POBL PENWEDDIG. Parêd Gŵyl Dewi. Pêl-droedwyr Penweddig yn Chwarae Dros Gymru.

Size: px
Start display at page:

Download "POBL PENWEDDIG. Parêd Gŵyl Dewi. Pêl-droedwyr Penweddig yn Chwarae Dros Gymru."

Transcription

1 POBL PENWEDDIG POBL PENWEDDIG Pêl-droedwyr Penweddig yn Chwarae Dros Gymru Haf 2013 Cafodd Nia Jones Bl. 11 y cyfle i hyfforddi gyda Thîm Pêl-droed Merched Cymru Dan-17 yng Nghaerdydd, ym mis Ionawr. Wedi tri diwrnod o hyfforddi fe aeth ymlaen i chwarae dwy gêm dros Gymru yn erbyn Lloegr ar ddau achlysur yn St. George s Park, Burton upon Trent, gyda Chymru yn ennill 1-0. Yn dilyn gwersyll hyfforddi yng Ngwesty r Vale, Bro Morgannwg, cafodd ei dewis i gynrychioli Cymru yn Nhwrnamaint Datblygu UEFA ym Mharc Chwaraeon Morgannwg yng nghanol mis Ebrill. Chwaraeodd yn erbyn timoedd Gogledd Iwerddon, Gwlad yr Iâ ac Ynysoedd Ffaröe wrth i rifyn hwn o Bobl Penweddig fynd i r wasg, a chyhoeddir y canlyniadau yn y rhifyn nesaf. Mae Rhydian Davies Bl. 12 hefyd wedi bod yn cynrychioli Cymru ar y maes pêl-droed. Sgoriodd gôl dros dîm Ysgolion Cymru yn y gêm yn erbyn Academi Clwb Pêl-droed Swindon yng Nghasnewydd ar ddiwedd mis Ionawr. Fe enillodd y Cymry 7-1. Ar ddiwedd mis Chwefror bu n aelod o dîm Lled-broffesiynol Dan -18 Cymru a gurodd Gweriniaeth Iwerddon 2-0 ym Mangor; chwaraeodd am y gêm gyfan. Bu Rhydian, sydd hefyd yn chwarae dros Glwb Pêl-droed Aberystwyth, yn brysur yn ystod mis Mawrth wrth iddo gynrychioli Ysgolion Cymru yng nghystadleuaeth y Darian Ganmlwyddiant. Enillodd Cymru 4-1 yn erbyn Ysgolion Lloegr ar Ddydd Gŵyl Dewi yn Lincoln, o flaen torf o 2,500. Yn ail gêm y twrnamaint ym Mangor yng nghanol y mis, bu Rhydian yn aelod o r tîm a gurodd yr Alban 2-0. Parêd Gŵyl Dewi Prif Fachgen a Phrif Ferch yr ysgol, sef Sam Ebenezer a Megan Turner, oedd yn cario r baneri ar Barêd Gŵyl Dewi cyntaf Aberystwyth. Yn y llun fe u gwelir gyda thywysydd yr orymdaith, y Dr Meredydd Evans. Gellir dod o hyd i fwy o luniau ar ein gwefan. 1

2 Clawr Prospectws 6ed Penweddig _Layout 1 23/01/ :25 Page 1 Disgybl Bl. 13 ar y ffordd i Kansas Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig School Ffordd Llanbadarn Llangawsai Aberystwyth SY23 3QN Bydd Betsan Hughes Bl. 13, yn cynrychioli CFfI Cymru wrth ymweld â r UDA am ddau fis dros yr haf. Yn dilyn cyfweliad, cafodd ei dewis i deithio i Kansas fel llysgenhades y mudiad i aros gyda thri theulu sydd â chysylltiadau â r 4H, sef mudiad ieuenctid a gynhelir gan Adran Amaeth yr UDA. Bydd Betsan yn ymweld â ffermydd yn Kansas a thaleithiau cyfagos wth iddynt gynaeafu ŷd. Wrth baratoi am ei thaith mae Betsan yn chwilio am noddwyr ac ar ôl dychwelyd mi fydd yn barod i wneud cyflwyniadau PowerPoint i grwpiau CFfI er mwyn rhannu ei phrofiadau a chyflwyno rhaglen Teithiau Tramor y CFfI. Prosbectws Chweched Dosbarth Llwybrau dysgu a dewisiadau Ffôn Tel Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig Sixth Form Prospectus Learning pathways and options Prosbectws y Chweched Mae prosbectws chweched dosbarth yr ysgol am bellach ar ein gwefan. ABCh Cafwyd diwrnod o weithgareddau unwaith eto ar ddechrau mis Mawrth, gan gynnwys drymio gydag Emmanuel, ymweliad gan y Gwasaneth Tân i bwysleisio diogelwch ar y ffordd, a sesiynau ioga. Cadwch mewn cysylltiad Weithiau mae r ysgol yn anfon negeseuon a llythyrau at rieni / warcheidwaid trwy e-bost a neges destun. Os hoffech dderbyn gwybodaeth yn y fformatiau hyn neu os ydych am roi gwybod am unrhyw newidiadau i ch manylion sydd gyda ni, anfonwch e-bost at : ymholiadau@penweddig.ceredigion.sch.uk Cofiwch roi gwybod hefyd os ydych wedi darparu eich manylion ond nid ydych yn derbyn gohebiaeth gan yr ysgol. 2

