Bwletin Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru, Mawrth 2017
|
|
- Silvia Craig
- 5 years ago
- Views:
Transcription
1 Bwletin Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru, Mawrth 2017 Rhwydwaith genedlaethol yw Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru (OLW) sy n cael ei chefnogi gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Amcan OLW yw hyrwyddo dealltwriaeth, gwerthfawrogiad a rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol Cymru trwy fanteisio ar arbenigedd, gwybodaeth ac ysbrydoliaeth ystod eang o bartneriaid, arweinwyr ac addysgwyr. Nod y bwletin hwn yw hysbysu aelodau Cymru am newyddion, prosiectau a mentrau sy n ymwneud â rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR). Diweddariad OLW: Mae r gwanwyn ar droed o r diwedd! Mae llwyth o blanhigion yn dechrau estyn eu pennau trwy r pridd a phob creadur yn prysur baratoi am brysurdeb y tymor. Gyda chymaint o gyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau! Braf iawn yw gweld cymaint o grwpiau rhwydweithio OLW yn cynnal cyfarfodydd i roi trefn ar faterion gweinyddu a chyllid ers y newidiadau i gefnogaeth lefel isaf y CNC. Mae r defnydd o gyfryngau cymdeithasol i rannu dyddiadau cyfarfodydd yn ymddangos fel ffordd effeithiol o gysylltu ag aelodau newydd. Braf hefyd yw clywed fod dau gyn-grŵp yn bwriadu ail-ddechrau, gan brofi bod cynulleidfa leol ar gyfer hyrwyddo addysg awyr agored. Mae OLW wrthi n cydweithio â r ddau grŵp er mwyn iddynt allu ail-sefydlu. Gwefan OLW: Mae r wybodaeth ynglŷn â r cynlluniau grant angen ei ddiweddaru, wrth gywiro hyn rydym yn gobeithio ychwanegu gwybodaeth ynglŷn â r elfennau ariannu cyfatebol/mewn nwydd o r Grant Prosiect Cyfarfodydd Grŵp Rhwydwaith: Maldwyn OLW Dyddiad: 08/03/17, Lleoliad: Tafarn Smithfield, Y Trallwng, Amser: 4.30pm Ynys Môn OLW - Dyddiad: 14/03/17, Lleoliad: Llwynonn, ger Llanfairpwll, Amser: 10am Gwynedd OLW Dyddiad: 15/03/17, Lleoliad: Gerddi Botaneg Treborth, Bangor, Amser: 4pm Egin Conwy OLW Dyddiad: 05/04/17, Lleoliad: Coed Llanrhos, ger Llandudno, Amser: 4.30pm Hyfforddiant: Dysgu am Lifogydd Defnyddio Llifogydd fel testun i gyrraedd y cwricwlwm ehangach. Gweithgareddau wedi eu hanelu at CA2, ond gyda modd addasu ar gyfer defnydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Dyddiad: 23 Mawrth, pm Lleoliad: Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy Pris Am Ddim Cyswllt: Datblygu eich Adnoddau Naturiol ar gyfer Addysg Mewn partneriaeth â Techniquest. Dyddiad: 22 Mawrth De Cymru. 6 Ebrill Gogledd Cymru. Cyswllt: andrea@techniquest.org Peidiwch anghofio fod OLW ar Twitter a Facebook, gyda digon o weithgareddau ymarferol a thrafodaethau difyr
2 Rysáit y Mis Cawl Danadl Poethion Dwy daten Un nionyn Dwy neu dair cenhinen Dau ewin garlleg. Dail ifanc o ben y danadl (efallai bydd angen oedolyn i oruchwylio), Litr o stoc cyw iâr neu lysiau Olew olewydd Golchwch y danadl dan ddŵr oer. Torrwch y nionod, tatws, cennin a garlleg a u ffrio mewn olew olewydd neu fenyn gan ddefnyddio sosban fawr. Unwaith y byddant wedi dechrau brownio ychwanegwch y danadl a u cymysgu n dda. Ychwanegwch y stoc. Berwch y cymysgedd ac yna ei fudferwi nes bydd y tatws wedi coginio. Rhowch y cymysgedd mewn prosesydd bwyd a i hylifo. Ychwanegwch halen/pupur/nytmeg fel y mynnwch. Gweinwch gyda bara ffres, ychydig o gaws neu lwyaid o crème fraiche Dyfyniad y Mis Arafwch lif y dydd, a rhowch amser i r plant gael chwarae, darganfod ac anturio ym myd natur. Michael Barton Gweithgaredd y Mis Troi r Tarpolin Gweithgaredd gwych i wella sgiliau cydweithio a chyfathrebu. Bydd angen 1 tarpolin ar gyfer pob 6-10 chwaraewr. Gosodwch y tarpolin