Adnewyddu r Prif Risiau, Castell Rhaglan, Sir Fynwy
|
|
- Edith Jenkins
- 5 years ago
- Views:
Transcription
1 Adnewyddu r Prif Risiau, Castell Rick Turner Cadw Cyflwyniad Yn 2011, ailagorwyd y prif risiau yng Nghastell Rhaglan gan wasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw. Roedd y staer hon yn rhan o Lys y Ffynnon (Fountain Court), a adeiladwyd fel lleoliad i gyfres o ystafelloedd ar gyfer gwesteion William Herbert, iarll Penfro, yn yr 1460au. Roedd Herbert yn un o gefnogwyr pwysicaf y brenin Iorcaidd, Edward IV, a lwythodd arno gyfoeth a phŵer. Mynegodd ei bwysigrwydd newydd drwy ailddatblygu Castell Rhaglan yn Sir Fynwy (ffig. 1), yn yr arddull mwyaf cymhleth a chyfoes, cyn colli ei ben wedi r gorchfygiad ym Mrwydr Edgecote yn 1469 (Kenyon 2003, 9-11: Griffiths 2013). Byddwn yn archwilio sut y cafodd y staer wreiddiol ei chynllunio a beth oedd ei swyddogaeth. Yna edrychwn ar gyfres o ymgeisiau i gael ei gwared, yna i hadfer dros y 300 mlynedd diwethaf. Arweiniodd yr hanes diweddar hwn at y llysenw staer Hoci Coci, gan adlewyrchu r agweddau newidiol tuag at adfer rhannau o adeiladau adfeiliedig fel Castell Rhaglan. Yn ystod gwaith diweddar Cadw, adferwyd pob un o r deg gris isaf i w safle, cyn mynd ymlaen i greu rhes gulach o risiau carreg i fyny at ddrws y tŵr (ffig. 7). Y gobaith yw mai dyma ddiwedd ar yr hoci coci arbennig hwn. Y Prif Risiau Mae Llys y Ffynnon y tu draw i r neuadd fawr yng Nghastell Rhaglan. Pan adeiladodd Syr William Herbert (c ) y Prif Borthdy (Gatehouse), newidiwyd cyfeiriad y dynesiad a r mynediad i Gastell Rhaglan (ffig. 1). Y gred gyffredinol yw mai ei dad, Syr William ap Thomas (m.1445), a adeiladodd y Tŵr Mawr (Great Tower) a Phorth y De (South Gate), sydd wedi ei gyfeirio at ganol tref Rhaglan (Kenyon 2003, 4-8). Awgryma hyn mai Porth y De oedd prif fynedfa r castell adeg Thomas, gyda r hyn a ddaeth yn Llys y Ffynnon yn gwrt blaen, lle lleolwyd y prif fynedfa i r neuadd fawr. Ni wyddom yn union pryd yr adeiladwyd Llys y Ffynnon, ond ni ddaeath Syr William Herbert i amlygrwydd tan i Edward IV esgyn i r orsedd yn 1461 (Griffiths 2013). Mae r gwaith, yn bennaf, yn waith cerrig nadd mewn Hen Dywodfaen Coch, ac arno fyrdd o farciau r 1 Y Cylchgrawn Hanes Ffig.1 Cynllun o Gastell Rhaglan yn dangos y gwahanol gamau adeiladu
2 seiri meini (Emery 1975), sy n awgrymu gweithlu mawr, medrus yn gweithio n gyflym. Defnyddir briciau i saernïo bwâu o dan y brif risiau ac yn y lleoedd tân. Mae n ymddangos mai Castell Rhaglan yn yr 1460au oedd y safle cyntaf yng Nghymru lle defnyddiwyd briciau fel deunydd adeiladu. Wedi i Herbert ailgynllunio r castell, Llys y Ffynnon oedd cwrt dyfnaf y castell (ffig. 2). Roedd hyn yn ei wneud yn fwy preifat, gan awgrymu mai r gwesteion mwyaf nodedig yn unig fyddai n cael aros yma. Un o r gwesteion hynny oedd yr Harri Tudur ifanc (y brenin Harri VII yn ddiweddarach); Gorwedda r brif risiau yn y canol rhwng dwy brif res o ystafelloedd (ffig. 2 a 3). Fe u hadeiladwyd yn y man lle mae tŵr yn eistedd mewn ongl yn y cysylltfur. Roedd hyn yn her i r prif saer maen a gynlluniodd y staer, gan ei fod wedi gorfod datrys problem y lefelau lluosol a ffurfiwyd yn y man cyfarfod rhwng y cysylltfur a r ddwy res betryal o ystafelloedd, yn ogystal â chynnal rhes gyfartal o risiau allan o bob drws, ac i lawr i r brif fynedfa. Roedd hon yn her i adnewyddwyr a fu n gweithio ar y grisiau yn hwyrach, ac edrychwn yn fwy manwl ar geometreg y trefniant gwreiddiol yn nes ymlaen. gadael drysau eu hystafelloedd ar y llawr cyntaf ar y naill ochr a r llall i ben y grisiau ac yn dod i lawr mewn parau, wedi eu dilyn gan westeion yn gadael yr ystafelloedd ar y llawr gwaelod. Lleolwyd y canllaw carreg yn eithaf uchel, oddeutu 1.2 m uwchlaw r grisiau. Effaith hyn fyddai codi llaw r cerddwr at lefel y frest, gan gynyddu r syniad o symudiad urddasol. Cerddent drwy ddrws addurnedig y brif fynedfa, gydag arysgrif wedi ei beintio ar y faner ruban gerfiedig dros y prif fwa (ffig. 3), cyn cerdded ar draws Llys y Ffynnon a mynd i mewn i