3 Clwb Gwaith Cartref Bob nos mae r ysgol yn cynnal Clwb Gwaith Cartref lle mae disgyblion yn cael y cyfle i ddefnyddio holl gyfleusterau r Ganolfan Adnoddau y tu allan i oriau ysgol. Mae r clwb yn dechrau am 3.30 ac y mae aelod o staff yn bresennol i gynorthwyo disgyblion gyda u gwaith, yn enwedig o safbwynt cywirdeb iaith. Daw r clwb i ben am 4.30 ac am 4.00 ar nos Wener. Mae tudalen dysgu annibynnol ar wefan yr ysgol a gellir dod o hyd i lawlyfr termau Cymraeg ac amserlen dysgu annibynnol. Science Made Simple Daeth Simon Jones o Science Made Simple i r ysgol yn ddiweddar, i ysbrydoli r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr ym mlynyddoedd 7, 8 a 9. Cyflwynodd yr heriau wrth adeiladu cerbyd o r enw Bloodhound Supersonic Car sy n teithio n gyflymach na bwled. Gyda Simon Jones mae Sharna Allmark a Daniel Macdonald o flwyddyn 8 Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg Aeth disgyblion blwyddyn 7 i r Arddangosfa Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar ddiwedd mis Mawrth. Yn y llun gwelir Dafydd Evans, Iwan Phillips a Rhys Hopkins yn rhoi cynnig ar un o r nifer o weithgareddau gwyddoniaeth ymarferol. 3

4 Diwrnod y Llyfr 2013 Daeth y nofelydd Angharad Edwards atom ar Ddiwrnod y Llyfr, i gyflwyno ei nofel gyntaf Deffro, rhan o r gyfres Cig a Gwaed. Gwnaed gweithgareddau creadigol gyda Blwyddyn 8 yn seiliedig ar destun y nofel sef fampirod, ac enillodd dau ddisgybl lyfrau wedi eu harwyddo gan Angharad. Angharad Edwards gyda Callum Lewis-Mattick, enillydd copi o r llyfr. Ymweliad Nofelwraig Daeth yr awdures Caryl Lewis i Benweddig i drafod ei nofel Martha, Jac a Sianco mewn gweithdy gyda Blwyddyn 13. Adeg y Pasg roedd rhaid i r disgyblion drafod y nofel yn eu harholiad llafar Cymraeg Safon Uwch a chafwyd trafodaeth ddefnyddiol ar agweddau r stori megis themâu, cymeriadau ac arddull. 4

5 Eisteddfod Gylch yr Urdd Llongyfarchiadau i r holl ddisgyblion a fu n cystadlu yn yr Eisteddfod eleni. Aeth yr enillwyr drwodd i gystadlu yn yr Eisteddfod Sir. 177 UNAWD MERCHED BL 7-9 Anest Eirug Beca Williams Emily Jones 178 UNAWD BECHGYN BL 7-9 Gwion Morgan Jones 181 UNAWD BECHGYN BL 10 A DAN 19 OED Sam Ebenezer 186 PARTI MERCHED BL 7,8, PARTI BECHGYN BL 7,8,9 199 CYFLWYNO ALAW WERIN UNIGOL BL 7,8,9 Anest Eirug Beca Williams Geinor Bates UNAWD CHWYTHBRENNAU BL 7-9 Efa Gregory Betsan Siencyn James Michael UNAWD LLINYNNOL BL 7-9 Ifan Llywelyn UNAWD PRES BL 7-9 Ifan Llywelyn Rose Gillison ENSEMBLE BL 7,8,9 Pres Penweddig Grŵp Gwenno Penweddig UNAWD CHWYTHBRENNAU BL 10 A DAN 19 OED 220 UNAWD LLINYNNOL BL 10 A DAN 19 OED Thomas Gillison 223 UNAWD TELYN BL 10 A DAN 19 OED Mared Pugh Evans Esther Ifan Medi Evans ENSEMBLE OED UNAWD CERDD DANT BL 7-9 Beca Williams Anest Eirug Emily Jones 245 DEUAWD CERDD DANT BL 9 AC IAU Anest Eirug a Beca Williams 269 DAWNS WERIN UNIGOL I FERCHED BL 10 A DAN 25 OED Medi Evans GRŴP DAWNSIO HIP HOP/STRYD/ DISGO (NEU GYFUNIAD) BL 7,8, DAWNS HIP-HOP/STRYD/DISGO (NEU GYFUNIAD) UNIGOL BL 10 A DAN 19 OED Joseph Scannell GRŴP DAWNSIO HIP-HOP/STRYD/ DISGO (NEU GYFUNIAD) BL 10 A DAN 19 OED Christopher Gillison 5