yn wastad ar y llawr a chael pawb i sefyll arno. Eich nod fydd troi r tarpolin drosodd heb i unrhyw un gamu oddi arno. I wneud y gêm yn anoddach, beth am rasio yn erbyn tîm arall neu beidio â defnyddio r llais i gyfathrebu? Tracey Maciver Ffaith y Mis Wyddoch chi y gall jiraff neu lygoden fawr fyw heb ddŵr yn hirach na chamel? Planhigyn y Mis Llygad Ebrill / Ficaria verna Planhigyn lluosflwydd yw Llygad Ebrill sydd wastad ymysg blodau cyntaf y flwyddyn mewn coetiroedd - yn aml i w gweld yn garped melyn o dan y coed. Wyth i ddeuddeg petal sydd ar y blodyn, gyda choesyn hir a dail sgleiniog siâp calon. Peidiwch â i gymysgu gyda Llysiau r Wennol (Chelidonium majus). Er bod y ddau flodyn yn rhannu r enw Celandine yn Saesneg, nid ydynt yn perthyn i w gilydd. Aelod o deulu r Pabi yw Llysiau r Wennol, mae n tyfu n dalach na Llygad Ebrill, gan gyrraedd uchder o tua 90cm. Dim ond pedwar petal sydd i w blodau melyn ac mae r dail yn llabedog. Hoff gynefinoedd Llygad Ebrill yw r llwybrau gwlyb trwy goedwigoedd ac ymylon nentydd, ond gall dyfu n dda hefyd yng nghysgod cloddiau, dolydd a gerddi. Fel arfer bydd yn dechrau blodeuo rhwng Ionawr ac Ebrill. Am eu bod ymysg y blodau cyntaf i ymddangos ar ôl y gaeaf, maent yn ffynhonnell bwysig o neithdar i freninesau cacwn a phryfaid cynnar eraill wrth iddynt ddeffro o u gaeafgwsg.
3 Mae rhai n credu y gellir defnyddio Llygad Ebrill i ddarogan glaw am eu bod yn cau eu petalau cyn i r dafnau ddisgyn. Roedd y blodau yn cael eu defnyddio hefyd i drin clwyf y marchogion a chânt eu hadnabod weithiau yn Saesneg fel Pilewort. Maent yn llawn fitamin C, a defnyddiwyd hwy i atal y clefri poeth (sgyrfi).. Roedd y bardd, William Wordsworth, mor hoff o Lygad Ebrill nes iddo ysgrifennu tair cerdd amdanynt: The Small Celandine, To The Same Flower a To The Small Celandine. To the small celandine Pansies, Lilies, Kingcups, Daisies, Let them live upon their praises; Long as there's a sun that sets Primroses will have their glory; Long as there are Violets, They will have a place in story: There's a flower that shall be mine, 'Tis the little Celandine. Rhywogaeth y Mis Llyngyr Creigres Grwybr / Sabellaria Alveolata Llyngyren wrychog ydi r Llyngyren Creigres Grwybr, sy n byw mewn tiwbiau ac yn creu creigresi (reefs). Ar ddechrau eu cylch bywyd maent yn bodoli fel larfa planctonig, ond ar ôl metamorffosis byddant yn troi n llyngyren ac yn sefydlogi. Fel llyngyren byddent yn creu tiwb o ddefnydd tebyg i bapur ac yn ei gryfhau trwy ludo tywod arno. Wrth dyfu a datblygu byddant yn ymestyn y tiwb trwy ludo mwy o dywod iddo. Dim ond y pen a thentaclau sydd i w gweld o ben y tiwb, gan gynnig lloches rhag ysglyfaethwyr. Os bydd y boblogaeth yn ddigon dwys, bydd y tiwbiau yn ffurfio n agos at ei gilydd mewn creigresi sy n edrych yn debyg i grwybr gwenyn (honeycomb) - a dyna sut y cânt eu henw. Er nad ydy llyngyr unigol yn anghyffredin, mae ffurfiant creigresi yn brin yn y DU. Yng Nghymru maent yn nodwedd o dair Ardal Gadwraeth Arbennig a 26 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, lle cânt eu gwarchod trwy reoli gweithredoedd niweidiol. Ynghyd â hyn y mae gan Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU (UK BAP) Gynllun Gweithredu ar gyfer Cynefin ar gyfer y creigresi, ac mae r creigresi wedi u rhestru yn rhan 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) Yng Nghymru y mae creigresi Sabellaria alveolata yn gorchuddio 469ha o r ardal rynglanw. Maent i w cael ym Mae Ceredigion ac ar hyd arfordir y Gogledd a r De. Yn aber Hafren maent i w cael yn is-lanw yn ogystal. Dyma r unig safle yn y DU ble mae hyn i w weld, fel rheol rhywogaeth arall o Saballaria