r neuadd fawr ar gyfer y prydau bwyd, drwy borth bwaog yr un mor ysblennydd. Wedi gorffen bwyta, gorymdeithient yn ôl i w hystafelloedd crand. Parhaodd ffurfioldeb y prydau bwyd yng Nghastell Rhaglan ymhell i mewn i r ail ganrif ar bymtheg. Mae set o reolau tŷ wedi goroesi o r cyfnod hwn. Nodwyd safle pawb wrth y bwrdd bwyd yn ofalus iawn, a chodwyd y bont godi hyd yn oed, er mwyn sicrhau bod y prif bryd bwyd yn cael ei fwyta mewn diogelwch. Ffig.2 Y tu mewn i Lys y Ffynnon gyda r prif risiau yn ei ganol. roedd Herbert wedi ei ddal ar ôl iddo gipio Castell Penfro yn Roedd Harri yn gystadleuydd posibl ar gyfer gorsedd Edward IV, felly fe i cadwyd dan glo yn Rhaglan am nifer o flynyddoedd, gyda Herbert yn gobeithio y gellid ei berswadio i briodi ei ferch. Daw enw r cwrt o ffynnon farmor hyfryd yn ei ganol, a elwir y Ceffyl Gwyn, gyda dŵr clir yn llifo n barhaus, ac mae r sylfaen sgwâr o garreg yn dal i fod yno. O fewn y cysylltfur amlochrog ar ochr orllewinol y cwrt, Adeiladodd Syr William Herbert naw ystafell o safon uchel, ar y llawr gwaelod a r llawr cyntaf fel ei gilydd. Roedd gan bob un le tân, ffenestri addurnedig yn edrych allan dros Lys y Ffynnon a mynediad i dŷ bach preifat. Mae r adluniad hwn o r cwrt yn yr 1460au yn rhoi syniad o gyfoeth yr ystafelloedd hyn (ffig. 3). 2 Y Cylchgrawn Hanes Yr hyn a grëwyd oedd enghraifft gynnar iawn o staer orymdeithiol, sydd, yn ôl pob tebyg, yn gopi o un a ychwanegwyd at ystafelloedd llawr uchaf Castell Windsor yn yr 1440au. Byddai r gwesteion yn Ffig.3 Adluniad o du mewn i Lys y Ffynnon yn yr 1460au Tynnu ac Adfer y Prif Risiau Digwyddodd un o warchaeoedd mawr olaf ail Ryfel Cartref Lloegr yng Nghastell Rhaglan yn haf Bombardiwyd y castell gan y lluoedd seneddol, gan achosi difrod helaeth, tan i iarll Caerwrangon ildio ar 19 Awst. Fforffedwyd y castell i r Senedd a difrodwyd y tŵr mawr yn fwriadol fel na ellid ei ddefnyddio mewn unrhyw wrthryfel Brenhingar yn y dyfodol. Pan adferwyd Siarl II i r orsedd yn 1660, penderfynodd Henry
3 Somerset, iarll Caerwrangon, (a wnaed yn ddug Beaufort yn 1682), beidio â defnyddio Castell Rhaglan fel ei gartref, gan ddefnyddio Troy House a Castle House, Sir Fynwy fel ei gartrefi yn y sir, tra bo Badminton House yng Nghaerloyw yn cael ei godi. Yn 1676, ysgrifennodd Edward Clytha, a gofiai r castell o r adeg pan oedd yn fachgen yn yr 1640au, lawysgrif ddisgrifiadol go arbennig o Gastell Rhaglan (Gloucestershire Record Office: Papurau Badminton ). Ynddi ceir yr unig ddisgrifiad o Lys y Ffynnon cyn y gwarchae. Felly pam y cafodd y prif risiau yr enw Staer Hoci Coci? Y rheswm am hyn yw bod y staer wedi ei thynnu a i rhoi yn ei hôl deirgwaith dros y 300 mlynedd diwethaf. Yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif, cyflogodd ail ddug Beaufort dirfesurydd i r ystâd, gŵr o r enw Hopkins, a enillodd y llysenw y Difrodwr Mawr (Grand Dilapidator). Bu n gyfrifol am dynnu mentyll simneiau, drysau, ffenestri a chyfanswm o 23 o staeriau o r castell i w gwerthu yn rhywle arall (Kenyon 2003, 23). Rhaid mai dyma a arweiniodd at golli r prif ddrysau a cholfachau o r fynedfa i r prif risiau, yn ogystal a r rhan fwyaf o r meini nadd oddi ar y grisiau a r canllawiau cerrig. Pumed dug Beaufort (m. 1803) a roddodd stop i r ysbeilio hyn, a i fab ef oedd yn gyfrifol am ail-adeiladu r staer, drwy ei asiant yn ne Cymru, Arthur Wyatt, i w defnyddio ar gyfer ei Adloniant Mawr yn yr 1820au (ffig. 4). Roedd y staer newydd hon yn rhes syth, gan anwybyddu patrwm gwreiddiol y grisiau a r rhesi perpendicwlar at ddrysau r ystafeloedd, ac yn codi i ddrws bach a arweiniai i mewn i r tŵr. O ben y tŵr hwn caed golygfeydd godidog o r castell a i dir. Gwnaed y staer drwy osod slabiau o garreg nadd tenau dros risiau bric, a osodwyd mewn mortar du amlwg, wedi eu hadeiladu dros weddillion y grisiau canoloesol a dynnwyd oddi yno. Defnyddiwyd y staer bwrpasol hon tan i r cyfrifoldeb am y safle gael ei drosglwyddo o Ddug Beaufort i r Weinyddiaeth Waith (Ministry of Works) yn Dengys ffotograffau ei bod yn dal yn ei