6 288 LLEFARU UNIGOL BL 7-9 Alwen Morris Siwan Davies 290 GRŴP LLEFARU BL 7,8,9 291 LLEFARU UNIGOL BL 10 A DAN 19 OED Megan Meredith 292 GRŴP LLEFARU BL 10 A DAN 19 OED 353 YMGOM BL 7,8,9 Grŵp Cati, Penweddig 355 YMGOM BL 10 A DAN 19 OED Grŵp Dylan, Penweddig UNAWD ALLAN O SIOE GERDD BL 10 A DAN 19 OED Sam Ebenezer CELF A CHREFFT - RHANBARTH CEREDIGION 138 GEMWAITH BL 7 & 8 Sioned Exley 151 CREU ARTEFFACT BL 7 & 8 Seren Wyn Jenkins 146 DYLUNIO A THECHNOLEG BL 7 & 8 Seren Wyn Jenkins EISTEDDFOD SIR YR URDD Llongyfarchiadau i r disgyblion am ganlyniadau ardderchog yn Eisteddfod Sir yr Urdd Bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Benfro ar ddiwedd mis Mai. Chwith i Dde: Anest Eirug yn yr Unawd Merched Bl. 7 9, Cyflwyno Alaw Werin Unigol Bl. 7, 8 a 9, a r Deuawd Cerdd Dant Bl. 9 ac iau; Beca Williams - yn yr Unawd Cerdd Dant Bl. 7-9 a r Deuawd Cerdd Dant Bl. 9 ac iau; Christopher Gillison yn yr Unawd Chwythbrennau Bl. 10 a dan 19 oed; Mared Pugh-Evans yn yr Unawd Telyn Bl. 10 a dan 19 oed; Alwen Morris yn y Llefaru Unigol Bl Sam Ebenezer yn yr Unawd allan o Sioe Gerdd Bl. 10 a dan 19 oed ac yn yr Unawd Bechgyn Bl. 10 a dan 19 oed. 6

7 yn y Grŵp Dawnsio Hip-Hop/Stryd/Disgo (neu gyfuniad): Bl. 10 a dan 19 oed. Chwith i dde: Bethan Evans, Gwawr Keyworth, Joseph Scannell, Lois Jones, Manon Izri a Bethan Pearce Seren Wyn Jenkins yn y Gystadleuaeth Creu Arteffact Bl. 7 & 8 a Dylunio a Thechnoleg Bl. 7 & 8: Sioned Exley yn y Gystadleuaeth Gemwaith Bl. 7 & 8. yn yr Ensemble oed: Chwith i dde; Daniel Thomas, Rhun Penri, Siôn Hughes, Aled Skym, Erwan Izri, David Michael, Gethin Thomas, Robin Tomos, Gwern Penri, Carwyn Hughes ac Iestyn Evans. yn yr Ensemble Bl. 7, 8 & 9: Chwith i dde; Ifan Llywelyn, Nerys Evans, Jordan Jones, Nils MarggrafTurley, Rose Gillison, Tomos Williams, Dafydd Thomas, Thomas Constantine a Cati Fychan. Yn absennol o r llun mae Rhodri Davies ac Ifan Rees. yn y Parti Bechgyn Bl. 7, 8 & 9: Rhes gefn; Bryn Griffiths, Caredig ap Tomos, Gwion Morgan-Jones a Siôn Hurford: Rhes flaen; James Michael, Owain Gruffydd, Wil Rees, Jordan Jones, Geraint Howard a Sam Ebenezer (arweinydd) Thomas Gillison - yn yr Unawd Llinynnol Bl 10 a Dan 19 Oed: Gwion Morgan-Jones yn yr Unawd Bechgyn Bl

8 Grŵp Dylan yn yr Ymgom Bl. 10 a dan 19 oed. Cwith i dde: Kelsey Thompson, Dylan Edwards a Hanna Turner. Efa Gregory yn yr Unawd Chwythbrennau Bl. 7-9, Ifan Llywelyn yn yr Unawd Llinynnol Bl. 7-9, Megan Meredith yn y Llefaru Unigol Bl. 10 a dan 19 oed. yn y Parti Merched Bl. 7, 8 a 9: Rhes gefn; Alwen Morris, Alaw O Rourke, Anest Eirug, Gwenno Thomas, Cari O Rourke, Siwan Davies a Siwan Phillips: Rhes flaen; Beca Williams, Cati Fychan ac Erin Gruffydd. Ymwelydd o r Wladfa Fel rhan o Brosiect yr Iaith Gymraeg gan y Cyngor Prydeinig i hyrwyddo a datblygu r iaith yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia, daw athrawon o r Wladfa i Gymru yn flynyddol ym mis Ionawr i arsylwi mewn ysgolion sy n berthnasol i w gwaith. Eleni treuliodd tair athrawes fis yng Nghymru. Am y pythefnos cyntaf roedd y tair yng Nghaerdydd - roedd Patricia Ramos ym Mhrifysgol Caerdydd yn arsylwi gwersi Cymraeg i Oedolion, cyn dod i Benweddig. Daw Patricia o Dir Halen sef ardal ym mhen uchaf Dyffryn Camwy yn nhalaith Chubut yn yr Ariannin. Heddiw fe i hadnabyddir fel 28 de Julio - sef y dyddiad y glaniodd y Mimosa, er mai Tir Halen yw r enw Cymraeg o hyd. Cymraeg oedd iaith cartref Patricia - dyna siaradai ei mam a i nain ac roedd yn hyfryd clywed ei Chymraeg graenus - mae n anodd cofio nad yw pob Gwladfäwr yn deall unrhyw Saesneg gan mai Sbaeneg yw iaith Ariannin. Ym mhentref bach Tir Halen mae canolfan newydd sy n ymgorffori ysgol, llyfrgell, ac amgueddfa fach sy n dehongli hanes yr ardal amaethyddol. Arferai Patricia weithio yn yr Amgueddfa ond erbyn hyn mae wedi dychwelyd i swydd athrawes ddaearyddiaeth ac yn dysgu yn ysgolion rhif 781 yn Nolavon ac ysgol 773 yn Nhir Halen. Mae n dal i gael galwad i r Amgueddfa, fodd bynnag, pan ddaw ymwelwyr o Gymru i weld yr offer sydd yna. Er iddi fod yng Nghymru o r blaen - ar gwrs Cymraeg yn Llambed - fe fu n ymchwilio i hanes y teulu cyn dod y tro yma. Deallodd fod yna gysylltiad teuluol â Blaenau Ffestiniog a thrwy gymorth hanesydd lleol bu iddi gyfarfod â pherthynas a gweld tai lle bu ei chyndeidiau yn byw. Patricia Ramos gyda Bethan Hopkins Williams, Pennaeth Hanes, ac aelodau 7H 8