sy n gyfrifol am greigresi is-lanw. Gall strwythur y creigresi fod hyd at 50cm o drwch, gan ffurfio twmpathau, cynfasau a strwythurau mwy fyth. Maent i w cael fel arfer ar ochr isaf y lan, ond gallent fodoli o farc uchaf llanw bach (neap) hyd at ardaloedd is-lanw bas (ac eithrio aber a môr Hafren). Ffurfir y creigresi ar amrywiaeth o is haenau caled, o gerrig mân i r creigwely, gan ffafrio arfordiroedd agored. Mae presenoldeb tywod yn bwysig er mwyn i r llyngyr ffurfio eu tiwbiau. Am eu bod yn cynnig lloches ac yn cynyddu ffynonellau bwyd y mae r creigresi yn cael eu cyfrif fel cynefin pwysig iawn, gan wella amrywiaeth a niferoedd rhywogaethau eraill. Maent yn cynnal ystod eang o infertebratau, gwymon, molysgiaid, cramenogion ynghyd â chreaduriaid morol eraill. Er hyn, nid oes gennym lawer o wybodaeth am ddatblygiad y cymunedau is-lanw. Byddai r creigresi hŷn yn cynyddu bioamrywiaeth a sefydlogrwydd beth a fyddai fel arall yn greigiau a chlogfeini treuliedig. Mae rhywogaethau biogenig sy n ffurfio creigresi yn hynod bwysig i w cynefinoedd ac i r rhywogaethau sydd yn byw yno. Os collir yr adeiladwyr, fel y llyngyren greigres, gall cyfansoddiad y gymuned newid yn llwyr. Yn y gorffennol cafwyd adroddiadau o golledion ym maint y creigresi yng Ngogledd Cymru ac aber Dyfrdwy, rhywbeth all fod yn gysylltiedig â gaeafau oer iawn, ond eu bod wedi eu hadfer ers hynny. Collwyd ardaloedd mawr o greigresi Sabellaria alveolata yn ystod gaeaf ffyrnig Harriet Robinson, Maritime and Coastal Network
4 Ffaith y Mis Y mae teulu r Genhinen Pedr wedi i enwi ar ôl cymeriad o chwedloniaeth Roegaidd, Narcissus, a ddisgynnodd mewn cariad â i adlewyrchiad ei hun. Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy Mae Plantlife Cymru wrthi n creu adnoddau dysgu trwy ddatblygu prosiect am ffwng. Ffocws y prosiect yw madarch cap cŵyr, sydd â lliwiau a gweadau difyr. Maent yn bwysig o safbwynt cadwriaethol am fod eu cynefin dan fygythiad - glaswellt byr yw r cynefin ffafredig, ond mae aredig a gwrtaith amaethyddol yn debygol o u lladd. Gall gymryd rhwng 60 a 100 o flynyddoedd i r madarch ddychwelyd i safle ar ôl i r tir gael ei drin yn y fath fodd, felly maent yn enghraifft dda o rywogaeth ddangosol. Mae cyfle i greu adnoddau dysgu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, CA2 hyd at TGAU a Lefel A. Amcan yr adnoddau fyddai datblygu rhifedd cymhwysol, sgiliau llythrennedd, defnyddio gwaith maes a thechnoleg gwybodaeth ynghyd â gwybodaeth wyddonol. Os oes gennych ddiddordeb datblygu neu dreialu r adnodd, neu drefnu digwyddiad hyfforddi yn ymwneud â r adnodd ar gyfer eich aelodau lleol yn 2018, cysylltwch â: Anita.Daimond@plantlife.org.uk / Cyrsiau/Digwyddiadau: Ymddiriedolaeth Plas Derw Aelod o Rwydwaith Hyfforddiant Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Archwilio Straeon yn y Goedwig Dyddiad: 22 Mawrth Pris: 75 Datblygiad Safle Dyddiad: 4 Ebrill Pris: 75 LNF yn yr Awyr Agored Dyddiad: 25 Ebrill Pris: 50 Natur mewn Geiriau a Rhifau Dyddiad: 21 Mawrth Pris: 75 y person 101 peth i w wneud yn yr Awyr Agored Dyddiad: 15 Mawrth Pris: 75 y person, Ffeithiau r Fforest Dyddiad: 14 Mawrth Pris: 75 y person, Codio Concyrs Cyflwyno egwyddorion codio sylfaenol heb gyfrifiaduron Dyddiad: 28 Mawrth Pris: 50 Lleoliad: Prifysgol Glyndwr, Campws Northop Dyfarniad mewn Arfer Awyr Agored Lefel 2 Dyddiadau: 9 Mawrth & 5 Ebrill Pris: 280 Dyfarniad mewn Cydgysylltu Cwricwlwm Awyr Agored Lefel 3 Dyddiadau: 9 Mawrth, 5 a 6 Ebrill Pris: 380