lle yn yr 1950au cynnar, Ffig.4 Y grisiau Wyatt, tua 1860 pan gafodd ei thynnu oddi yno ar y sail, mae n siŵr, ei bod yn adnewyddiad anaddas. Ni chafwyd hyd i gofnod yn archif Cadw o r sawl a wnaeth y penderfyniad hwn, na r rheswm drosto. Ymddengys yn benderfyniad mympwyol, gan fod rhan fawr o r bwlch wrth droed y tŵr mawr wedi ei adnewyddu er mwyn sicrhau ei fod yn sefydlog yn saernïol. Fodd bynnag, drwy dynnu staer Wyatt, yr unig beth oedd ar ôl oedd gweddillion drylliog y grisiau bric dros fonion pwdr y grisiau canoloesol (ffig. 5). Bellach ni allai ymwelwyr weld y golygfeydd o ben y tŵr. Yr ateb a gynigiwyd yn yr 1980au oedd adeiladu staer nenbont bren, yn debyg i r math a ddefnyddir i fynd ar fwrdd llong, yn sefyll ar byst a orffwysai ar y gweddillion islaw. Fel hyn, nid effeithiwyd ar yr adeiladwaith hanesyddol, ond roedd y staer yn ymestyn allan yn rhyfedd o r brif fynedfa. Ni ellid dweud mwyach fod y staer yn adnewyddiad anaddas, ond yn y man dechreuodd y pyst bydru, gan ei gwneud yn ansefydlog. Yn fuan iawn fe i tynnwyd oddi yno a chaewyd y prif risiau i ffwrdd unwaith eto. Adnewyddiad Cadw o r prif risiau Etifeddodd Cadw r cyfrifoldeb am gadwraeth Castell Rhaglan, a i gyflwyno er mwynhad y cyhoedd, yn Dechreuwyd ystyried ateb parhaol i r staer nôl yn Bu ailadeiladu r staer canoloesol yn ei ffurf wreiddiol yn her go iawn, gan ei bod wedi ei hamgau o fewn muriau ar ddeg plân wahanol. Roedd dwy brif res o risiau wedi u halinio ychydig yn wahanol a phedair rhes atodol. Roedd yno olion rhannol o ddau brif gyfnod adeiladu, un o r 1460au ac un o r 1820au. Richard Avent, prif arolygwr henebion ac adeiladau hanesyddol, yn cydweithio â Tim Ffig.5 Golwg i fyny r grisiau ar ôl tynnu gwaith Wyatt 3 Y Cylchgrawn Hanes
4 Ffig. 6 Dau o seiri meini Cadw yn gosod un o risiau isaf y staer newydd Morgan, drafftsmon archeolegol, oedd y cyntaf i geisio ailadeiladu r staer yn ei ffurf wreiddiol. Golygai hyn edrych yn fanwl ar y dystiolaeth a oroesai drwy lunio cynlluniau ac, yn bywsicach fyth, y golygon ar hyd y ddau brif fur. Cadarnhaodd hyn ogwydd a maint y grisiau yn y prif res. Dangosai hefyd sut y gellid cysylltu r rhesi atodol at y prif res ac eto gadw patrwm cyson y grisiau. Roedd dwy broblem fawr heb eu datrys, fodd bynnag. Yn gyntaf, a oedd y prif fynedfa yn cynnwys pâr o ddrysau yn wreiddiol, neu ai newid hwyrach oedd hyn? Er mwyn dygymod â r drysau n agor roedd yn rhaid cael hanner landin wrth yr ail ris, neu dorri allan darnau enfawr o r grisiau mewn rhes di-dor o risiau. Hefyd, roedd tystiolaeth bod rhiciau wedi eu torri yng ngrisiau 7 a 9, gan awgrymu bod y staer wedi ei hail-fodelu, efallai i ddygymod â gosod y drysau. Ni theimlai Avent a Morgan yn gwbl hyderus wrth adfer rhan o r staer wreiddiol yn fanwl gywir, heb gyfaddawdu ychydig o r dystiolaeth am sut y cafodd ei hadeiladu n wreiddiol a r posibilrwydd o i hail- fodelu. Derbyniodd yr awdur hwn y sialens yn 2009, gan weithio gyda r drafftsmon archeolegol Bevis Sale. Gwnaed cloddfa fach o fewn Llys y Ffynnon ar unwaith i weld pa dystiolaeth oedd yn dal i fodoli o r gris isaf. O ganlyniad i hyn, a lluniadau manylach o ran isaf y staer, llwyddwyd i wneud model ar bapur o r pedwar gris cyntaf, gan ystyried y drysau dwbl yn agor. Gan weithio gyda seiri meini Cadw, Alan Cornish a Rob Fear, gwnaed modelau bras o r pedwar gris hyn mewn pren, er mwyn gallu mesur ac archebu r cerrig. Wrth osod pob gris (ffig. 6), daeth manylion bach o r cynllun gwreiddiol i r amlwg. Gan nad oedd y ddwy brif wal ochr yn baralel, cysylltai pob gris â r wal ochr mewn modd ychydig yn wahanol. Daeth i r amlwg bod rhan isaf y staer wedi ei gosod ar echelin yn berpendicwlar i ganol bwa r prif fynedfa, a bod y staeriau ochr ar echelin yn berpendicwlar i ganol eu drysau hwy. Adnewyddwyd y rhes isaf drwy ystyried y dystiolaeth ar y safle, a ddiffiniai feintiau r grisiau ac wynebau. Rhaid i bob staer, yn enwedig y rhai lle byddwch yn cerdded mewn gorymdaith yn dal eich pen yn uchel, feddu ar batrwm cyson neu fe fyddwch yn baglu. Fodd