YMDDIRIEDOLAETH ARCHAEOLEGOL CLYWD-POWYS. cylchlythyr. English version available on website. Hydref 2012
|
|
- Mabel Candace Craig
- 5 years ago
- Views:
Transcription
1 YMDDIRIEDOLAETH ARCHAEOLEGOL CLYWD-POWYS cylchlythyr Hydref English version available on website
2 Gwaith pellach yn anheddiad canoloesol yr Hen Gaerwys, Sir y Fflint C ynhaliwyd ail dymor o r prosiect gwaith cloddio cymunedol hwn ar y cyd rhwng Cadw a CPAT, â chymorth hollbwysig gwirfoddolwyr lleol am bythefnos yn rhan olaf mis Gorffennaf. Ailagorwyd y ddwy rych a gloddiwyd yn rhannol y llynedd mewn gwahanol rannau o r anheddiad canoloesol anghyfannedd er mwyn eu cwblhau, y naill ar draws clostir gwag, i bob golwg, a r llall ar draws llwyfan tŷ. Agorwyd rhych newydd ar draws pen isaf tŷ petryal hir. Mae n aml yn anodd pennu dyddiadau yn y math hwn o safle ond mae crochenwaith cysylltiedig yn awgrymu ei bod yn bosibl i r adeiladu ddechrau yng nghyfnod y Tuduriaid a bod yr adeilad wedi parhau i gael ei ddefnyddio i r 17eg ganrif ac efallai hyd yn oed i r 18fed ganrif. Ceir mwy o wybodaeth am y prosiect yn Hen Caerwys dig diary ar wefan CPAT. CPAT yn y Sioe Frenhinol... y ffermwyr cynharaf yng nghanolbarth Cymru Am y tro cyntaf y mis Awst hwn, roedd gan yr Ymddiriedolaeth stondin yn y Sioe Frenhinol, yn Llanelwedd, ag arddangosfa o r enw Yn ennill eu plwyf... y ffermwyr cynharaf yng nghanolbarth Cymru a oedd yn canolbwyntio ar waith diweddar rydym wedi bod yn ei wneud i daflu goleuni ar y gyfres hynod o glostiroedd Neolithig ym masn Walton yn nwyrain Sir Faesyfed. Y gobaith yw y bydd yr arddangosfa i w gweld mewn amryw o leoedd eraill, gan gynnwys Amgueddfa Sir Faesyfed, Llandrindod. Ewch i n gwefan i gael copi o r llyfryn sy n cyd-fynd â r arddangosfa.. 2 Lluniau o arddangosfa sy n dangos (y llun uchaf ar y dde) arddulliau crochenwaith o ddechrau, canol a diwedd y cyfnod Neolithig a ddarganfuwyd ym Masn Walton ac (uchod) diagram sy n dangos sut codwyd pyst y gwahanol balisau. Ar y dde Nigel Jones o CPAT (ar y dde) gyda Mr a Mrs Goodwin o Fferm Hindwell yn ymweld ag arddangosfa r Ymddiriedolaeth yn y Sioe Frenhinol.. 3
3 Darganfod mwy am y celc o arian Rhufeinig yn Nhrefaldwyn Y n rhifyn Hydref 2011 o n Cylchlythyr, gwnaethom adrodd ar y celc o arian Rhufeinig roedd Adrian Simmons wedi i ddarganfod ger Trefaldwyn ac ar y gwaith y bu r Ymddiriedolaeth yn ei wneud i adfer y potyn a oedd yn cynnwys gweddill y celc a oedd dal wedi i gladdu yn y ddaear. Ers hynny, mae Edward Besley yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd, wedi bod yn astudio r celc. Erbyn hyn, gwelir bod y celc yn cynnwys cyfanswm o 4,854 o ddarnau arian yn perthyn i flynyddoedd cythryblus y 3edd ganrif (gwelwch y ffotograff gyferbyn). Rhyddhawyd y rhai cynharaf gan yr ymerawdwr Rhufeinig Gordian III a oedd yn teyrnasu rhwng OC. Rhyddhawyd y rhai diweddaraf gan yr ymerawdwr Aurelius a oedd yn teyrnasu rhwng OC, ac mae n bur debyg mai yn ystod ei deyrnasiad ef y cafodd y celc ei gladdu. Mae r tabl isod yn crynhoi r cynnwys ac yn rhoi ciplun o r darnau arian a fyddai wedi bod ym mhwrs Brython Ambueddfa Cymru / National Museum Wales Uchod Rhai o r darnau arian yng nghelc Trefaldwyn. Sylwch fod yr ymerawdwyr ar y darnau arian, fel yn achos llawer o ddarnau arian o r drydedd ganrif, yn aml i w gweld yn gwisgo coron radiate. Ar y dde Y potyn coch y darganfuwyd y celc o arian ynddo. Roedd aradr wedi dal ymyl y potyn rywbryd yn y gorffennol, gan wasgaru rhai o r darnau arian yn y pridd a oedd wedi i aredig. 4 5