5 Cyswllt: Cyfle am swydd - mae angen staff contract ychwanegol ar gyfer rhai sesiynau a thripiau. CA1, 2 neu oedolion. Cyswllt: Carolyn Burkey, Cambium Sustainable Aelod o Rwydwaith Hyfforddiant Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Lefel 2 Hyfforddiant Ymarferydd Dysgu Awyr Agored Dyddiadau: 18 & 19 Mai + cyfnos yr 28 Medi Pris: TAW Lleoliad: Forest Farm, Caerdydd Cyswllt: Ysgol Goedwig SNPT- Aelod o Rwydwaith Hyfforddiant Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Arwain Ysgol Goedwig Dyddiadau: 6-8 Mawrth a 3-5 Ebrill 2017 Lleoliad: Abertawe Cyswllt: info@forestschoolsnpt.org.uk/ Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent Dyfarniad mewn Arfer Dysgu yn yr Awyr Agored Lefel 2 Dyddiad: 9, 16 Mawrth, 8 Mehefin Pris: 300 Diwrnod Hwyl y Gwanwyn Dyddiad: 8 Ebrill 1-4pm Pris: Plant 2. Cyswllt: magormarsh@gwentwildlife.org Llwybr Cerdded Arfordirol Magwyr i Allteuryn Dyddiad: 27 Mawrth 11-4pm yn dechrau yng Nghors Magwyr. Pris: Aelodau GWT - 10; pobl nad ydynt yn aelodau 15. Bwcio yn hanfodol Canolfan ar gyfer Egni Amgen Cysylltiad Natur Dyddiad: 8 10 Ebrill Pris: y diwrnod. Cyswllt: courses@cat.org.uk / Cyfrifiad Grifft Big Spawn Count Byddwch yn rhan o r cyfrifiad y gwanwyn yma: Coed Lleol Mindfulness in the Woods Sesiwn flasu undydd. Dyddiad: 10 Mawrth Lleoliad: Gwarchodfa Natur Taf Fechan Cyswllt: actifwoodsmerthyr@smallwoods.org.uk Cors a Choetir Outlook Cwrs Cymorth Cyntaf yn yr Awyr Agored 2 ddiwrnod TGCh achrededig. Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys elfennau a chymwysterau Ysgol Goedwig ychwanegol ar gyfer y bobl hynny y bydd eu hangen arnynt. Dyddiad: Mawrth Pris: Lleoliad: Wrecsam Cyswllt: /mary@one-two-tree.co.uk
6 Llen Natur Rhifyn diweddaraf newyddion natur yng Nghymru. Cyswllt: Bioamrywiaeth Cymru/Wythnos Natur Dathlwch amrywiaeth a harddwch byd natur Cymru Dyddiad: 3 11 Mehefin Cyswllt: Rooted Forest School Mathemateg a Llythrennedd yn yr Awyr Agored Dyddiad: 23 Mawrth Pris: 60 Lleoliad: Swydd Henffordd Arweinydd Ysgol Goedwig lefel 3 Dyddiad: 27, 28 Mawrth, 3, 4, 7, 24 a 25 Ebrill Pris: 800 Lleoliad: Llanllieni Cynorthwyydd Ysgol Goedwig lefel 2 Dyddiad: 27, 28 Mawrth, 3, 24 Ebrill 2017 Pris: 400 Lleoliad: Llanllieni Cyswllt: ww.rootedforestschool.co.uk Ecosia Peiriant chwilio sy n rhoi 80% o i elw o hysbysebion tuag at blannu coed. Ymddiriedolaeth Penllergare Cyfres o sesiynau hyfforddi ecoleg undydd. Lleoliad: Coed Cwm Penllergare Pris: 35 y sesiwn. Cyswllt: contact@penllergare.org / Dyddiadau: 4 Mawrth Adeiladu Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth 11 Mawrth Athroniaeth Plannu Ecolegol 18 Mawrth Newid Hinsawdd 25 Mawrth Coetir Hynafol Ignite Up Ladybirds Tymor y Gwanwyn, Rhiant a Phlentyn Dyddiad: April 10 Gwersyll Antur y Pasg (8-12 oed) Dyddiad: Ebrill 8-10 & Cymorth Cyntaf Ysgol Goedwig TGCh - Lefel 2 Dyddiad: 9 a 10 Mawrth Cymorth Cyntaf Brys Pediatrig TGCh Dyddiad: 13 Mawrth Cymorth Cyntaf Pediatrig TGCh - Lefel 3 Dyddiad: 13 a 14 Mawrth Mathemateg Anniben Dyddiad: 17 Mawrth Lleoliad: Cwmdâr Cyswllt: info@igniteup.co.uk
7 Cynhadledd FEN Dyddiad: 23 Mawrth Pris: 50 Lleoliad: Bishops Wood Cyswllt: Grow Wild Gwobrwyo 500 i bobl ifanc rhwng oed i arwain prosiectau sydd yn gwella ymwybyddiaeth o bwysigrwydd blodau a phlanhigion cynhenid i r DU. Y mae dwy ffrwd ariannu - Transform a Space a Get Creative. Environet Capacity Building Gwneud cais a gwneud y gorau o nawdd. Nawdd perthnasol ar gael ar gyfer prosiectau. Deddf Llesiant Cenedlaethau r Dyfodol. Dyddiad: 23 Mawrth, Caerdydd / 28 Mawrth, Llandrindod / 30 Mawrth, Wrecsam Pris: Am Ddim Cyswllt: environet@wcva.org.uk Cysylltwch â ni: Karen Clarke Cydlynydd Cenedlaethol Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru / outdoorlearningwales@naturalresourceswales.gov.uk Cyfraniadau: Cyflwynwch awgrymiadau am gynnwys