bynnag, drwy estyn llinell ganol y rhes isaf, a oedd yn berpendicwlar i r brif fynedfa, byddai r staer wedi bod yn anghymesur iawn. Er mwyn adeiladu r grisiau uchaf hyn, roedd yn rhaid codi nenbont scaffaldwaith i godi a symud y cerrig i w lle. Drwy sefyll ar y nenbont hon, roedd hi n bosibl gweld cynllun y prif risiau cyfan oddi uchod am y tro cyntaf. Tra n llunio cynllun o r staer o r man ffafriol hwn, sylweddolodd Bevis Sale a r awdur, o r diwedd, sut y cafodd ei gosod allan yn y lle cyntaf. Drwy lunio echelinau yn berpendicwlar i ganolbwyntiau r chwe drws a agorai allan i r staer, daeth fframwaith y staer i r amlwg. Gosodwyd grisiau 8 modfedd (200 mm) o uchder ac 16 modfedd (400 mm) o led i roi patrwm y staer, gan addasu i rynggyfarfyddiad y gwahanol resi drwy droi r grisiau yn y mannau lle roedd y rhesi gwahanol yn cyfarfod. Er mwyn i hyn weithio, byddai n rhaid troi r prif res yn y man cyfarfod rhwng yr echelin oedd yn berpendicwlar i r prif fynedfa, a r echelin oedd yn berpendicwlar i ddrws y tŵr. Digwyddodd hyn yn y pwynt lle ceir tystiolaeth o fwa mewnol dros y rhes uchaf o risiau, ar ben gris 6. Yma roedd rhaid troi llinell y staer drwy 5 gradd. Yn y man hwnnw, canol y gris yn unig sydd union yr un patrwm â gweddill y prif res, gydag ychydig o afluniad ar y naill ochr a r lall. Drwy gadw ac ystyried yr holl dystiolaeth oedd ar gael o r staer canoloesol, teimlwyd y gellid adfer y deg gris cyntaf i w llawn lled, i r man lle cafodd y rheiliau llaw cerrig eu tynnu allan. Byddai ceisio codi r staer gyfan yn uwch wedi golygu gwaith adnewyddu mwy radical nag a ystyriwyd yn dderbyniol. Penderfynwyd culhau gweddill y staer i greu rhes syth i fyny at ddrws y tŵr (ffig. 7), ac yna uwchraddio r staer wreiddiol er mwyn rhoi mynediad diogel i ben y tŵr adfeiliedig, sy n edrych allan dros derasau r gerddi, y llyn a r parc ceirw a ychwanegwyd at ochr ogleddol y castell yn yr 16 eg ganrif. Casgliad Mae safon y crefftwaith a r garreg a ddefnyddiwyd yn golygu bod y canlyniad yn edrych yn syml ac yn barhaol. Mae hyn yn celu r ymdrech sylweddol a wnaed dros nifer o flynyddoedd i sicrhau bod y cynllun terfynol yn adnewyddiad rhannol mor gywir â phosibl o r prif risiau gwreiddiol. Gweithiwyd allan y manylion yn bennaf drwy edrych ar dystiolaeth empirig y staer a i chofnodi n fanwl, gan sicrhau na symudwyd braidd dim o r dystiolaeth hon yn ystod yr adnewyddu. Tynnwyd rhannau o sylfaen y staer Wyatt, a wnaed o friciau wedi u rhwymo â mortar du, er mwyn gwneud lle i rai o r grisiau. Ni ddaeth hi n amlwg sut y gosododd y saer maen gwreiddiol ei staer nes bod y prosiect ar ei 4 Y Cylchgrawn Hanes
5 Ffig.7 Y Prif Risiau wedi eu hadfer yn 2011 anterth. O edrych yn ôl, byddai dulliau tirfesur modern, megis sganio laser, wedi cynhyrchu cynlluniau mwy manwl gywir ac, o bosib, model tri dimensiwn o adfeilion y prif risiau a r muriau o u cwmpas. Byddai hyn wedi cyflymu r gwaith o u hailadeiladu ar eu ffurf wreiddiol. Fodd bynnag, byddai sgìl y seiri meini wedi bod yr un mor hanfodol ar gyfer y mân newidiadau ar y safle i ddygymod â gweddillion pitw yr hyn a oroesai. Y gobaith yw bod y prif risiau yn ychwanegiad hir-dymor, os nad parhaol i Gastell Rhaglan. Dônt ag urddas trawiadol i r rhan hon o r safle, gan ganiatáu i ymwelwyr weld sut y gwethredent ers talwm. Gallant archwilio r tŵr yr ochr draw a mwynhau r golygfeydd godidog oddi yno dros y parcdir a r gerddi creiriol. Roedd gan y sawl a dynnodd ac a adnewyddodd y grisiau yn y gorffennol eu rhesymau eu hunain dros wneud hynny. Roedd y Difrodwr Mawr yn ufuddhau i orchmynion yr ail ddug i ennill cymaint o incwm â phosibl drwy dynnu r rhannau hynny o r castell y gellid eu gwerthu. Chwiliai r chweched dug am ffordd gyflym a phwrpasol i adnewyddu r fynedfa i ben y tŵr, er mwyn difyrru ei westeion yn yr 1820au. Anoddach yw deall cymhelliad y Weinyddiaeth Waith wrth iddynt dynnu elfennau carreg nadd y staer Wyatt. Yn aml, crynhoir athroniaeth y Weinyddiaeth, a ddatblygwyd gan y swyddogion proffesiynol hŷn Syr Charles Peers a Syr Frank