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth

More information

CANLYNIADAU: Eisteddfod Rhanbarth Meirionnydd 2018

CANLYNIADAU: Eisteddfod Rhanbarth Meirionnydd 2018 1 Unawd Bl. 2 ac iau Deio Emlyn Edwards Brychan Edwards Aneira Jones 2 Unawd Bl. 3 a 4 Mared Jeffery Cadi Llywela Raghoobar Lleucu Meleri Owen 3 Unawd Bl. 5 a 6 Erin Llwyd Mared Griffiths 4 Deuawd Bl.

More information

POBL PENWEDDIG. St. David s Day Eisteddfod. Individual Medal Winners

POBL PENWEDDIG. St. David s Day Eisteddfod.   Individual Medal Winners POBL PENWEDDIG www.penweddig.ceredigion.sch.uk St. David s Day Eisteddfod The annual school Eisteddfod was held on 11 February in the Great Hall, Aberystwyth Arts Centre. Photographs of the day can be

More information

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Ysgol Dyffryn Conwy Llyfryn Gwybodaeth Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Calendr Dyddiadau Pwysig MEDI 2017 HYDREF 2017 TACHWEDD 2017 1 HMS 1 1 Hanner Tymor 2 2 2 Hanner Tymor 3 3 3 Hanner Tymor 4 HMS 4

More information

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400. Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg

More information

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on

More information

April 2017 Bulletin. Hau i Fedi.

April 2017 Bulletin. Hau i Fedi. April 2017 Bulletin Hau i Fedi www.ysgoluwchraddbodedern.org @YUBoded Once again this year, as year 13 students start deciding on the next step in their academic career, many have been successful in receiving

More information

April 2016 Bulletin. Hau i Fedi.

April 2016 Bulletin. Hau i Fedi. April 2016 Bulletin Hau i Fedi www.ysgoluwchraddbodedern.org @YUBoded The April Bulletin focuses on health -physical and cultural. We'll start by congratulating Elis Owen Yr. 13, who appears on the TV

More information

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners ********************************************************************************************************* Beth amdani? 2016 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners 2 Beth amdani? 3 Croeso

More information

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd

More information

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN Ffôn: 01239 891267. Ebost: head.eglwyswrw@pembrokeshire.gov.uk 19/10/18

More information

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

APIAU CYMRAEG. C.Phillips APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan

More information

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous. BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau

More information

W46 14/11/15-20/11/15

W46 14/11/15-20/11/15 W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil

More information

Chwefror / February 2015

Chwefror / February 2015 Bwletin Rhieni / Parents Bulletin Chwefror / February 2015 RHAI DYDDIADAU PWYSIG / SOME IMPORTANT DATES Dydd Mawrth / Tuesday 10.03.2015 3.45-5.45 Dydd Mawrth / Tuesday 24.03.2015 3.45-5.45 Dydd Llun /

More information

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners ********************************************************************************************************* Beth amdani? 2017 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners Eisteddfod Genedlaethol

More information

Bwletin Rhieni / Parents Bulletin Ebrill / April 2016 RHAI DYDDIADAU PWYSIG / SOME IMPORTANT DATES Dydd Llun / Monday

Bwletin Rhieni / Parents Bulletin Ebrill / April 2016 RHAI DYDDIADAU PWYSIG / SOME IMPORTANT DATES Dydd Llun / Monday Bwletin Rhieni / Parents Bulletin Ebrill / April 2016 RHAI DYDDIADAU PWYSIG / SOME IMPORTANT DATES Dydd Llun / Monday Gwyliau Calan Mai / May Day Bank Holiday 02.05.2016 Dydd Gwener / Friday Arholiadau

More information

Bwletin Gorffennaf 2016

Bwletin Gorffennaf 2016 Bwletin Gorffennaf 2016 Hau i Fedi www.ysgoluwchraddbodedern.org @YUBoded Boded a Bale Gydag ymgyrch llwyddiannus tîm pêl droed Cymru wedi bod yn un mor gyffrous, mae r ysgol fel gweddill Cymru wedi dilyn

