal arolwg o fodlonrwydd aelodau ar hyn o bryd i sicrhau ein bod y gorau y gallwn fod ac yn darparu gwaasanaeth effeithlon sy n cynnig gwerth am arian. Rydym wedi comisiynu David Hedges, Cyngor Da, i gynnal y darn yma o waith drosom a bydd yn hwyluso r sesiwn gaeedig hon gyda Chadeiryddion ac Is-gadeiryddion. 7.30pm Cinio'r Gynhadledd yn cael ei noddi trwy garedigrwydd WPA
10 8.45 am Cofrestru a Lluniaeth yn cael ei noddi trwy garedigrwydd Hugh James Cyfreithwyr Lobi Ystafelloedd Calon 9.10 am Croeso Calon Suite Paula Kennedy, Prif Weithredydd, Cartref Calon Suite am Arweinyddiaeth Arloesol Helen Goulden, Sefydliad Ystafelloedd Calon 1 Helen yw Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Young ar ôl bod yn Gyfarwyddydd Gweithredol Nesta. Treuliodd bum mlynedd yn ymgynghori yn Swyddfa'r Cabinet, Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog ac yna'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn datblygu rhaglenni arloesedd cenedlaethol ar gyfer llywodraeth leol ac arwain ymchwil a datblygu cynnyrch ar gyfer gwasanaethau teledu cyhoeddus rhyngweithiol. Bydd Helen yn rhannu sut y mae, ar hyd ei gyrfa, wedi defnyddio dulliau arloesi cymdeithasol i dyfu gwytnwch a gwneud newid ystyrlon. Bydd yn ein helpu i ymchwilio sut ydym yn paratoi arweinwyr presennol a'r dyfodol i gyflwyno Gorwelion Tai.
11 10.15am Cymryd Rheolaeth yn Ôl Cynghorydd Matthew Brown - Cyngor Ystafelloedd Calon 1 Yn 2011 roedd Preston ar ei hisaf. Yna cymerodd reolaeth yn ôl! Am fwy na degawd roedd y cyngor wedi canolbwyntio'n llwyr ar fuddsoddiad drwy ddatblygu canolfan siopa enfawr. Byddai'r Tithebarn yn ymestyn dros holl ganol y ddinas, yn costio 700m ac yn cael ei hadeiladu gan ddau o'r datblygwyr mwyaf ar y blaned. Bwriedid iddo gael Marks & Spencer, sinema aml-sgrin a stôr John Lewis enfawr. Yna daeth y chwalfa bancio ac roedd craeniau ym mhob rhan o'r wlad yn segur. Collodd busnesau ddiddordeb yn y Tithebarn a thynnodd John Lewis allan ym mis Tachwedd Canfu'r cyngor nad oedd yn gwneud synnwyr economaidd bellach a lladdodd yr holl gynllun. Lle bu unwaith gynllun meistr, roedd gan Preston yn awr wagle. Roeddent angen Cynllun B felly fe wnaethant fabwysiadu lleoliaeth guerrilla. Mae'n cadw ei arian mor agos adref ag sy'n bosibl fel bod, mewn toriadau enfawr yn hanesyddol, y swm a wariwyd yn lleol wedi cynyddu. Lle mae awdurdodau eraill yn preifateiddio, mae Preston yn tyfu ei busnesau ei hun. Mae hefyd wedi creu mentrau cydweithredol gweithwyr. Bydd y Cynghorydd Matthew Brown yn siarad am "Fodel Preston" ac am gymryd rheolaeth yn ôl am 11.15am Lluniaeth a Rhwydweithio yn cael ei noddi trwy garedigrwydd Hugh James Cyfreithwyr Lobi Ystafelloedd Calon Closing the Gap Panel: Adele Baumgardt, Report Author
12 Alicja Zalesinska, Director Tai Pawb Debbie Green, Chief Executive, Coastal Housing Paul Dear, Head of Equality, Welsh Government Ystafelloedd Calon 1 Eleni daeth maint y gwahaniaeth tâl rhwng dynon a menywod i r amlwg. Rhoddodd mwy na 10,000 o gwmnïau sy n cyflogi 250 neu fwy o bobl fanylion y bwlch tâl rhwng dynon a menywod, gyda tri-chwarter ohonynt yn talu mwy i ddynion nag i fenywod. Lle mae cymdiethasau tai arni yn y mater yma? Bydd y sesiwn yn cynnwys trafodaeth panel i ymchwilio canfyddiadau adroddiad newydd gan Tai Pawb ar y bwlch tâl rhwng dynon a menywod mewn cymdeithasau tai yng Nghymru pm Meddwl: Amser Rhwygo'r Rheolau ar Arweinyddiaeth Terence Mauri, Siaradwr Byd-eang ac Ystafelloedd Calon 1 Ai goroesi neu ffynnu ydych chi fel arweinydd? Mae newid seismig a hirddisgwyliedig mewn arweinyddiaeth. Mae bwlch cronig mewn arweinyddiaeth mewn llawer o sefydliadau: mae timau n cael eu gor-reoli a u tan-arwain. I symud ymlaen, mae n rhaid i ni gyd ddod yn arweinwyr ein hunain; mae hyn yn golygu fod yn rhaid i ni wneud i newid ddigwydd a dod yn ddysgwr gydol oes ar arweinyddieath. Nid teitl yw arweinyddiaeth. Mae n ffordd o feddwl ac yn set o fathau ymddygiad buddugol. Oes gennych chi Ffordd Arweinydd o Feddwl? 1.00pm 1.10pm Casgliadau'r Gynhadledd Cinio a Gadael
13
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More informationStori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.
Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg
More informationCynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1
Cynllun Strategol 2018-2021 Tudalen 1 Cynnwys 1. Crynodeb 2. Swyddogaethau 3. Gweledigaeth a gwerthoedd 4. Amcanion strategol Amcan 1 dylanwadu ar bolisi Amcan 2 ehangu hawliau pobl i ddefnyddio r Gymraeg
More informationPARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES
Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!
More informationMesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg
Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18 Cyhoeddwyd yn unol ag adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Awst 2018 Dyma grynodeb o adroddiad sicrwydd 2017-18 adroddiad
More informationAPIAU CYMRAEG. C.Phillips
APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan
More informationAddysg Oxfam
Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd
More informationBriff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur
Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol
More informationSUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL
SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus
More informationBeth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations
Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods
More informationWelsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport
#amdani Y Gymraeg: Amdani! Defnyddio r Gymraeg mewn chwaraeon Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport Mae defnydd naturiol o r iaith yn hollbwysig boed mewn cynhadledd i r wasg neu ar grysau
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More informationCANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH
CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,
More informationCyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationDysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU
Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer
More informationSTADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationNetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community
More informationManiffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyfathrebu Digidol Mae twf digidol yn allweddol i ddatblygu economi Cymru, ac felly mae angen polisïau arloesol i
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informationMae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.
Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn
More informationThe Life of Freshwater Mussels
The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
WHC/2017/014 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi 29 Mawrth 2017 STATWS: GWYBODAETH CATEGORI: ANSAWDD A DIOGELWCH Teitl: Gwybodaeth i gleifion ynghylch trefniadau Gweithio i Wella Dyddiad dod i ben
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion
More informationPolisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch
Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationWALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA
FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v BOSNIA & HERZEGOVINA 07.06.2018 Liberty Stadium Swansea Kick Off 7pm FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v RUSSIA 12.06.2018 Newport Stadium Newport
More informationE-fwletin, Mawrth 2016
Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru E-fwletin, Mawrth 2016 Aelodau Staff Newydd yn NWDA Mae dau aelodau newydd wedi ymuno Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru. Hoffem eu croesawu'n gynnes i'r tîm ac yn eu cyflwyno
More informationAdolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu
Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau
More informationNatWest Ein Polisi Iaith
NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600
More informationRhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on
Rhondda Cynon Taf Learning Festival Adult Learners Week 18-26 May 2013 Events are FREE! *unless otherwise stated What s on 800 fun learning events and taster sessions Wales-wide Over 20,000 people across
More informationGWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History
GWERS 90 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Cyflwyno 'I prefer...' Geirfa rygbi -rugby pêl droed - soccer cig eidion -beef persawr - perfume bwyd llysieuol -vegetarian anrheg - present food cawl - soup, broth
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places
More informationAdroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.
Adroddiad yn dilyn monitro Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY Dyddiad yr ymweliad: gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Hawlfraint
More informationTempled Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer
Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationHelo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.
BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau
More informationGwybodaeth i Rieni Parent Information
Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr
More informationStrategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin Crynodeb Gweithredol
CWM RHAEADR CRYCHAN FOREST LLANDOVERY Carmarthen to Newcastle Emlyn Merlin Druid Route BRECHFA NCN 47 Carmarthen to Brechfa Merlin Wizard Route CARMARTHEN ST. CLEARS LLANDYBIE CROSS HANDS NCN 4 KEY: NCN
More informationTaro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg
Rhif: WG32353 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori ar y Papur Gwyn Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 31 Hydref 2017
More informationGollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068
Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig
More informationSESIWN HYFFORDDI STAFF
SESIWN HYFFORDDI STAFF i Mae r canlynol yn ymarferion i staff eu defnyddio i baratoi i gyflawni rhaglen. Gellir defnyddio ymarferion fel rhan o ddiwrnod HMS/hyfforddiant. Mae n bosibl y byddwch eisiau
More informationTalu costau tai yng Nghymru
Talu costau tai yng Nghymru Trosolwg Mae r papur hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg 1 a gomisiynwyd ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yr haf diwethaf i bennu i ba raddau y mae pobl
More informationDatrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch
Datrys y dirgelwch.. Drwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Prifysgol Texas, Prifysgol Texas yn Austin tlodi. Mae Tanzania yn wlad fawr yn nwyrain Affrica. Mae ganddi boblogaeth o dros 40 miliwn (mae gan y DU
More informationY newid sydd ei angen Cymru rymus a democrataidd
WalesWeWant(Cym)_Layout 1 09/01/2018 13:18 Page 1 Y newid sydd ei angen Cymru rymus a democrataidd Leanne Wood Y newid sydd ei angen Cymru rymus a democrataidd The willingness to accept responsibility
More informationWales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report
Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation
More informationW42 13/10/18-19/10/18
W42 13/10/18-19/10/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Match of the Day Wales 4 Tourist Trap 5 Stand Up at BBC Wales 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Ammanford / Rhydaman 2 Bridgend
More informationDiweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018
Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018 Mae'r diweddariad hwn yn rhoi gwybodaeth a gafwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yng nghyfarfod bwrdd crwn CHC a DWP, cyfarfod Strategol Landlordiaid Sector
More informationASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005
ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO Hydref Rhagfyr 2005 Wedi ei baratoi ar gyfer: S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru Cyswllt y cleient: Carys
More informationARWEINLYFR I FYFYRWYR
ARWEINLYFR I FYFYRWYR HŶN Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 www.bangor.ac.uk www.facebook.com/prifysgolbangor @prifysgolbangor Mae r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i
More informationCynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu
Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu 2015-2018 Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu 2015-2018 n Croeso Croeso Mae Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu 2015-2018 yn nodi fy mlaenoriaethau ar gyfer sicrhau
More informationGwybodaeth am Hafan Cymru
PECYN RECRIWTIO Gwybodaeth am Hafan Cymru Pwy ydym ni Cymdeithas Tai Gofrestredig yw Hafan Cymru, a r un darparwr mwyaf o wasanaethau ynghylch trais yn erbyn menywod, dynion a phlant sy n gweithredu ledled
More informationBil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i DOGFENNAU SY N MYND GYDA R BIL Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân. Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r
More informationGwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work
Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y
More informationMAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu
Yr MAWR Your guide your to getting hool primary sc involved w i gael a l l n a c h c i E radd n y g l o g s y eich i gyfrannu with gyda The BIG Raise lots with spots and help change the lives of disadvantaged
More informationRhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Rhif: WG25772 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 18 Rhagfyr 2015
More informationW46 14/11/15-20/11/15
W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil
More informationSylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008
Adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC o Ddidueddrwydd o ran y Gwledydd: Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008 Tachwedd 2016 Getting