Baines, fel Cadw fel y gwelir (Keep as found) (Keay 2004). Fodd bynnag, nid ystyriwyd pob cyfnod adnewyddu yn gyfartal. Tynnwyd y darnau hynny a ystyriwyd yn adnewyddiadau neu n ychwanegiadau anaddas, yn enwedig o gyfnod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, i adael y cofadail yn ei gyflwr canoloesol pur. Does dim cofnod i ddweud a fwriadai r Weinyddiaeth ailosod y staer ai peidio. Prin iawn yw r cofnodion a oroesodd o r 1950au, ac ymddengys fod unrhyw waith a wnaed yn ganlyniad i gyfarwyddiadau llafar i r gweithlu. Am gyfnod, roedd yn rhaid i ymwelwyr stryffaglu i fyny gweddillion y staer ac i mewn drwy ddrws y tŵr ac felly i fyny i r brig. Awgryma graffiti fod hyn wedi ei ganiatáu hyd at yr 1970au, pan benderfynwyd, mae n rhaid, ei fod yn beryglus. Pren a metel a ddefnyddiwyd i ailadeiladu r staer yn y lle cyntaf. Atebai r cynllun hwn y broblem o beidio ag addasu r adeiladwaith hanesyddol, ond ni lwyddai i fynegi urddas a phwrpas cynharach yr adeiledd gwreiddiol. O ystyried y dewis o ddeunyddiau, ni fwriadwyd erioed i hwn fod yn ddatrysiad tymor hir. Dechreuwyd adnewyddiad rhannol y staer wreiddiol mewn carreg wrth i English Heritage a Cadw fel ei gilydd, ddatblygu eu Conservation Principles (English Heritage, 2008; Cadw, 2011). Cyn hynny, athroniaeth cadwraethol cyrff treftadaeth y wlad oedd cadw fel y gwelir. Fodd bynnag, bwriad yr egwyddorion cadwraethol hyn oedd ehangu r gwerthoedd a ystyriwyd wrth wneud penderfyniadau cadwraethol, megis y rheiny oedd eu hangen i adnewyddu r Prif Risiau. Wrth weithio tuag at yr ateb a gafwyd yn y pen draw, ystyriwyd mwy na r gwerth tystiolaethol neu r adeiladwaith hanesyddol. Gwnaed ymdrech fawr i ddeall gwerthoedd hanesyddol y staer a i swyddogaeth arloesol, ac i adfer gwerth esthetig y rhan hon o r safle. Y llwyddiant mwyaf yw gwerth cymunedol y mwynhad a roddir i r ymwelwyr a all, erbyn hyn, gerdded i fyny ac i lawr y staer a mwynhau r golygfeydd o ben y tŵr. Mae athroniaeth cadwraeth yn newid gydag amser a gwahanol anghenion. Mae n rhaid ystyried yn ofalus iawn unrhyw ychwanegiadau at safleoedd adfeiliedig, ac ymgymryd â r dasg gyda chrefftwaith o r un safon ag a gafwyd gan y gweithwyr canoloesol, er mwyn rhoi iddynt radd o ddilysrwydd, heb geisio twyllo ymwelwyr eu bod yn rhannau o r adeilad gwreiddiol. Llyfryddiaeth Cadw, Conservation Principles for the protection of the historic environment in Wales, Caerdydd, 2011 Emery, A. The Development of Raglan Castle and Keeps in Late Medieval England, Archaeological Journal 132, tt , 1975 English Heritage, Conservation Principles, Llundain, 2008 Griffiths, R. A. Herbert, William, first earl of Pembroke (c ), Oxford Dictionary of National Biography, argraffiad ar-lein ( view/article/13053) 11 Mehefin 2013 Keay, A. The presentation of guardianship sites, Transactions of the Ancient Monuments Society, 48, 7-20, 2004 Kenyon, J. R. Raglan Castle, arweinlyfr Cadw (arg. diwyg.), Caerdydd, 2003 Pob delwedd: Hawlfraint y Goron, Cadw 5 Y Cylchgrawn Hanes
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationStori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.
Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 26 June/Mehefin 23-29, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Exhibitionists 3 Crimewatch Roadshow 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth
More informationThe Life of Freshwater Mussels
The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informationCyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid
More informationSTADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationRoom Configurations and Capacities Trefn a Chapasiti Ystafelloedd
Welcome Croeso 1 Room Configurations and Capacities Trefn a Chapasiti Ystafelloedd Guest Tower Rooms Y Twr ^ Gwesteion Undercroft Yr Is-grofft Banqueting Hall Y Neuadd Wledda Interpretation Centre Ground
More informationAPIAU CYMRAEG. C.Phillips
APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan
More informationHelo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.
BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau
More informationWales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report
Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation
More informationCanser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales
Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru Cyfadran Deallusrwydd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru Canser
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 17 April/Ebrill 21-27, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Elizabeth s Wales 3 They Sold A Million: Ricky Valance 4 Connie s People 5 Scrum V Live: Blues v Edinburgh 6 BBC National Orchestra of Wales
More informationVOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)
VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) 1978 1990 Cyfwelai: VSW066 Enid Mary Thomas Dyddiad Geni: 20.9.1937 Dyddiad: 4.9.14 Cyfwelydd:
More informationWALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA
FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v BOSNIA & HERZEGOVINA 07.06.2018 Liberty Stadium Swansea Kick Off 7pm FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v RUSSIA 12.06.2018 Newport Stadium Newport
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationLLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946
LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR Ffatri baco, Amlwch 1938-1942, a rhai misoedd yn c. 1946 Cyfwelai: VN056 Sali (Sarah) Williams Dyddiad: 17: 11: 2014 Cyfwelydd: Kate Sullivan ar
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More informationW46 14/11/15-20/11/15
W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil
More informationPwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16
Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Aelodau Yn Bresennol / Members Present Cyngh / Cllr Eryl Jones Williams (EJW) O.G Thomas
More informationGwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work
Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y
More informationWeek/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:
Week/Wythnos 41 October/Hydref 11-17 Pages/Tudalennau: The Devil s Vice Lucy Owen: Working Mum Sex Love and Cwtches Cwmderi: Dathlu Deugain Pobol y Cwm at 40 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb:
More informatione SCa P e To DIHanGWCH I 7.5 ml ; 12.0 km 4 : 00 pen y fan pond Country Park car park pwll pen-y-fan Maes parcio Parc Gwledig So
e SCa P e To M anmoel DIHanGWCH I fanmoel 7.5 ml ; 12.0 km 4 : 00 pen y fan pond Country Park car park pwll pen-y-fan Maes parcio Parc Gwledig So 198008 Manmoel inn 01495 371584 + pen y fan leisure park
More informationGWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History
GWERS 90 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Cyflwyno 'I prefer...' Geirfa rygbi -rugby pêl droed - soccer cig eidion -beef persawr - perfume bwyd llysieuol -vegetarian anrheg - present food cawl - soup, broth
More informationEAS Papur Ymarferol 2 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2014
Mathemateg Rhifedd UNED 1 Haen Canolradd EAS Papur Ymarferol 2 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2014 Cweswn Marc Uchaf Marc yr 1. 6 2. 6 3. 8 4. 5 5. 3 6. 8 7. 4 8. 2 9. 6 10. 5 11. 5 12. 4 13. 2 14. 4 15.
More informationAddewid Duw i Abraham
Beibl i Blant yn cyflwyno Addewid Duw i Abraham Awdur: Edward Hughes Lluniau gan: Byron Unger; Lazarus addaswyd gan: M. Maillot; Tammy S. Cyfieithydd: Catrin Roberts Cynhyrchwyd gan: Bible for Children
More informationPolisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch
Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi
More informationAddysg Oxfam
Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd
More informationW45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:
W45 4/11/17-10/11/17 2 David Hurn: A Life in Pictures 3 James and Jupp 4 Wales Live 5 Shane: For the Love of the Game 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Port Talbot 3 Swansea / Abertawe
More informationCanllaw Gwylio Cymylau
Canllaw Gwylio Cymylau Croeso Alexander Armstrong Carol Kirkwood Chris Hollins ii Yn y wlad hon rydym i gyd yn gyfarwydd iawn â chymylau, felly mae Tîm Tywydd Gwych Prydain wedi ffurfio r canllaw hwn.
More informationEnwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?
DANIEL MORDEN Straeon dirgel o Gymru Beth yw straeon? A pham mae angen inni eu hadrodd? Mae stori yn ffrâm neu n gyd-destun defnyddiol i brofiad. Mae adrodd stori yn ein galluogi ni i archwilio r digwyddiadau
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places
More informationLLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri High Speed Plastics, Llandygái ; AustinTaylors, Bethesda
LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR Ffatri High Speed Plastics, Llandygái 1970-2; AustinTaylors, Bethesda 1972-1998 Cyfwelai: VN054 Sandra Owen Dyddiad: 28:07:2014 Cyfwelydd: Shan
More informationBriff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur
Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol
More informationYsgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11
Ysgol Dyffryn Conwy Llyfryn Gwybodaeth Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Calendr Dyddiadau Pwysig MEDI 2017 HYDREF 2017 TACHWEDD 2017 1 HMS 1 1 Hanner Tymor 2 2 2 Hanner Tymor 3 3 3 Hanner Tymor 4 HMS 4
More informationAdviceguide Advice that makes a difference
Ceir ail-law Pan fyddwch chi n prynu car ail-law, bydd eich hawliau n dibynnu a ydych wedi prynu r car oddi wrth ddeliwr, gwerthwr preifat, mewn ocsiwn neu dros y rhyngrwyd. Prynu oddi wrth ddeliwr- beth
More informationAdroddiad y Prif Arholwr
Adroddiad y Prif Arholwr Arholiadau Aelodaeth Gyflawn Ebrill 2017 Mae Aelodaeth Gyflawn yn cyfateb i aelodaeth gwbl broffesiynol lle nad oes ar yr ymgeisydd angen unrhyw oruchwyliaeth. Disgwylir iddo fedru
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More informationWales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form
Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form This competition is organised by the Engineering Education Scheme Wales on behalf of the Welsh Government to recognise the exciting
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More informationTempled Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer
Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationRhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16
Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16 Awdur Linda Bailey: Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus / Gwybodaeth Iechyd Tynnu data Louise Richards (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) Dadansoddi data Mari Jones (Dadansoddwr
More informationYMDDIRIEDOLAETH ARCHAEOLEGOL CLYWD-POWYS. cylchlythyr. English version available on website. Hydref 2012
YMDDIRIEDOLAETH ARCHAEOLEGOL CLYWD-POWYS cylchlythyr Hydref 2012 1 English version available on website Gwaith pellach yn anheddiad canoloesol yr Hen Gaerwys, Sir y Fflint C ynhaliwyd ail dymor o r prosiect
More informationciwb Beth ydych chi n feddwl o...?