More information

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History GWERS 90 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Cyflwyno 'I prefer...' Geirfa rygbi -rugby pêl droed - soccer cig eidion -beef persawr - perfume bwyd llysieuol -vegetarian anrheg - present food cawl - soup, broth

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 9 March/Mawrth 1-7, 2014 Pages/Tudalennau: 2 Iolo s Welsh Sea 3 The Country Midwives 4 Police 24/7 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth 2 Bangor 2 Cardiff/Caerdydd

More information

W42 13/10/18-19/10/18

W42 13/10/18-19/10/18 W42 13/10/18-19/10/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Match of the Day Wales 4 Tourist Trap 5 Stand Up at BBC Wales 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Ammanford / Rhydaman 2 Bridgend

More information

Penglais DATES FOR YOUR DIARY YR URDD

Penglais DATES FOR YOUR DIARY YR URDD Penglais Cylchlythyr Newsletter Mawrth / March 2009 www.penglaisschool.org.uk Rhif/No. 46 YR URDD Bydd gan yr ysgol nifer o bartion ac unigolion yn cystadlu yn yr Eisteddfod eleni. Byddant yn cystadlu

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd

More information

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the

More information

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA

More information

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods

More information

W6 04/02/17-10/02/17. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

W6 04/02/17-10/02/17. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: W6 04/02/17-10/02/17 Pages/Tudalennau: 2 Scrum V Six Nations Special 3 X-Ray 4 Gareth Wyn Jones - Milk Man 5 Cardiff: Living on the Streets 6 Wales Women: Inside the Scrum 7 Weatherman Walking 8 Pobol

More information

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form This competition is organised by the Engineering Education Scheme Wales on behalf of the Welsh Government to recognise the exciting

More information

YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15

YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15 YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15 HYDREF 2015 RHIFYN 14 - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

More information

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with: Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR

More information

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol

More information

Week/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:

Week/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau: Week/Wythnos 41 October/Hydref 11-17 Pages/Tudalennau: The Devil s Vice Lucy Owen: Working Mum Sex Love and Cwtches Cwmderi: Dathlu Deugain Pobol y Cwm at 40 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb:

More information

GWERS 95. Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa

GWERS 95. Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa GWERS 95 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa pen-blwydd - birthday cyngerdd - concert cwrs - course arholiadau - examinations pennod f - chapter adnod f -

More information

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol

More information

W45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

W45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: W45 4/11/17-10/11/17 2 David Hurn: A Life in Pictures 3 James and Jupp 4 Wales Live 5 Shane: For the Love of the Game 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Port Talbot 3 Swansea / Abertawe

More information

W39 22/09/18-28/09/18

W39 22/09/18-28/09/18 W39 22/09/18-28/09/18 2 Rhondda Rebel 3 Back In Time for the Factory 4 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Newport / Casnewydd 2 Usk / Brunbuga 2 1 Follow @BBCWalesPress on Twitter to

More information

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!

More information

W16 13/04/19-19/04/19

W16 13/04/19-19/04/19 W16 13/04/19-19/04/19 2 Sam & Shauna s Big Cook-Out 4 Wales: Land of the Wild 5 Weatherman Walking: The Welsh Coast 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Beddau 3 Cardiff / Caerdydd

More information

Summer Holiday Programme

Summer Holiday Programme Summer Holiday Programme for Flintshire Leisure Centres Our fantastic summer holiday programme for each of our four leisure centres www.flintshire.gov.uk Like Follow us Deeside Leisure Centre - 01352 704200

More information

Gŵyl Chwaraeon Cenedlaethol Ysgolion Cynradd. National Primary Schools Sports Festival May Aberystwyth

Gŵyl Chwaraeon Cenedlaethol Ysgolion Cynradd. National Primary Schools Sports Festival May Aberystwyth Gŵyl Chwaraeon Cenedlaethol Ysgolion Cynradd National Primary Schools Sports Festival 12-13 May 2018 Aberystwyth Chwaraeon Yr Urdd @ChwaraeonYrUrdd #GŵylGynradd www.aber.ac.uk CANLLAW PRIFYSGOLION DA 2018

More information

offered a place at Cardiff Met

offered a place at Cardiff Met UCAS Teacher Training Congratulations on being offered a place at Cardiff Met We re delighted that you ve selected us as one of your University choices and we hope to see you in September 2015. In the

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 26 June/Mehefin 23-29, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Exhibitionists 3 Crimewatch Roadshow 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth

More information

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm W49 05/12/15-11/12/15 Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Aberfan 5 Bancyfelin

More information

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol

More information

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau: YSGOL DYFFRYN CONWY Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau: Arholiadau Llafar, Ymarferol & Asesiadau Dan Reolaeth: 01/01/16-16/05/16 TGAU Haf 2016: 13/05/16-28/06/16 External GCSE Exams Examination

More information

Cadwyn 52 Gaeaf Gwanwyn Cynnwys - Contents Tudalen/Page

Cadwyn 52 Gaeaf Gwanwyn Cynnwys - Contents Tudalen/Page Cadwyn 52 2/11/06 15:31 Page 1 Cadwyn 52 Gaeaf 2006 - Gwanwyn 2007 Cynnwys - Contents Tudalen/Page 1 Nod Cyd/Cyd s Aim 2 Swyddogion Cyd Cyd Officers Ymweld â r theatre Trips to the theatre Gwefan Cyd Cyd

More information

Pwyllgor Newydd ar gyfer LOLFA!