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i'n cylchlythyr Gwanwyn. Mae cymaint wedi digwydd ers ein cylchlythyr olaf- gobeithio eich wedi bod yn cadw i fyny gyda'r rhan fwyaf ohono
More informationCanllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid
Etholiad cyffredinol Senedd y DU Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid Rhan 6 o 6 - Ar ôl datgan y canlyniad Tachwedd 2018 Mae'r ddogfen hon yn berthnasol i etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain
More informationCyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42
Cyfle i Aros Yn eu geiriau eu hunain Weithiau, pan fo pethau n wirioneddol anodd, rwy n teimlo fel gwneud rhywbeth gwirion, wyddoch chi? Rwy n teimlo fel cyflawni trosedd fach, dim byd mawr, dim ond rhywbeth
More informationBrexit a Hawliau Plant yng Nghymru i
Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i CYFLWYNIAD Mae plant yn cynrychioli chwarter o boblogaeth y DU sy'n cynnwys 718,248 o blant a phobl ifanc 0-19 oed sy'n byw yng Nghymru 1. Mae Plant yng Nghymru yn
More informationNewyddion REF2014. Ein Hymchwil Ragorol. Cyfrol 21 Rhif 2
Newyddion Cyfrol 21 Rhif 2 REF2014 Ein Hymchwil Ragorol CYFLWYNIAD Cyflwyniad Pleser o'r mwyaf yw cyflwyno rhifyn cyntaf Newyddion Caerdydd yn 2015, yn enwedig gan mai canlyniadau REF 2014 sy'n cael y
More informationGWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol
GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol Ymchwil gan Brifysgol Northampton 2007-2009 Rhagair Sut bydd Gwobr
More informationHawliau Plant yng Nghymru
Hawliau Plant yng Nghymru Hawliau Plant yng Nghymru Hydref 18 Cyflwyniad Mae ychydig dros 550,000 o blant 0-15 oed yn byw yng Nghymru, ac mae 350,000 arall rhwng 16 a 24 oed. 1 Gan mai fi yw, fy rôl i
More informationCalon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April
Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April 2016 Grŵp Cynefin Mwy na thai / More than housing Grŵp Cynefin www.grwpcynefin.org post@grwpcynefin.org Ffôn/Phone: 0300 111 2122 Ffacs/Fax: 0300
More informationCymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:
Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau ac Ymarfer i Brifysgolion helpu Myfyrwyr sy n Gofalu gael Mynediad i a Llwyddo mewn Addysg Uwch Cymru Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau
More informationPecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr
Pecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru n cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad o bob rhan o Gymru. Maen nhw n cael eu hethol gan bobl
More informationCyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd
Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd Cofnodion cyfarfod Grŵp Cyswllt Wylfa Newydd a gynhaliwyd ddydd Iau 20 Hydref yn Ystafelloedd Eleth a Eilian. Yn bresennol Enw Geraint Hughes Jac Jones Jean
More informationGWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)
GWERS 86 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) Geirfa llyfrgell f - library oriel f - gallery eglwys(i) f - church(es) pont(ydd) f - bridge(s) eglwys - cathedral
More informationYMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH
CYNLLUN GWASANAETH BETH YW? NODAU: Rhoi cyflwyniad i r Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Ysgolion. Cynnig cipolwg cychwynnol ar awtistiaeth. GWAITH PARATOI I R ATHRO: Edrychwch ar A Teen s Guide To Autism
More informationGRŴP GWYDDONIAETH PYSGODFEYDD A CHADWRAETH
GRŴP GWYDDONIAETH PYSGODFEYDD A CHADWRAETH CYLCHLYTHYR ELECTRONIG 15 Chwefror 2015 Gyda dim ond 3 mis ar ôl rydym yn brysur yn dadansoddi ac yn ysgrifennu canlyniadau'r prosiect. Yn ystod y misoedd nesaf
More informationDatblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru
Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru Ebrill 2010 CYNNWYS I II Crynodeb gweithredol Cefndir, pwrpas a dulliau Cyflwyniad Cefndir Methodoleg Cydnabyddiaethau Strwythur yr Adroddiad III IV V VI
More informationAdroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia
TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter
More informationW39 22/09/18-28/09/18
W39 22/09/18-28/09/18 2 Rhondda Rebel 3 Back In Time for the Factory 4 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Newport / Casnewydd 2 Usk / Brunbuga 2 1 Follow @BBCWalesPress on Twitter to
More informationGweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad
Rhif: WG33010 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2018 Camau i w cymryd:
More informationAMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016
AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd
More informationProses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol
1 Sefyllfaoedd a gweithdrefnau Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol Mae'r ddogfen hon ar gyfer pobl sy'n bwriadu cofrestru plaid wleidyddol neu sydd am newid manylion plaid wleidyddol gofrestredig
More information+ Digwyddiadau Ymweld â Phrifysgol Bangor