4 Rhufeinig yn y cyfnod hwn. Yn arwyddocaol ddigon, roedd bron i ddwy ran o dair o r darnau arian yn y celc yn perthyn i reolwyr yr ymerodraeth Galaidd-Rufeinig a oedd wedi torri n rhydd o r brif ymerodraeth ac a sefydlwyd gan y trawsfeddiannwr Posthumus yn 260 OC, ac a ddychwelodd yn y pen draw i r ymerodraeth Rufeinig ganolog yn 273 OC. Ar ôl i Grwner Powys gynnal cwêst yn y Trallwng ar ddechrau mis Mehefin 2012, datganodd fod y celc yn Drysor. Mae Amgueddfa Powysland yn y Trallwng yn gobeithio y bydd yn gallu cael y celc i w arddangos cyn gynted ag y bydd y darganfyddwr a r tirfeddiannwr wedi derbyn iawndal llawn am ei werth ar y farchnad. I gael gwybod mwy am yr hyn a ystyrir yn Drysor a r hyn y dylech ei wneud pe baech chi n darganfod trysor, gwelwch rifyn Gwanwyn 2010 o n Cylchlythyr (ar gael ar ein gwefan). heb eu hateb o hyd ynglŷn ag union gyddestun ei gladdu, er bod yna awgrymiadau ei fod yn gysylltiedig ag un o r clwstwr o ffermydd amgaeedig a ddarganfuwyd trwy awyrluniau yng nghyffiniau r gaer Rufeinig yng Nghaer Ffordun. Gyda chaniatâd caredig y tirfeddiannwr a chymorth ariannol oddi wrth Cadw, aeth yr Ymddiriedolaeth ati i wneud mwy o waith maes er mwyn ceisio cael gwell syniad o i darddiad. Awgrymodd arolwg geoffisegol o r caeau o amgylch (a welir yn y delweddau isod) fod y celc wedi i gladdu rhwng dau glostir petryal, Rhufeinig mae n debyg, a oedd yn gorgyffwrdd ac a oedd rhwng rhyw 45 a 65 metr ar draws, y lleiaf ohonynt o bosibl yn glostir diweddarach na r un mwy. Gwelwyd yn ystod gwaith cloddio ar raddfa fach bod y ddwy ffos a oedd wedi u torri i r graig ychydig dros fetr o led a hyd at hanner metr o ddyfnder, ac roedd y ddwy yn cynnwys darnau o grochenwaith Rhufeinig. Mae bellach yn eglur bod y potyn a oedd yn cynnwys y celc o arian wedi i gladdu mewn twll bas, naill ai wedi i dorri i mewn i fin allanol y clostir mwy neu, o bosibl, i mewn i gynffon y clawdd a oedd yn gysylltiedig â r clostir llai. Mae n bosibl bod ffosydd y clostiroedd petryal wedi amgáu fferm Rufeinig ond nid ydynt yn rhyw sylweddol iawn felly efallai nad ydynt fawr mwy na rhan o system gaeau Rufeinig fwy helaeth. Mae cyfliniad y system hon yn wahanol i r patrwm caeau cyfoes ond, yn ddiddorol ddigon, mae n rhannu r un cyfeiriad ag olion aredig tebygol sy n dyddio efallai o ddiwedd y cyfnod Rhufeinig neu ddechrau r canol oesoedd a ddaeth i n sylw hefyd trwy r arolwg geoffisegol. f Ar ôl codi r potyn a oedd yn cynnwys y celc o arian o r ddaear roedd yna gwestiynau Uchod Richard Hankinson o CPAT yn gwneud gwaith arolwg geoffisegol gyda magnetomedr yn y cae o amgylch y lle y daeth y celc i r golwg. Ar y chwith Nodweddion Y llun uchaf ar y dde Gwaith cloddio ar claddedig a raddfa fach ar draws ffosydd y clostiroedd ddatgelwyd trwy r mae r saeth yn dangos y twll y daeth y arolwg geoffisegol. celc ohono. Uchod Cynllun deongliadol o r data geoffisegol sydd i w gweld ar y dudalen gyferbyn. 6 7 Adrian Simmons
5 O gwmpas gyda CPAT yn 2012 Gŵyl Archaeoleg Prydain 2012 Profiad Gwaith 2012 Gwnaethom benderfynu bod hyn yn gyfle rhy dda i w fethu, ac felly daeth yn ffocws ar gyfer lleoliadau profiad gwaith eleni. Ymhlith y sgiliau y gwnaeth y myfyrwyr eu dysgu oedd gwneud arolwg a chofnodi, gwneud arolwg geoffisegol, cloddio a hidlo, yn ogystal â thaflu dŵr allan ar ôl cenllif o law! I weld sut hwyl y cafodd y myfyrwyr ar bethau, ewch i w tudalennau gwe ar wefan yr Ymddiriedolaeth dan Profiad Gwaith Am wythnos ym mis Gorffennaf, bu r Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda grŵp o chwech o bobl ifanc o ysgolion yn Llanfair Caereinion, y Trallwng, Trefyclo, Baschurch a Wem i ymchwilio i safle archaeolegol posibl yn Nhreberfedd. Roedd y tirfeddianwyr, Chris ac Alexa Bartram, wedi cysylltu â CPAT oherwydd eu bod mewn penbleth ynglŷn â charreg fawr roeddent wedi dod o hyd iddi wedi i chladdu ar eu tir. Fel rhan o Ŵyl Archaeoleg Prydain eleni, fe drefnodd yr Ymddiriedolaeth daith gerdded dywys o amgylch adfeilion Castell Trefaldwyn ym mis Gorffennaf, a daeth nifer dda o deuluoedd, yn cynnwys pobl o bob oedran, am dro gyda ni. Ar ôl y daith gerdded, manteisiodd rhai o r