Pwyllgor Newydd ar gyfer LOLFA! Pwyllgor Newydd ar gyfer LOLFA! Erbyn hyn, mae pwyllgor newydd yn gyfrifol am y cylchgrawn, sef Bethan, Rhian, Steffan a Betsan. Gwnaethon nhw gyflwyniad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Hydref er mwyn

More information

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16 Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16 Awdur Linda Bailey: Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus / Gwybodaeth Iechyd Tynnu data Louise Richards (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) Dadansoddi data Mari Jones (Dadansoddwr

More information

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation

More information

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg 2 Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Initially I joined the class to learn Welsh to help my three-year-old build his language skills for school and at home. The real bonus is that the

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places

More information

Seremoni a Gorymdaith Cyhoeddi Eisteddfod 2008

Seremoni a Gorymdaith Cyhoeddi Eisteddfod 2008 www.dinesydd.com Mehefin 2007 Papur Bro Dinas Caerdydd a r Cylch Rhif 319 Seremoni a Gorymdaith Cyhoeddi Eisteddfod 2008 CÔR CANNA N CIPIO R AUR YN VERONA A CHELTENHAM! Cynhelir Gŵyl Cyhoeddi Eisteddfod

More information

Gair o r Garth Garth Grapevine

Gair o r Garth Garth Grapevine Côr yr ysgol yn The Gate School Choir performs in The Gate Gair o r Garth Garth Grapevine Rhagfyr December 2017 COFIWCH: REMEMBER: Tymor y Pasg yn cychwyn 8/1/18 Easter term begins 8/1/18 Côr Ysgol Gwaelod

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 17 April/Ebrill 21-27, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Elizabeth s Wales 3 They Sold A Million: Ricky Valance 4 Connie s People 5 Scrum V Live: Blues v Edinburgh 6 BBC National Orchestra of Wales

More information

Canlyniadau Arholiad / Examination Results

Canlyniadau Arholiad / Examination Results Mis Hydref 2015 October 2015 Rhifyn: 15 Issue: 15 Canlyniadau Arholiad / Examination Results Safon Uwch A Level Cafodd ein myfyrwyr Blwyddyn 13 cryn lwyddiant gydag 28% yn ennill y graddau uchaf A*-A (11%

More information

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m

More information

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport #amdani Y Gymraeg: Amdani! Defnyddio r Gymraeg mewn chwaraeon Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport Mae defnydd naturiol o r iaith yn hollbwysig boed mewn cynhadledd i r wasg neu ar grysau

More information

October Half Term. Holiday Club Activities.

October Half Term. Holiday Club Activities. October Half Term Holiday Club Activities Hoffi Dilynwch ni Like Follow us www.aura.cymru www.aura.wales BUCKLEY SWIMMING ACTIVITIES 4 YEARS AND OLDER Activity Description Dates of Activity Activity Start

More information

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) GWERS 86 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) Geirfa llyfrgell f - library oriel f - gallery eglwys(i) f - church(es) pont(ydd) f - bridge(s) eglwys - cathedral

More information

Cylchgrawn C.Ff.I. Ceredigion. Yn y rhifyn yma.. Adnabod eich swyddogion newydd Cipolwg ar arwyddion y rali Dathliadau Cystadlaethau Joio Newyddion

Cylchgrawn C.Ff.I. Ceredigion. Yn y rhifyn yma.. Adnabod eich swyddogion newydd Cipolwg ar arwyddion y rali Dathliadau Cystadlaethau Joio Newyddion Cylchgrawn C.Ff.I. Ceredigion Yn y rhifyn yma.. Adnabod eich swyddogion newydd Cipolwg ar arwyddion y rali Dathliadau Cystadlaethau Joio Newyddion Cwrdd â Swyddogion 2017-2018 FFARMWR IFANC BRENHINES Enw:

More information

CAMU MLAEN STEPPING FORWARD 2018/19 CROESO CYNNES I FLWYDDYN /19 A WARM WELCOME TO YEAR

CAMU MLAEN STEPPING FORWARD 2018/19 CROESO CYNNES I FLWYDDYN /19 A WARM WELCOME TO YEAR CAMU MLAEN STEPPING FORWARD 2018/19 CROESO CYNNES I FLWYDDYN 7 2018/19 A WARM WELCOME TO YEAR 7 2018/19 Fy Llyfryn Trosglwyddo Personol My Personal Transition Booklet Enw/Name Ysgol Gynradd/Primary School

More information

NatWest Ein Polisi Iaith

NatWest Ein Polisi Iaith NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 12 March/Mawrth 17-23, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Six Nations: Wales v France 3 Upstairs Downstairs 4 The Story of Wales 5 Swansea: Living on the Streets 6 BBC National Orchestra of Wales 7