neu eitemau o ddiddordeb ar gyfer bwletinau i ddod erbyn 20 o r mis. Mae r holl gyflwyniadau yn amodol ar gymeradwyaeth y Cydlynydd. Ymwadiad: Nid yw Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru na Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am gynnwys, safon neu ddibynadwyedd y gwefannau, y cyrsiau neu r adnoddau cysylltiedig yn y bwletin hwn o ffynonellau allanol. Ni ddylid ystyried eu cynnwys yn gefnogaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig. Dad-danysgrifio: Os nad ydych chi n dymuno bod yn rhan o E-Grŵp Pawb Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru mwyach, gallwch ddad-danysgrifio trwy yrru e-bost at: outdoorlearningwales@naturalresourceswales.gov.uk
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationAPIAU CYMRAEG. C.Phillips
APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan
More informationSTADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationThe Life of Freshwater Mussels
The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell
More informationYsgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11
Ysgol Dyffryn Conwy Llyfryn Gwybodaeth Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Calendr Dyddiadau Pwysig MEDI 2017 HYDREF 2017 TACHWEDD 2017 1 HMS 1 1 Hanner Tymor 2 2 2 Hanner Tymor 3 3 3 Hanner Tymor 4 HMS 4
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationBwletin Mai 2017 Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru
Bwletin Mai 2017 Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Mae Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn rhwydwaith cenedlaethol, a hwylusir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn anelu at gynyddu
More informationOs byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl!
Os byddwch yn colli r rhain, byddwch yn colli r hwyl! Swansea Bay this Easter At last! With a hint of spring in the air, and the days getting longer, the Easter Bunny is almost ready to make his annual
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More informationHelo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.
BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau
More informationCyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationAMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016
AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd
More informationSESIWN HYFFORDDI STAFF
SESIWN HYFFORDDI STAFF i Mae r canlynol yn ymarferion i staff eu defnyddio i baratoi i gyflawni rhaglen. Gellir defnyddio ymarferion fel rhan o ddiwrnod HMS/hyfforddiant. Mae n bosibl y byddwch eisiau
More informationStori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.
Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg
More informationGwybodaeth i Rieni Parent Information
Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr
More informationSummer Holiday Programme
Summer Holiday Programme for Flintshire Leisure Centres Our fantastic summer holiday programme for each of our four leisure centres www.flintshire.gov.uk Like Follow us Deeside Leisure Centre - 01352 704200
More informationRhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on
Rhondda Cynon Taf Learning Festival Adult Learners Week 18-26 May 2013 Events are FREE! *unless otherwise stated What s on 800 fun learning events and taster sessions Wales-wide Over 20,000 people across
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationBeth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations
Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods
More informationPARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES
Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!