grŵp ar y cyfle i ymweld ag Amgueddfa r Old Bell yn Nhrefaldwyn, lle mae Ym mis Awst, gwnaethom gynnal Diwrnod Archaeoleg i r Teulu ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn y ganolfan ymwelwyr ger Rhaeadr Gwy. Roedd hyn yn cynnwys crefftau ymarferol a gweithgareddau amrywiol y gwnaeth nifer dda o bobl o bob oedran ymuno â nhw. Ar y chwith Y tîm yn cael hoe fach, gan gynnwys Olly, Steph, Beth, Jacob, Michael a Lauren, gyda Mr Chris Bartram (ar y chwith) a Jeff Spencer o r Ymddiriedolaeth (ar y dde). Ym mis Gorffennaf, â chaniatâd y tirfeddianwyr, ymunodd yr Ymddiriedolaeth â Thwristiaeth Caersws i drefnu ymweliad â bryngaer Cefn Carnedd o r Oes Haearn. Mae r fryngaer, â i sawl gwahanol gyfnod, yn coroni bryn amlwg ychydig i r gogledd o Landinam, ac oddi yno ceir golygfeydd ysblennydd dros Ddyffryn Hafren yn yr ardal o amgylch Caersws
6 Trydydd tymor ym Mhen y Gaer, Sir Frycheiniog Aeth y trydydd tymor o waith cloddio y tu allan i gaer Rufeinig Pen y Gaer rhagddo yng nghanol mis Mehefin gyda chymorth gwirfoddolwyr o Gymdeithas Hanes Lleol Llangynidr, Cymdeithas Hynafiaethol Sir Fynwy, U3A Aberhonddu, a chydag arian oddi wrth Cadw. Mynachod a magnetomedrau yn abaty Ystrad Marchell Yn rhifyn Gwanwyn 2012 o n Cylchlythyr roedd gennym erthygl ar y gwaith arolwg maes a gynhaliwyd ar safle abaty canoloesol coll Ystrad Marchell yng Nghei r Trallwng, i r gogledd o r Trallwng, a sefydlwyd yn 1170 OC. Ers hynny, â chymorth arian oddi wrth Cadw a chaniatâd y tirfeddiannwr, rydym wedi gallu gwneud arolwg geoffisegol helaeth gyda gradiomedr magnetig. Gan gyfuno hyn â chanlyniadau arolwg geoffisegol o eglwys yr abaty gan Arolygon Geoffisegol Bradford, a gomisiynwyd gan Glwb Powysland yn 1990 (gwelwch y ddelwedd isod), mae swm sylweddol o wybodaeth newydd wedi dod i r fei ynglŷn â chynllun yr abaty, a cheir crynodeb o hyn ar y dudalen nesaf. Fel yn achos blynyddoedd blaenorol, targed y gwaith oedd ceisio darganfod graddau a chynllun yr anheddiad sifilaidd Rhufeinig a ddatblygodd ar hyd y ffordd yn rhedeg i r de o borth deheuol y gaer Rufeinig. Yn 2012, fe ailymwelodd y tîm â safle r gwaith cloddio cynharach, yn ogystal â mynd i r afael â dwy ardal newydd gerllaw r ffordd Rufeinig. Datgelwyd sylfeini carreg pellach dau adeilad a oedd gynt yn anhysbys, ac roedd un o r rhain yn cynnwys ffwrn fach, i bobi bara mae n debyg. Roedd yr adeiladau, a oedd â sylfeini carreg isel (sydd i w gweld yn y ffotograffau a ddangosir yma), wedi u hadeiladu, mae n debyg, o bren yn bennaf, gyda tho teils seramig. Ymhlith y darganfyddiadau oedd swm sylweddol o waith metel a chrochenwaith Rhufeinig, gan gynnwys tlws, darn arian a hoelion, a nifer o ddarnau o lestri gwydr. Uchod Canlyniadau cyfunol arolygon geoffisegol ym 1990 a Ar y dde Richard Hankinson o CPAT yn gwneud arolwg geoffisegol yn Ystrad Marchell ym mis Hydref 2012, gyda Bryniau Breidden yn y cefndir
7 Cofnodi neuadd ffrâm bren yng Nglas-hirfryn, Llansilin Yn ystod yr haf a r hydref eleni bu r Ymddiriedolaeth yn gwneud gwaith cofnodi ar adeilad diddorol â ffrâm bren yng Nglas-hirfryn ym mhlwyf Llansilin, yn swatio yn y bryniau ar ymyl ddeheuol mynyddoedd y Berwyn. Roeddem wedi gwneud gwaith tebyg o r blaen ar gwpl o adeiladau pren cyfagos o ddiwedd y canol oesoedd yn Nhyddyn Llwydion ac, yn fwy diweddar, yn Nhŷ-draw (adroddwyd ar hyn yn rhifyn Gwanwyn 2010 o n Cylchlythyr) y ddau ohonynt yn dai neuadd â ffrâm nenfforch, gyda neuadd ganolog yn agored i r to ac aelwyd agored. Graham Moss, Moss Co. Abaty Sistersaidd Abaty Glyn y Groes ger Llangollen, a sefydlwyd ym 1201, rhyw 30 mlynedd ar ôl Ystrad Marchell. Prin iawn yw r olion o r hen abaty sydd i w gweld ar y tir heddiw, ond trwy gyfuno canlyniadau arolwg maes ac arolwg geoffisegol, rydym yn dechrau cael syniad gwell o lawer o gynllun cyffredinol y fynachlog. Mae n