+ Cynnwys T1: Digwyddiadau T2: Yr offer holi T3: Cipolwg T4: Cwrdd â r tîm T5: Hwyl fawr a helo T6: Cysylltu â ni + Digwyddiadau Ymweld â Phrifysgol Bangor Yn ddiweddar, bu Dawn Knight, Paul Rayson a Steve
More informationFforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru
Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru Adroddiad Blynyddol 2009 2010 Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru Grŵp cydweithredol o holl lyfrgelloedd prifysgol a llyfrgelloedd addysg uwch yng Nghymru yw WHELF
More informationAdroddiad Blynyddol y Brifysgol Agored Dysgu sy n Newid Bywydau
Adroddiad Blynyddol y Brifysgol Agored 2013 2014 Dysgu sy n Newid Bywydau CYNNWYS 01 Croeso 03 Newyddion 08 Effaith ar ddysgu: Gavin Richardson, cyn-fyfyriwr 10 Agor addysg i bawb 13 Cefnogi myfyrwyr ar
More informationBwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter
Awst August 2012 Bwcabus Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect Llythyr Newyddion Newsletter www.bwcabus.info Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our rural communities
More informationBil yr Amgylchedd (Cymru) Memorandwm Esboniadol yn ymgorffori r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a r Nodiadau Esboniadol
Bil yr Amgylchedd (Cymru) Memorandwm Esboniadol yn ymgorffori r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a r Nodiadau Esboniadol Mai 2015 1 BIL YR AMGYLCHEDD (CYMRU) Memorandwm Esboniadol i Fil yr Amgylchedd (Cymru)
More informationNewyddion Ansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru
Newyddion Ansawdd Rhifyn 29 Gorffennaf 2011 Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru Mynychwyr yn y digwyddiad CRAE Yn ddiweddar cynhaliodd Prifysgol Cymru o addysg, mae Safonau fel arfer
More informationy ganolfan ddata gyntaf yn Ewrop i ennill y wobr nodedig.
Yn sicr, nid yw bywyd yn undonog yn BT ac mae r rhifyn diweddaraf yma n dangos hynny n glir wrth drafod amrediad eang o weithgareddau. Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cael brecwast ar fws BT Infinity
More informationCylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau
Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr 2018 + Cynnwys T2: Newyddion a digwyddiadau T4: Diweddariadau cyffredinol T5: Cwrdd â r tîm Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd Blwyddyn Newydd Dda i n darllenwyr i
More informationCanser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales
Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru Cyfadran Deallusrwydd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru Canser
More informationWeek/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:
Week/Wythnos 41 October/Hydref 11-17 Pages/Tudalennau: The Devil s Vice Lucy Owen: Working Mum Sex Love and Cwtches Cwmderi: Dathlu Deugain Pobol y Cwm at 40 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb:
More informationBuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit Diogelu Dyfodol Cymru
Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit Diogelu Dyfodol Cymru Buddsoddi Rhanbarthol yng Securing Nghymru Wales ar ôl Future Brexit 1 2 Fair Movement Hawlfraint y of Goron People 2017 WG33593 ISBN
More informationSummer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events
Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events IPC registered and approved Monday 30 th July Sunday 5 th August 2018 #SWSO18 1 Meet summary Swim Wales is proud to present
More informationEnwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?
DANIEL MORDEN Straeon dirgel o Gymru Beth yw straeon? A pham mae angen inni eu hadrodd? Mae stori yn ffrâm neu n gyd-destun defnyddiol i brofiad. Mae adrodd stori yn ein galluogi ni i archwilio r digwyddiadau
More informationDarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau
Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau Datganiad Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015 1 Y ddogfen hon Fel rhan o Adolygiad Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus,
More informationSwim Wales Long Course Championships 2018
Swim Wales Long Course Championships 2018 Closed event March 30 th April 2 nd 2018 #SWLC18 Meet Summary Swim Wales National Long Course Championships is a level 1 Closed Long Course (50m) meet aimed at
More informationPecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack
Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Urdd National Eisteddfod Business Pack Beth yw Eisteddfod yr Urdd? Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl flynyddol sy n ddathliad o r iaith Gymraeg, y diwylliant a
More informationCynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan
Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan Cynllun Sion s Plan Enw Llawn / Full Name: Sion Davies Dyddiad Geni / Date of Birth: 04.06.10 Lleoliad Addysgol / Educational Placement: Ysgol Tan
More information