More informationAddysg Oxfam
Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd
More informationDysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU
Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer
More informationWales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report
Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places
More informationBwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter
Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our
More informationWelsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport
#amdani Y Gymraeg: Amdani! Defnyddio r Gymraeg mewn chwaraeon Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport Mae defnydd naturiol o r iaith yn hollbwysig boed mewn cynhadledd i r wasg neu ar grysau
More informationW46 14/11/15-20/11/15
W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil
More informationCryphaea lamyana: the multi-fruited river-moss Cryphaea lamyana: y mwsogl afon lluosffrwyth
BACK FROM THE BRINK MANAGEMENT SERIES CYFRES RHEOLAETH BACK FROM THE BRINK the multi-fruited river-moss y mwsogl afon lluosffrwyth the multi-fruited river-moss Unpolluted rivers and streams can play host
More informationBriff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur
Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol
More informationE-fwletin, Mawrth 2016
Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru E-fwletin, Mawrth 2016 Aelodau Staff Newydd yn NWDA Mae dau aelodau newydd wedi ymuno Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru. Hoffem eu croesawu'n gynnes i'r tîm ac yn eu cyflwyno
More informationSwim Wales Long Course Championships 2018
Swim Wales Long Course Championships 2018 Closed event March 30 th April 2 nd 2018 #SWLC18 Meet Summary Swim Wales National Long Course Championships is a level 1 Closed Long Course (50m) meet aimed at
More informationMAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu
Yr MAWR Your guide your to getting hool primary sc involved w i gael a l l n a c h c i E radd n y g l o g s y eich i gyfrannu with gyda The BIG Raise lots with spots and help change the lives of disadvantaged
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informationCreu pyllau ar gyfer y Dibynlor Pibellaidd
Creu pyllau ar gyfer y Dibynlor Pibellaidd 1. Y Dibynlor Pibellaidd Mae'r Dibynlor Pibellaidd (Oenanthe fistulosa) yn blanhigyn parhaol o faint canolig (hyd at 80cm o uchder) sydd â chlystyrau o flodau
More informationCymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:
Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau ac Ymarfer i Brifysgolion helpu Myfyrwyr sy n Gofalu gael Mynediad i a Llwyddo mewn Addysg Uwch Cymru Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau
More informationSummer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events
Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events IPC registered and approved Monday 30 th July Sunday 5 th August 2018 #SWSO18 1 Meet summary Swim Wales is proud to present
More informationOctober Half Term. Holiday Club Activities.
October Half Term Holiday Club Activities Hoffi Dilynwch ni Like Follow us www.aura.cymru www.aura.wales BUCKLEY SWIMMING ACTIVITIES 4 YEARS AND OLDER Activity Description Dates of Activity Activity Start
More informationNetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community
More informationDiweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018
Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018 Mae'r diweddariad hwn yn rhoi gwybodaeth a gafwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yng nghyfarfod bwrdd crwn CHC a DWP, cyfarfod Strategol Landlordiaid Sector
More informationCylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad
Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad I SYLW: PENAETHIAID A CHYDLYNWYR ADYaCh Croeso i Rifyn yr Hydref (2017) o Gylchlythyr ADYaCh. Mae llawer o brysurdeb wedi bod dros y misoedd diwethaf
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More informationDatrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch
Datrys y dirgelwch.. Drwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Prifysgol Texas, Prifysgol Texas yn Austin tlodi. Mae Tanzania yn wlad fawr yn nwyrain Affrica. Mae ganddi boblogaeth o dros 40 miliwn (mae gan y DU
More informationYMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH
CYNLLUN GWASANAETH BETH YW? NODAU: Rhoi cyflwyniad i r Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Ysgolion. Cynnig cipolwg cychwynnol ar awtistiaeth. GWAITH PARATOI I R ATHRO: Edrychwch ar A Teen s Guide To Autism
More informationARWEINLYFR I FYFYRWYR
ARWEINLYFR I FYFYRWYR HŶN Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 www.bangor.ac.uk www.facebook.com/prifysgolbangor @prifysgolbangor Mae r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i
More informationW44 27/10/18-02/11/18
W44 27/10/18-02/11/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Tourist Trap 4 The Tuckers 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Blaenau Gwent 2 Cardiff / Caerdydd 2 Machen 2 Newport / Casnewydd
More informationTempled Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer
Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationThe. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from
The CAMPSITE toolkit A rough guide to setting up a new campsite Produced by and with support from We are Creative Rural Communities; the Vale of Glamorgan Council s Rural Regeneration initiative. In short
More informationGRŴP GWYDDONIAETH PYSGODFEYDD A CHADWRAETH
GRŴP GWYDDONIAETH PYSGODFEYDD A CHADWRAETH CYLCHLYTHYR ELECTRONIG 15 Chwefror 2015 Gyda dim ond 3 mis ar ôl rydym yn brysur yn dadansoddi ac yn ysgrifennu canlyniadau'r prosiect. Yn ystod y misoedd nesaf
More informationExplore future skills and get work ready with THE careers, jobs, skills and apprenticeship events for Wales
VENUE CYMRU, LLANDUDNO 17 October 5pm-7pm prospectsevents.co.uk 18 October 9:30am-3pm 10,000 VISITORS 100 EXHIBITORS Explore future skills and get work ready with THE careers, jobs, skills and apprenticeship
More informationBeth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners
********************************************************************************************************* Beth amdani? 2017 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners Eisteddfod Genedlaethol
More informationGwybodaeth am Hafan Cymru
PECYN RECRIWTIO Gwybodaeth am Hafan Cymru Pwy ydym ni Cymdeithas Tai Gofrestredig yw Hafan Cymru, a r un darparwr mwyaf o wasanaethau ynghylch trais yn erbyn menywod, dynion a phlant sy n gweithredu ledled
More informationBil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i DOGFENNAU SY N MYND GYDA R BIL Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân. Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r
More informationCylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau
Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr 2018 + Cynnwys T2: Newyddion a digwyddiadau T4: Diweddariadau cyffredinol T5: Cwrdd â r tîm Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd Blwyddyn Newydd Dda i n darllenwyr i
More informationLlyfr Croeso Dysgu Cymraeg
Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg 2 Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Initially I joined the class to learn Welsh to help my three-year-old build his language skills for school and at home. The real bonus is that the
More informationNational Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack
National Youth Orchestra of Wales Auditions 2019 Violin Audition Pack Contents: 2019 Music Ensemble Audition Information Violin Audition Requirements Set Orchestral Excerpts (Violin) Example Marksheet
More informationNatWest Ein Polisi Iaith
NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600
More informationBeth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners
********************************************************************************************************* Beth amdani? 2016 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners 2 Beth amdani? 3 Croeso
More informationBETH YW LLES AMGYLCHEDDOL?