siŵr bod hwn, ar un adeg, yn debyg i abatai Sistersaidd Cymreig mwy adnabyddus, fel Abaty Glyn y Groes ac Ystrad Fflur. Mae yna ambell beth sy n dal i fod yn ansicr o ran dehongli a dyddio rhai o r strwythurau a nodwyd, ond gallwn ddechrau gwerthfawrogi n fwy eglur nid yn unig lleoliad eglwys yr abaty a i glawstrau ond hefyd ei gabidyldy, ei ystafelloedd cysgu a i geginau, a u perthynas â ffin y libart ar lannau afon Hafren. Un o r pethau sy n ddiddorol ynglŷn â Glas-hirfryn yw ei bod yn ymddangos mai olynydd cynnar i r tai neuadd cynnar hyn ydyw efallai n dyddio o gyfnod mor gynnar â chanol yr 16eg ganrif gan ei fod wedi i adeiladu o r dechrau ag ystafelloedd uwchben y neuadd ganolog, a chyda simnai. Yn anffodus, mae r tŷ wedi mynd yn adfail dros y blynyddoedd, ac mae rhannau o r adeilad wedi cwympo mewn gwyntoedd mawr yn ddiweddar. Fodd bynnag, mae yna gynlluniau ar y gweill i adfer yr adeilad i gyflwr rhywbeth yn debyg i r hyn a fu. Bu r Ymddiriedolaeth yn gwneud gwaith cofnodi ar y darnau pren sydd wedi cwympo, ac yn Y llun uchaf Darlun pensaer yn dangos sut olwg allai fod ar yr adeilad wedi i adfer. Y llun canol Yr adeilad wedi cwympo, yn ystod gwaith clirio ym mis Gorffennaf Y llun gwaelod Un o byst addurnol y wal.
8 gwneud gwaith cloddio ar ôl-troed yr adeilad i ddysgu mwy am ei gynllun cyn i r gwaith adfer ddechrau. Gwnaed y gwaith â chaniatâd y tirfeddianwyr a chydag arian oddi wrth Cadw, a gwaith ar y cyd ydyw â Chyngor Sir Powys a Cadw, y pensaer Graham Moss a r adeiladwyr, Manor Joinery. Mae staff y Comisiwn Brenhinol hefyd yn chwarae rhan yn y prosiect, a bydd yn comisiynu r gwaith dyddio cylchoedd pren a fydd, gobeithio, yn cadarnhau yn fwy manwl gywir pryd yn union yr adeiladwyd y tŷ. Roedd gwaith pren y tŷ wedi i gerfio n gymhleth ac wedi i addurno ar y tu mewn ac ar y tu allan. Roedd yn amlwg bod adnoddau sylweddol wedi u gwario ar adeiladu r fferm anghysbell hon ar ymylon yr ucheldiroedd, mae n debyg gan ffermwr cefnog a oedd yn rhyddddeiliad. Mae ymchwil hanesyddol ragarweiniol wedi datgelu enw perchennog y tŷ tuag at ddiwedd yr 16eg ganrif Maurice ap Dafydd a oedd wedi priodi aelod o deulu lleol blaenllaw, sef y teulu Wynn o Foelyrch. Gadawyd y tŷ fel annedd yn segur o r diwedd yn y 1960au, pan adeiladwyd y ffermdy presennol, ond mae n amlwg y gwnaed llawer o newidiadau yn ystod y tair canrif roedd pobl yn byw ynddo. yr adeilad pren wedi gorffwys ar waliau sil cerrig hyd at hanner metr o uchder a fyddai wedi ei wneud yn fwy trawiadol fyth o r tu allan. Er gwaethaf y cerfio cyfoethog mae n ddiddorol nodi mai pridd sathredig oedd y lloriau cynharaf, gyda brwyn wedi u gwasgaru drostynt ar un adeg, er ei bod yn amlwg bod teils carreg wedi u gosod i sicrhau bod y to yn dal dŵr. Roedd pobl yn dechrau dewis teils carreg yn lle gwellt i w gosod ar doeau tai lleol yn ystod yr 16eg ganrif. Teils to carreg graddoledig o r adeilad gwreiddiol, mae n debyg, a ailddefnyddiwyd mewn waliau yn ddiweddarach. Capsiwl amser Edwardaidd Darganfuwyd cysylltiad cyfareddol â rhai o r bobl fu n byw yn y tŷ yn y gorffennol pan roedd yn cael ei ddymchwel. Y tu ôl i r wensgot diweddarach yn wal ddwyreiniol y tŷ oedd bwndel o bapurau newydd wedi u clymu n daclus, yn cynnwys yr Oswestry and Border Counties Advertiser dyddiedig 9 Hydref 1907 a chopi o r Gwyliedydd (papur newydd Cymraeg y Methodistiaid Wesleaidd) dyddiedig 3 Hydref Roedd Mary Ann Jones, merch teulu Anghydffurfiol lleol blaenllaw, ac William Williams, Saer, a Margaret Jane Williams wedi llofnodi r bwndel. Mae gwaith yn parhau arno, ac mae manylion diddorol eisoes yn dechrau Y llun uchaf Un o byst y wal ar y llawr gwaelod, wedi i dod i r amlwg ynglŷn â gwahanol gerfio n gain, gyda philastr boglynnog wedi i addurno â gyfnodau ei hanes. Erbyn hyn, mae dail gwinwydd cerfiedig. Y llun canol Wrthi n gweithio yna awgrymiadau bod y tŷ efallai Cnap derw wedi i gerfio n gymhleth a ar y lloriau llechi a theils diweddarach y tu mewn i r tŷ. wedi bod yn fwy yn wreiddiol, gyda oedd arfer addurno canol y nenfwd yn y Y llun gwaelod Gwaith cloddio arbrofol islaw r trawst bae ychwanegol ar yr ochr waered. neuadd ar y llawr gwaelod yng Nglashirfryn, isaf (gwadn haearn) ym mhen dwyreiniol yr adeilad, yn A rhywbeth sy n amlwg nawr, er nad wedi i addurno â dail arddullaidd, datgelu r wal sil wreiddiol. oedd yn amlwg o r blaen, yw bod â rhosyn y Tuduriaid yn y canol