ciwb Beth ydych chi n feddwl o...? Beth ydych chi n feddwl o...? siocled poeth cacen / teisen siocled grawnfwyd siocled creision siocled past dannedd siocled Os ydych chi n hoffi siocled, mae mis Hydref
More informationLlofruddiaeth Tyntila
8 Llofruddiaeth Tyntila Tachwedd 1862 Bron can mlynedd yn ôl, ar y llethr islaw fferm fynydd unig yn y Rhondda, digwyddodd drasiedi a hoeliodd sylw r byd am fisoedd wedi hynny ar bentref bach glofaol Gellidawel,
More informationTechnoleg Cerddoriaeth
Edexcel CE Technoleg Cerddoriaeth Uwch yfrannol Uned 1: Portffolio Technoleg Cerddoriaeth 1 Dyddiad rhyddhau: Dydd wener 11 Medi 2009 Amser: 60 awr Cyfeirnod y Papur 6MT01/01 Rhaid bod gennych: Copi o
More informationadnodd dysgu celf paentiadau plasty margam
adnodd dysgu celf paentiadau plasty margam cynnwys Cynnwys Cyflwyniad Tudalennau 1-10 Golwg ar baentiadau Plasty Margam Tudalennau 11-13 Sut ddaeth y paentiadau i ddwylo r Amgueddfa? Tudalennau 14-15 Croeso
More information1. Cywair and although I am no expert on antiquities, I am always pleased to meet a standing stone or some ancient circle...
YMARFER 3: Sylwadau This year I have done much walking in Snowdonia, and although I am no expert on antiquities, I am always pleased to meet a standing stone or some ancient circle 1 to remind me 2 that
More informationDatrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch
Datrys y dirgelwch.. Drwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Prifysgol Texas, Prifysgol Texas yn Austin tlodi. Mae Tanzania yn wlad fawr yn nwyrain Affrica. Mae ganddi boblogaeth o dros 40 miliwn (mae gan y DU
More informationRwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau
Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau Diolchiadau Hoffen ni ddiolch i r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma. Rydyn ni n arbennig o ddiolchgar i Gwyther Rees o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol
More informationTalu costau tai yng Nghymru
Talu costau tai yng Nghymru Trosolwg Mae r papur hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg 1 a gomisiynwyd ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yr haf diwethaf i bennu i ba raddau y mae pobl
More informationSamplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu
Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Adroddiad ar yr ymgynghoriad Ynglŷn â r ymgynghoriad hwn Mae r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o r ymatebion i r ymgynghoriad ar samplo cofnodion
More informationCloddio Caerau. Prosiect Treftadaeth CAER
Bryngaer Geltaidd Caerdydd Cloddio Caerau Prosiect Treftadaeth CAER Caerdydd Crown Copyright/database right 2012. An Ordnance Survey/EDINA supplied service yw prifddinas ieuengaf Ewrop ac mae ei hanes
More informationBREUDDWYD DR. SUN YAT-SEN
BREUDDWYD DR. SUN YAT-SEN Ar ôl bod yn China am y tro cyntaf yn 1980 addunedais nad awn byth yn ôl. Roedd y bwyd Chineaidd yn Japan yn dderbyniol iawn, ond yr ansawdd a r coginio cymaint salach yn Beijing.
More informationGWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)
GWERS 86 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) Geirfa llyfrgell f - library oriel f - gallery eglwys(i) f - church(es) pont(ydd) f - bridge(s) eglwys - cathedral
More informationGollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068
Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig
More informationAdolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu
Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau
More informationYSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:
YSGOL DYFFRYN CONWY Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau: Arholiadau Llafar, Ymarferol & Asesiadau Dan Reolaeth: 01/01/16-16/05/16 TGAU Haf 2016: 13/05/16-28/06/16 External GCSE Exams Examination
More informationASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005
ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO Hydref Rhagfyr 2005 Wedi ei baratoi ar gyfer: S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru Cyswllt y cleient: Carys
More informationROB PAGE. To find out more on the campaign, competitions, exclusive access to players and latest news, visit
ROB PAGE Vauxhall Motors has been manufacturing and selling cars in the UK since 1903. Just as our vehicles have been part of the fabric of British life for over 100 years, we ve been celebrating Britain
More informationHUMAN ENDEAVOUR YMDRECH DYNOL
HUMAN ENDEAVOUR YMDRECH DYNOL Circular walk/approx 4 Km (2.4 miles)/1.5 hours Taith gylch/tua 4 Km (2.4 milltir )/1.5 awr TREASURE TRAILS LLWYBRAU TRYSOR TREASURE TRAIL TALES STORÏAU TEITHIAU TRYSOR Welcome
More informationBwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter
Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our
More informationRhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Rhif: WG25772 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 18 Rhagfyr 2015
More informationAdroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.
Adroddiad yn dilyn monitro Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY Dyddiad yr ymweliad: gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Hawlfraint
More informationSyniadau Daearyddiaeth Cynradd Cyflym ag elfen hanesyddol
Syniadau Daearyddiaeth Cynradd Cyflym ag elfen hanesyddol Paula Owens Adnodd addysgu Daearyddiaeth Cynradd Teitl: Syniadau daearyddiaeth cyflym ag elfen hanesyddol Cyflwyniad Dyma rai syniadau cyflym ac
More informationMae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.
Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn
More informationAMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016
AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd
More informationNewid hinsawdd tymor hir
Newid hinsawdd tymor hir Davyth Fear Y presennol yw r allwedd i r gorffennol yw un o ddywediadau mynych Daeareg, oherwydd mai astudio r modd y caiff creigiau a thirffurfiau eu creu heddiw yw r unig ffordd
More informationGWERS 95. Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa
GWERS 95 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa pen-blwydd - birthday cyngerdd - concert cwrs - course arholiadau - examinations pennod f - chapter adnod f -
More informationNational Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack
National Youth Orchestra of Wales Auditions 2019 Violin Audition Pack Contents: 2019 Music Ensemble Audition Information Violin Audition Requirements Set Orchestral Excerpts (Violin) Example Marksheet
More informationCANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH
CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,
More informationEAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015
Mathemateg Rhifedd UNED 2 Haen Canolradd EAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015 Cweswn Marc Uchaf Marc yr 1. 6 2. 4 3. 6 4. 17 5. 8 6. 4 7. 5 8. 3 9. 11 10. 5 11. 4 12. 4 13. 3 Cyfanswm
More informationBwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter
Awst August 2012 Bwcabus Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect Llythyr Newyddion Newsletter www.bwcabus.info Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our rural communities
More informationProses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol
1 Sefyllfaoedd a gweithdrefnau Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol Mae'r ddogfen hon ar gyfer pobl sy'n bwriadu cofrestru plaid wleidyddol neu sydd am newid manylion plaid wleidyddol gofrestredig
More informationDarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau
Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau Datganiad Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015 1 Y ddogfen hon Fel rhan o Adolygiad Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus,
More informationCyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd
Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd Cofnodion cyfarfod Grŵp Cyswllt Wylfa Newydd a gynhaliwyd ddydd Iau 20 Hydref yn Ystafelloedd Eleth a Eilian. Yn bresennol Enw Geraint Hughes Jac Jones Jean
More informationDatganiad Technegol Rhanbarthol
Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a De Cymru - Adolygiad Cyntaf- (Prif Ddogfen) Argraffiad Terfynoli w (gymeradwy) - 1 Awst 2014 Gweithgor Agregau Rhanbarthol
More informationAdroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia
TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter
More informationW42 13/10/18-19/10/18
W42 13/10/18-19/10/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Match of the Day Wales 4 Tourist Trap 5 Stand Up at BBC Wales 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Ammanford / Rhydaman 2 Bridgend
More informationNational Youth Arts Wales Auditions 2019
National Youth Arts Wales Auditions 2019 Flute Audition Pack Contents: 2019 Musical Ensemble Audition Information Flute Audition Requirements Set Orchestral and Wind Orchestral Excerpts (Flute) Example
More informationW40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:
W40 1/10/16 7/10/16 Pages/Tudalennau: 2 Alfie s Angels 3 Cardiff Half Marathon 2016 Live 4 X-Ray 5 Fat v Carbs with Jamie Owen 6 Keeping the Euros dream alive 7 Gareth Thomas: Alfie s Angels 8 Pobol y
More informationW50 12/12/15-18/12/15. Pages/Tudalennau:
W50 12/12/15-18/12/15 Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 Wales in the Eighties: The Fight for Survival 4 Coming Home: Iwan Thomas 5 Welsh Sports Review 2015 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:
More informationCanllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid
Etholiad cyffredinol Senedd y DU Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid Rhan 6 o 6 - Ar ôl datgan y canlyniad Tachwedd 2018 Mae'r ddogfen hon yn berthnasol i etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain
More informationBeth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners
********************************************************************************************************* Beth amdani? 2017 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners Eisteddfod Genedlaethol
More informationY Wisg Ysgol. The School Uniform
Y Wisg Ysgol The School Uniform Siaced y Bechgyn / Boys Blazer Winterbottom Knightsbridge Siaced las tywyll gydag ymyl aur a logo r ysgol Blazer with gold piping and school logo Bydd disgwyl i bob disgybl
More informationSUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL
SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 9 March/Mawrth 1-7, 2014 Pages/Tudalennau: 2 Iolo s Welsh Sea 3 The Country Midwives 4 Police 24/7 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth 2 Bangor 2 Cardiff/Caerdydd
More informationPeripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)
North Wales Cancer Service Information Leaflet Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line) This leaflet has been written to give you some general information about PICC lines. It is a guide to help
More informationStudent Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm
Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm Students present: Callum Smith Chiron Hooson David Hooson Emlyn Pratt Esyllt Lewis Jake Smith James Daly Jordan Martin Joshua Green Marcus Connolly Matthew
More informationGwybodaeth i Rieni Parent Information
Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr
More informationMai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL
Ymateb Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drafnidiaeth Cymru Dylunio Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a r Gororau gan gynnwys y Metro Mai 2017 Am fwy o wybodaeth am yr ymateb hwn,
More informationCatchphrase Ysbyty Brynaber - Week 77
Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 77 Key Language Mor + mutation Ar fin Moyn i /eisiau i New Words Straen Wedi blino n lân Anrhegion Treulio Osgoi Cwpla Cymhleth Argol! Gwneud lles i rywun Cymdeithasu
More informationBeth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations
Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods
More informationW39 22/09/18-28/09/18
W39 22/09/18-28/09/18 2 Rhondda Rebel 3 Back In Time for the Factory 4 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Newport / Casnewydd 2 Usk / Brunbuga 2 1 Follow @BBCWalesPress on Twitter to
More informationBI-LINGUAL LANGUAGE POLICY
Appendix 11 Staff Handbook BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY INTRODUCTION Antur Teifi s aim is to follow good practice under the Welsh Language Act 1993 and this policy applies to all our business activities.
More information