AMGYLCHEDD BETH YW LLES AMGYLCHEDDOL? Mae nod llesiant Cymru Iachach yn Neddf Llesiant Cenedlaethau r Dyfodol (Cymru) 2015 yn disgrifio Cymru fel a ganlyn: Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol
More informationWelcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID
Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID YOUR FUNDRAISING pack! EICH PECYN CODI ARIAN! BBC Children in Need is back. And this year we re partnering with Lloyds Bank to bring you Champions
More informationTalu costau tai yng Nghymru
Talu costau tai yng Nghymru Trosolwg Mae r papur hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg 1 a gomisiynwyd ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yr haf diwethaf i bennu i ba raddau y mae pobl
More informationCanllaw Gwylio Cymylau
Canllaw Gwylio Cymylau Croeso Alexander Armstrong Carol Kirkwood Chris Hollins ii Yn y wlad hon rydym i gyd yn gyfarwydd iawn â chymylau, felly mae Tîm Tywydd Gwych Prydain wedi ffurfio r canllaw hwn.
More informationun peth cwta fuchodcoch dewch gwnewch o hyd i Tymor 7 Nodiadau r athro
un peth gwnewch dewch o hyd i fuchodcoch cwta Tymor 7 Nodiadau r athro Croeso i arolwg o fuchod coch cwta BBC Llefydd i Natur Ysgolion. Hwn yw r gweithgaredd Gwnewch Un Peth ar gyfer tymor yr haf 2010.
More informationGollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068
Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig
More informationCronfa Buddsoddi Cymunedol
Cronfa Buddsoddi Cymunedol Adolygiad Blynyddol 2012/13 Gwnaeth Cartrefi Cymunedol Gwynedd ymrwymiad yn 2010 pan sefydlwyd y gymdeithas i chwarae rhan yn natblygiad cymunedau cynaliadwy yng Ngwynedd. Sefydlwyd
More informationGwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work
Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y
More informationASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005
ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO Hydref Rhagfyr 2005 Wedi ei baratoi ar gyfer: S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru Cyswllt y cleient: Carys
More informationCANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH
CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
WHC/2017/014 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi 29 Mawrth 2017 STATWS: GWYBODAETH CATEGORI: ANSAWDD A DIOGELWCH Teitl: Gwybodaeth i gleifion ynghylch trefniadau Gweithio i Wella Dyddiad dod i ben
More informationSUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL
SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 26 June/Mehefin 23-29, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Exhibitionists 3 Crimewatch Roadshow 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion
More informationNUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG
NUT CANLLAW ANG 2015-16 Cyfnod Sefydlu Cymwys i addysgu yn 2015? Cewch aelodaeth lawn tan 2017 am 1 Ffoniwch neu ewch ar lein er mwyn uwchraddio o aelodaeth myfyriwr i aelodaeth lawn o r NUT. Llinellau
More informationNational Youth Arts Wales Auditions 2019
National Youth Arts Wales Auditions 2019 Flute Audition Pack Contents: 2019 Musical Ensemble Audition Information Flute Audition Requirements Set Orchestral and Wind Orchestral Excerpts (Flute) Example
More informationNewyddion Ansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru
Newyddion Ansawdd Rhifyn 29 Gorffennaf 2011 Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru Mynychwyr yn y digwyddiad CRAE Yn ddiweddar cynhaliodd Prifysgol Cymru o addysg, mae Safonau fel arfer
More informationBlagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN
Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN Ffôn: 01239 891267. Ebost: head.eglwyswrw@pembrokeshire.gov.uk 19/10/18
More informationciwb Beth ydych chi n feddwl o...?