9 Yr Ymddiriedolaeth yn diolch i David Rowlands Ar ôl deng mlynedd ar hugain o wasanaeth rhagorol fel Aelod o r Ymddiriedolaeth a hefyd fel Ymddiriedolwr, gwnaeth David Rowlands ymddeol yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Hydref Hoffai r Ymddiriedolaeth ddiolch i David am bopeth y mae wedi i wneud dros y blynyddoedd, bob amser yn fodlon rhoi o i amser er gwaethaf bywyd prysur ac ymrwymiadau i lawer o sefydliadau eraill. Y llun uchaf David ym mryngaer yr Ymddiriedolaeth yng Nghaer Digoll ger y Trallwng, sef un o r prosiectau y bu ei arbenigedd o fudd mawr iddo. Ar y chwith Gyda chymorth grant oddi wrth Cadw mae r Ymddiriedolaeth yn ddiweddar wedi gallu caffael llain o dir ychwanegol i r dwyrain, sydd i w weld yma yn edrych i r dwyrain i gyfeiriad Bryn Cornatyn a r Stiperstones. Mae r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i r holl dirfeddianwyr a roddodd eu caniatâd i ni gwblhau r prosiectau sydd wedi u disgrifio yn y Cylchlythyr ar eu tir, ac mae n ddiolchgar am gymorth grant oddi wrth Cadw ar ran Llywodraeth Cymru. The Newsletter can be downloaded from Y clawr blaen: Alex, gwirfoddolwr ar y prosiect ar y cyd rhwng Cadw a CPAT yn yr Hen Gaerwys, Sir y Fflint, ym mis Gorffennaf 2012, gyda gên buwch. CPAT The Clwyd-Powys Archaeological Trust 41 Broad Street, Welshpool, Powys, SY21 7RR tel , fax trust@cpat.org.uk website Registered Charity Limited Company
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationStori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.
Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg
More informationSTADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationCloddio Caerau. Prosiect Treftadaeth CAER
Bryngaer Geltaidd Caerdydd Cloddio Caerau Prosiect Treftadaeth CAER Caerdydd Crown Copyright/database right 2012. An Ordnance Survey/EDINA supplied service yw prifddinas ieuengaf Ewrop ac mae ei hanes
More informationThe Life of Freshwater Mussels
The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationHelo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.
BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau
More informationGWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)
GWERS 86 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) Geirfa llyfrgell f - library oriel f - gallery eglwys(i) f - church(es) pont(ydd) f - bridge(s) eglwys - cathedral
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informationAPIAU CYMRAEG. C.Phillips
APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan
More informationRhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16
Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16 Awdur Linda Bailey: Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus / Gwybodaeth Iechyd Tynnu data Louise Richards (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) Dadansoddi data Mari Jones (Dadansoddwr
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informationBriff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur
Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol
More informationAMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016
AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd
More informationOs byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl!