More information

PROSBECTWS YSGOL

PROSBECTWS YSGOL PROSBECTWS YSGOL 2014-2015 CYNNWYS 1. Cyffredinol 2. Ethos a Gwerthoedd yr Ysgol 3. Mynediad 4. Trefniadau Ymarferol 5. Lles yn yr Ysgol 6. Cysylltiadau gyda r gymuned 7. Polisïau Cyffredinol 8. Gwyliau

More information

National Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack

National Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack National Youth Orchestra of Wales Auditions 2019 Violin Audition Pack Contents: 2019 Music Ensemble Audition Information Violin Audition Requirements Set Orchestral Excerpts (Violin) Example Marksheet

More information

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Primary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 3 Year 4 Year 5 Year 6 How old are

More information

Y Wisg Ysgol. The School Uniform

Y Wisg Ysgol. The School Uniform Y Wisg Ysgol The School Uniform Siaced y Bechgyn / Boys Blazer Winterbottom Knightsbridge Siaced las tywyll gydag ymyl aur a logo r ysgol Blazer with gold piping and school logo Bydd disgwyl i bob disgybl

More information

Os byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl!

Os byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl! Os byddwch yn colli r rhain, byddwch yn colli r hwyl! Swansea Bay this Easter At last! With a hint of spring in the air, and the days getting longer, the Easter Bunny is almost ready to make his annual

More information

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr

More information

WALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA

WALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v BOSNIA & HERZEGOVINA 07.06.2018 Liberty Stadium Swansea Kick Off 7pm FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v RUSSIA 12.06.2018 Newport Stadium Newport

More information

W44 27/10/18-02/11/18

W44 27/10/18-02/11/18 W44 27/10/18-02/11/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Tourist Trap 4 The Tuckers 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Blaenau Gwent 2 Cardiff / Caerdydd 2 Machen 2 Newport / Casnewydd

More information

Swim Wales Long Course Championships 2018

Swim Wales Long Course Championships 2018 Swim Wales Long Course Championships 2018 Closed event March 30 th April 2 nd 2018 #SWLC18 Meet Summary Swim Wales National Long Course Championships is a level 1 Closed Long Course (50m) meet aimed at

More information

Eisteddfod y Cymoedd

Eisteddfod y Cymoedd Papur Sir Caerffili: Cwm Aber, Ebwy, Rhymni a Sirhywi Rhifyn 196 Pris 80c Mis Hydref 2017 Eisteddfod y Cymoedd 20fed o Hydref 2017 Dechrau am 4:00 Campws y Gwyndy, Caerffili Dyddiad Cau Cofrestru i Gystadlu

More information

Penblwydd Hapus Winnie

Penblwydd Hapus Winnie tafod e l ái GORFFENNAF 2009 Rhif 239 Pris 60c Penblwydd Hapus Winnie Llongyfarchiadau i Winnie Davies, Heol Goch, Pentyrch ar ddathlu ei phen blwydd yn 100 oed ar 27 Mehefin. Ganwyd Winnie yn Nhongwynlais.

More information

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer

More information

Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack

Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Urdd National Eisteddfod Business Pack Beth yw Eisteddfod yr Urdd? Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl flynyddol sy n ddathliad o r iaith Gymraeg, y diwylliant a

More information

W40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

W40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: W40 1/10/16 7/10/16 Pages/Tudalennau: 2 Alfie s Angels 3 Cardiff Half Marathon 2016 Live 4 X-Ray 5 Fat v Carbs with Jamie Owen 6 Keeping the Euros dream alive 7 Gareth Thomas: Alfie s Angels 8 Pobol y

More information

National Youth Arts Wales Auditions 2019

National Youth Arts Wales Auditions 2019 National Youth Arts Wales Auditions 2019 Flute Audition Pack Contents: 2019 Musical Ensemble Audition Information Flute Audition Requirements Set Orchestral and Wind Orchestral Excerpts (Flute) Example

More information

NUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG

NUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG NUT CANLLAW ANG 2015-16 Cyfnod Sefydlu Cymwys i addysgu yn 2015? Cewch aelodaeth lawn tan 2017 am 1 Ffoniwch neu ewch ar lein er mwyn uwchraddio o aelodaeth myfyriwr i aelodaeth lawn o r NUT. Llinellau

More information

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil

More information

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr 2018 + Cynnwys T2: Newyddion a digwyddiadau T4: Diweddariadau cyffredinol T5: Cwrdd â r tîm Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd Blwyddyn Newydd Dda i n darllenwyr i

More information

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events IPC registered and approved Monday 30 th July Sunday 5 th August 2018 #SWSO18 1 Meet summary Swim Wales is proud to present

More information

STAFFIO: Estynnwn groeso cynnes i Mrs Emma Robertshaw (Athrawes newydd dosbarth Jac y Jwc).