ciwb Beth ydych chi n feddwl o...? Beth ydych chi n feddwl o...? siocled poeth cacen / teisen siocled grawnfwyd siocled creision siocled past dannedd siocled Os ydych chi n hoffi siocled, mae mis Hydref
More informationGWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)
GWERS 86 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) Geirfa llyfrgell f - library oriel f - gallery eglwys(i) f - church(es) pont(ydd) f - bridge(s) eglwys - cathedral
More informationAdroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia
TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter
More information+ Digwyddiadau Ymweld â Phrifysgol Bangor
+ Cynnwys T1: Digwyddiadau T2: Yr offer holi T3: Cipolwg T4: Cwrdd â r tîm T5: Hwyl fawr a helo T6: Cysylltu â ni + Digwyddiadau Ymweld â Phrifysgol Bangor Yn ddiweddar, bu Dawn Knight, Paul Rayson a Steve
More informationoffered a place at Cardiff Met
UCAS Teacher Training Congratulations on being offered a place at Cardiff Met We re delighted that you ve selected us as one of your University choices and we hope to see you in September 2015. In the
More informationWales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form
Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form This competition is organised by the Engineering Education Scheme Wales on behalf of the Welsh Government to recognise the exciting
More informationYSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:
YSGOL DYFFRYN CONWY Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau: Arholiadau Llafar, Ymarferol & Asesiadau Dan Reolaeth: 01/01/16-16/05/16 TGAU Haf 2016: 13/05/16-28/06/16 External GCSE Exams Examination
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i'n cylchlythyr Gwanwyn. Mae cymaint wedi digwydd ers ein cylchlythyr olaf- gobeithio eich wedi bod yn cadw i fyny gyda'r rhan fwyaf ohono
More informationW42 13/10/18-19/10/18
W42 13/10/18-19/10/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Match of the Day Wales 4 Tourist Trap 5 Stand Up at BBC Wales 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Ammanford / Rhydaman 2 Bridgend
More informationPECYN ADNODDAU I ATHRAWON
PECYN ADNODDAU I ATHRAWON BBC CYFLWYNIAD Doctor Who - The Doctor and the Dalek Gêm ydy hon sy n cynnig cyfle i ddisgyblion hynaf yr ysgol gynradd a disgyblion ieuengaf yr ysgol uwchradd i ddysgu a chymhwyso
More informationMae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.
Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn
More informationManiffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyfathrebu Digidol Mae twf digidol yn allweddol i ddatblygu economi Cymru, ac felly mae angen polisïau arloesol i
More informationAppointment of BMC Access
August 2009 BMC CYMRU NEXT MEETING TUESDAY 1ST SEPT 8P.M. Vaynol Nant Peris - Free Food - All Welcome Diary Dates North Wales Meeting,1st September, 8.00 pm, The Vaynol, Nant Peris, free food as usual.
More informationF U N D RAISING pack! C O D I A RIA N!
... o t e m o c l e W e g n a h C f o s n o i Champ CROESO I... NEWID R Y W P M A C N E B BBC Children in Need is back. And this year we re partnering with Lloyds Bank to bring you Champions of Change
More informationW39 22/09/18-28/09/18
W39 22/09/18-28/09/18 2 Rhondda Rebel 3 Back In Time for the Factory 4 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Newport / Casnewydd 2 Usk / Brunbuga 2 1 Follow @BBCWalesPress on Twitter to
More informationCalon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April
Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April 2016 Grŵp Cynefin Mwy na thai / More than housing Grŵp Cynefin www.grwpcynefin.org post@grwpcynefin.org Ffôn/Phone: 0300 111 2122 Ffacs/Fax: 0300
More informationDatblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru
Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru Ebrill 2010 CYNNWYS I II Crynodeb gweithredol Cefndir, pwrpas a dulliau Cyflwyniad Cefndir Methodoleg Cydnabyddiaethau Strwythur yr Adroddiad III IV V VI
More informationProducts and Services
Products and Services The Widdershins Centre Widdershins is an exciting Ageing Well Resource Centre, ideally located in the centre of Torfaen, offering a wide range of services and facilities. The centre
More informationCymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb
Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb o syniadau sydd ar y ddalen hon. Am fanylion pellach a syniadau eraill gweler
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 17 April/Ebrill 21-27, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Elizabeth s Wales 3 They Sold A Million: Ricky Valance 4 Connie s People 5 Scrum V Live: Blues v Edinburgh 6 BBC National Orchestra of Wales
More information