Os byddwch yn colli r rhain, byddwch yn colli r hwyl! Swansea Bay this Easter At last! With a hint of spring in the air, and the days getting longer, the Easter Bunny is almost ready to make his annual
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationYsgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11
Ysgol Dyffryn Conwy Llyfryn Gwybodaeth Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Calendr Dyddiadau Pwysig MEDI 2017 HYDREF 2017 TACHWEDD 2017 1 HMS 1 1 Hanner Tymor 2 2 2 Hanner Tymor 3 3 3 Hanner Tymor 4 HMS 4
More informationAddysg Oxfam
Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 26 June/Mehefin 23-29, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Exhibitionists 3 Crimewatch Roadshow 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More informationTalu costau tai yng Nghymru
Talu costau tai yng Nghymru Trosolwg Mae r papur hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg 1 a gomisiynwyd ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yr haf diwethaf i bennu i ba raddau y mae pobl
More informationCyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid
More informationCanser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales
Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru Cyfadran Deallusrwydd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru Canser
More informationAdnewyddu r Prif Risiau, Castell Rhaglan, Sir Fynwy
Adnewyddu r Prif Risiau, Castell Rick Turner Cadw Cyflwyniad Yn 2011, ailagorwyd y prif risiau yng Nghastell Rhaglan gan wasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw. Roedd y staer hon yn rhan
More informationWeek/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:
Week/Wythnos 41 October/Hydref 11-17 Pages/Tudalennau: The Devil s Vice Lucy Owen: Working Mum Sex Love and Cwtches Cwmderi: Dathlu Deugain Pobol y Cwm at 40 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb:
More informationW46 14/11/15-20/11/15
W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More informationSyniadau Daearyddiaeth Cynradd Cyflym ag elfen hanesyddol
Syniadau Daearyddiaeth Cynradd Cyflym ag elfen hanesyddol Paula Owens Adnodd addysgu Daearyddiaeth Cynradd Teitl: Syniadau daearyddiaeth cyflym ag elfen hanesyddol Cyflwyniad Dyma rai syniadau cyflym ac
More informationW45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:
W45 4/11/17-10/11/17 2 David Hurn: A Life in Pictures 3 James and Jupp 4 Wales Live 5 Shane: For the Love of the Game 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Port Talbot 3 Swansea / Abertawe
More informationEAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015
Mathemateg Rhifedd UNED 2 Haen Canolradd EAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015 Cweswn Marc Uchaf Marc yr 1. 6 2. 4 3. 6 4. 17 5. 8 6. 4 7. 5 8. 3 9. 11 10. 5 11. 4 12. 4 13. 3 Cyfanswm
More informationWales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report
Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation
More informatione SCa P e To DIHanGWCH I 7.5 ml ; 12.0 km 4 : 00 pen y fan pond Country Park car park pwll pen-y-fan Maes parcio Parc Gwledig So
e SCa P e To M anmoel DIHanGWCH I fanmoel 7.5 ml ; 12.0 km 4 : 00 pen y fan pond Country Park car park pwll pen-y-fan Maes parcio Parc Gwledig So 198008 Manmoel inn 01495 371584 + pen y fan leisure park
More information1. Cywair and although I am no expert on antiquities, I am always pleased to meet a standing stone or some ancient circle...
YMARFER 3: Sylwadau This year I have done much walking in Snowdonia, and although I am no expert on antiquities, I am always pleased to meet a standing stone or some ancient circle 1 to remind me 2 that
More informationGWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History
GWERS 90 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Cyflwyno 'I prefer...' Geirfa rygbi -rugby pêl droed - soccer cig eidion -beef persawr - perfume bwyd llysieuol -vegetarian anrheg - present food cawl - soup, broth
More informationGWERS 95. Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa
GWERS 95 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa pen-blwydd - birthday cyngerdd - concert cwrs - course arholiadau - examinations pennod f - chapter adnod f -
More informationNational Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack
National Youth Orchestra of Wales Auditions 2019 Violin Audition Pack Contents: 2019 Music Ensemble Audition Information Violin Audition Requirements Set Orchestral Excerpts (Violin) Example Marksheet
More informationWales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form
Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form This competition is organised by the Engineering Education Scheme Wales on behalf of the Welsh Government to recognise the exciting
More informationW39 22/09/18-28/09/18
W39 22/09/18-28/09/18 2 Rhondda Rebel 3 Back In Time for the Factory 4 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Newport / Casnewydd 2 Usk / Brunbuga 2 1 Follow @BBCWalesPress on Twitter to
More informationBeth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations
Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods
More informationGair o r Garth Garth Grapevine
Côr yr ysgol yn The Gate School Choir performs in The Gate Gair o r Garth Garth Grapevine Rhagfyr December 2017 COFIWCH: REMEMBER: Tymor y Pasg yn cychwyn 8/1/18 Easter term begins 8/1/18 Côr Ysgol Gwaelod
More informationLLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946
LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR Ffatri baco, Amlwch 1938-1942, a rhai misoedd yn c. 1946 Cyfwelai: VN056 Sali (Sarah) Williams Dyddiad: 17: 11: 2014 Cyfwelydd: Kate Sullivan ar
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationGwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work
Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y
More informationNational Youth Arts Wales Auditions 2019
National Youth Arts Wales Auditions 2019 Flute Audition Pack Contents: 2019 Musical Ensemble Audition Information Flute Audition Requirements Set Orchestral and Wind Orchestral Excerpts (Flute) Example
More informationAppointment of BMC Access
August 2009 BMC CYMRU NEXT MEETING TUESDAY 1ST SEPT 8P.M. Vaynol Nant Peris - Free Food - All Welcome Diary Dates North Wales Meeting,1st September, 8.00 pm, The Vaynol, Nant Peris, free food as usual.
More informationCylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau
Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr 2018 + Cynnwys T2: Newyddion a digwyddiadau T4: Diweddariadau cyffredinol T5: Cwrdd â r tîm Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd Blwyddyn Newydd Dda i n darllenwyr i
More informationW6 04/02/17-10/02/17. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:
W6 04/02/17-10/02/17 Pages/Tudalennau: 2 Scrum V Six Nations Special 3 X-Ray 4 Gareth Wyn Jones - Milk Man 5 Cardiff: Living on the Streets 6 Wales Women: Inside the Scrum 7 Weatherman Walking 8 Pobol
More informationAddewid Duw i Abraham
Beibl i Blant yn cyflwyno Addewid Duw i Abraham Awdur: Edward Hughes Lluniau gan: Byron Unger; Lazarus addaswyd gan: M. Maillot; Tammy S. Cyfieithydd: Catrin Roberts Cynhyrchwyd gan: Bible for Children
More informationPwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16
Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Aelodau Yn Bresennol / Members Present Cyngh / Cllr Eryl Jones Williams (EJW) O.G Thomas
More informationBeth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners
********************************************************************************************************* Beth amdani? 2017 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners Eisteddfod Genedlaethol
More informationARWEINLYFR I FYFYRWYR
ARWEINLYFR I FYFYRWYR HŶN Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 www.bangor.ac.uk www.facebook.com/prifysgolbangor @prifysgolbangor Mae r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i
More informationPARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES
Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!
More informationThe. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from
The CAMPSITE toolkit A rough guide to setting up a new campsite Produced by and with support from We are Creative Rural Communities; the Vale of Glamorgan Council s Rural Regeneration initiative. In short
More informationAdviceguide Advice that makes a difference
Ceir ail-law Pan fyddwch chi n prynu car ail-law, bydd eich hawliau n dibynnu a ydych wedi prynu r car oddi wrth ddeliwr, gwerthwr preifat, mewn ocsiwn neu dros y rhyngrwyd. Prynu oddi wrth ddeliwr- beth
More informationW44 27/10/18-02/11/18
W44 27/10/18-02/11/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Tourist Trap 4 The Tuckers 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Blaenau Gwent 2 Cardiff / Caerdydd 2 Machen 2 Newport / Casnewydd
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 9 March/Mawrth 1-7, 2014 Pages/Tudalennau: 2 Iolo s Welsh Sea 3 The Country Midwives 4 Police 24/7 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth 2 Bangor 2 Cardiff/Caerdydd
More informationBwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter
Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our
More informationHawliau Plant yng Nghymru
Hawliau Plant yng Nghymru Hawliau Plant yng Nghymru Hydref 18 Cyflwyniad Mae ychydig dros 550,000 o blant 0-15 oed yn byw yng Nghymru, ac mae 350,000 arall rhwng 16 a 24 oed. 1 Gan mai fi yw, fy rôl i
More informationRoom Configurations and Capacities Trefn a Chapasiti Ystafelloedd
Welcome Croeso 1 Room Configurations and Capacities Trefn a Chapasiti Ystafelloedd Guest Tower Rooms Y Twr ^ Gwesteion Undercroft Yr Is-grofft Banqueting Hall Y Neuadd Wledda Interpretation Centre Ground
More informationSamplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu
Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Adroddiad ar yr ymgynghoriad Ynglŷn â r ymgynghoriad hwn Mae r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o r ymatebion i r ymgynghoriad ar samplo cofnodion
More informationMae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.
Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn
More informationASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005
ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO Hydref Rhagfyr 2005 Wedi ei baratoi ar gyfer: S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru Cyswllt y cleient: Carys
More informationW40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:
W40 1/10/16 7/10/16 Pages/Tudalennau: 2 Alfie s Angels 3 Cardiff Half Marathon 2016 Live 4 X-Ray 5 Fat v Carbs with Jamie Owen 6 Keeping the Euros dream alive 7 Gareth Thomas: Alfie s Angels 8 Pobol y
More informationW42 13/10/18-19/10/18
W42 13/10/18-19/10/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Match of the Day Wales 4 Tourist Trap 5 Stand Up at BBC Wales 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Ammanford / Rhydaman 2 Bridgend
More informationVOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)
VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) 1978 1990 Cyfwelai: VSW066 Enid Mary Thomas Dyddiad Geni: 20.9.1937 Dyddiad: 4.9.14 Cyfwelydd:
More informationPolisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch
Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi
More informationYSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:
YSGOL DYFFRYN CONWY Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau: Arholiadau Llafar, Ymarferol & Asesiadau Dan Reolaeth: 01/01/16-16/05/16 TGAU Haf 2016: 13/05/16-28/06/16 External GCSE Exams Examination
More informationNewyddion Ansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru
Newyddion Ansawdd Rhifyn 29 Gorffennaf 2011 Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru Mynychwyr yn y digwyddiad CRAE Yn ddiweddar cynhaliodd Prifysgol Cymru o addysg, mae Safonau fel arfer
More informationCalon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April
Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April 2016 Grŵp Cynefin Mwy na thai / More than housing Grŵp Cynefin www.grwpcynefin.org post@grwpcynefin.org Ffôn/Phone: 0300 111 2122 Ffacs/Fax: 0300
More informationadnodd dysgu celf paentiadau plasty margam
adnodd dysgu celf paentiadau plasty margam cynnwys Cynnwys Cyflwyniad Tudalennau 1-10 Golwg ar baentiadau Plasty Margam Tudalennau 11-13 Sut ddaeth y paentiadau i ddwylo r Amgueddfa? Tudalennau 14-15 Croeso
More informationPecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack
Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Urdd National Eisteddfod Business Pack Beth yw Eisteddfod yr Urdd? Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl flynyddol sy n ddathliad o r iaith Gymraeg, y diwylliant a
More information+ Digwyddiadau Ymweld â Phrifysgol Bangor
+ Cynnwys T1: Digwyddiadau T2: Yr offer holi T3: Cipolwg T4: Cwrdd â r tîm T5: Hwyl fawr a helo T6: Cysylltu â ni + Digwyddiadau Ymweld â Phrifysgol Bangor Yn ddiweddar, bu Dawn Knight, Paul Rayson a Steve
More informationSummer Holiday Programme
Summer Holiday Programme for Flintshire Leisure Centres Our fantastic summer holiday programme for each of our four leisure centres www.flintshire.gov.uk Like Follow us Deeside Leisure Centre - 01352 704200
More informationciwb Beth ydych chi n feddwl o...?