STAFFIO: Estynnwn groeso cynnes i Mrs Emma Robertshaw (Athrawes newydd dosbarth Jac y Jwc). 09.09.16 Annwyl Rieni, Croeso cynnes iawn yn ôl i bawb wedi r gwyliau haf. Gan obeithio cawsoch chi seibiant a chyfle i ymlacio efo ch teuluoedd. Edrychwn ymlaen at groesawu r plant yn ôl i r ysgol. Croeso

More information

W6 02/02/19-08/02/19. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: 2 Children s Ward 3 Six Nations Sin Bin 4 Secret Life of Farm Animals 5 Pobol y Cwm

W6 02/02/19-08/02/19. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: 2 Children s Ward 3 Six Nations Sin Bin 4 Secret Life of Farm Animals 5 Pobol y Cwm W6 02/02/19-08/02/19 2 Children s Ward 3 Six Nations Sin Bin 4 Secret Life of Farm Animals 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Aberaeron 4 Brecon Beacons / Bannau Brycheiniog 4 Welshpool

More information

W28 07/07/18-13/07/18

W28 07/07/18-13/07/18 W28 07/07/18-13/07/18 2 Puppy Love 3 Critical: Inside Intensive Care 4 Keeping Faith 5 Weatherman Walking 6 Hidden 7 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Cardiff / Caerdydd 2 Chepstow

More information

FOOTBALL ASSOCIATION OF WALES CYMDEITHAS BÊL-DROED CYMRU END OF SEASON REVIEW / ADRODDIAD DIWEDD TYMOR 2017

FOOTBALL ASSOCIATION OF WALES CYMDEITHAS BÊL-DROED CYMRU END OF SEASON REVIEW / ADRODDIAD DIWEDD TYMOR 2017 FOOTBALL ASSOCIATION OF WALES CYMDEITHAS BÊL-DROED CYMRU END OF SEASON REVIEW / ADRODDIAD DIWEDD TYMOR 2017 FOOTBALL ASSOCIATION OF WALES CYMDEITHAS BÊL-DROED CYMRU END OF SEASON REVIEW / ADRODDIAD DIWEDD

More information

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i DOGFENNAU SY N MYND GYDA R BIL Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân. Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r

More information

W7 09/02/19-15/02/19. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: 2 Scrum V Six Nations Special 3 Pitching In 4 Nightshifters 5 Pobol y Cwm

W7 09/02/19-15/02/19. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: 2 Scrum V Six Nations Special 3 Pitching In 4 Nightshifters 5 Pobol y Cwm W7 09/02/19-15/02/19 2 Scrum V Six Nations Special 3 Pitching In 4 Nightshifters 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Cardiff / Caerdydd 3, 4 Swansea / Abertawe 4 Tenby / Dinbych-y-pysgod

More information

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED. DEWCH I NI GERDDED I R YSGOL CERDDED I R YSGOL gyda Living Streets. MAE NEWID MAWR AR DROED. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. ˇ Mae r daith yn dechrau nawr. Helpwch ni i GREU CENEDL SY N CERDDED

More information

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Secondary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 7 Year 8 Year 9 Year 10 Year 11 How

More information

Holiadur Cyn y Diwrnod

Holiadur Cyn y Diwrnod LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl

More information

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

ARWEINLYFR I FYFYRWYR ARWEINLYFR I FYFYRWYR HŶN Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 www.bangor.ac.uk www.facebook.com/prifysgolbangor @prifysgolbangor Mae r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i

More information

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our

More information

Clybiau Chwaraeon a Gweithgareddau Ynys Môn Anglesey Sports and Activity Clubs

Clybiau Chwaraeon a Gweithgareddau Ynys Môn Anglesey Sports and Activity Clubs Clybiau Chwaraeon a Gweithgareddau Ynys Môn Anglesey Sports and Activity Clubs www.ynysmon.gov.uk/hamdden www.anglesey.gov.uk/leisure Cyflwyniad / Introduction Mae cyfeiriadur Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnwys

More information

Y BANC Y BANC. Hyfedredd

Y BANC Y BANC. Hyfedredd Y Gymraeg a r Gyfraith 1 amddiffynydd ar sail cyfartal arwyddocaol blaenoriaeth dylanwad gwahardd * gweinyddiaeth gwireddu addewidion hawl * hawl llwyr hwyluso hyrwyddo y Ddeddf Uno ymgyrchu Nodyn i r

More information

YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID

YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID Annwyl Riant / Warcheidwad, Mae n fraint ac anrhydedd i mi fel Cadeirydd y Corff Llywodraethol gyflwyno

More information

Adroddiad Blynyddol 2017

Adroddiad Blynyddol 2017 Adroddiad Blynyddol 2017 Ysgol Gyfun Gŵyr Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe, SA4 3DB. Ffôn: (01792) 872403 Ffacs: (01792) 874197 Gwefan: www.yggwyr.org.uk E-bost: ysgol.gyfun.gwyr@swansea-edunet.gov.uk

More information

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter Awst August 2012 Bwcabus Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect Llythyr Newyddion Newsletter www.bwcabus.info Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our rural communities

More information

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter

More information

Monday, 3 September...start of enrolment Dydd Llun, 3 Medi...dechrau cofrestru

Monday, 3 September...start of enrolment Dydd Llun, 3 Medi...dechrau cofrestru , 3 September...start of enrolment Dydd, 3 Medi...dechrau cofrestru Theatr na n Óg Present / Yn cyflwyno Yr Arandora Star, 27 September / Dydd, 27 Medi 7:30pm 9, 8 Drama Pan ymunodd yr Eidal â r Ail Ryfel

More information