ciwb Beth ydych chi n feddwl o...? Beth ydych chi n feddwl o...? siocled poeth cacen / teisen siocled grawnfwyd siocled creision siocled past dannedd siocled Os ydych chi n hoffi siocled, mae mis Hydref
More informationDiweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018
Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018 Mae'r diweddariad hwn yn rhoi gwybodaeth a gafwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yng nghyfarfod bwrdd crwn CHC a DWP, cyfarfod Strategol Landlordiaid Sector
More informationStudent Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm
Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm Students present: Callum Smith Chiron Hooson David Hooson Emlyn Pratt Esyllt Lewis Jake Smith James Daly Jordan Martin Joshua Green Marcus Connolly Matthew
More informationAdroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia
TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter
More informationTempled Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer
Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationHERITAGE NEWS NEWYDDION TREFTADAETH
HERITAGE NEWS NEWYDDION TREFTADAETH BLAENAVON WORLD HERITAGE SITE NEWSLETTER ISSUE 20 SUMMER 2015 CYLCHLYTHYR SAFLE TREFTADAETH Y BYD BLAENAFON RHIFYN 20 HAF 2015 Blaenavon Welcomes the World Coresawu
More information8th March 2018 The thirteenth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Institute, Pontarddulais
8th March 2018 The thirteenth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Institute, Pontarddulais Attendees Cllr Paul Northcote, Mawr Community Council Emma North, Planning, City and
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 17 April/Ebrill 21-27, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Elizabeth s Wales 3 They Sold A Million: Ricky Valance 4 Connie s People 5 Scrum V Live: Blues v Edinburgh 6 BBC National Orchestra of Wales
More informationNatWest Ein Polisi Iaith
NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600
More informationCanllaw Gwylio Cymylau
Canllaw Gwylio Cymylau Croeso Alexander Armstrong Carol Kirkwood Chris Hollins ii Yn y wlad hon rydym i gyd yn gyfarwydd iawn â chymylau, felly mae Tîm Tywydd Gwych Prydain wedi ffurfio r canllaw hwn.
More informationNetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community
More informationDysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU
Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion
More informationBeth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners
********************************************************************************************************* Beth amdani? 2016 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners 2 Beth amdani? 3 Croeso
More informationAdolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu
Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau
More informationCymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:
Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau ac Ymarfer i Brifysgolion helpu Myfyrwyr sy n Gofalu gael Mynediad i a Llwyddo mewn Addysg Uwch Cymru Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
WHC/2016/036 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi: 30 Medi 2016 Teitl: Tystysgrif Nam ar y Golwg Cymru STATWS: CYDYMFFURFIO CATEGORI: POLISI Dyddiad dod i ben / Adolygu Amherthnasol I w weithredu
More informationTrysorau r tymor. garddfotaneg.cymru. Ffrwythau r hydref yn eu gogoniant. Sicrhau dyfodol i n planhigion cynhenid
garddfotaneg.cymru Yr Ardd CYLCHGRAWN I AELODAU RHIFYN 28 HYDREF/GAEAF 2017/2018 Trysorau r tymor Ffrwythau r hydref yn eu gogoniant Sicrhau dyfodol i n planhigion cynhenid Mêl yn dangos lle bu r gwenyn
More informationDatrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch
Datrys y dirgelwch.. Drwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Prifysgol Texas, Prifysgol Texas yn Austin tlodi. Mae Tanzania yn wlad fawr yn nwyrain Affrica. Mae ganddi boblogaeth o dros 40 miliwn (mae gan y DU
More informationCANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH
CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,
More informationMAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu
Yr MAWR Your guide your to getting hool primary sc involved w i gael a l l n a c h c i E radd n y g l o g s y eich i gyfrannu with gyda The BIG Raise lots with spots and help change the lives of disadvantaged
More informationGollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068
Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig
More informationWALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA
FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v BOSNIA & HERZEGOVINA 07.06.2018 Liberty Stadium Swansea Kick Off 7pm FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v RUSSIA 12.06.2018 Newport Stadium Newport
More information